Ewch i’r prif gynnwys

Ein Canolfan Bywyd Myfyrwyr yw ein canolfan un stop ar gyfer eich holl anghenion myfyrwyr. P'un a ydych yn chwilio am gyngor ar iechyd a lles, paratoi ar gyfer eich dyfodol, rheoli arian neu fyw yng Nghaerdydd, bydd ein staff cymorth arbenigol, ymroddedig wrth law i'ch cefnogi. Rydym yma i'ch helpu i lwyddo a gwneud y gorau o'ch bywyd fel myfyriwr.

Eich tîm Cyswllt Myfyrwyr sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer eich cysylltu â'ch timau Bywyd Myfyrwyr.

Rydym hefyd wedi datblygu gwasanaethau ar-lein 24 awr ac oriau agor estynedig fel y gall pob un o'n myfyrwyr, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u lleoli ym Mharc y Mynydd Bychan, ein dysgwyr o bell a phawb sydd ar leoliad neu'n astudio dramor, gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, pryd bynnag y bydd ei angen arnynt.

Health and Wellbeing champion

Iechyd a lles

Mae gennym amrywiaeth o gymorth ar gael i'ch helpu i ofalu am eich lles corfforol a meddyliol. Tra byddwch ar y campws byddwch bob amser yn cael eich cefnogi.

Cyngor ac arian

Gall rheoli eich sefyllfa ariannol lethu rhywun braidd, ond mae llawer o ffyrdd y gallwn ni roi cymorth ichi a gofalu eich bod yn mwynhau bywyd myfyriwr i'r eithaf.

Library students

Cymorth i fyfyrwyr anabl

Os ydych chi'n fyfyriwr anabl, mae ychydig yn fwy i feddwl amdano wrth fynd i'r brifysgol. Rydyn ni yma i'ch helpu i gyrraedd eich llawn botensial a gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth gywir er mwyn ichi allu manteisio ar bob agwedd ar eich astudiaethau.

Counselling appointment for young asian woman student in counsellor College office. Horizontal indoors waist up shot with copy space.

Student visa support

If you’re an international student, we provide bespoke guidance and information to support you settling into life in Cardiff.

Four students in a study space discussing a project. They are sitting at a table and all have their laptops open.

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Credwn y dylai addysg prifysgol fod ar gael i unrhyw un a fyddai’n elwa ohoni. Ond yn fwy na hynny, rydym am eich galluogi i fwynhau eich profiad yma yng Nghaerdydd a chyflawni popeth o fewn eich gallu wrth astudio gyda ni.

Student Mentors

Cynllun Mentora Myfyrwyr

Gall dechrau yn y brifysgol fod ychydig yn frawychus, ac efallai y bydd gennych lawer o gwestiynau y byddai'n well gennych eu gofyn i fyfyriwr presennol yn hytrach nag aelod o’r staff. Dyma lle gall myfyriwr sy’n fentora eich helpu i ymgartrefu.

Fideo:  Centre for Student Life
Student Connect team

Cyswllt Myfyrwyr

Er mwyn ei gwneud hi’n haws i chi reoli pethau tra byddwch yn astudio yma, gallwch gael cymorth gan ein Tîm Cymorth Myfyrwyr ar-lein, dros y ffôn neu wyneb-yn-wyneb pan fydd ei angen arnoch.

Cefnogaeth preswylfeydd

Rydyn ni’n helpu i greu cymuned mewn neuaddau preswyl lle byddwch chi’n teimlo eich bod yn perthyn ac yn cael eich cynnwys.

Dilynwch ni

Dilynwch ni ar Instagram i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr: @cu_centreforstudentlife

Cefnogi a Lles Myfyrwyr (Cathays)