Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaethau TG

Gwasnaethau Cyfrifiadura
Ystafell gyfrifiaduron Ysgol y Gyfraith.

Meddalwedd a gwasanaethau TG am ddim i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser gyda ni

Meddalwedd am ddim

Lawrlwythwch Windows 10/11 a chewch ddefnyddio Microsoft Office 365 ar hyd at bum dyfais Windows/Mac, a hyd at bum dyfais symudol (iOS/Android) yn rhad ac am ddim.

Cadw’n ddiogel ar-lein

Lawrlwythwch feddalwedd wrthfirysau rad ac am ddim ar eich cyfrifiaduron personol (Windows/Mac).

Cefnogaeth, offer ac adnoddau TG

Mae eduroam, rhwydwaith diwifr y brifysgol, ar gael i’w ddefnyddio’n rhad ac am ddim ar gampysau Cathays a Pharc y Mynydd Bychan, yn ogystal â’r preswylfeydd sy’n eiddo i’r brifysgol.

Gallwch hefyd gael mynediad at y canlynol:

  • ystafelloedd TG (gan gynnwys rhai sydd ar agor 24/7) ar y ddau gampws
  • Cymorth TG 24/7 dros y ffôn
  • Cymorth TG wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr
  • Cymorth TG gan Repair IT yn Undeb y Myfyrwyr
  • Gwasanaeth sgwrsio Cymorth TG ar fewnrwyd y myfyrwyr

Gwasanaeth recordio darlithoedd

Mae Panopto yn galluogi myfyrwyr i recordio darlithoedd a gweithgareddau dysgu eraill. Mae’r recordiadau’n cael eu rhannu ar-lein drwy Dysgu Canolog ar ôl hynny, a gellir eu gweld ar-lein neu drwy ap ffôn symudol. Gall adolygu’r recordiadau fod yn arbennig o ddefnyddiol tuag adeg arholiadau ac asesiadau.

Darganfyddwch ragor am ddefnyddio apiau, gwasanaethau a meddalwedd TG ar y fewnrwyd. Bydd y rhain ar gael i chi pan fyddwch wedi cael eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair yn y Brifysgol.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â Chymorth TG i gael cymorth a chyngor ar ddefnyddio ein gwasanaethau TG:

Cymorth TG