Ewch i’r prif gynnwys

Hanes yr Henfyd (BA)

  • Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd
  • Côd UCAS: V110
  • Derbyniad nesaf: Medi 2024
  • Hyd: 3 blwyddyn
  • Modd (astudio): Amser llawn

Pam astudio'r cwrs hwn

location

Astudiwch gydag angerdd

Dilynwch eich diddordebau gyda phynciau'n rhychwantu celf Roegaidd i hanes Persia a darllen testunau hynafol.

star

Traethawd hir gyda gwahaniaeth

Dilynwch bwnc sy'n sbarduno eich chwilfrydedd; cewch wella sgiliau niferus gyda chyflwyniad ac elfen ysgrifenedig.

book

Dysgu gan arbenigwyr

Cewch elwa o addysgu a chefnogaeth gan staff ymchwil-weithredol.

briefcase

Gweithdai gyrfaoedd rhyngweithiol

Cyfle i hogi eich sgiliau gyrfa a chael cipolwg gwerthfawr ar rolau a sectorau sy'n addas i chi.

Mae’r radd gyffrous hon, sy’n ymroddedig i ddeall cymdeithasau’r gorffennol trwy ddehongli tystiolaeth hynafol, yn agor drws i archwilio deunydd gweledol, epigraffig ac archaeolegol allweddol. Yn anarferol yn y DU, mae ein rhaglen yn eich galluogi i ddarganfod y Dwyrain Agos, Persia ac Ymerodraeth Bysantiwm, yn ogystal â'r bydoedd Groegaidd a Rhufeinig.

Mae’r rhaglen wedi'i chynllunio ar gyfer myfyrwyr heb unrhyw astudiaeth flaenorol o'r byd hynafol, ond hefyd yn darparu ar gyfer y rhai sydd â rhywfaint o wybodaeth flaenorol. Bydd ein rhaglen amlochrog yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth feirniadol o'r cymdeithasau hynafol hynod ddiddorol hyn, gan archwilio eu strwythurau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol, yn ogystal ag adeiladu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo ar lefel prifysgol a thu hwnt.

I ni, mae pynciau cymdeithasol a diwylliannol yr un mor bwysig â hanes gwleidyddol. Byddwch yn dod ar draws themâu hynod ddiddorol gyda pherthnasedd cyfoes, megis rhyfela, rhywedd a rhywioldeb, crefydd, meddygaeth, celf a llenyddiaeth, a byddwch yn darganfod sut mae hynafiaeth yn parhau i ysbrydoli'r byd modern.

Byddwch yn asesu'r ystod o dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer astudio'r byd hynafol ac yn dysgu sut i werthuso dehongliadau amrywiol ac weithiau anghyson o'r gorffennol, er mwyn llunio eich dadleuon cadarn a chydlynol eich hun. Byddwch yn ymarfer cyfleu eich syniadau i wahanol gynulleidfaoedd mewn amrywiaeth o gyfryngau a fformatau gwahanol. Ar ddiwedd eich gradd, byddwch yn dylunio ac yn cynnal prosiect ymchwil unigol ar bwnc o'ch dewis.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd gyda blwyddyn o astudio dramor, gan ymestyn eich gradd i raglen pedair blynedd, gyda'ch trydedd flwyddyn yn cael ei threulio mewn sefydliad partner y tu allan i'r DU.

Maes pwnc: Hanes a hanes yr henfyd

Gofynion mynediad

Rydym yn derbyn cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn ogystal â chymwysterau rhyngwladol cyfatebol yn amodol ar ofynion mynediad. Dyma ein cynigion nodweddiadol:

Lefel A

ABB-BBB

Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhynglwadol: Fel arfer, bydd ymgeiswyr sydd wedi ennill gradd A yn y Cymhwyster Cymhwyster Prosiect Estynedig/Rhyngwladol: Bydd ymgeiswyr sydd â gradd A mewn Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ)/Cymhwyster Prosiect Rhyngwladol (IPQ) fel arfer yn derbyn cynnig un radd yn is na'r cynnig safonol. Sylwch fod yn rhaid parhau i fodloni unrhyw ofynion penodol pwnc.

Mae ein hystod gradd yn cwmpasu ein cynnig safonol a'n cynnig cyd-destunol. Rydym yn ystyried yn ofalus yr amgylchiadau rydych chi wedi bod yn astudio (eich data cyd-destunol) ar gais.

  • Bydd myfyrwyr cymwys yn cael cynnig y rhan isaf yn yr ystod gradd a hysbysebir.
  • Lle nad oes ystod gradd yn cael ei hysbysebu a/neu lle mae prosesau dethol yn eu lle (fel cyfweliad) efallai y byddwch yn derbyn pwyntiau ychwanegol yn y broses ddethol neu'n sicr o gael cyfweliad/ystyriaeth.

Dysgwch am gyrsiau cymwys a sut mae data cyd-destunol yn cael ei gymhwyso.

Y Fagloriaeth Rhyngwladol

32-31 yn gyffredinol neu 665 mewn 3 phwnc Lefel Uwch.

Bagloriaeth Cymru

O fis Medi 2023, bydd cymhwyster newydd o'r enw Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (lefel 3). Bydd y cymhwyster hwn yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch (Bagloriaeth Cymru). Bydd y cymhwyster yn parhau i gael ei dderbyn yn lle un Safon Uwch (ar y graddau a restrir uchod), ac eithrio unrhyw bynciau penodol.

Rhaid i chi fod yn meddu ar y canlynol neu’n gweithio tuag atynt:
- TGAU Iaith Saesneg neu Gymraeg gradd C/4 neu gyfwerth (fel Safon Uwch). Os oes angen fisa Myfyriwr arnoch, rhaid i chi sicrhau bod eich cymhwyster iaith yn cydymffurfio â gofynion UKVI.

Nid ydym yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, na phynciau eraill tebyg neu gyfatebol.
Byddwn yn derbyn cyfuniad o bynciau BTEC, Safon Uwch a chymwysterau eraill, yn amodol ar ofynion gradd a phwnc penodol y cwrs.

GCSE

Gradd C neu radd 4 mewn TGAU Iaith Saesneg.

IELTS (academic)

O leiaf 6.5 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob is-sgil.

TOEFL iBT

O leiaf 90 yn gyffredinol gydag o leiaf 17 ar gyfer ysgrifennu, 17 am wrando, 18 ar gyfer darllen, ac 20 ar gyfer siarad.

PTE Academic

O leiaf 69 ar y cyfan gydag o leiaf 59 yn yr holl sgiliau cyfathrebu.

Trinity ISE II/III

II: dau Ragoriaeth a dau Deilyngdod o leiaf.
III: o leiaf Llwyddo ym mhob cydran.

Cymwysterau eraill a dderbynnir

Os ydych yn ymgeisydd tramor ac nid Saesneg yw eich iaith gyntaf, ewch i'n tudalen am ofynion Iaith Saesneg i gael rhagor o wybodaeth am ba gymwysterau y byddwn yn eu derbyn.

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cymwysterau o'r tu allan i'r DU

BTEC

DDM mewn Diploma Estynedig BTEC mewn pynciau Dyniaethau neu Wyddor Gymdeithasol. Byddwn yn ystyried cymwysterau BTEC mewn pynciau amgen ochr yn ochr â chymwysterau academaidd eraill ac unrhyw brofiad gwaith neu wirfoddoli perthnasol.

Lefel T

Bydd yr Ysgol Academaidd yn ystyried derbyn Lefelau T ar gyfer y rhaglen hon fesul achos. Rhoddir ystyriaeth i'r radd / pwnc Lefel T a'r graddau/pynciau a gyflawnir ar lefel TGAU/Lefel 2.

Cymwysterau eraill o'r tu mewn i'r DU

Gweld ein arweiniad i gymwysterau cyfatebol

Cewch ragor o wybdoaeth am y broses ymgeisio yn ein polisïau derbyn myfyrwyr.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,000 Dim
Blwyddyn dau £9,000 Dim
Blwyddyn tri £9,000 Dim

Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gynyddu ffioedd dysgu yn yr ail flwyddyn a blynyddoedd dilynol y cwrs yn unol â'r gyfraith neu bolisi Llywodraeth Cymru. Lle bo'n berthnasol, byddwn yn eich hysbysu o unrhyw newidiadau yn y ffioedd dysgu erbyn diwedd mis Mehefin yn y flwyddyn academaidd cyn i'r ffioedd gynyddu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2022/23 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd israddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 Dim
Blwyddyn dau £22,700 Dim
Blwyddyn tri £22,700 Dim

Rhagor o wybodaeth am ein ffioedd dysgu

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Dylech chi fod yn fodlon prynu rhai testunau pwysig a thalu am argraffu a llungopïo’ch deunydd. Efallai yr hoffech chi brynu llyfrau sy’n bwysig i’ch modiwlau neu o ddiddordeb arbennig i chi, hefyd.

Llety

Mae gennym amrywiaeth o breswylfeydd sydd yn gweddu i anghenion a phoced yr unigolyn. Cewch wybod rhagor ar ein tudalennau llety.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r BA mewn Hanes yr Henfyd yn rhaglen tair blynedd, sy'n cynnwys 120 credyd y flwyddyn. Byddwch yn astudio chwe modiwl 20 credyd ym mhob un o'ch dwy flynedd gyntaf, ac yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn cymryd pedwar modiwl 20 credyd a thraethawd hir 40 credyd ar bwnc o'ch dewis.

Ar draws y rhaglen, mae'r modiwlau craidd yn rhoi sgiliau a gwybodaeth allweddol i chi, tra bod y modiwlau dewisol yn caniatáu i chi deilwra eich gradd i gyd-fynd â'ch diddordebau penodol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/2025. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024

Blwyddyn un

Ym mlwyddyn 1, byddwch yn astudio 80 credyd o fodiwlau craidd a 40 credyd o fodiwlau dewisol. Trwy'r modiwlau craidd, byddwch yn caffael gwybodaeth eang am hanes yr henfyd o 1000 CC i 680 OC a'r dystiolaeth sydd ar gael ar gyfer ei astudio. Mae'r modiwlau craidd hefyd yn rhoi sgiliau academaidd hanfodol i chi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.

Mae’r modiwlau dewisol yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth mewn meysydd amrywiol ond cysylltiedig, megis archaeoleg, crefydd, hanes canoloesol, derbyniad, ac ieithoedd hynafol.

Mae modiwlau blwyddyn 1 yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i flwyddyn 2, ac y byddwch yn parhau i’w datblygu ar draws y radd. Bydd eich gwybodaeth am hanes yr henfyd yn dod yn ddyfnach ac yn fwy arbenigol, bydd eich sgiliau trin tystiolaeth a chynnal ymchwil yn cael eu gwella, ac felly hefyd eich sgiliau cyflwyno.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2, byddwch yn astudio am 40 o gredydau craidd a 80 o gredydau dewisol. Mae un modiwl craidd yn canolbwyntio ar hanes yr henfyd ei hun a dadleuon cyfredol yn y pwnc. Mae’r modiwl craidd arall yn brosiect unigol ar bwnc o’ch dewis eich hun, y byddwch yn ei gyflwyno mewn ffordd greadigol a mentrus ac felly’n datblygu eich sgiliau ymchwil a chyflogadwyedd.

Byddwch hefyd yn dewis 4 modiwl 20 credyd dewisol o ystod o gyfnodau a themâu, gan ganiatáu i chi ddilyn eich diddordebau penodol. Rhaid i un o'r rhain fod yn fodiwl cyfnod; bydd hyn yn sicrhau eich bod yn dechrau datblygu gwybodaeth fwy arbenigol mewn cyfnod allweddol, yn ogystal â datblygu eich sgiliau ymhellach wrth drin ystod o dystiolaeth a chymryd rhan mewn dadleuon modern. Gallwch hefyd ddysgu Lladin neu Roeg hynafol (uchafswm o 40 credyd; nid Lladin a Groeg ar yr un pryd) neu gymryd modiwl lleoliad gwaith i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau o ran gyrfa.

Bydd blwyddyn 2 yn eich galluogi i ymwneud yn ddyfnach â themâu, cyfnodau, dadleuon hanesyddol ac ysgolheictod, ac i gael profiad o ddehongli ystod ehangach o dystiolaeth amrywiol a chymhleth.

Blwyddyn tri

Ym mlwyddyn 3, byddwch yn cymryd y traethawd hir craidd 40 credyd ac 80 credyd o fodiwlau dewisol. Yn y traethawd hir byddwch yn adeiladu ar eich prosiect unigol blwyddyn 2 a'r sgiliau a'r arbenigedd a ddatblygwyd yn y modiwlau craidd a dewisol eraill i ddylunio a chynnal prosiect ymchwil ar bwnc o'ch dewis eich hun, dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd.

Dewisir y 4 modiwl dewisol o blith ystod eang o fodiwlau thematig a chyfnod sy'n eich galluogi i arbenigo mewn pynciau a addysgir gan staff sy'n ymwneud yn weithredol â'u hymchwilio. Gallwch hefyd gymryd modiwl sydd wedi'i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau mewn ymgysylltu â'r cyhoedd ac allgymorth.

Mae blwyddyn 3 yn nodi penllanw'r sgiliau a'r wybodaeth a ddatblygwyd ar draws y radd. Byddwch yn gwella eich sgiliau beirniadol a dadansoddol ymhellach ac yn datblygu eich sgiliau ymchwilio a datrys problemau.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle'n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Mae'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd yn eich galluogi chi i ddatblygu mewn amgylchedd dysgu o ansawdd uchel, a gefnogir gan ddull o ennill gwybodaeth a sgiliau lle mae'r ffocws ar y myfyriwr.

Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu, gan gynnwys darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau datrys problemau gweithredol, sesiynau ymarferol, teithiau maes, a thiwtorialau un-i-un. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag astudiaeth a gwaith ymchwil annibynnol, dan arweiniad tiwtoriaid neu ar eich pen eich hun.

Mae darlithoedd yn darparu trosolwg o gysyniadau a fframweithiau allweddol pwnc, gan eich paratoi chi ar gyfer ymgymryd â gwaith ymchwil annibynnol a datblygu eich syniadau eich hun ar gyfer y seminarau, dosbarthiadau gweithredol ac asesiadau. Efallai y bydd y deunyddiau hyn yn cael eu dosbarthu i chi wyneb yn wyneb neu eu darparu ar ffurf electronig fel y gallwch eu hastudio ar eich cyflymder a'ch hwylustod eich hun.

Mae seminarau a dosbarthiadau datrys problemau gweithredol yn darparu amgylchedd deinamig lle gallwch archwilio'r syniadau a'r dadleuon a amlinellir mewn darlithoedd. Mae'r sesiynau hyn fel arfer yn cynnwys grŵp o fyfyrwyr ac arweinydd y grŵp (aelod o'r tîm addysgu). Gall eu ffurf amrywio, gan gynnwys trafodaeth grŵp sy’n cynnwys pawb, gwaith mewn grwpiau bach a chyflwyniadau sy’n cael eu harwain gan y myfyrwyr. Maen nhw’n cynnig cyfle buddiol i ddadlau ac i ymgymryd yn feirniadol â’r prif syniadau a deunydd darllen, ac i ymchwilio i feysydd o ddiddordeb arbennig gydag arbenigwr yn y maes.

Wrth astudio ar gyfer gradd yn y Dyniaethau, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth hunangyfeiriedig, gan ddefnyddio llyfrgelloedd, archifau ffisegol a digidol a chasgliadau o dystiolaeth. Byddwch yn cael eich cefnogi yn hyn o beth ac yn dysgu i ddod yn fyfyriwr annibynnol hyderus yn ystod eich gradd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael cymorth gan nifer o staff gwahanol, rhai yn canolbwyntio ar berfformiad academaidd mewn maes penodol a rhai’n rhoi sylw i ddysgu a chynnydd mewn ffordd fwy cyfannol.

Dyrennir tiwtor personol i chi fydd yn eich tywys trwy gydol cyfnod eich astudiaethau. Byddwch yn cwrdd â'ch tiwtor personol yn rheolaidd i fyfyrio ar eich cynnydd a'ch datblygiad ar draws eich astudiaethau. Gall eich tiwtor personol hefyd eich cyfeirio at gymorth priodol os byddwch yn cael anawsterau neu os bydd angen gwybodaeth benodol arnoch am eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darperir cefnogaeth ychwanegol benodol i’r modiwl gan diwtoriaid seminarau, darlithwyr a/neu gynullwyr modiwlau. Darperir cefnogaeth ar gyfer prosiectau a’r traethawd hir gan oruchwyliwr academaidd a fydd yn cwrdd â chi’n rheolaidd.

Mae'r holl fodiwlau'n defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd, lle byddwch yn gallu cael mynediad at holl ddeunyddiau'r cwrs, megis recordiadau darlithoedd, taflenni, manylion yr holl asesiadau, meini prawf asesu a dolenni i adnoddau digidol, gan gynnwys y deunyddiau llyfrgell sydd ar gael yn electronig fformat.

Mae tîm cymorth addysg i israddedigion yn cynnig cymorth ar gyfer gwaith academaidd a materion eraill gan roi gwybodaeth ac arweiniad yn ymateb i unrhyw ymholiadau a allai fod gyda chi.

Y tu hwnt i’r Ysgol, mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys Dyfodol Myfyrwyr i’ch helpu i gynllunio eich gyrfa, gwasanaethau cymorth, a digwyddiadau i’ch helpu i reoli eich iechyd emosiynol, meddyliol a chorfforol, cymorth gyda materion ariannol a chymorth i fyfyrwyr ag anableddau.

Sut caf fy asesu?

Byddwch yn dod ar draws ystod o asesiadau gwahanol yn ystod eich astudiaeth, gan gynnwys traethodau, ymarferion dadansoddi ffynonellau, arholiadau, cyflwyniadau a phrosiectau creadigol, ynghyd ag asesiadau eraill a fydd yn eich galluogi i ddangos hyblygrwydd a dod yn gyfarwydd â llwyfannau digidol megis blogiau, fideo-flogiau a chyfryngau cymdeithasol, ac ysgrifennu mewn fformatau gwahanol ar gyfer cynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol. Mae rhai o'n hasesiadau yn caniatáu i chi gydweithio.

Ym mhob achos, mae ein hasesiadau wedi'u cynllunio i'ch cefnogi i ddatblygu eich syniadau, eich sgiliau a'ch cymwyseddau. Maent yn eich annog i fod yn arloesol ac yn greadigol, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â phroblemau neu ofyn cwestiynau, i gydweithio i ddatrys problemau a chyflwyno canfyddiadau, ac i gyflwyno dadleuon sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y sgiliau sydd wedi’u meithrin a’u hasesu yn ystod y rhaglen yn eich paratoi ar gyfer amryw yrfaoedd.

Byddwch yn cael adborth unigol ar yr holl waith a asesir i'ch helpu i wella perfformiad mewn asesiadau yn y dyfodol, a byddwch yn cael cyfleoedd i drafod yr adborth hwn gyda'r tiwtoriaid. Yn ogystal, byddwch yn gwneud ymarferion ymarfer amrywiol, megis cyflwyniadau a chynlluniau traethawd neu brosiect, a darperir adborth ffurfiannol mewn dosbarthiadau a thiwtorialau i'ch helpu i wella'ch dysgu a'ch dealltwriaeth cyn i chi gwblhau eich asesiadau crynodol.

Pa sgiliau bydda i'n eu hymarfer a'u datblygu?

Mae Deilliannau Dysgu’r rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch chi’n gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddan nhw’n eich helpu i ddeall yr hyn mae disgwyl ichi ei wneud. 

Mae deilliannau dysgu’r rhaglen hon isod:

Gwybod a deall:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

GD1: Dadansoddi'n feirniadol ystod eang o hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol hynafol.

GD2: Dadansoddi a gwerthuso'n feirniadol ystod eang o ddeunydd ffynhonnell sylfaenol, gan gynnwys tystiolaeth lenyddol, ddogfennol, epigraffig, weledol ac archaeolegol.

GD3: Gwerthuso'n feirniadol a defnyddio ystod o ddulliau a dulliau ar gyfer astudio hanes hynafol.

GD4: Gwerthuso a beirniadu'n feirniadol ddehongliadau modern gwahanol o'r gorffennol.

GD5: Dealltwriaeth o ddadleuon ynghylch lle hanes yr henfyd yn y gymdeithas gyfoes.

Sgiliau Deallusol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

SD1: Nodi a dadansoddi’n feirniadol batrymau newid hanesyddol a dod o hyd i archwiliadau manwl o themâu, penodau a digwyddiadau penodol ynddynt.

SD2: Gwerthuso dadleuon hanesyddol yn feirniadol a'u lleoli yn natblygiad y ddisgyblaeth.

SD3: Diffinio problemau a chwestiynau hanesyddol cymhleth, a nodi dulliau a thystiolaeth briodol i fynd i'r afael â nhw.

SD4: Llunio a chyfiawnhau dadleuon a chasgliadau annibynnol yn seiliedig ar ddadansoddiad beirniadol o dystiolaeth anghyflawn.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

SY1: Defnyddio ystod o adnoddau gwybodaeth a chronfeydd data i ddod o hyd i ddeunydd ffynhonnell sylfaenol.

SY2: Cymryd rhan mewn ymchwil hanesyddol i leoli a dewis ysgolheictod modern priodol.

SY3: Dylunio, cynnal a chyflwyno darn sylweddol o waith ymchwil annibynnol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch chi’n gallu:

ST1: Datrys problemau cymhleth trwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.

ST2: Defnyddio sgiliau meddwl yn feirniadol a rhesymu i ddadansoddi a gwerthuso tystiolaeth a syniadau.

ST3: Cymhathu a chyfuno gwybodaeth a syniadau cymhleth.

ST4: Cyfleu gwybodaeth a dadleuon cymhleth i amrywiaeth o gynulleidfaoedd ac mewn amrywiaeth o fformatau, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

ST5: Defnyddio amrywiaeth o sgiliau cyflogadwyedd a menter, megis creadigrwydd, menter, trefnu, rheoli amser, gweithio'n annibynnol a gweithio mewn tîm, a'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Rhagolygon gyrfa

Mae’n cwrs yn rhoi ichi sgiliau pwysig mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi megis cydweithio a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd, meddwl yn feirniadol a dyfeisio ffyrdd newydd o drin a thrafod problemau. Mae hyfforddiant ac achlysuron gyrfaoedd yn aml, gan anelu at feithrin sgiliau yn ystod y cwrs a’u defnyddio’n llwyddiannus wedyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda Dyfodol Myfyrwyr sydd yn darparu hyfforddiant a gweithdai yn ogystal â’n cynnig cyfoeth o gyfleoedd. Y tu hwnt i'ch astudiaethau ffurfiol rydym yn cynnal rhaglenni sy'n rhoi cyfleoedd i chi ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol neu weithio gyda sefydliadau treftadaeth leol i ddatblygu eich sgiliau a'ch proffil eich hun wrth ganiatáu i chi wneud gwahaniaeth.

Mae ein graddedigion yn symud ymlaen i ystod eang o yrfaoedd gan ddefnyddio'r sgiliau a enillwyd drwy gydol cyfnodau eu graddau. Mae rhai yn dewis mynd ar drywydd proffesiynau sy'n gwneud defnydd uniongyrchol o'u harbenigedd yn y ddisgyblaeth, tra bod eraill yn mynd i'r sectorau cyhoeddus neu breifat, o reoli ar lefel graddedigion i addysgu. Mae graddedigion diweddar o'r ysgol wedi mynd ymlaen i rolau mewn amgueddfeydd, archaeoleg, y sector treftadaeth, addysgu ac addysg, y cyfryngau, y gwasanaeth sifil, y fyddin, bancio ac yswiriant, y gyfraith, adnoddau dynol a'r sector elusennol, gyda chyflogwyr yn amrywio o Amgueddfa Cymru i awdurdodau lleol ac ysgolion.

Gyrfaoedd graddedigion

  • Hanesydd
  • Darlithydd
  • Curadur

Lleoliadau

Rydym yn sicrhau y gall lleoliadau gael eu hymgorffori yn eich dysgu. Cynigir cyfleoedd ar gyfer lleoliadau ym Mlwyddyn Dau ar fodiwl sy’n canolbwyntio ar drosi’r sgiliau rydych yn eu meithrin drwy eich gradd i’r gweithle. Yn eich blwyddyn olaf, bydd modd dewis modiwl meithrin sgiliau menter i’ch paratoi ar gyfer cyfathrebu a chydweithio â sefydliadau allanol. Mae gan staff hefyd gysylltiadau agos ag amrywiaeth o sefydliadau treftadaeth leol a sefydliadau eraill, sy’n cynnig cyfleoedd lleoliad yn ystod semestrau a’r tu allan iddynt.

Trwy ein cysylltiadau â Dyfodol Myfyrwyr, gallwch chi drefnu i dreulio amser mewn sefydliadau neu fod yn intern ar y campws (er enghraifft, gweithio 35 awr yr wythnos wrth astudio neu weithio dros yr haf). At hynny, mae Go Wales yn cynnig cymorth ychwanegol ar gyfer profiad gwaith.

Gwaith maes

Trips to museums.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf

icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein brifysgol fyd-eang

icon-contact

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am gymorth ac unrhyw gwestiwn sydd gennych

icon-pen

Sut i wneud cais

Sut i wneud cais am y cwrs hwn


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.