Ewch i’r prif gynnwys

Gofynion iaith Saesneg

Rhaid i bob ymgeisydd o dramor nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddo/iddi fod â lefel ddigon safonol o Saesneg iddo/iddi allu elwa’n llawn o’i gwrs/o’i chwrs astudio.

Mae’r mwyafrif o’r cyrsiau ym Mhrifysgol Caerdydd yn gofyn am sgôr IELTS o 6.5 neu 7.0.

Mae’r cymwysterau iaith Saesneg a dderbynnir gan y Brifysgol, a’r sgorau sy’n ofynnol, wedi’u rhestru ar y dudalen Saesneg hon. Mae rhagor o wybodaeth am y Rhaglenni Iaith Saesneg a gynigir gan Brifysgol Caerdydd i’w gweld ar y tudalennau.

Os bydd gennych chi gwestiwn am y gofynion iaith Saesneg neu am ddod i Gaerdydd o wlad dramor, cysylltwch â’r Swyddfa Ryngwladol.

Y Swyddfa Ryngwladol