Ewch i’r prif gynnwys

Llenyddiaeth Saesneg a Hanes (BA)

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Wedi'i deilwra i chi

Gyda modiwlau dewisol yn bennaf a'r gallu i ddewis modiwlau o ddisgyblaethau eraill mae gennych ryddid i ddewis gradd bersonol.

building

Profiad yn y diwydiant

Cewch ennill sgiliau, hyder a chysylltiadau drwy'r modiwl cyflogadwyedd, ynghyd ag amrywiaeth o interniaethau llenyddol a diwylliannol.

book

Dysgu gan arbenigwyr

Cewch elwa o addysgu a chefnogaeth gan staff ymchwil-weithredol.

location

Astudiwch gydag angerdd

Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau sy'n amrywio o gaethwasiaeth yn America i hanes Sofietaidd a Japan.

star

Traethawd hir gyda gwahaniaeth

Dilynwch bwnc sy'n sbarduno eich chwilfrydedd; cewch wella sgiliau niferus gyda chyflwyniad ac elfen ysgrifenedig.

Ar ein gradd, byddwch yn gallu archwilio rhychwant llenyddiaeth Saesneg, o’r cyfnod Eingl-Sacsonaidd i’r 21ain ganrif, ac astudio modiwlau hanes sy’n datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol o strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol cymdeithasau'r gorffennol. Mae ein harbenigedd hanesyddol yn cyrraedd ehangder rhyfeddol o gyfnodau, cymdeithasau a lleoliadau, yn rhychwantu Ynysoedd Prydain, Ewrop (dwyrain a gorllewin), Affrica, Asia a Chyfandiroedd America. Ni fyddwch wedi’ch cyfyngu i’r gair printiedig – gan ein bod yn ymddiddori yn y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth a ffilm, celfyddyd, cerddoriaeth, hanes, iaith a diwylliant poblogaidd, mae ein haddysgu’n adlewyrchu’r diddordebau hynny. Y nod fydd eich datblygu chi’n ddarllenydd ac ysgrifennwr gofalus, astud a gwybodus sy’n effro i arlliwiau iaith ac arddull ac sy’n gallu mynegi ymateb i destun ar bapur yn fanwl-gywir, yn raenus ac yn effeithiol.

Gan rychwantu’r ystod eang hon o gyfnodau amser a safbwyntiau, bydd ein rhaglen uchel ei pharch yn meithrin sgiliau deallusol megis y gallu i asesu tystiolaeth lenyddol a hanesyddol yn feirniadol, gwerthuso gwahanol ddehongliadau o'r dystiolaeth, llunio dadleuon ar sail tystiolaeth, a mynegi barn yn rymus ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae ein modiwlau’n rhoi’r cyfle i chi astudio meysydd sydd wedi hen ennill eu plwyf, megis hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol a rhywedd, neu archwilio meysydd a allai fod yn newydd i chi, megis hanes amgylcheddol neu hanes digidol. Yn y radd gydanrhydedd, byddwch yn datblygu sgiliau sydd mor fanteisiol yn ein hoes ddigidol: creadigrwydd, empathi, meddwl beirniadol, sgiliau cyfathrebu darbwyllol a'r gallu i herio a chwestiynu.

Bydd ein staff academaidd cyfeillgar wrth law i’ch arwain ac i ddarparu adborth llawn ac adeiladol drwy gydol eich astudiaethau. Gan ddod â chyfoeth o arbenigedd ar draws thema, cyfnod a daearyddiaeth, bydd ein darlithwyr yn rhannu'r syniadau diweddaraf yn yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys eu hymchwil arloesol eu hunain.

Maes pwnc: Saesneg iaith a llenyddiaeth

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

AAB-ABB. Rhaid i’r rhain gynnwys Ysgrifennu Creadigol, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth Saesneg.

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

34-32 yn gyffredinol neu 666-665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch. Rhaid i’r rhain gynnwys gradd 6 ar Lefel Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, neu Lenyddiaeth a Pherfformiad Saesneg.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch, a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DD mewn Diploma BTEC mewn pynciau ynghylch y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal â gradd B mewn Llenyddiaeth Saesneg, Iaith a Llenyddiaeth Saesneg, neu Ysgrifennu Creadigol ar Safon Uwch.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech fod yn barod i fuddsoddi mewn rhai testunau allweddol ac i dalu costau argraffu a llungopïo sylfaenol at eich defnydd chi. Hefyd, efallai y byddwch chi’n dymuno prynu copïau o rai llyfrau, naill ai oherwydd eu bod yn arbennig o bwysig i'ch modiwlau neu oherwydd eich bod yn eu hystyried yn ddiddorol. Mae Siop Lyfrau'r Brifysgol yn aml yn darparu 'bwndelau' â gostyngiad sylweddol sy'n ymdrin â'r holl ddeunydd darllen hanfodol ar gyfer eich modiwlau Llenyddiaeth Saesneg, ochr yn ochr â gwaith darllen penodol i gwrs.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Ni fydd angen unrhyw offer penodol arnoch.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae’r rhaglen BA Llenyddiaeth Saesneg a Hanes wedi’i strwythuro yn y fath fodd fel y byddwch yn caffael sgiliau lefel uchel dros flynyddoedd olynol i ddod yn feddyliwr annibynnol a beirniadol, yn barod ar gyfer cyflogaeth broffesiynol.

Trwy gyfuniad o fodiwlau craidd a dewisol, byddwch yn astudio 120 credyd ym mhob blwyddyn astudio – 60 mewn Llenyddiaeth Saesneg a 60 mewn Hanes.  

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnig sylfaen ar gyfer astudio, ac mae wedi'i llunio i roi'r sgiliau i chi ar gyfer astudiaethau uwch ac i roi trosolwg o'ch pynciau i chi.

Mewn llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn astudio modiwl gorfodol sy'n gwella’ch sgiliau darllen beirniadol ac ysgrifennu beirniadol, trwy archwilio ystod o genres llenyddol a dulliau deongliadol. Mae’r modiwl hwn yn gosod y sylfeini ar gyfer eich datblygiad academaidd mewn astudiaethau llenyddol yn eich ail flwyddyn a’ch blwyddyn olaf. Mae modiwlau dewisol yn canolbwyntio ar ddulliau damcaniaethol uwch o ymdrin â thestunau llenyddol, ar gysylltiadau gair/delwedd, ar ddrama ar draws yr oesoedd ac ar chwant a hunaniaeth mewn cyfnodau amrywiol.

Mae modiwlau hanes wedi'u cynllunio i roi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer astudiaeth uwch a'ch cyflwyno i themâu hanesyddol a meysydd astudio nad ydych efallai wedi dod ar eu traws mewn Safon Uwch. Mae ein 2 fodiwl craidd yn eich cyflwyno i’r gwahanol fframweithiau sy’n sail i astudiaeth hanesyddol a’r gwahanol ffyrdd o ysgrifennu hanes, tra hefyd yn caniatáu i chi archwilio sut rydym yn deall cysylltiadau ‘byd-eang’ a newid hanesyddol i herio sut rydym yn meddwl y tu hwnt i gyfnodau amser penodol a ffiniau rhanbarthol neu genedlaethol. Mae modiwlau dewisol yn caniatáu i chi ymestyn eich gwybodaeth a'ch sgiliau hanesyddol trwy amrywiaeth o gyfnodau a rhanbarthau i osod y sylfaen ar gyfer astudio ym mlynyddoedd 2 a 3.

Erbyn diwedd y flwyddyn, byddwch yn deall y berthynas gymhleth rhwng cyfnodau hanesyddol a’u harteffactau diwylliannol.

Blwyddyn dau

Mewn llenyddiaeth Saesneg, byddwch yn dewis o blith modiwlau sy'n amrywio o ran thema, genre, cyfnod a daearyddiaeth, ac sydd ar wahân i fodiwlau gorfodol. Byddwch yn darllen amrywiaeth o destunau yn eu cyd-destunau hanesyddol a diwylliannol, yn ogystal â pharhau i ddatblygu eich methodolegau beirniadol a'ch gwybodaeth am y pwnc. Byddwch yn adeiladu ar sylfeini’r flwyddyn gyntaf drwy ddewis modiwlau arolwg sy’n ymdrin â chyfnodau neu genres cyfan a modiwlau â mwy o ffocws sy’n archwilio awduron, mudiadau neu ffenomenau llenyddol unigol.

Mewn hanes, byddwch yn cymryd modiwl craidd sy'n eich cyflwyno i'r dulliau damcaniaethol allweddol a'r dulliau sydd wedi dylanwadu ar ysgrifennu hanesyddol. Mae ein modiwlau dewisol yn eich galluogi i archwilio themâu ar draws ystod amser gulach tra'n annog ymagwedd fwy cymharol at hanes. Yn eich ail flwyddyn, mae'r pwyslais yn symud tuag at wahanol agweddau at hanes a gwahanol ffyrdd o ddefnyddio tystiolaeth. Mae gennych hefyd yr opsiwn yn eich ail flwyddyn i gymryd modiwlau sy'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach i chi o'r mathau o dystiolaeth y mae haneswyr yn eu defnyddio, y ffyrdd o ddefnyddio'r dystiolaeth honno, a rôl yr hanesydd wrth rannu ymchwil y tu hwnt i ffiniau'r byd academaidd a'r lleisiau y maent yn eu breintio neu eu tawelu.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Reading HistoryHS620120 Credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Past, Present and FutureHS020120 Credydau
Making History: Historians, Evidence, AudiencesHS620220 Credydau
Debating HistoryHS620320 Credydau
Everyday Life in Medieval Britain c1200–1600HS621020 Credydau
A History of the SupernaturalHS621120 Credydau
History of Human RightsHS621220 Credydau
Accessible PastsHS621320 Credydau
The British Civil WarsHS621420 Credydau
European Enlightenment(s): The View from the MarginsHS621520 Credydau
America: From Revolution to ReconstructionHS621620 Credydau
Modern FranceHS621720 Credydau
Europe's Dark CenturyHS621820 Credydau
Stalinism: State, Society, and EnvironmentHS621920 Credydau
Close Neighbours, Dangerous Foes: China, Japan and Modern East AsiaHS622020 Credydau
Politics and the People in Modern Britain: Protest, citizenship and the stateHS622120 Credydau
Environmental HistoriesHS622220 Credydau
Anti-Colonial ResistanceHS622320 Credydau
Language Skills for HistoriansHS622420 Credydau
Chwyldro, Diwylliant a Radicaliaeth, 1789–1914HS622520 Credydau
Style and GenreSE141620 Credydau
Medieval Arthurian LiteratureSE229520 Credydau
Modernist FictionsSE244520 Credydau
Children's Literature: Form and FunctionSE244720 Credydau
Introduction to Romantic PoetrySE245020 Credydau
African-American LiteratureSE245120 Credydau
Imaginary Journeys: More to HuxleySE245720 Credydau
Modernism and the CitySE246320 Credydau
Gothic Fiction: The Romantic AgeSE246820 Credydau
Social Politics and National Style: American Fiction and Form, 1920-1940SE247020 Credydau
Seventeenth and Eighteenth Century Women WritersSE247620 Credydau
GirlsSE248220 Credydau
Epic and SagaSE249620 Credydau
Second-generation Romantic PoetsSE258220 Credydau
Gothic Fiction: The VictoriansSE258920 Credydau
Scandal and Outrage: Controversial Literature of the Twentieth and Twenty-First CenturiesSE261320 Credydau
Shakespeare's WorldsSE263220 Credydau
Victorian Worlds: Revolution, Disease, DevianceSE263620 Credydau

Blwyddyn tri

Erbyn eich blwyddyn olaf, byddwch wedi cael profiad o amrywiaeth o gyfnodau, testunau, genres a dulliau llenyddol, gan ddatblygu eich sgiliau dadansoddi cyd-destunau a thestunau a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn dewis o blith ystod fwy arbenigol o fodiwlau sy'n ymhél â materion cyfredol mewn ymchwil ac ysgolheictod yn gysylltiedig ag awduron a thestunau llenyddol, a phynciau a meysydd hanesyddol yr ydych chi’n gyfarwydd â nhw, ac efallai rhai sy'n llai cyfarwydd i chi.

Cewch gyfle hefyd i ymgymryd â phrosiect ymchwil annibynnol parhaus ar bwnc o'ch dewis yn y naill ddisgyblaeth neu'r llall, gan eich galluogi i ganolbwyntio ar faes neu gyfnod penodol neu edrych yn fanylach ar y cysylltiad rhwng llenyddiaeth a hanes.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Reaching Out: Enterprise, Community and CollaborationHS030120 Credydau
Researching History: DissertationHS630040 Credydau
Digital Games and the Practice of HistoryHS631020 Credydau
Spies and Espionage in the Medieval WorldHS631120 Credydau
Kingship: Image, Power and Portrayal, c.1100-1399HS631220 Credydau
Gender, Identity and Experience in Medieval EuropeHS631320 Credydau
Witchcraft and Witch-Hunting in Early Modern Europe, 1400-1750HS631420 Credydau
An Information Revolution: Politics and Communication in Early Modern BritainHS631520 Credydau
Health and Illness in Early Modern BritainHS631620 Credydau
Mobile Lives: Travel, Exile, and Migration in the Early Modern WorldHS631720 Credydau
Slavery and Enslaved Life in the United States, 1775-1865HS631820 Credydau
Native American HistoryHS631920 Credydau
Utopias of Extremism: Revolutions in Comparative ContextHS632020 Credydau
Czechoslovakia: The Twentieth Century in MiniatureHS632120 Credydau
France under OccupationHS632220 Credydau
Inside the Third ReichHS632320 Credydau
Violence and Ideology in the Inter-War Soviet UnionHS632420 Credydau
War and Freedom in the postcolonial SudansHS632620 Credydau
Gender and Imperialism, India c.1800- c.1900HS632720 Credydau
Change, Conflict, and Mass Mobilisation in Republican China, 1911-1945HS632820 Credydau
The Dark Valley of Fascist Japan, 1930-1945HS632920 Credydau
Peripheral Reverberations of the French RevolutionHS633020 Credydau
Mayhem and murder: Investigating the Victorian UnderworldHS633120 Credydau
The Making of British SocialismHS633220 Credydau
Britain at War: Culture and Politics on the Home Front, 1939-1945HS633320 Credydau
Public and Private: Gender, Identities and Power in Twentieth Century BritainHS633420 Credydau
The Graphic MemoirSE140920 Credydau
Literature and ScienceSE247120 Credydau
Decadent Men, 1890s-1910s: Wilde to ForsterSE249820 Credydau
DissertationSE252420 Credydau
Modern Drama: Page, Stage, ScreenSE255120 Credydau
Gender and Monstrosity: Late/Neo VictorianSE256420 Credydau
Writing Caribbean SlaverySE256820 Credydau
Utopia: Suffrage to CyberpunkSE258120 Credydau
Postcolonial TheorySE259320 Credydau
Medieval Romance: Monsters and MagicSE259920 Credydau
John MiltonSE260820 Credydau
The American Short StorySE260920 Credydau
Apocalypse Then and NowSE261120 Credydau
Representing Race in Contemporary AmericaSE261620 Credydau
Visuality, Culture and TechnologySE262420 Credydau
Activist Poetry: Protest, Dissent, ResistanceSE262720 Credydau
Contemporary British Political DramaSE262820 Credydau
Visions of the Future: Climate Change & FictionSE263020 Credydau
Encounters With Oil in Literature and FilmSE263120 Credydau
Romantic Circles: Collaboration, Radicalism and Creativity 1770-1830SE263320 Credydau
Medieval MisfitsSE263420 Credydau
Shakespeare's Fractured BritainSE263720 Credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae ymchwil yn ganolog i brofiad myfyrwyr yng Nghaerdydd a chaiff ein holl addysgu ei lywio gan y canfyddiadau diweddaraf.

Rydym yn cynnig amgylchedd dysgu cefnogol, lle’r ydych chi’n cael eich galluogi i ennill sgiliau amrywiol a chyfoeth o wybodaeth arbenigol. Byddwch yn dysgu trwy ystod eang o ddulliau addysgu, o ddarlithoedd rhyngweithiol, seminarau bywiog yn seiliedig ar drafodaeth a gweithdai i waith grŵp a thiwtorialau. Bydd y gweithgareddau hyn ar y campws yn cael eu cyfuno ag ystod o amgylcheddau ar-lein a fydd yn cyfoethogi eich profiad dysgu ac yn eich galluogi i ymestyn eich astudiaethau y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Mae seminarau a gweithdai’n cynnig profiad gwerth chweil i ymgysylltu'n feirniadol â'r syniadau a’r darllen allweddol ar bwnc. Maent yn gyfle gwerthfawr i archwilio syniadau a gweithio'n agos gyda'ch darlithwyr a dysgu oddi wrth fyfyrwyr eraill. Yn ail ran eich gradd, cewch gyfle i ymgymryd â phrosiectau annibynnol gyda chefnogaeth arbenigwr yn y maes a hyfforddiant un-i-un (blwyddyn 2/3 mewn Hanes a blwyddyn 3 mewn Llenyddiaeth Saesneg).

Mae ein dulliau addysgu’n meithrin sgiliau deallusol, fel meddwl yn feirniadol, dadansoddi'n fanwl, gwerthuso tystiolaeth, llunio dadleuon, defnyddio theori, a defnyddio iaith yn effeithiol wrth ysgrifennu a thrafod. Rydym hefyd yn eich helpu i ennill profiad mewn meysydd fel gwaith tîm, ymchwil annibynnol a rheoli amser mewn amgylchedd cefnogol.

Addysgu yn yr Iaith Gymraeg

Mae Hanes yn cynnig cyfleoedd i ddysgu ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os bydd staff ar gael, bydd seminarau a addysgir yn Gymraeg ar gael ar rai o'r modiwlau craidd neu bob un ohonynt. Mae goruchwyliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael hefyd ym Mlwyddyn Dau a Blwyddyn Tri ar gyfer prosiectau hwy ac ar gyfer traethodau hir. Gallwch ddewis ysgrifennu’r cyfan neu rywfaint o’ch gwaith a asesir ac arholiadau yn y Gymraeg.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Byddwch yn cael tiwtoriaid personol mewn Llenyddiaeth Saesneg a Hanes, a fydd yn eich arwain trwy gydol eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtoriaid personol yn rheolaidd mewn grwpiau ac yn unigol i fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Gall eich tiwtoriaid personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os byddwch yn cael anawsterau neu os bydd angen gwybodaeth benodol arnoch am eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhoddir cefnogaeth ychwanegol sy'n benodol i fodiwlau gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau; bydd cynghorydd academaidd a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd yn rhoi cefnogaeth ar gyfer prosiectau ymchwil annibynnol.

Trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunydd amlgyfrwng perthnasol, cyflwyniadau, taflenni darlithoedd, llyfryddiaethau, dolenni pellach, ymarferion electronig a byrddau trafod.

Mae ein Timau Cefnogi Addysg israddedig yn cynnig cymorth academaidd a chymorth i fyfyrwyr, ac maent yno i gynnig gwybodaeth ac arweiniad i ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych.

Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, gwasanaethau cymorth a digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, cymorth gyda materion ariannol a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.

Sut caf fy asesu?

Mae asesiadau’n cynnwys beirniadaeth ffynhonnell, darllen llenyddiaeth yn fanwl, prosiectau ymchwil, adolygiadau, cyflwyniadau, portffolios creadigol-feirniadol a phostiadau blog, ochr yn ochr â mathau mwy traddodiadol o asesu fel traethodau a phrofion/arholiadau. Mae rhai o'n hasesiadau yn caniatáu i chi weithio ar y cyd ar brosiect, tra bod eraill yn cynnwys ysgrifennu a chreu ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd; er enghraifft, efallai y gofynnir i chi ddylunio arddangosfa amgueddfa neu greu canllaw ar gyfer defnyddio ffynonellau; ac efallai y cewch gyfle i greu podlediadau a thestunau digidol ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Mae traethodau hir mewn Hanes yn caniatáu i chi fynd i'r afael â chwestiynau hanesyddol sylfaenol neu archwilio mater neu ddadl hanesyddol yn fanylach, tra bod y traethawd hir yn y naill bwnc neu'r llall yn eich galluogi i archwilio un testun yn gyson ac yn fanwl.

Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn helpu i roi’r sgiliau i chi gysylltu eich gwybodaeth â materion lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac yn eich annog i fod yn arloesol a chreadigol; dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau; cydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau; a chyflwyno dadleuon ar sail tystiolaeth. Mae'r sgiliau a ddatblygir ac a asesir trwy gydol y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd graddedig. Mae adborth unigol a grŵp ar asesiadau a mathau eraill o ddysgu yn rhoi cyfle i chi fyfyrio ar eich lefel cyrhaeddiad gyfredol neu ddiweddar.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych. 

Mae Deilliannau Dysgu’r Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

GD1: dangos ymwybyddiaeth systematig o wahanol gyfnodau, mudiadau a genres llenyddol ac o amrywiaeth Llenyddiaeth Saesneg

GD2: cynnal dadl feirniadol sy'n ymatebol i deithi iaith ac arddulliau llenyddol

GD3: ymwneud yn feirniadol ac yn gysyniadol â'r rhagdybiaethau a'r dulliau newidiol y mae haneswyr yn eu defnyddio i egluro'r gorffennol

GD4: dangos gwybodaeth a dealltwriaeth systematig o gymhlethdod ac amrywiaeth y gorffennol mewn un wlad neu mewn perthynas â themâu neu destunau penodol

GD5: dangos ymwybyddiaeth feirniadol o derfynau gwybodaeth ddisgyblaethol a natur esblygol y wybodaeth a'r ddealltwriaeth honno

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

SD1: defnyddio sgiliau hanfodol lefel uchel dadansoddiad agos wrth drin testunau llenyddol

SD2: dangos gwerthfawrogiad dychmygus o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol

SD3: defnyddio gwybodaeth a sgiliau a dulliau priodol i nodi a gwerthuso newid hanesyddol a diwylliannol yn feirniadol

SD4: ffurfio a chyfiawnhau dadleuon am ystod o faterion, problemau a dadleuon hanesyddol gan ddefnyddio syniadau a dulliau hanesyddiaethol a/neu lenyddol

SD5: dod o hyd i ffynonellau sylfaenol priodol, pwyso a mesur eu natur a'u dadansoddi'n feirniadol i ateb cwestiynau a datrys problemau

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

SP1: dadansoddi a dehongli deunydd o amrywiaeth o gyfnodau llenyddol yn feirniadol

SP2: dangos meddwl beirniadol, rhesymeg a'r gallu i gymhathu a chrynhoi gwybodaeth a syniadau cymhleth trwy ddethol yn annibynnol a dadansoddi'n feirniadol ystod briodol o dystiolaeth

SP3: gofyn cwestiynau ymchwil cymhellol a phenodol a mynd ar drywydd atebion i'r cwestiynau hynny trwy ymholi strwythuredig, gan ddethol ac archwilio ystod briodol o dystiolaeth

SP4: crynhoi a gwerthuso'n feirniadol rinweddau ac anfanteision cymharol safbwyntiau a dehongliadau amgen a gwerthuso eu harwyddocâd

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud y canlynol:

ST1: cyflwyno canfyddiadau a dadleuon cymhleth yn glir, yn gryno, ac yn berswadiol mewn amrywiaeth o fformatau

ST2: dangos sgiliau menter i ddatrys problemau a dadansoddi tystiolaeth amrywiol, rannol neu amwys gan ddefnyddio meddwl beirniadol, menter a chreadigrwydd

ST3: cynnig eich atebion dychmygus eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth

ST4: cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth yn effeithiol, naill ai'n unigol neu ar y cyd fel rhan o dîm

Gwybodaeth arall

Mae dulliau addysgu yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, gwaith unigol a grŵp, tiwtorialau un i un, a dysgu hunan-gyfeiriedig. Gallwch hefyd ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid academaidd. Mae’r dulliau addysgu hyn yn eich galluogi chi i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a dadansoddi, ac i ddatblygu dulliau o feddwl yn feirniadol mewn amgylchedd cefnogol. Mae addysgu yn cwmpasu’r holl gymwyseddau allweddol, ac yn cael ei wella drwy gynnwys adnoddau dysgu digidol.

Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar eich cefnogi i ddatblygu eich syniadau, sgiliau a chymwyseddau. Rydym yn defnyddio ystod eang o ddulliau asesu, gan gynnwys traethodau gwaith cwrs, beirniadaeth o ffynonellau, adolygiadau beirniadol, archwiliadau, profion ar-lein, posteri, cyflwyniadau llafar, blogiau a chyflwyniadau grwpiau. Mae dilyniant yn cael ei adeiladu i mewn i’r asesu, o ran y modd y byddwch chi’n gwneud tasgau tywys llai o faint ym mlwyddyn un, yn ogystal â gwaith ffurfiannol ym mlynyddoedd dau a thri. Fel rhan o'ch hyfforddiant sgiliau yn y flwyddyn gyntaf, cewch gymorth i ddeall sut y mae asesiadau’n gweithio, beth a ddisgwylir gennych chi, sut y bydd eich gwaith yn cael ei farcio a sut i fanteisio i'r eithaf ar eich adborth.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Rydym yn annog ein myfyrwyr i feddwl am fywyd y tu hwnt i’r brifysgol o’r diwrnod cyntaf un, gan gynnig modiwlau a chefnogaeth i roi mantais gystadleuol i chi pan fyddwch chi’n graddio, waeth pa lwybr byddwch chi’n ei ddilyn.

Mae ein gradd yn eich paratoi gyda dealltwriaeth fywiog a beirniadol o’r gorffennol, ei waddol parhaus, a sut mae’n cysylltu â’r presennol, a sgiliau pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, o gydweithio a chyfathrebu gydag ystod eang o gynulleidfaoedd, i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o ddatrys problemau. Rydym yn cynnig cyfleoedd i chi ennill a datblygu sgiliau mentergarwch wrth i chi ddatblygu, o gynnig eich syniadau am hanes byd-eang ar fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf a chydweithio ar brosiect ym mlwyddyn 2, i leoliadau â chredydau ym mlwyddyn 2 a'r flwyddyn olaf. Mae ystod o fodiwlau dewisol yn ehangu’r cyfleoedd hyn ac yn eich cefnogi i ddatblygu’r sgiliau ymhellach.

Cyflwynir digwyddiadau hyfforddi a gyrfaol y tu mewn a’r tu allan i’r cwricwlwm gyda ffocws ar ddatblygu eich sgiliau tra byddwch yn y brifysgol a gwneud defnydd llwyddiannus o’r sgiliau hynny yn y dyfodol. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd nid yn unig yn darparu hyfforddiant a gweithdai ar ein modiwlau craidd, ond hefyd yn cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol, rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu’ch sgiliau a'ch proffil eich hun tra'n caniatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Lleoliadau

Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu.

Bydd cyfleoedd am leoliadau amrywiol, pwrpasol yn cael eu cynnig ym Mlwyddyn Dau, mewn modiwl sy’n canolbwyntio ar drosi’r sgiliau a enillwch drwy eich gradd i’r gweithle. Yn eich blwyddyn olaf, rydym yn cynnig y cyfle i astudio modiwl y gallwch ddatblygu eich sgiliau menter drwyddo, gan roi’r sgiliau i chi gyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Hefyd, mae gan staff gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth lleol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod a’r tu allan i semestrau.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.