Ewch i’r prif gynnwys

Archaeoleg a Hanes yr Henfyd (BA)

An Egyptian archaeological artefact

Pam astudio'r cwrs hwn

star

Labordai pwrpasol

Cewch ddefnyddio ein labordai a hefyd ein hystafelloedd darlunio a ffotograffiaeth ddigidol.

location

Astudiwch gydag angerdd

Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau'n rhychwantu celf Roegaidd i hanes Persia a darllen testunau hynafol.

globe

Lleoliadau - cartref a thramor

Profwch weithgareddau gan gynnwys cloddio, prosiectau amgueddfa a gweithgareddau labordy.

location

Anturiaethau gwaith maes

Cewch feithrin sgiliau ymarferol a rhoi'r hyn y byddwch yn ei ddysgu ar waith; darganfod lleoliadau cyffrous a datgelu byd o'r gorffennol.

briefcase

Gweithdai gyrfaoedd rhyngweithiol

Cyfle i hogi eich sgiliau gyrfa a chael cipolwg gwerthfawr ar rolau a sectorau sy'n addas i chi.

Yn ein BA rhyngddisgyblaethol mewn Archaeoleg a Hanes yr Henfyd, byddwch yn archwilio cymdeithasau a diwylliannau hynafol Môr y Canoldir, Ewrop a'r Dwyrain Agos, o'r Oes Efydd i Ymerodraeth Bysantiwm, gan gynnwys y Groegiaid, y Rhufeiniaid, y Persiaid, yr Eifftiaid, yr Etrwsgiaid, y Celtiaid a’r Carthaginiaid. Drwy gyfuno dulliau o archaeoleg a hanes yr henfyd, byddwch yn dysgu sut i ddeall y cymdeithasau hyn o wahanol safbwyntiau, yn ogystal â meithrin sgiliau ymarferol megis cloddio archaeolegol, tirfesur, darlunio ac allgymorth cyhoeddus.

Byddwch yn gallu arbenigo yn y cyfnodau neu'r diwylliannau sydd o ddiddordeb i chi fwyaf, archwilio themâu fel rhywedd, gwleidyddiaeth, rhyfela, crefydd, celf a meddygaeth, neu ddysgu am ddulliau a sgiliau archaeolegol. Byddwn yn sicrhau eich bod yn gallu gosod yr ymchwil a'r wybodaeth hon mewn cyd-destun cyfoes, gan gynnwys sut y rheolir safleoedd treftadaeth a chasgliadau, a sut mae'r byd hynafol yn parhau i ysbrydoli'r byd modern a llywio dadleuon yn y gymdeithas sydd ohoni.

Caiff ein haddysgu ei lywio gan y canfyddiadau diweddaraf, a byddwch yn rhannu yn y broses ddarganfod trwy gymryd rhan mewn gwaith maes a chyflawni eich prosiect ymchwil eich hun. A chithau’n fyfyriwr graddedig mewn archaeoleg a hanes yr henfyd, bydd gennych y sgiliau, y wybodaeth a'r hyder sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn ystod o yrfaoedd, yn y sector treftadaeth neu rywle arall.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd gyda blwyddyn o astudio dramor, gan ymestyn eich gradd i raglen pedair blynedd, gyda'ch trydedd flwyddyn yn cael ei threulio mewn sefydliad partner y tu allan i'r DU.

Maes pwnc: Archaeoleg a chadwraeth

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Y broses ddethol neu gyfweld

Yn unol â pholisi derbyn Prifysgol Caerdydd.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd angen dillad addas (gan gynnwys dillad glaw ac esgidiau cryf) a llety weithiau (megis pabell a bag cysgu) ar gyfer ymweliadau a gwaith maes. Mae gan y Brifysgol arian ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol o ran prynu’r offer hwn.

Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo’ch deunydd. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sy’n bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd.

Cyfarpar ar gyfer cwrs penodol

Bydd angen dillad addas (e.e. dillad ac esgidiau addas) ac weithiau llety (e.e. pabell a bag cysgu) ar gyfer teithiau maes a gwaith maes.  Mae gan y Brifysgol arian ar gael i fyfyrwyr sy'n wynebu anawsterau ariannol o ran prynu’r offer hwn.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r BA mewn Archaeoleg a Hanes yr Henfyd yn rhaglen dair blynedd, sy'n cynnwys 120 o gredydau ym mhob blwyddyn astudio. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd ym mhob un o'ch dwy flynedd gyntaf, ac yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cymryd pedwar modiwl 20 credyd a thraethawd hir 40 credyd ar bwnc o'ch dewis.

Ar draws y rhaglen, mae'r modiwlau craidd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth allweddol i chi, tra bod y modiwlau dewisol yn caniatáu i chi deilwra eich gradd i gyd-fynd â'ch diddordebau penodol. Dros y tair blynedd byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr hyfforddiant a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig, ar gyfer gyrfa ym maes archaeoleg neu'r sector treftadaeth, neu ar gyfer cyflogaeth broffesiynol y tu allan i’r ddisgyblaeth. 

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Mae blwyddyn 1 wedi'i chynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth hanfodol i chi a fydd yn ffurfio sylfaen eich gradd. Byddwch yn astudio 6 modiwl craidd 20 credyd, tri mewn archaeoleg a thri mewn hanes yr henfyd.

Ym maes hanes yr henfyd, byddwch yn astudio 2 fodiwl sy'n rhoi trosolwg eang i chi o hanes Môr y Canoldir a'r Dwyrain Agos o'r Asyriaid hyd at ddiweddarach yr Ymerodraeth Rufeinig, a modiwl sy'n eich cyflwyno i sgiliau astudio allweddol a'r gwahanol fathau o waith ysgrifenedig a thystiolaeth faterol y mae haneswyr hynafol yn ei defnyddio.

Ym maes archaeoleg, byddwch yn astudio modiwl mewn sgiliau a thechnegau maes archaeolegol, a 2 fodiwl sy'n eich cyflwyno i archaeoleg Prydain a Môr y Canoldir, yn arbennig yr Aifft, Groeg a Rhufain.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio 2 fodiwl 20 credyd craidd: mae un yn fodiwl lleoliad a'r llall yn brosiect annibynnol, lle byddwch yn astudio thema o'ch dewis ac yn ei chyflwyno mewn ffordd greadigol a mentrus i ddatblygu eich sgiliau ymchwil a chyflogadwyedd. Byddwch hefyd yn dewis modiwl a fydd yn eich cyflwyno i ymagweddau a dehongliadau gwahanol mewn naill ai archaeoleg neu hanes yr henfyd, fel eich bod yn deall arwyddocâd eich pwnc yn y byd modern ac yn gallu ymgysylltu'n fwy effeithiol ag ysgolheictod modern.

Yn ogystal, byddwch yn dewis 3 modiwl dewisol 20 credyd, a fydd yn eich galluogi i ddechrau arbenigo mewn themâu, cyfnodau a meysydd penodol o safbwynt archaeolegol a hanesyddol, ac i ddatblygu sgiliau proffesiynol pellach mewn archaeoleg neu ddysgu Lladin neu Roeg hynafol (uchafswm o 40 credyd iaith ; nid y ddwy iaith ar yr un pryd) .

Blwyddyn tri

Mae blwyddyn 3 yn nodi penllanw'r sgiliau a'r wybodaeth rydych chi wedi'u datblygu ar draws y radd. Byddwch yn cwblhau traethawd hir 40 credyd craidd sy'n tynnu ar safbwyntiau archaeolegol a hanesyddol. Yma byddwch yn adeiladu ar eich astudiaeth annibynnol yn yr ail flwyddyn a'r modiwl dulliau a dehongli wrth i chi ddylunio, cynnal ac ysgrifennu prosiect ymchwil ar raddfa fach, dan oruchwyliaeth aelod o staff academaidd.

Byddwch hefyd yn astudio 4 modiwl dewisol 20 credyd, sy'n eich galluogi i deilwra eich gradd i'ch diddordebau. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth o fodiwlau sy'n canolbwyntio ar gyfnodau, themâu neu dechnegau archaeolegol penodol, a addysgir gan staff sy'n cymryd rhan weithredol wrth ymchwilio iddynt, neu gymryd modiwl a gynlluniwyd i ddatblygu eich sgiliau ymgysylltu â'r cyhoedd ac allgymorth.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau datrys problemau gweithredol, sesiynau ymarferol, teithiau maes, a thiwtorialau un-i-un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid neu ar eich pen eich hun.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol a datblygu eich syniadau eich hun ar gyfer y seminarau, dosbarthiadau gweithredol ac asesiadau. Efallai y bydd y deunyddiau hyn yn cael eu dosbarthu i chi wyneb yn wyneb neu eu darparu ar ffurf electronig fel y gallwch eu hastudio ar eich cyflymder a'ch hwylustod eich hun.

Mae seminarau a dosbarthiadau datrys problemau gweithredol yn darparu amgylchedd deinamig lle gallwch archwilio'r syniadau a'r dadleuon a amlinellir mewn darlithoedd. Mae'r sesiynau hyn fel arfer yn cynnwys grŵp o fyfyrwyr ac arweinydd y grŵp (aelod o'r tîm addysgu). Gall eu ffurf amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Maen nhw’n cynnig cyfle buddiol i ddadlau ac i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes.

Hyrwyddir sgiliau archaeolegol trwy ystod o sesiynau ymarferol a chymryd rhan mewn prosiectau gwaith maes yn uniongyrchol, gan gynnwys cloddio, arolygon, rhaglenni ôl-gloddio a phrosiectau curadurol mewn amgueddfeydd.

Wrth astudio ar gyfer gradd yn y Dyniaethau, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth hunangyfeiriedig, gan ddefnyddio llyfrgelloedd, archifau ffisegol a digidol a chasgliadau o dystiolaeth. Byddwch yn cael eich cefnogi yn hyn o beth ac yn dysgu i ddod yn fyfyriwr annibynnol hyderus yn ystod eich gradd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Dyrennir tiwtor personol i chi fydd yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol yn rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os byddwch yn cael anawsterau neu os bydd angen gwybodaeth benodol arnoch am eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darperir cefnogaeth ychwanegol benodol i’r modiwl gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau. Darperir cefnogaeth ar gyfer prosiectau a’r traethawd hir gan oruchwyliwr academaidd a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd.

Mae'r holl fodiwlau'n defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, lle byddwch yn gallu cael mynediad at holl ddeunyddiau'r cwrs, gan gynnwys recordiadau darlithoedd, taflenni, manylion yr holl asesiadau, meini prawf asesu a dolenni i adnoddau digidol, gan gynnwys y deunyddiau llyfrgell sydd ar gael yn electronig fformat.

Mae ein Tîm Cefnogi Addysgu i israddedigion yn cynnig cymorth academaidd a chefnogi myfyrwyr, gan roi gwybodaeth ac arweiniad mewn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gyda chi.

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, gwasanaethau cymorth, a digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, cymorth gyda materion ariannol a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.

Sut caf fy asesu?

Byddwch yn dod ar draws ystod o asesiadau gwahanol yn ystod eich astudiaeth, gan gynnwys traethodau, ymarferion dadansoddi ffynonellau, arholiadau, cyflwyniadau, prosiectau creadigol a gwaith ymarferol, ynghyd ag asesiadau eraill a fydd yn eich galluogi i ddangos hyblygrwydd a dod yn gyfarwydd â gwahanol lwyfannau digidol megis blogiau, fideo-flogiau a chyfryngau cymdeithasol, ysgrifennu mewn fformatau gwahanol ar gyfer cynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol, a thasgau proffesiynol megis ysgrifennu adroddiadau neu gynigion yn y byd academaidd a'r byd gwaith ehangach.

Diben ein hasesiadau yw eich helpu i gasglu syniadau, meithrin sgiliau a datblygu galluoedd. Maent yn eich annog i fod yn arloesol ac yn greadigol, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau, i gydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau, ac i gyflwyno dadleuon sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y sgiliau sydd wedi’u meithrin a’u hasesu yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer amryw yrfaoedd.

Darperir adborth ysgrifenedig unigol ar yr holl waith a asesir i'ch helpu i wella perfformiad mewn asesiadau yn y dyfodol, a byddwch yn cael cyfleoedd i drafod yr adborth hwn gyda'r tiwtoriaid. Yn ogystal, byddwch yn gwneud ymarferion ymarfer amrywiol, megis cyflwyniadau a chynlluniau traethawd neu brosiect, a darperir adborth ffurfiannol mewn dosbarthiadau a thiwtorialau i'ch helpu i wella'ch dysgu a'ch dealltwriaeth cyn i chi gwblhau eich asesiadau crynodol. 

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Gwybod a deall:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

GD1: Dadansoddi'n feirniadol ystod eang o gymdeithasau a diwylliannau hynafol trwy dynnu ar ystod ryngddisgyblaethol o ddeunyddiau ac ymagweddau.

GD2: Dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ystod eang o ddeunydd ffynhonnell sylfaenol, gan gynnwys tystiolaeth lenyddol, ddogfennol, epigraffig, weledol ac archaeolegol.

GD3: Gwerthuso'n feirniadol a defnyddio ystod o ddamcaniaethau, ymagweddau a dulliau ar gyfer astudio archaeoleg a hanes yr henfyd.

GD4: Gwerthuso a beirniadu'n feirniadol ddehongliadau modern gwahanol o'r gorffennol.

GD5: Dadansoddi'n feirniadol ddadleuon ynghylch lle archaeoleg a hanes yr henfyd mewn cymdeithas a gwleidyddiaeth gyfoes.

GD6: Asesu ffyrdd y gall archaeoleg a hanes yr henfyd gyfrannu at ein dealltwriaeth o ddatblygiadau diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol yn y gorffennol a'r presennol.

Sgiliau Deallusol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

SD1: Nodi a dadansoddi’n feirniadol batrymau newid hanesyddol neu archaeolegol a dod o hyd i archwiliadau manwl o themâu, penodau a digwyddiadau penodol ynddynt.

SD2: Gwerthuso'n feirniadol ddadleuon archaeolegol a hanesyddol a'u lleoli yn natblygiad y ddwy ddisgyblaeth.

SD3: Diffinio problemau a chwestiynau hanesyddol neu archaeolegol cymhleth, a nodi damcaniaethau, dulliau a thystiolaeth briodol i fynd i'r afael â nhw.

SD4: Llunio a chyfiawnhau dadleuon a chasgliadau annibynnol yn seiliedig ar ddadansoddiad beirniadol o dystiolaeth anghyflawn.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

SY1: Helpu i adnabod, archwilio a chofnodi safleoedd archaeolegol.

SY2: Defnyddio sgiliau archaeolegol mewn sefyllfa broffesiynol.

SY3: Paratoi allbynnau proffesiynol o ansawdd ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd yn y sector treftadaeth sy'n ymwneud â chanfyddiadau ymchwil archaeolegol.

SY4: Defnyddio ystod o adnoddau gwybodaeth a chronfeydd data i ddod o hyd i ddeunydd ffynhonnell sylfaenol.

SY5: Cymryd rhan mewn ymchwil i leoli a dewis ysgolheictod modern priodol.

SY6: Dylunio, cyflawni a chyflwyno darn sylweddol o ymchwil annibynnol sy'n cyfuno dwy ddisgyblaeth.

 

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

ST1: Datrys problemau cymhleth trwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau rhyngddisgyblaethol i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

ST2: Defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol a rhesymu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a syniadau amrywiol.

ST3: Cymhathu a chyfosod gwybodaeth a syniadau cymhleth o ddwy ddisgyblaeth wahanol.

ST4: Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth ac amrywiol i amrywiaeth o gynulleidfaoedd ac mewn amrywiaeth o gyfryngau, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

ST5: Defnyddio amrywiaeth o sgiliau cyflogadwyedd a menter, megis creadigrwydd, menter, trefnu, rheoli amser, gweithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm, a'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth.

ST6: Cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a safonau proffesiynol mewn ystod o leoliadau archaeolegol a threftadaeth.

 

 

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae ein gradd yn rhoi i chi ystod o sgiliau archaeolegol proffesiynol, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy pwysig y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, o weithio ar y cyd a chyfathrebu ag ystod eang o gynulleidfaoedd i feddwl yn feirniadol a dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau. Mae hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd yn aml, gan anelu at feithrin sgiliau yn ystod y cwrs a’u defnyddio’n llwyddiannus wedyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd yn darparu hyfforddiant a gweithdai yn ogystal â’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun wrth ganiatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o reoli ar lefel graddedigion i addysgu. Mae graddedigion diweddar o'r ysgol wedi mynd ymlaen i rolau mewn amgueddfeydd, archaeoleg, y sector treftadaeth, addysgu ac addysg, y cyfryngau, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, y gyfraith, adnoddau dynol a'r sector elusennol, gyda chyflogwyr yn amrywio o Amgueddfa Cymru i awdurdodau lleol ac ysgolion. Mae'r rhai sydd wedi dilyn llwybr i archaeoleg a threftadaeth yn gweithio mewn rolau fel archaeolegwyr maes yn ymgymryd â gwaith cloddio, arolygon neu waith ôl-gloddio, fel ymgynghorwyr treftadaeth, cynghorwyr archaeolegol awdurdodau lleol a churaduron amgueddfeydd.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Archeolegydd
  • Hanesydd
  • Darlithydd

Lleoliadau

You’ll benefit from a 20-credit professional placement module as a core element of the degree. This involves a four-week practical placement on an archaeological excavation (usually in the summer vacation) or on a museum, archival, post-excavation or laboratory project in Britain or abroad. We generally offer experience on a project relevant to the periods and geographical areas under study.

Further opportunities for diverse, bespoke placements are offered in Year Two on a module which focuses on translating the skills you gain through your degree into the workplace. In your third year we offer you the opportunity to take a module through which you can develop your enterprise skills, and which equips you with the skills to communicate and collaborate with external organisations. Staff also have close links with a range of local heritage and other organisations, which offer placement opportunities both in and outside semesters.

Through our links with Student Futures you can source placements and on-campus internships, from 35 hours part-time placements to fit in around your studies to paid summer placements. In addition, Go Wales provides additional support to help you gain work experience.

Gwaith maes

Mae'r prosiectau gwaith maes yn cael eu cymryd yn yr hafau cyn Blynyddoedd Dau a Thri, gan eich galluogi i roi eich sgiliau newydd ar waith a chael profiad ymarferol gwerthfawr.  Caiff y rhain eu haddysgu yn ystod pedair wythnos o gyfranogiad myfyrwyr ar waith archeolegol fel cloddio, arolygon maes, prosiectau curadurol amgueddfa neu unrhyw weithgareddau mewn labordy yn dilyn cloddio.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.