Ewch i’r prif gynnwys

Datganiad personol

Beth yw'r datganiad personol? Pam y mae angen i ni ei weld? Ydy e o bwys?

Mae’r datganiad personol ar ffurflen gais UCAS yn gyfle i chi argyhoeddi tiwtor derbyn eich bod chi’n addas i ddilyn y rhaglen gradd rydych chi wedi’i dewis. Diben y wybodaeth isod yw’ch helpu chi i baratoi ar gyfer llunio’ch datganiad personol. I gael gwybod rhagor am ddatganiadau personol, ewch i wefan UCAS.

Gan fod llawer o fyfyrwyr yn cael cynnig lle mewn prifysgol heb fynd i gyfweliad, mae’r datganiad personol yn ffordd ddelfrydol i ddangos pa briodoleddau a sgiliau personol sydd gennych i’ch helpu chi i sicrhau lle ar gwrs. Yn ei hanfod, gall eich helpu i sefyll allan o'r llu o fyfyrwyr eraill. Os cewch chi’ch gwahodd i ddod i gyfweliad, gall rhai o’r cwestiynau a gaiff eu gofyn gael eu seilio ar y datganiad personol. Cofiwch gadw copi i gyfeirio ato.

Gall y datganiad personol, felly, fod yn rhan hanfodol o’r broses dderbyn wrth benderfynu a gaiff myfyriwr gynnig lle yng Nghaerdydd.

Gall y datganiad personol hefyd wneud gwahaniaeth yn ddiweddarach yn y broses ymgeisio os byddwch chi wedi methu o drwch blewyn â chael y graddau sy’n ofynnol i ddilyn y cwrs. Bryd hynny, byddwn yn ail edrych ar eich datganiad personol unwaith eto i weld a yw’ch diddordebau a’ch profiad chi’n dangos bod gennych chi unrhyw sgiliau ychwanegol a allai’ch helpu chi i lwyddo ar y cwrs.

Gair i gall: canllaw sylfaenol i'w ddilyn wrth lunio'ch datganiad personol

  • Cofiwch ymchwilio’n drylwyr i’r cyrsiau gradd a ddewiswch, a gwnewch yn siŵr bod cynnwys a gofynion mynediad y cwrs yn cyd-fynd â’ch diddordebau/galluoedd.
  • Cofiwch gymryd amser wrth lunio’ch cais, trefnu’ch cais yn gelfydd a bod yn barod i lunio o leiaf dri drafft ohono cyn cyflwyno’ch ffurflen i’ch tiwtor.
  • Cofiwch gymryd yr amser i gywiro gwallau sillafu a gramadeg.
  • Cofiwch argraffu copi ohono i chwilio am wallau a gofynnwch i gyfaill/perthynas/athro/athrawes am ei sylwadau arno.
  • Cofiwch fod yn gadarnhaol – am y cwrs a’r cyfan sydd gennych chi i’w gynnig.
  • Peidiwch â rhoi esgusodion – cofiwch fod yn gadarnhaol eich agwedd bob amser at yr hyn rydych chi wedi’i wneud ac wedi’i gyflawni.
  • Peidiwch â malu awyr – gwnewch yn siŵr bod yr holl wybodaeth yn berthnasol a’ch bod chi’n dangos sut mae modd trosglwyddo, i’r radd o’ch dewis, y sgiliau rydych chi wedi’u dysgu o ddilyn eich hobïau/diddordebau allanol.
  • Peidiwch â dweud celwydd – gallech chi gael eich dal, yn enwedig os cewch chi gais mewn cyfweliad i ymhelaethu ar eich datganiad personol. Cofiwch fod UCAS yn defnyddio gwasanaeth canfod tebygrwydd i weld a yw gwaith wedi’i gopïo.