Ewch i’r prif gynnwys

Ymadawyr gofal a phobl â phrofiad o fod mewn gofal

Counselling appointment for young asian woman student in counsellor College office. Horizontal indoors waist up shot with copy space.

Rydyn ni’n cynnig ystod eang o gymorth i fyfyrwyr â phrofiad o fod mewn gofal. Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu mwy o bobl â phrofiad o fod mewn gofal a'r rheini sy'n ymadael â gofal i fynd i'r brifysgol.

I ddangos ein ymrwymiad, rydym y perthyn i rhwydweithiau Care Leavers Activities and Student Support (CLASS) Cymru a the National Network for the Education of Care Leavers (NNECL). Mae'r rhwydwaith hwn yn rhannu’r arferion, yr adnoddau a’r hyfforddiant gorau er mwyn gwella profiad myfyrwyr i bobl sydd â phrofiad o ofal a'r rheini sy'n ymadael â gofal yng Nghymru.

Ydy'r cymorth hwn yn iawn ar eich cyfer chi?

Mae’r term ‘myfyriwr â phrofiad o ofal’ yn golygu rhywun sydd wedi treulio amser yn byw gyda gofalwyr maeth o dan ofal awdurdod lleol, mewn gofal preswyl (e.e. cartref plant), yn cael gofal gartref o dan orchymyn goruchwylio, neu’n cael gofal gan berthnasau neu ffrindiau, naill ai’n swyddogol (e.e. gorchymyn gwarchodaeth arbennig) neu'n anffurfiol heb gymorth awdurdod lleol.

Mae'r term 'ymadäwr â gofal' yn golygu bod gennych chi brofiad o fod mewn gofal ac y byddwch chi wedi bod dan ofal eich awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos ar unrhyw adeg ers ichi fod yn 14 oed (nid oes rhaid ichi fod wedi treulio’r 13 wythnos mewn gofal ar un tro). Bydd y gofal hwn wedi dod i ben ar eich pen-blwydd yn 16 oed neu ar ôl hynny.

Gwneud cais ar gyfer cwrs

Pan fyddwch chi’n trefnu i fynd i Ddiwrnod Agored byddwch chi’n cael y cyfle i ddatgelu eich bod yn rhywun sydd â phrofiad o ofal. Os byddwch chi’n gwneud hyn, byddwch chi’n cael eich gwahodd i gwrdd â'n tîm cyswllt ac ehangu cyfranogiad pwrpasol a fydd yn ateb eich cwestiynau am gymorth yn y Brifysgol.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i fynd i brifysgol drwy UCAS cewch y cyfle i ddatgelu eich bod yn rhywun sydd â phrofiad o ofal. Byddem yn eich annog i dicio’r blwch ‘ie’ wrth y cwestiwn hwn er mwyn inni allu cysylltu â chi cyn gynted â phosibl ynghylch y cymorth sydd ar gael ichi.

Rydyn ni wedi rhoi model derbyniadau cyd-destunol ar waith i roi gwell gwybodaeth i Diwtoriaid Derbyn o gefndir cymdeithasol yr ymgeiswyr, gan ganiatáu i diwtoriaid derbyn asesu potensial ymgeiswyr i lwyddo gyda ni yng nghyd-destun y rhwystrau y mae'n bosibl eu bod wedi'u hwynebu. Bydd yr ymgeiswyr sydd wedi treulio amser mewn gofal ac wedi nodi hyn ar eu ffurflen UCAS (gan ddefnyddio'r cwestiwn penodedig) yn gymwys i gael ystyriaeth ychwanegol. Hwyrach y bydd hyn yn cynnwys cynnig gwarantedig, cyfweliad gwarantedig, cynnig ar lefel is neu ystyriaeth ychwanegol yn ystod cyfnod canlyniadau arholiadau'r haf.

Os nad ydych chi’n barod hyd yn hyn i astudio ar gyfer gradd mae tîm yr Adran Addysg Broffesiynol Barhaus yn cynnig ystod eang o gyrsiau rhan-amser, a hynny ar lefelau ac ar adegau sy’n gyfleus i chi. Nid oes gofynion mynediad ynghlwm wrth lawer o’r cyrsiau hyn, y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw diddordeb yn y pwnc a’r parodrwydd i’w astudio yng nghwmni pobl eraill. Mae'r  yn ffordd arall o ennill cymwysterau Safon Uwch a mynediad gan fod y rhaglen yn cael ei haddysgu a'i hasesu mewn ffordd debyg i gyrsiau israddedig yn y flwyddyn gyntaf.

Ffoniwch learn@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 02920 870000 i gael gwybod rhagor.

Cyllid

I gael gwybodaeth am ein bwrsariaeth i ymadawyr â gofal, gweler y dudalen bwrsariaethau i ymadawyr â gofal.

Cymorth wrth Bontio

Mae'n bwysig inni fod eich proses pontio i'r brifysgol yn haws o ganlyniad i’r ffaith eich bod yn gallu cael gafael ar wybodaeth ac arweiniad os bydd gennych chi gwestiynau cyn dechrau ac ar ôl hynny.

Mae ein Tîm Allgymorth yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i'ch helpu i baratoi ar gyfer y Brifysgol. Darllenwch eu tudalennau ynglŷn â chymryd rhan i weld pa brosiectau y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw.

Os ydych chi wedi ticio'r blwch yn UCAS bydd ein swyddog cyswllt penodol Lena Smith yn cysylltu â chi i ateb eich cwestiynau cyn dechrau'r cwrs a gall eich cyfeirio at wasanaethau yn y brifysgol y bydd eu hangen arnoch chi hwyrach.

Cymorth tra byddwch chi’n astudio

Ein nod yw meithrin profiad rhagorol a chefnogol ar gyfer myfyrwyr. Mae hyn yn cynnwys meithrin ac annog dyfodol hyderus a llwyddiannus i bawb. Rydyn ni’n cynnig cymorth pwrpasol ar ben y cymorth cyffredinol o ran bywyd y myfyrwyr sydd ar gael i bob myfyriwr.

Lena Smith yw'r enw cyswllt pwrpasol ar gyfer myfyrwyr â phrofiad o ofal ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae'n rhoi’r cymorth canlynol drwy gydol eich astudiaethau:

  • cymorth wrth wneud cais am gyllid myfyrwyr a grantiau a bwrsariaethau eraill
  • cymorth o ran materion academaidd, gan gynnwys cysylltu â'ch adran academaidd a helpu myfyrwyr i fod yn ymwybodol o sut i wneud cais am amgylchiadau esgusodol os bydd angen
  • rhoi cymorth o ran tai
  • cyfeirio’r myfyrwyr at wasanaethau prifysgol eraill y Brifysgol megis Gwasanaeth Anabledd y Myfyrwyr, Cwnsela a Lles neu sgiliau astudio academaidd.
  • cynnal digwyddiadau a gweithgareddau a bod ar gael i gael sgwrs os bydd angen.
  • Mae llety ar gael dros yr haf yn y Neuaddau felly does dim rhaid ichi boeni am ymrwymo i gontract arall os byddwch chi rhwng contractau. Pan fyddwch chi’n symud i lety preifat yn ystod eich ail flwyddyn gall y brifysgol hefyd fod yn warantwr os hoffech chi inni wneud hynny.
  • mae cymorth gyrfaol a chyflogadwyedd pwrpasol ar gael i fyfyrwyr â phrofiad o ofal yn ein cynllun Hyder o ran Gyrfa.

Er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau wrth raddio, rydym yn cynnig pecyn i fyfyrwyr â phrofiad o fod mewn gofal sydd wedi cael cymorth gennym. Mae ein pecyn presennol yn cynnwys talu cost hurio’r gwisg graddio.

Rydym yn cefnogi ein graddedigion sydd wedi datgelu i Ask Jan bod ganddynt brofiad o fod mewn gofal er mwyn sicrhau bod modd iddynt gael cymorth lles am flwyddyn ar ôl graddio.

Ar ôl graddio, gallwch wneud cais i aros mewn neuadd breswyl ar y campws dros yr haf tan 1 Medi i sicrhau bod gennych ddigon o amser i gynllunio eich camau nesaf.

Gall ein tîm Dyfodol Myfyrwyr roi cymorth am hyd at dair blynedd ar ôl i chi raddio, a fydd yn cefnogi eich camau nesaf ar ôl ein gadael.

Mae perthynas â Phrifysgol Caerdydd yn un am oes, a gallwch barhau i fod yn gysylltiedig â ni a bod yn rhan o'n cymuned fyd-eang o gynfyfyrwyr.

Cysylltu â ni

Lena Smith