Ewch i’r prif gynnwys

Gohirio neu newid eich cynnig

Beth i'w wneud os ydych chi neu'r Brifysgol am ohirio neu newid eich cynnig astudio.

Gohirio eich cynnig

Os hoffech ohirio eich dyddiad cychwyn am flwyddyn, cysylltwch â'r tîm Derbyn. Penderfyniad y Tiwtor Derbyn fydd ystyried eich cais ai peidio.

Cynigion ar gyfer cyrsiau eraill

Os nad ydych wedi bodloni amodau eich cynnig, ond yn gymwys i astudio cwrs tebyg yn y Brifysgol, mae'n bosibl y cewch gynnig lle ar gwrs gwahanol.

Os ydy'r cwrs yn yr un Ysgol Academaidd â'ch dewis gwreiddiol, ac yn gysylltiedig â'ch pwnc dewisol, byddwn yn prosesu cadarnhad o'ch lle yn awtomatig, ar ôl diwygio manylion y rhaglen.

Gallwch dderbyn neu wrthod y cynnig ar UCAS Hub.

Os bydd y cynnig ar gyfer rhaglen astudio gan Ysgol arall, ond mae ganddo nodweddion neu achrediad sy'n gyffredin â'ch dewis gwreiddiol, mae'n bosibl y bydd Tiwtor Derbyn yn eich ffonio i drafod cynnig ar gyfer cwrs arall, ond mae hyn yn anghyffredin.

Clirio

Gall ymgeiswyr sy'n gymwys ar gyfer unrhyw swyddi gwag sydd gennym drwy'r broses glirio wneud cais. Yma, cewch ragor o wybodaeth am y prosesau clirio.

Tîm derbyn