Cysylltu â'n timau israddedig
I gael rhagor o wybodaeth am astudiaethau israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, gofynnwch gwestiwn inni gan ddefnyddio'r ffurflen gyswllt.
Wrth lenwi'r ffurflen, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i'n helpu i gyfeirio eich ymholiad.
Dylai myfyrwyr presennol a newydd gofrestru gysylltu â'n tîm Cyswllt Myfyrwyr.
Siaradwch â'n tîm
Os yw eich ymholiad yn un brys, gallwch chi gysylltu â thîm yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion isod. Oriau ein swyddfa yw 09:00 tan 17:00 GMT o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Myfyrwyr y DU
Gall ein Swyddfa Recriwtio Israddedigion ateb cwestiynau am astudio gyda ni os ydych chi’n fyfyriwr o'r DU yn ogystal â rhoi gwybodaeth a chyngor cyffredinol.
Os yw eich ymholiad yn fater brys, gallwch ffonio'r tîm ar +44 (0) 29 2087 4455.
Myfyrwyr rhyngwladol ac o'r UE
Gall y Swyddfa Ryngwladol ateb cwestiynau am astudio gyda ni os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol neu’n fyfyriwr o'r UE yn ogystal â rhoi gwybodaeth a chyngor cyffredinol.
Os yw eich ymholiad yn fater brys, gallwch chi ffonio'r tîm ar +44 (0) 29 2087 4432.
Derbyn Myfyrwyr
Gall ein tîm Derbyn ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â chais rydych wedi'i wneud ar gyfer cwrs israddedig.
Os yw eich ymholiad yn fater brys, gallwch chi ffonio'r tîm ar +44 (0) 29 2087 9999.
Myfyrwyr presennol
Er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi reoli pethau tra byddwch yn astudio yma, gallwch gael cymorth gan ein Tîm Cymorth Myfyrwyr ar-lein, dros y ffôn neu wyneb-yn-wyneb pan fydd ei angen arnoch.
Os ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd, gallwch wneud y canlynol:
- ymweld â'r Tîm Cyswllt Myfyrwyr ar lawr gwaelod Canolfan Bywyd y Myfyrwyr
- defnyddio’r porth Cyswllt Myfyrwyr ar-lein
- gofyn eich cwestiynau i'n sgwrsfot 24/7, pan fyddwch wedi mewngofnodi i’r fewnrwyd ac yn gweld y botwm sgwrsio glas a gwyn yng nghornel dde isaf eich sgrîn
- ein ffonio ar +44 (0)29 2251 8888
Os ydych yn aelod o’r staff sy’n cysylltu â ni ar ran myfyriwr, ebostiwch studentconnectsupervisors@caerdydd.ac.uk.
Tîm Allgymorth i Ysgolion
Gall ein tîm Allgymorth i Ysgolion a Cholegau ateb cwestiynau am ein Rhaglen Allgymorth i Ysgolion.
Defnyddiwch y ffurflen archebu i holi am ymweliad. Gallwch chi ffonio'r tîm ar +44 (0) 29 2087 4455 neu ebostio schools@caerdydd.ac.uk.
Peidiwch â cholli allan. Cofrestrwch i gael ein newyddion diweddaraf ac i wybod pa bryd mae'n Diwrnodau Agored.