Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun Mentora Myfyrwyr

Grŵp o staff a myfyrwyr yn y Digwyddiad Dathlu Mentoriaid Myfyrwyr.

Gall y myfyriwr sy’n eich mentora eich helpu i ymgartrefu yma. Ar ôl ymuno â ni, efallai y bydd gennych chi lawer o gwestiynau, ac efallai y byddwch chi hefyd yn teimlo bod popeth yn mynd yn drech na chi. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – gall y myfyriwr sy'n eich mentora neu fyfyriwr arall o’ch ysgol academaidd roi arweiniad a chymorth i chi.

certificate

Cynllun o’r radd flaenaf

Drwy’r cynllun mentora hwn sy’n cael ei arwain gan fyfyrwyr, mae israddedigion hyfforddedig o bob ysgol academaidd yn helpu myfyrwyr newydd i ymgartrefu yma.

tick

Wedi’i gymeradwyo gan staff academaidd

“Cyngor calonogol gan wyneb cyfeillgar sydd wedi mynd drwy'r un peth yn ddiweddar yn amhrisiadwy.” Dr Sean Coulman, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol

star

Dathlu 10 mlynedd

Yn ddiweddar rydym wedi dathlu degawd o gefnogaeth, cysylltiadau ac ymdeimlad o gymuned. Yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi hyfforddi dros 5,000 o fentoriaid myfyrwyr i gefnogi dros 40,000 o israddedigion blwyddyn gyntaf.

"Doeddwn i ddim yn gwybod cymaint o bethau. Gwnaeth fy mentor fy helpu i’w deall, gan gynnwys rhoi cyngor defnyddiol i mi i wneud fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn haws."
Soyal Khedkar, Ysgol Newyddiaduraeth

Beth y gall myfyriwr sy’n mentora ei wneud i chi?

Mentoriaid myfyrwyr yn sgwrsio tu allan i'r Ganolfan Bywyd Myfyrwyr

Mae mentoriaid sy’n fyfyrwyr yn cynnig cymorth ar faterion academaidd ac anacademaidd. Maen nhw’n gallu:

  • ateb eich cwestiynau am y brifysgol a'ch ysgol academaidd
  • eich cyflwyno i fyfyrwyr eraill ar eich cwrs
  • esbonio popeth am Undeb y Myfyrwyr, lleoedd i fynd, pethau i'w gwneud, ble i fwyta a siopa, a sut i fwynhau bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd
  • dangos sut i ddefnyddio gwahanol blatfformau TG Prifysgol Caerdydd
  • cynnig awgrymiadau ar ddefnyddio'r llyfrgell a sut i fynd ati i wneud eich gwaith cwrs ac arholiadau
  • rhoi arweiniad ar y cymorth y gallwch chi ei gael - boed yn gofrestru gyda meddyg teulu, cyrchu gwasanaethau cefnogi a lles y Brifysgol neu gymryd rhan ym mywyd y myfyrwyr
  • ateb y cwestiynau rydych chi wir eisiau eu gofyn

Sut i gael mentor

Ar ôl i chi gyrraedd, cadwch lygad ar eich mewnflwch, a byddwn yn dweud mwy wrthych am gysylltu â'ch mentor.

Cysylltu â ni

Cefnogi a Lles Myfyrwyr (Cathays)