Ewch i’r prif gynnwys

Cyngor ac arian

Efallai eich bod eisoes yn hen law ar reoli eich arian neu gallai hyn fod y tro cyntaf i chi orfod meddwl am eich cyllid, o dalu rhent i gael cyllid.

Gall rheoli eich sefyllfa ariannol lethu rhywun braidd, ond gallwn ni roi cymorth i chi mewn sawl ffordd a gofalu eich bod yn mwynhau bywyd myfyriwr i'r eithaf.

Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn manteisio i’r eithaf ar eich profiad yn y brifysgol, felly rydyn ni wrth law i helpu o ran awgrymiadau da, cyngor a gwybodaeth ar faterion ymarferol megis: cyllid, rheoli arian, cyngor ar dai a fisâu tra y byddwch chi’n astudio.

people

Pwynt cyswllt penodol i gael cymorth ychwanegol

Mae cymorth ychwanegol ar gael os ydych yn fyfyriwr sy’n gadael gofal, sydd wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu, sy’n ofalwr, sy’n gyn-filwr neu sy’n geisiwr lloches.

plane

Cymorth fisa i fyfyrwyr

Gall y syniad o symud i’r DU godi ofn ar fyfyrwyr rhyngwladol. Bob blwyddyn, rydym yn helpu i gludo cannoedd o fyfyrwyr rhyngwladol o Heathrow i'w llety yng Nghaerdydd er mwyn gwneud y broses o symud i'r DU ychydig yn haws.

Mask

Cyllid gan y GIG

Gallwn roi cyngor ar gyllid ar gyfer astudiaethau amser llawn neu ran-amser, gan gynnwys cyllid gan y GIG ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd.

Cymorth ariannol

Rydym yn rhoi gwybodaeth am reoli arian a sicrhau lles ariannol tra byddwch yn fyfyriwr. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyllidebu personol i’ch helpu i nodi unrhyw gyllid ychwanegol y gallech wneud cais amdano, fel:

  • ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr y DU
  • y Rhaglen Cymorth Ariannol (cronfa caledi) – a all eich helpu i ddelio â phroblemau ariannol tymor byr annisgwyl (telerau ac amodau’n berthnasol)
  • cyllid gan ystod o ymddiriedolaethau ac elusennau

Rydym hefyd yn gweinyddu cynllun benthyciadau ffederal yr Unol Daleithiau yn y Brifysgol.

Cyllid a chyngor i fyfyrwyr

Rydym yma i'ch helpu i ddeall pa gyllid sydd ar gael yn y DU er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael popeth y mae gennych yr hawl i’w gael tra byddwch yn fyfyriwr, gan gynnwys cyllid ar gyfer:

  • cyrsiau llawn amser a rhan-amser
  • cyrsiau i israddedigion ac ôl-raddedigion
  • cyrsiau a ariennir gan y GIG
  • blwyddyn dramor
  • blwyddyn ar leoliad gwaith

Rydym wrth law i'ch helpu os byddwch yn cael unrhyw drafferth delio â chyrff ariannu. Os bydd unrhyw broblemau’n codi, efallai y byddwn yn gallu cysylltu â'ch corff ariannu i ddatrys y rhain.

Cymorth fisa i fyfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, rydym yn rhoi arweiniad a gwybodaeth bwrpasol i'ch helpu i ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • gweithgareddau a digwyddiadau ymsefydlu i helpu myfyrwyr rhyngwladol i ymgartrefu ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r DU yn fwy cyffredinol
  • y rheolau/amodau mewnfudo Adran Fisâu a Mewnfudo y DU ar eich fisa i fyfyrwyr (Haen 4 (Cyffredinol) a fisa astudio tymor byr), gan gynnwys goblygiadau unrhyw newid (e.e. tynnu'n ôl, gohirio eich astudiaethau, trosglwyddo)
  • Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac opsiynau o ran fisa i fyfyrwyr o'r UE ar ôl Brexit
  • gwneud cais i ymestyn fisa, i fyfyrwyr a'u dibynyddion
  • rheolau mewnfudo ar gyfer gweithio yn y DU tra byddwch yn astudio
  • ymweld â gwledydd y Schengen
  • opsiynau o ran fisa gwaith i fyfyrwyr rhyngwladol ar ôl gorffen astudio

Lleoliad ein tîm

Rydyn ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr (Campws Cathays).

Mae ein tîm cyfeillgar yn cynnig cymorth wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac mae gennym apwyntiadau y gallwch chi eu trefnu yn ystod dyddiau'r wythnos i'ch helpu chi i gael cyngor diduedd yn rhad ac am ddim.

Gallwch chi drefnu apwyntiadau drwy Borth Cyswllt y Myfyrwyr.

Cysylltu â ni

Cefnogi a Lles Myfyrwyr (Cathays)

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â benthyciadau ffederal yr Unol Daleithiau, cysylltwch â:

US Federal Loans