Defnydd a rhesymeg data cyd-destunol

Mae'r Brifysgol yn defnyddio'r data canlynol er mwyn cydnabod anfantais economaidd-gymdeithasol, adfyd unigol a chymdogaethau cyfranogiad isel.

Dangosydd 1: Anfantais Economaidd-gymdeithasol

Data a ddefnyddir

Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf neu gymunedau sydd yng nghategorïau 'modd cymedrol' neu 'yn wynebu talcen caled' ACORN.

Rhesymeg

Rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf sy'n ceisio gwella amodau byw a rhagolygon pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru. I hybu'r nod hwn, mae Cyngor Cyllido Addysgu Uwch Cymru (CCAUC) wedi gosod targedau ar gyfer sefydliadau addysg uwch yng Nghymru er mwyn denu a derbyn myfyrwyr o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Gan fod y fenter yng Nghymru yn unig, caiff data Cymunedau yn Gyntaf ei gyfuno â data ACORN er mwyn adnabod ardaloedd difreintiedig ar draws y DU. Bydd hyn yn fodd o fesur anfantais economaidd-gymdeithasol holl ymgeiswyr y Brifysgol yn unol â'u côd post, lle bynnag y maent yn byw yn y DU. Bydd unrhyw ymgeisydd sydd â chôd post mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf/neu gategori 4 ACORN ('modd cymedrol') neu gategori 5 ('yn wynebu talcen caled') yn cael eu nodi fel ymgeiswyr sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Dangosydd 2: Cymdogaethau Cyfranogiad Isel

Data a ddefnyddir

Cymdogaethau Cyfranogiad Isel POLAR3.

Rhesymeg

Mae data cyfranogiad ardaloedd lleol (POLAR) yn cael ei gynhyrchu'n lleol ar gyfer y DU i gyd gan Gyngor Cyllido Addysgu Uwch Lloegr (HEFCE). Byddwn yn defnyddio set ddata 'Cyfranogiad pobl ifanc mewn Addysg Uwch' ar gyfer ymgeiswyr <21 oed a set ddata 'Myfyrwyr Aeddfed/Rhan-amser' ar gyfer ymgeiswyr >21 oed wrth ymgeisio, lle bo'n briodol. Tra bod rhai o'r dangosyddion economaidd-gymdeithasol yn gorgyffwrdd â'i gilydd, mae'r mesur wedi'i gynnwys ym model y Brifysgol er mwyn ein helpu i gynnig cyd-destun ychwanegol i ymgeiswyr sy'n wynebu sawl rhwystr wrth gymryd rhan mewn Addysg Uwch. Bydd ymgeiswyr yn cael eu nodi er mwyn cael ystyriaeth ychwanegol os yw côd post eu cartref yn rhan o gymdogaeth cyfranogiad isel POLAR.

Dangosydd 3: Adfyd Unigolyn

Data a ddefnyddir

Cwestiwn 'Mewn Gofal' ar ffurflenni UCAS.

Rhesymeg

Yn 2003, amcangyfrifwyd gan yr Uned Allgáu Cymdeithasol mai dim ond 1% o'r rhai sydd wedi gadael gofal a aeth ymlaen i dderbyn addysg uwch (Jackson et al 2005). Amcangyfrif oedd hyn gan nad oedd ffigurau cenedlaethol ar gael. Ers hynny, mae ystadegau wedi'u casglu. Yn 2004, roedd 260 o bobl 19 oed a oedd wedi gadael gofal, mewn addysg amser llawn yn Lloegr (5% o'r rhai sydd wedi gadael gofal). Roedd y ffigwr yn 400 yn 2008 (6%) a 420 yn 2009 (7%) (BIS 2010a). Mae hyn yn cyferbynnu â'r gyfradd cyfranogiad mewn Addysg Uwch o 45% ar gyfer boblogaeth y DU (BIS 2010b). Mae'r ffigurau'n cynyddu ond maent yn parhau'n isel o gymharu â'r nifer sydd wedi gadael gofal â phlant sydd heb fod drwy'r system gofal. O ganlyniad, bydd pob ymgeisydd sydd wedi cwblhau’r cwestiwn 'mewn gofal' ar eu ffurflen UCAS yn gywir yn gymwys ar gyfer ystyriaeth ychwanegol. Yn ogystal, bydd Mentor yn cysylltu â'r ymgeiswyr sydd wedi gadael gofal yn ystod y broses dderbyn i nodi eu hanghenion cefnogaeth, os oes rhai.

Rydym yn cynnig cefnogaeth i'r rhai sydd wedi gadael gofal a diben hyn fydd helpu myfyrwyr i ymgartrefu, canolbwyntio ar eu hastudiaethau yn y Brifysgol, a graddio'n llwyddiannus. Bydd y Mentor yn cynnig cefnogaeth hefyd. Gall ymgeiswyr gael cefnogaeth wrth benderfynu beth a ble i astudio, a bydd y gefnogaeth ar gael drwy'r broses o wneud cais. Bydd cefnogaeth hefyd ar gael wrth i fyfyrwyr ddechrau ar eu rhaglen astudio. Yn ogystal, bydd ymgeiswyr oedd yn <25 oed wrth gael eu derbyn i'r Brifysgol, ac sydd wedi bod mewn gofal am 6 mis ers eu pen-blwydd yn 14 oed, neu 3 mis ers eu penblwydd yn 13 oed, hefyd yn gymwys ar gyfer bwrsariaeth. Bydd hyn yn ddibynnol ar eu perthynas â'u hawdurdod lleol.