Ewch i’r prif gynnwys

Sut i wneud cais am wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae yna amgylchiadau amrywiol lle gall fod angen i chi gael gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) naill ai cyn i chi ddod i Brifysgol Caerdydd neu yn ystod eich amser yma.

Os oes angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd arnoch, bydd eich Ysgol yn rhoi gwybod i chi.

Mynediad i’r ffurflen DBS ar-lein

Bydd eich Ysgol Academaidd neu Goleg yn gofyn am eich enw a chyfeiriad ebost ac yn cyfeirio eich manylion i’r system ar-lein i wneud cais am eich gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Byddwch yn derbyn ebost gyda chyfarwyddiadau ymuno.

Defnyddio'r ffurflen ar-lein

Bydd angen dogfennaeth gefnogol wreiddiol (fel pasbort, tystysgrif geni a datganiad banc). Mae’r system yn rhoi gwybodaeth lawn o’r ddogfennaeth gallwch ddefnyddio yn yr adran berthnasol.

Rhagor o fanylion am wasanaeth diweddaru gwybodaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar wefan .GOV.UK.

Ar ôl cyflwyno

Nodwch, gall gymryd rhwng 2 i 8 wythnos i dderbyn eich tystysgrif datgeliad. Gallwch fewngofnodi i’r system ar-lein i olrhain eich cynnydd ar ôl cyflwyno.