Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleusterau chwaraeon

Diweddarwyd: 24/10/2023 14:31

Lleolir ein cyfleusterau chwaraeon mewn pedwar lleoliad ar draws y ddau gampws, yn rhoi mynediad i chi i weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol.

Lleoliadau

Cyrtiau dan do yn y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon
Cyrtiau dan do yn y Pentref Hyfforddiant Chwaraeon

Pentref Hyfforddiant Chwaraeon

Mae’r neuadd chwaraeon amlbwrpas yn cynnal rhan fwyaf o glybiau chwaraeon dan do gydag amrywiaeth o gyfleusterau dan do ac awyr agored.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys cwrt pêl-droed pump-bob-ochr, ystafelloedd ffitrwydd, dojo crefftau ymladd, clinig ffisiotherapi a lleiniau artiffisial/glaswellt dan lifoleuadau.

racks in conditioning room
Equipment in the top floor conditioning room

Canolfan Ffitrwydd a Datblygiad Corfforol

Mae’r Ganolfan yn cynnig ymagwedd gyfeillgar a phersonol at iechyd a ffitrwydd a chewch wasanaethau fel hyfforddiant personol, cynllunio rhaglen i’r unigolyn, profion ffitrwydd a chyngor ynghylch maeth yno.

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys ystafelloedd ffitrwydd sydd newydd eu hailwampio ac ynddynt amrywiaeth o offer cardio a gwthiant. Mae’r llawr uchaf yn ddarpariaeth benodol ar gyfer cryfhau a datblygu’r corff, er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf ar eich gallu ym myd y campau. Mae'n cynnwys amrywiaeth lawn o offer hyfforddiant ymarferol ac Olympaidd, gan gynnwys llwyfannau codi pwysau Olympaidd, trac sbrint 16 metr ac ystod eang o feinciau a phwysau.

fitness class in studio
Fitness class at Studio 49

Canolfan Cryfder a Datblygiad Corfforol

Fe’i chynlluniwyd i ddarparu cyfleusterau i fabolgampwyr o’r radd flaenaf i gynyddu eu potensial hyd yr eithaf a’u rhoi hwy ar y blaen. Yno cewch lwyfannau codi Olympaidd, trac perfformiad sbrintio 16-metr ac amrywiaeth mawr o feinciau a phwysau codi.

Mae’r Ganolfan hefyd yn gartref i’r stiwdio ddawns. Ynddi, cynigir amrywiaeth mawr o ddosbarthiadau ffitrwydd, Clinig Lles sy’n darparu therapïau iechyd a harddwch amgen

Cardiff University sports fields from pavilion
Cardiff University sports fields from pavilion

Meysydd Chwarae

Mae gennym 33 erw o gaeau glaswellt o’r radd flaenaf (un dan lifoleuadau) yn y ganolfan chwaraeon awyr agored.

Yn ogystal â’r lleiniau gwair, mae’r safle hefyd yn cynnwys maes chwarae 3G maint-llawn newydd sbon. Mae FIFA a’r IRB wedi cymeradwyo’r arwyneb pob-tywydd dan lifoleuadau a cheir eisteddfa a man cynhesu hefyd. Mae’r cyfleuster newydd hwn yn golygu bod modd chwarae campau ar hyd y gaeaf.