Ewch i’r prif gynnwys

Clybiau chwaraeon

Mae mwy na 60 o glybiau chwaraeon yn y Brifysgol, gan gynnwys chwaraeon traddodiadol, megis rygbi, pêl-droed, criced neu denis, ond hefyd ceir crefft ymladd, chwaraeon moduro a chwaraeon dŵr.

Mae llawer o’r clybiau chwaraeon yn yr Undeb Athletaidd yn teithio ledled y DU i gystadlu yn erbyn prifysgolion eraill yngChwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS)

Yn ogystal â’r clybiau chwaraeon yn yr Undeb Athletaidd, mae gennym hefyd raglen enfawr sy’n rhan o’r Gemau Mewnol (IMG). Yn y rhain, bydd timau o gyrsiau, cymdeithas a ffrindiau’n chwarae pêl-rwyd, 11 bob ochr a phêl-droed 7 bob-ochr bob wythnos mewn cynghreiriau chwaraeon cystadleuol ond cynhelir hefyd gemau at ddibenion hamdden a hwyl.

Darganfod mwy am ein clybiau chwaraeon.

Clybiau Chwaraeon yr Undeb Athletaidd

Chwaraeon
Ffitrwydd yn yr Awyr
Aikido
Pêl-droed Americanaidd 
Saethyddiaeth
Athletau 
Badminton
Pêl-fas a phêl feddal
Pêl-fasged
Barbwysau
Bocsio
Ogofâu a thramwyo ceunentydd
Criw Codi Hwyliau (Cheerleading) 
Saethu Colomennod Clai
Criced
Chwaraeon ffyn
Beicio
Dawnsio
Pêl osgoi
Marchogaeth
Cleddyfa
Pêl-droed a Futsal
Golff
Heicio
Hoci
Hoci iâ
Sglefrio Iâ
Jiu Jitsu
Karate
Caiacio
Bocsio Cic
Pêl-korf
Kung Fu
Lacrosse
Crefft Ymladd Cymysg
Chwaraeon Modur
Beicio Mynydd
Mynydda
Pêl-rwyd
Polo
Reifflau
Rhwyfo
Rygbi 
Hwylio
Plymio sgwba / Nofio tanddwr
Chwaraeon Eira
Sboncen
Chwaraeon Syrffio
Nofio a Pholo Dŵr
Tennis Bwrdd
Taekwon-do
Tennis
Rygbi Cyffwrdd
Trampolinio
Triathlon
Ffrisbî Eithaf
Pêl Foli
Hwylfyrddio

Ein safleoedd yn BUCS

Y Flwyddyn AcademaiddSaflePwyntiau
2021-2211eg2249.5
2020-21--
2019-2011eg1950.5
2018–1914eg2073
2017-1811eg 2050
2016-1711eg2116
2015-1611eg2060.5
2014-1515fed1810
2013-1422ain1386.33
2012-1319eg1473.33

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr Undeb Athletaidd neu cysylltwch â'r Undeb Athletaidd:

Undeb Athletau