Y Feithrinfa

Enillodd y Feithrinfa Wobr Meithrinfa Gymreig y flwyddyn Cymdeithas yr NDNA (National Day Nurseries Association) yn 2010. Rydym yn croesawu plant myfyrwyr a staff, rhwng 10 wythnos oed a phum mlwydd oed.
Mewn dwylo da
Mae'r Feithrinfa:
- Wedi'i rhannu'n adrannau sy'n briodol i oedran a datblygiad.
- Yn sicrhau bod yna drefn sefydlog ym mhob adran yn sicrhau bod eich plentyn yn cael y gofal a'r symbyliad priodol.
- Yn penodi "gweithiwr allweddol" at anghenion unigol pob plentyn.
Fel rhiant cewch eich annog i ymweld â'r Ganolfan, yn enwedig yn ystod wythnosau cyntaf y tymor newydd.
Amser bwyd
- Pryd maethlon cytbwys a goginir ar y safle.
- Byrbrydau yng nghanol y bore a'r prynhawn.
- Ymdrechir i ddarparu arlwyaeth ar gyfer anghenion deietegol unigol lle'n bosibl.
Ble mae'r ganolfan?
43-45 Plas-y-Parc
Caerdydd
CF10 3BB
Oriau agor
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 08:00 tan 18:00.
Ffioedd
Cewch mwy o wybodaeth am y ffioedd diweddaraf ar wefan y Feithrinfa. Os ydych yn gymwys gallwch gael cymorth gyda chostau gofal plant. Am fwy o wybodaeth ewch i'r dudalen Dyfarniadau'r Rhaglen Cymorth Ariannol ar y Fewnrwyd.
Archebwch le
Llenwch ffurflen gais neu cysylltwch â creche@caerdydd.ac.uk.