Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Rydym yn darparu cefnogaeth gyrfaoedd a chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl graddio.

Os oes gennych gynlluniau gyrfa penodol, neu heb feddwl mor bell â hynny, mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ar gael i’ch cynorthwyo chi i ddatblygu a chyflawni eich nodau gyrfa.

Gallwch gael cyngor gan dîm proffesiynol o Gynghorwyr Gyrfaol Arbenigol sydd yn gysylltiedig ag Ysgolion Academaidd ac ar gael yn ystod yr wythnos am ymgynghoriad.

Cymerwch ran mewn amrywiaeth eang o sesiynau grŵp a thrafodaethau am ddewisiadau gyrfaol, chwilio am waith, ceisiadau, gweithdrefnau cyfweliadau a chanolfannau asesu.

Cewch wledd o wybodaeth yrfaol a chyfleusterau ymchwil yn ogystal.

Mae gennym dîm o Gynghorwyr Profiad Gwaith sy’n hyrwyddo manteision profiad gwaith, blas ar swyddi, lleoliadau tymor-byr ac interniaethau. Mae elfen o brofiad gwaith yn rhan o nifer o'n rhaglenni gradd

Mae digwyddiadau sgiliau'n cael eu cyflwyno tu mewn a thu allan i’r cwricwlwm. Maent yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau tra byddwch chi yn y Brifysgol ac yn eich helpu chi i arddangos y sgiliau hynny'n llwyddiannus yn eich ceisiadau yn y dyfodol.

Cewch gyfle hefyd i fentora myfyrwyr eraill - dyma gynllun poblogaidd iawn sy’n hybu datblygu sgiliau yn y mentai a’r mentor.

Mae’r dyfarniad cyflogadwyedd hwn yn eich galluogi chi i sicrhau cydnabyddiaeth am ddatblygiad sgiliau a phrofiad gwaith drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae Gwobr Caerdydd wedi’i datblygu gyda chymorth ac arbenigedd recriwtwyr graddedigion, a chaiff ei noddi gan EY.

Bob blwyddyn, bydd cannoedd o recriwtwyr myfyrwyr a graddedigion yn targedu Prifysgol Caerdydd fel rhan o’u hymgyrchoedd recriwtio. Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda hwy fel dolen gyswllt hanfodol rhyngddon nhw a chi, drwy gynnig:

  • Bwrdd swyddi ar-lein – hysbysebu swyddi gwag
  • Ffeiriau gyrfaoedd – rhai cyffredinol ac ar gyfer sectorau penodol
  • Digwyddiadau gan gyflogwyr i arddangos eu cyfleoedd.

Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da iawn o ran cyflogaeth ei graddedigion. Mae galw am raddedigion ym mhob disgyblaeth ar draws ystod eang o yrfaoedd. Rydym yn sefydliad sy’n parhau i gael ei dargedu gan gyflogwyr cenedlaethol a rhyngwladol.

Cysylltwch â ni

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd wrth ein timau Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd:

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd (Cathays)