Ewch i’r prif gynnwys

Llyfrgelloedd

Library

Mae gennym dros 2,500 o fannau astudio mewn llyfrgelloedd ac ystafelloedd TG cyfleus. A gyda mynediad Wi-Fi eang, mae man astudio cyfforddus ar garreg y drws.

Gall myfyrwyr gael mynediad i:

  • 10 o lyfrgelloedd gwahanol ar draws y ddau gampws
  • 1.2 miliwn o lyfrau a chylchgronau gyda chynnydd sylweddol mewn fersiynau electronig
  • detholiad o ardaloedd llyfrgell ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos
  • llyfrgelloedd arbenigol yn cynnwys pensaernïaeth, iechyd a newyddiaduraeth
  • gwasanaeth sgwrsio llyfrgell byw
  • gweithfannau gyda meddalwedd ar y rhwydwaith yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd
  • ystod o gasgliadau arbennig yn ymwneud â'r Gymraeg, y Dyniaethau, Gwyddorau Cymdeithasol, Cerddoriaeth, Gwyddoniaeth a Meddygaeth, yr Undeb Ewropeaidd a'r Cenhedloedd Unedig
  • tua 100,000 o eitemau prin gyda sgrîn gyffwrdd 40" 3D a meddalwedd troi tudalennau.
  • cefnogaeth ar gyfer ymchwilwyr ar lwybrau Gwyrdd, Aur a Diemwnt i Open Access, a'r agenda Open Access ehangach yn addysg uwch y DU.