Ewch i’r prif gynnwys

Polisïau derbyn

Ein cenhadaeth yw mynd ar drywydd gwaith ymchwil, dysgu ac addysgu o safon ac effaith fyd-eang.

Mae holl weithgareddau’r Brifysgol yn anelu at gyflawni'r safonau rhyngwladol uchaf o ran ymchwil, dysgu ac addysgu, mewn amgylchedd ymchwil cyfoethog ac amrywiol lle gall yr holl staff a myfyrwyr gyflawni eu potensial yn llawn er budd y gymuned ehangach a chymdeithas yn ei chyfanrwydd.

Diben ein polisi Derbyn Myfyrwyr yw egluro proses derbyniadau’r Brifysgol i ymgeiswyr a’u cynrychiolwyr, a chefnogi gwaith y staff derbyniadau wrth gyflawni cenhadaeth y Brifysgol.

Lluniwyd y polisi i sicrhau cydymffurfiaeth â Chod Ansawdd QAA y DU ar gyfer Addysg Uwch ac mae'n cyd-fynd ag egwyddorion Confensiwn Cydnabod Lisbon. Mae’r egwyddorion arfer da a nodir yn y polisi’n berthnasol i holl gategorïau'r ymgeiswyr sy’n cyflwyno ceisiadau i astudio yn y Brifysgol.

Y Pwyllgor Safonau Academaidd ac Ansawdd sy’n gyfrifol am oruchwylio polisi Derbyniadau Prifysgol Caerdydd. Mae’r Pwyllgor hwn yn adolygu’r polisi bob blwyddyn.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob myfyriwr â'r cymwysterau cywir ac yn gallu ystyried ystod eang o gymwysterau er mwyn eich derbyn ar ein rhaglenni, gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau eraill cyfwerth.

Fel arfer, bydd yn rhaid i'r rheiny sy'n cael eu derbyn fod wedi cael cymwysterau academaidd a/neu broffesiynol priodol yn ogystal â chymhwyster iaith sy'n bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer eu rhaglen astudio. Gellir ystyried profiad proffesiynol hefyd er mwyn derbyn myfyrwyr, ar sail fesul achos.

Gofynion mynediad safonol ar dudalennau cyrsiau

Bydd ein chwiliwr cyrsiau ar–lein yn rhoi gwybodaeth i chi am ein gofynion mynediad safonol ar gyfer pob rhaglen, a'r cynigion arferol ar gyfer pob cwrs gradd.

Fel arfer, caiff y gofynion mynediad ar y tudalennau gwybodaeth am gyrsiau eu nodi fel cymwysterau'r DU. Nid yw hynny'n golygu mai dyma'r unig gymwysterau y byddwn yn eu derbyn, yn hytrach, dyma'r cymwysterau y chwilir amdanynt yn fwyaf aml. Pan nad oes cymhwyster rydych yn astudio ar ei gyfer wedi'i restru, cysylltwch â'r tîm derbyn myfyrwyr ar bob cyfrif, a byddan nhw'n gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi o ran p’un a yw'r cymhwyster rydych yn/wedi astudio ar ei gyfer yn addas ar gyfer cael mynediad uniongyrchol i'r rhaglen o'ch dewis a, lle'n bosibl, y gofynion mynediad arferol o ran y cymhwyster hwnnw.

Gofynion mynediad ar gyfer rhaglenni galwedigaethol israddedig

Ar gyfer rhai rhaglenni galwedigaethol sydd â gofynion mynediad manwl neu benodol iawn, gan gynnwys MBBCh mewn Meddygaeth (A100) a'r BDS mewn Deintyddiaeth (A200), caiff y meini prawf derbyn eu cynhyrchu ar lefel rhaglen. arllenwch y polisi mynediad ar gyfer rhaglenni israddedig deintyddiaeth, rhaglenni gwyddorau gofal iechyd israddedig, neu'r rhaglenni israddedig meddygaeth am ragor o wybodeth.

Cymwysterau cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr israddedig Ewropeaidd a rhyngwladol

Ewch i'r tudalennau cwrs israddedig i weld a yw'r cymhwyster o'ch gwlad yn bodloni ein meini prawf mynediad neu lawrlwythwch ein rhestr o gymwysterau israddedig cyfwerth ar gyfer myfyrwyr Ewropeaidd a rhyngwladol. Dylid defnyddio hwn fel canllaw cyffredinol ac efallai y bydd gan rai rhaglenni ofynion mynediad manylach neu fwy penodol a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn eich cynnig.

Cymwysterau cyfatebol ar gyfer ymgeiswyr ôl-raddedig Ewropeaidd a rhyngwladol

Lawrlwythwch ein rhestr o gymwysterau ôl-raddedig cyfwerth ar gyfer myfyrwyr Ewropeaidd a rhyngwladol i weld a yw eich cymhwyster yn bodloni ein meini prawf mynediad. Dylid defnyddio hwn fel canllaw cyffredinol ac efallai y bydd gan rai rhaglenni ofynion mynediad manylach neu fwy penodol a fydd yn cael eu hadlewyrchu yn eich cynnig.

Os oes gennych brofiad proffesiynol

Gallai rhai rhaglenni ystyried ymgeiswyr heb gymwysterau ffurfiol, ond sy'n meddu ar brofiad proffesiynol. Cysylltwch â'r tîm derbyn myfyrwyr ar bob cyfrif, a byddan nhw'n gallu rhoi rhagor o gyngor ac arweiniad i chi ynghylch hyn.

Os oes gennych gymwysterau gan sefydliadau eraill

Gall ymgeiswyr â dysg o gymwysterau blaenorol mewn sefydliadau addysg uwch eraill ennill credydau at eu rhaglen Prifysgol Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein manylion o ran Cydnabod Dysgu Blaenorol.

Newidiadau i ofynion mynediad

O ran rhaglenni sy’n dechrau yn ystod y prif gylch rhwng 1 Medi a 30 Mehefin bob blwyddyn, mae’r Brifysgol yn gwarantu na fydd yn newid y gofynion mynediad a gyhoeddir ar dudalennau gwybodaeth canfod cwrs y rhaglen ar ôl 1 Medi'r flwyddyn flaenorol (e.e. ni fydd gwybodaeth ar ein tudalennau canfod cwrs yn cael eu haddasu ar gyfer mynediad Medi 2023 ar ôl 1 Medi 2022, er y gall gwybodaeth gael ei diweddaru i gynnig eglurhad pellach).

Gofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol

Mae'r Brifysgol yn cynnig nifer o raglenni sy'n ddarostyngedig i ofynion cyrff proffesiynol, statudol a rheoleiddiol, naill ai oherwydd cyswllt angenrheidiol â chleifion, oedolion agored i niwed neu blant yn ystod lleoliadau gwaith, gofynion darparwyr lleoliadau gwaith neu oherwydd cymhwyster ar gyfer cofrestru gyda chorff proffesiynol ar ôl cwblhau'r rhaglen. Gall y gofynion hyn gynnwys: asesiadau ffitrwydd i ymarfer, gwiriadau iechyd galwedigaethol (gan gynnwys brechlynnau), gwiriadau cofnodion troseddol Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd a/neu wiriadau heddlu (gwiriadau cofnodion troseddol), a chyfyngiadau ar oed mynediad. Caiff y gofynion anacademaidd ychwanegol hyn eu nodi ar dudalennau gwybodaeth canfod cwrs y rhaglen.

Mae'r Brifysgol yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau a mentrau sy'n ceisio ehangu mynediad a meithrin diwylliant cynhwysol y Brifysgol, fel y nodwyd yn Strategaeth Ehangu Mynediad a Chadw’r Brifysgol.

Cynghorir pob ymgeisydd i ddarllen euogfarnau troseddol – polisi, gweithdrefn ac arweiniad.

Aildderbyn

Rydym yn cadw’r hawl i beidio ag ystyried ymgeisydd os yw wedi’u tynnu’n ôl o Brifysgol Caerdydd neu unrhyw sefydliad arall am resymau academaidd, neu, o ganlyniad i gyflwyno dogfennaeth dwyllodrus.

Nod y Brifysgol yw recriwtio a derbyn myfyrwyr sydd â’r potensial i elwa ac sy'n fwyaf abl i elwa ar amgylchedd dysgu, addysgu ac ymchwil y Brifysgol, waeth beth fo'u cefndir.

Mae gan y Brifysgol strategaeth ehangu mynediad sy’n ymdrin â recriwtio, cadw a dilyniant myfyrwyr o amrywiaeth eang o grwpiau a dangynrychiolir yn draddodiadol mewn addysg uwch.

Rhagor o wybodaeth am ein strategaeth Ehangu Mynediad a Chadw.

Mae'r Brifysgol yn gweithredu Model Derbyn Cyd-destunol ar gyfer ymgeiswyr israddedig o'r Deyrnas Unedig i ganfod y rhai sydd wedi profi rhwystrau rhag cyfranogi mewn addysg uwch.

Rhagor o wybodaeth am ein defnydd o ddata cyd–destunol.

Gall ymgeiswyr i Brifysgol Caerdydd ddewis cael gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg. Gallwch newid yr iaith ddewis ar unrhyw bwynt o’r broses ar gais yr ymgeisydd.

Mae proses derbyn y Brifysgol yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

  • tegwch
  • tryloywder
  • proffesiynoldeb
  • hygyrchedd ar gyfer ymgeiswyr a’u cynghorwyr
  • defnydd cyson o bolisïau a gweithdrefnau.

Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob un o’n harferion a gweithgareddau, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â recriwtio, dethol a derbyn myfyrwyr.

Ni fyddwn yn gwahaniaethu yn erbyn nac yn erlid unigolyn oherwydd nodwedd warchodedig ar gyfer:

  • y trefniadau a wnawn ar gyfer penderfynu pwy sy'n cael cynnig mynediad fel myfyriwr
  • mewn perthynas â'r telerau yr ydym yn cynnig derbyn y person fel myfyriwr
  • drwy beidio â derbyn y person fel myfyriwr
  • drwy beidio ag aflonyddu ar berson sydd wedi gwneud cais am fynediad fel myfyriwr.

Mae hyn yn cynnwys popeth o ddylunio cyrsiau a gosod gofynion mynediad, i'r wybodaeth a ddarparwn am y sefydliad a'r cwrs a'r broses ymgeisio a derbyn.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o foeseg ac ymddygiad yn ei gweinyddiaeth, ei pholisi sefydliadol a’i hymddygiad, ac mae hi hefyd wedi ymrwymo i gyfathrebu agored, effeithiol ac effeithlon mewn cydymffurfiaeth â chyfraith defnyddwyr.

Cyflwynir ceisiadau llawn amser israddedig i’r Brifysgol drwy’r Gwasanaeth Derbyn Prifysgolion a Cholegau (UCAS). Cyflwynir yr holl geisiadau eraill yn uniongyrchol i’r Brifysgol, heblaw lle cytunir ar lwybr arall, gan gynnwys y Bwrdd Ceisiadau Canolog LPC (CAB) ar gyfer rhaglenni galwedigaethol ôl-raddedig. Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais ar ein tudalennau canfod cwrs.

Ymgeiswyr UCAS

Caiff ymgeiswyr sy’n gwneud cais erbyn dyddiad cau ystyriaeth gydradd UCAS ystyriaeth lawn gydradd. Caiff ceisiadau a ddaw i law yn hwyrach eu hystyried yn unigol os oes lleoedd ar ôl o hyd ar y rhaglen berthnasol. Bydd pob cais a dderbynnir erbyn y terfynau amser a gyhoeddwyd ac y cytunwyd arnynt yn cael ystyriaeth gyfartal.

Ymgeiswyr UCAS - ceisiadau sy'n dod i law yn hwyr

Ar gyfer rhaglenni Meddygaeth (MBBCh) a Deintyddiaeth (BDS), ni fyddwn yn gallu derbyn unrhyw geisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau UCAS ym mis Hydref.

Ar gyfer pob rhaglen arall, rydym yn croesawu ceisiadau a dderbynnir ar ôl y Dyddiad Cau Ystyriaeth Gyfartal ym mis Ionawr, os oes gennym leoedd ar gael. Pan fydd pob lle wedi mynd ar raglen, byddwn yn cau'r rhaglen ar UCAS. Felly, rydym yn argymell, lle bo'n bosibl, eich bod yn gwneud cais erbyn y Dyddiad Cau Ystyriaeth Gyfartal a chyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw, i osgoi siom oherwydd bod cwrs eich dewis yn llawn.

Ymgeiswyr uniongyrchol

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am raglenni yw 4 wythnos cyn dyddiad cychwyn rhaglen. Rydym yn argymell yn gryf, fodd bynnag, y dylai ymgeiswyr wneud cais o leiaf 12 wythnos cyn dechrau eu hoff raglen. Os oes angen fisa arnoch i astudio, mae'n arbennig o bwysig eich bod yn caniatáu digon o amser ar gyfer y broses ymgeisio a fisa.

Sylwch fod y Brifysgol yn cadw'r hawl i gau rhaglenni ar gyfer cais neu i gynnig man mynediad gohiriedig lle mae rhaglen sydd wedi cyrraedd ei gallu (gweithredu rhestrau aros fel sy'n briodol). Mae'r Brifysgol hefyd yn cadw'r hawl i gynnig mynediad gohiriedig i ymgeiswyr sy'n gwneud cais o fewn 12 wythnos i ddyddiad cychwyn rhaglen, os nad oes digon o amser i brosesu'r holl ofynion i ymgeisydd ddechrau ei raglen erbyn y dyddiad cofrestru olaf.

Cyfieithu tystysgrifau neu drawsgrifiadau

Mae Fisâu a Mewnfudo y DU yn mynnu cyfieithiad ardystiedig gwreiddiol o bob dogfen a gyflwynir gennych nad yw wedi'i llenwi yn Gymraeg neu Saesneg.

Gwneud cais o'r DU

Os ydych yn gwneud cais o'r DU, rhaid i'r cyfieithiad:

  • fod gan gyfieithydd proffesiynol neu gwmni cyfieithu
  • cynnwys manylion y cyfieithydd neu gymwysterau'r cwmni cyfieithu
  • cynnwys cadarnhad gan y cyfieithydd mai cyfieithiad manwl gywir o'r ddogfen wreiddiol ydyw
  • cynnwys dyddiad y cyfieithiad
  • cynnwys llofnod gwreiddiol y cyfieithydd neu swyddog awdurdodedig yn y cwmni cyfieithu.

Gwneud cais o du allan i'r DU

Os ydych yn gwneud cais o du allan i'r DU, rhai i'r cyfieithiad:

  • allu cael ei gadarnhau gan y Swyddfa Gartref
  • cynnwys cadarnhad gan y cyfieithydd mai cyfieithiad manwl gywir o'r ddogfen wreiddiol ydyw
  • cynnwys dyddiad y cyfieithiad
  • cynnwys enw llawn a llofnod y cyfieithydd NEU enw llawn a llofnod swyddog awdurdodedig yn y cwmni cyfieithu
  • cynnwys manylion cyswllt y cyfieithydd/cwmni cyfieithu.

Os nad yw'n bodloni'r gofynion

Os nad yw eich cyfieithiad yn bodloni'r holl ofynion, mae'n rhaid i chi gael cyfieithiad arall. Gallai eich cais am fisa gael ei wrthod os nad yw'r cyfieithiad yn bodloni'r gofynion.

I gael rhagor o wybodaeth neu os oes gennych ymholiad, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i ofyn cwestiwn.

Mae'r Brifysgol yn casglu amrywiaeth o ddata gan ymgeiswyr yn ystod y broses ymgeisio, gan gynnwys:

  • manylion cyswllt a manylion personol sydd eu hangen er mwyn gweinyddu'r broses ymgeisio (gan gynnwys gwybodaeth i bennu statws o ran statws mewnfudo a ffioedd)
  • gwybodaeth sydd ei hangen i lywio penderfyniadau ynghylch addasrwydd yr ymgeisydd ar gyfer y rhaglen astudio o'u dewis
  • gwybodaeth monitro a chyd-destunol cydraddoldeb ac amrywiaeth i alluogi’r Brifysgol i fonitro effaith ei pholisïau a’i gweithdrefnau derbyn ar grwpiau penodol.

Nid yw’r Brifysgol yn defnyddio data personol sensitif i lywio ei broses benderfynu. Dim ond at ddibenion monitro ac mewn achosion lle mae'r ymgeisydd wedi datgan anabledd, er mwyn caniatáu i Cymorth a Lles Myfyrwyr gysylltu ag ymgeisydd i asesu unrhyw anghenion cymorth a all fod gan yr ymgeisydd y caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio.

Bydd y Brifysgol yn cadw dogfennau a data yn unol ag Amserlen Cadw Cofnodion y Brifysgol gan gynnwys dileu cofnodion yn ddiogel, yn unol â'r hyn sydd wedi'i amlinellu yn y polisi.

Rhagor o wybodaeth am sut i ofyn am gopi o’ch data personol a gedwir gan y Brifysgol.

Mae'r Brifysgol wedi'i rhwymo gan ofynion Deddf Diogelu Data 2018 o ran diogelu gwybodaeth bersonol. Ni allwn drafod eich cais onid ydych yn cadarnhau’n ysgrifenedig fanylion trydydd parti a awdurdodir i ymateb ar eich rhan.

Rydym wedi ymrwymo i bolisi o ansawdd a chyfleoedd, a'n nod yw cynnig amgylchedd gwaith, dysgu a chymdeithasol diogel heb unrhyw wahaniaethu. Ei nod yw gwneud yn siŵr bod myfyrwyr, staff, ymwelwyr ac eraill sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol yn cael eu trin ag urddas, parch a thegwch, ni waeth beth fo unrhyw wahaniaeth amhriodol, fel oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd, cred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol (sydd wedi’u nodi fel 'nodweddion gwarchodedig' o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010).

Os byddwch yn ymddwyn yn groes i bolisïau’r Brifysgol o ran Cydraddoldeb ac Amrywiaeth neu Urddas yn y Gweithle ac wrth Astudio (y mae'n ofynnol i’r holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol lynu wrthynt), rydym yn cadw'r hawl i'ch diarddel os ydych wedi cael eich derbyn/ymrestru, ac i ddiddymu unrhyw gontract.

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd a enwir yw rhoi gwybodaeth lawn a chywir yn ei gais/chais, a gwneud yn siŵr bod y Brifysgol yn cael gwybod mewn da bryd am unrhyw newidiadau i’w manylion cyswllt neu amgylchiadau personol, ac ymateb i unrhyw geisiadau ychwanegol am wybodaeth sydd ei hangen sy’n berthnasol i’r cais.

Ni fyddwn yn ystyried ymhellach unrhyw ymgeisydd sy’n rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol, a bydd yn prosesu penderfyniad aflwyddiannus.

Ar ôl cynnig lle, gall cynnig gael ei dynnu’n ôl neu ei newid os daw gwybodaeth i sylw'r Brifysgol a allai fod wedi dylanwadu ar benderfyniad neu ganlyniad cais. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i gefnogi’r cais.

Os bydd ymgeisydd neu drydydd parti’n gweithredu ar ran ymgeisydd yn camarwain y Brifysgol yn fwriadol drwy gyflwyno gwybodaeth anwir neu anghywir, bydd y Brifysgol yn hysbysu’r partïon perthnasol. Yn eu plith mae UCAS o ran ceisiadau israddedig, Fisas a Mewnfudo’r DU lle gallai’r wybodaeth a gaiff ei datgan gael ei defnyddio’n anwir i gael mynediad i’r DU, a heddlu perthnasol y DU mewn perthynas â thwyll a chamarwain difrifol.

Mae'r Brifysgol yn ystyried ei dyletswyddau diogelu o ddifrif. Os daw gwybodaeth i law'r Brifysgol ynghylch (neu â allai fod ynghylch) mater diogelu, bydd y Brifysgol yn gweithredu yn unol â'i dyletswyddau ac yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon i'r partïon cymwys (yn unig) o fewn y Brifysgol fel sy'n briodol, a gyda sefydliadau allanol perthnasol fel yr Heddlu (gan gynnwys yr Asiantaeth Gwrthderfysgaeth), Gwasanaethau Plant neu'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Gwneud penderfyniadau

Rôl staff Gwasanaethau Proffesiynol yw rhoi arweiniad a chymorth arbenigol i broses derbyniadau’r Brifysgol; cyflawni a phrosesu penderfyniadau’n seiliedig ar feini prawf mynediad a benderfynir ymlaen llaw i gyfathrebu’r penderfyniadau hyn i ymgeiswyr.

Mae Tiwtoriaid Derbyniadau hefyd yn gyfrifol am ddarparu’n amserol benderfyniadau dethol ar geisiadau derbyn i raglenni’r Brifysgol nas rheolir gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu sydd y tu hwnt i’r meini prawf mynediad a gyhoeddir.

Rôl y Cyfarwyddwr Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr yw ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros bennu gofynion mynediad yr Ysgol.

Caiff yr holl staff sy’n rhan o Dderbyniadau'r hyfforddiant a’r cymorth angenrheidiol i sicrhau gwasanaeth effeithlon, proffesiynol a chymwys i ymgeiswyr. Bydd hyfforddiant yn ymdrin â chyfyngiadau cyfreithiol ac allanol, gan gynnwys deddfwriaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth. Cynhelir ymgynghoriad o bryd i'w gilydd gyda staff derbyn i nodi anghenion hyfforddi sy'n dod i'r amlwg ac i sicrhau bod y rhaglen hyfforddiant a chymorth yn parhau i ddiwallu anghenion.

Pan na all y Brifysgol wneud cynnig i chi am eich rhaglen ddewis wreiddiol, gallwch gael cais derbyn i raglen amgen, gysylltiedig.

Oherwydd cynnydd mewn gweithgarwch twyllodrus, efallai y bydd gofyn i rai ymgeiswyr gynnal gwiriadau cymhwysedd ychwanegol i sicrhau eu lle ar raglen.

Gwallau penderfyniadau

Gwneir pob ymdrech i sicrhau'r broses gywir o wneud penderfyniadau i ymgeiswyr. Er hyn, yn anaml iawn, bydd camgymeriadau'n digwydd o ganlyniad i fethiant y system neu wall dynol.

Pan wneir gwall gwirioneddol mewn perthynas â chynnig ymgeisydd, mae’r Brifysgol yn cadw’r hawl i newid hyn lle:

  • nid yw ymgeisydd wedi derbyn ei le ac felly nid yw wedi bod dan anfantais yn y broses benderfynu
  • nid yw'r ymgeisydd yn gymwysedig, neu, nid yw wedi cwrdd â gofynion rheoliadol ar gyfer y rhaglen astudio.

Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r ymgeisydd gyda manylion y gwall ac unrhyw gamau lliniaru sy'n cael eu cymryd.

Graddau ymchwil

Bydd y Brifysgol ond yn gwneud cynnig o le ar radd ymchwil pan fydd yn gallu darparu goruchwyliaeth briodol a/neu drefniadau goruchwylio ym maes ymchwil yr ymgeisydd. Ar gyfer rhai rhaglenni gradd ymchwil, gallai argaeledd cyllid ymchwil hefyd fod yn ystyriaeth; os felly, caiff hyn ei nodi ym meini prawf derbyn yr Ysgol berthnasol.

Profion dethol a chyfweliadau

Pan fo mynediad i raglen yn gofyn am gwblhau prawf dethol neu gyfweliad, cyhoeddir y gofyniad hwn yn canfod cwrs ynghyd ag unrhyw feini prawf penodol ar ddethol mewn cyfweliad. Dylai’r staff sydd â rhan yn y broses o gynnal y cyfweliadau dewis gael eu hyfforddi i sicrhau y caiff y cyfweliadau eu cynnal yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac â Pholisi’r Brifysgol ar Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Caiff ymgeiswyr sydd wedi'u gwahodd i gyfweliad wahoddiad gan Ysgolion i roi gwybod am unrhyw anabledd cyn y cyfweliad. Pan roddir gwybod am anabledd mewn da bryd, bydd Ysgolion yn gwneud addasiadau rhesymol yn unol â gofynion yr ymgeisydd, yn y cyfweliad.

Bydd yr holl gyfweliadau ag ymgeiswyr yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfweliadau Prifysgol Caerdydd.

Blaendaliadau

Mae gan Brifysgol Caerdydd bolisi o godi blaendal i gael mynediad i rai rhaglenni. Pan fo’n rhaid i chi dalu blaendal, nodir hynny yn eich cynnig. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein gwybodaeth am flaendaliadau.

Newidiadau o bwys i raglenni

Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i gynnwys rhaglenni, gofynion mynediad, dull cyflwyno neu atal, cyfuno neu dynnu rhaglen yn ôl, cyn ac ar ôl derbyn myfyriwr i’r Brifysgol, os ystyrir yn rhesymol bod camau o'r fath yn angenrheidiol.

Mae manylion y math o newidiadau wedi'u hamlinellu yn ein telerau ac amodau cyhoeddedig. Os bydd newid o'r fath, byddwn yn ysgrifennu at unrhyw ymgeisydd/ymgeiswyr a effeithir yn brydlon i roi gwybod iddynt am y newid, a rhoi manylion i’r ymgeisydd/ymgeiswyr gyda manylion am yr hyn y gallant ei wneud.

Os byddwn yn tynnu rhaglen yn ôl

Rydym yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i gynnwys rhaglenni, gofynion mynediad, dull cyflwyno neu atal, cyfuno neu dynnu rhaglen yn ôl, cyn ac ar ôl derbyn myfyriwr i’r Brifysgol, os ystyrir yn rhesymol bod camau o'r fath yn angenrheidiol.

Os byddwn yn tynnu rhaglen yn ôl cyn i fyfyriwr (sydd wedi cael cynnig pendant o le) ddechrau astudio, gall myfyriwr naill ai:

  • drosglwyddo i raglen arall a gynigir gan y Brifysgol y mae'r myfyriwr yn gymwys i ymgymryd â hi (yn bodloni’r gofynion mynediad) os oes lle ar gael (ni all nifer o raglenni gymryd mwy na niferoedd penodol oherwydd rheoliadau’r Llywodraeth, nifer cyfyngedig o leoliadau proffesiynol sy’n rhan annatod o’r rhaglen astudio benodol honno a/neu ariannu)
  • tynnu'n ôl o'r Brifysgol heb orfod talu ceiniog o’r ffioedd.

O dan yr amgylchiadau hyn, os bydd myfyriwr am dynnu'n ôl o’u lle ym Mhrifysgol Caerdydd ac ymrestru ar gwrs mewn prifysgol arall, byddwn hefyd yn cymryd camau rhesymol i’w gynorthwyo i ddod o hyd i le amgen addas.

Gohirio mynediad

Gellir caniatáu mynediad gohiriedig i raglen i ymgeiswyr, yn amodol ar fodloni'r gofynion mynediad a'r lleoedd sydd ar gael. Ni fydd y cyfnod gohirio uchaf a roddir yn fwy na 12 mis. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy'n dymuno gohirio mynediad am gyfnod hirach ailymgeisio.

Mewn amgylchiadau eithriadol, lle gallai ymgeisydd ddymuno gofyn am estyniad i'r cyfnod gohirio, rhaid i'r Ysgol gyflwyno achos i'w gymeradwyo i'r Dirprwy Is-Ganghellor (Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd).

Dylai ymgeiswyr ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i ofyn am ohirio.

Ailsefyll arholiadau (mynediad israddedig)

Mae Prifysgol Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n benderfynol o lwyddo a bydd yn ystyried ymgeiswyr sy'n ailsefyll i gael cymhwyster ar achlysur unigol ar gyfer y rhan fwyaf o’n rhaglenni.

Ailsefyll fwy nag unwaith (h.y. pan ydych wedi ceisio cael cymhwyster fwy nag unwaith yn flaenorol) a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir ystyried pob achos o ailsefyll ar gyfer rhaglenni Meddygaeth a Deintyddiaeth.

Pan ystyrir bod amgylchiadau esgusodol neu liniarol wedi effeithio ar berfformiad ymgeisydd mewn arholiadau, dylai ymgeiswyr gyfeirio at Ddatganiad y Brifysgol ar Amgylchiadau Lliniarol.

Pennu statws ffioedd

Nid yw’r Brifysgol fel arfer yn pennu statws ffioedd ymgeiswyr. Ar ôl yr asesiad, bydd gwybodaeth am statws ffioedd wedi’u nodi yn eich cynnig.

Mae’r Brifysgol yn asesu statws ffioedd yn gyfan gwbl yn unol â’r canllawiau ar roddir gan Gyngor y DU ar Faterion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA); mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein hadran ar ddatrys ymholiadau ffioedd.

Ffioedd a chostau astudio

Mae gwybodaeth am ffioedd tiwtora israddedigion a ffioedd tiwtora ôl-raddedigion ar gael ar ein gwefan ynghyd â gwybodaeth am gostau byw.

Cymorth i ymgeiswyr

Rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i ymgeiswyr sydd wedi cael cynnig gan y Brifysgol.

Mae rhagor o wybodaeth am y weithdrefn ar gyfer asesu anghenion cymorth ychwanegol a/neu addasiadau sy'n ofynnol i raglenni astudio ar gyfer ymgeisydd sydd dan 18 oed ar y dyddiad derbyn i’r Brifysgol ar gael yn ein polisi ar gyfer y rheiny sydd o dan 18 oed.

Gall y Brifysgol gynnig lle ar raglenni amgen pan fo’n briodol ar y camau cynnig cychwynnol a chadarnhau.

Pan nad yw ymgeisydd yn bodloni gofynion mynediad eu rhaglen astudio ddewis ond bod y cais yn bodloni gofynion rhaglen gysylltiedig bydd y Brifysgol yn ysgrifennu cais i gynnig lle amgen. Os bydd ymgeisydd yn derbyn y cynnig amgen caiff hwn ei brosesu a chadarnhad ei anfon at yr ymgeisydd yn unol â hynny. Os gwrthodir y cynnig amgen prosesir penderfyniad aflwyddiannus ar y dewis rhaglen wreiddiol. Bydd yr arfer hwn hefyd yn berthnasol pan gawn eich canlyniadau (cadarnhad) os na fodlonwyd amodau’r cynnig.

Pan wneir cynnig amgen o le wrth dderbyn canlyniadau drwy UCAS, bydd gan yr ymgeisydd yr hawl i wrthod y cynnig hwn a dewis ei ddewis wrth gefn neu fynd i glirio UCAS yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Nid oes yn rhaid i ymgeiswyr dderbyn cynnig amgen ar unrhyw bwynt o’r broses a dylent ystyried pob opsiwn cyn gwneud hynny.

Rhaid i ymgeiswyr roi unrhyw dystiolaeth o gymwysterau ardystiedig neu gyflawni amodau eraill y cynnig. Os yw ymgeisydd wedi cael cynnig mynediad diamod, bydd y Brifysgol yn gofyn am brawf o’r cymwysterau a nodir.

Os yw ymgeisydd wedi methu â chyflawni amodau’r cynnig, caiff y cais ei gyfeirio at y detholwr/wyr academaidd perthnasol am benderfyniad ynghylch a ellir cadarnhau’r cynnig ar sail y cymwysterau a enillwyd neu gyflawni amodau anacademaidd. Bydd hyn yn dibynnu ar faint o leoedd sydd ar gael ar y rhaglen. Y corff y cyflwynwyd y cais iddo’n wreiddiol fydd yn hysbysu'r ymgeisydd am y penderfyniad terfynol, sef naill ai UCAS neu’r Brifysgol. Gweler hefyd ein gweithdrefn o ran cynnig arall

Cadarnhau derbyn i astudio (CAS)

Pan fydd cynnig diamod o le i astudio wedi’i dderbyn, bydd y Brifysgol yn cyhoeddi Cadarnhad o Dderbyn i Astudio (CAS) i ymgeiswyr y pwy fydd angen fisa Myfyriwr. Mae Swyddfa Ryngwladol y Brifysgol yn cynnig cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr rhyngwladol sy’n symud i Gaerdydd.

Rhagor o wybodaeth am y Swyddfa Ryngwladol.

Cofrestru

Caiff myfyrwyr newydd i Brifysgol Gaerdydd Daflen Croeso i Gaerdydd a chanllaw cryno ar gofrestru ar-lein dair wythnos cyn dechrau’r rhaglen. Cyn dechrau ei astudiaethau â Phrifysgol Caerdydd rhaid i bob ymgeisydd gofrestru â’r Brifysgol gan ddefnyddio’r system gofrestru ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau cofrestru ar y we.

Gall ymgeiswyr aflwyddiannus ofyn am adborth ar eu cais. Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno cais am adborth i Dderbyniadau’n ysgrifenedig ymhen 28 diwrnod o wneud y penderfyniad. Mae deddfwriaeth diogelu data yn golygu na allwn ymateb i geisiadau am adborth a gyflwynir gan drydydd partïon. I gael adborth, rhaid i chi roi rhif cyfeirnod eich cais, enw llawn a’r rhaglen y gwnaed cais i’w dilyn yn y cais.

Os yw ymgeisydd am apelio’n erbyn penderfyniad neu wneud cwyn o ran proses derbyn y Brifysgol neu ganlyniad hynny i geisio unioni, yn amodol ar gwmpas y weithdrefn dylai ymgeiswyr gyfeirio at Weithdrefn Cwyno ac Apelio i Ymgeiswyr.

Polisïau eraill ar gyfer ymgeiswyr

Mae Polisi Derbyniadau Prifysgol Caerdydd wedi’i ategu gan y polisïau canlynol.