Ewch i’r prif gynnwys

Polisïau a gweithdrefnau

Os ydych chi’n gwneud cais i ddod i Brifysgol Caerdydd, mae’r polisïau a’r gweithdrefnau isod yn berthnasol i chi.

Diwygio cwricwlwm ysgolion

Mae cymwysterau yng Nghymru a Lloegr yn newid, yn effeithiol ar TGAU, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru. Gall y newidiadau effeithio ar ein gofynion mynediad.

Rhagor o wybodaeth am Diwygio cymwysterau'r DU.

Derbyn myfyrwyr

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob myfyriwr sydd â’r potensial i lwyddo yn y Brifysgol hon. Byddwn ni’n ceisio derbyn myfyrwyr y gall eu hamrywiaeth o gymwysterau a chyflawniadau amlygu eu potensial i elwa o’n dysgu a’n haddysgu dan arweiniad ymchwil.

Rhagor o wybodaeth am ein polisïau derbyn myfyrwyr

Derbyn cymwysterau

Bydd croeso i geisiadau gan y rhai sy’n cynnig cymwysterau sy’n wahanol i’r rhai arferol, a hefyd i’r rhai a all fod â chyfuniadau o gymwysterau neu brofiad perthnasol arall o waith/bywyd.

Rhagor o wybodaeth am gymwysterau

Adborth i ymgeiswyr aflwyddiannus

Mae’r Brifysgol yn ymdrechu i roi cyfle i ymgeiswyr aflwyddiannus gael adborth priodol ar eu ceisiadau. Gall ymgeiswyr ofyn am adborth ynglŷn â’r penderfyniad cychwynnol a gawson nhw gan y Brifysgol.

Rhagor o wybodaeth am gael adborth

Gwneud cais am Wasanaeth Datgelu a Gwaharddiad (DBS)

Mae rhai o raglenni'r Brifysgol yn gofyn am wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwaharddiad (DBS) cyn eich bod yn gallu cofrestru.

Rhagor o wybodaeth am wneud cais am wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwaharddiad (DBS)