Ewch i’r prif gynnwys

Sgiliau astudio academaidd

Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnig ystod eang o ddosbarthiadau, tiwtorialau ar-lein a mathau eraill o gymorth i'ch helpu i wella eich technegau astudio ac ysgrifennu yn ôl safonau prifysgol.

Rydyn ni eisiau i chi gaffael ar sgiliau astudio academaidd a’u datblygu er mwyn gallu manteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau tra byddwch chi ym Mhrifysgol Caerdydd.

mouse

Asesu eich sgiliau academaidd

Bydd ein hadnodd hunanasesu yn eich helpu i adnabod y sgiliau astudio y bydd gofyn ichi ganolbwyntio arnyn nhw hwyrach, ac mae’r pecyn yn eich cyfeirio at gymorth ychwanegol.

book

Tua 100 dosbarth y flwyddyn

Mae tua 100 o ddosbarthiadau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr y gallwch chi ddewis o’u plith yn ôl eich anghenion.

star

Modiwl Sgiliau Astudio Academaidd

Rydyn ni wedi creu modiwl ar-lein er mwyn i’n hadnoddau i gyd fod yn yr un lle. Gallwch chi ei gyrchu yn unrhyw le, ar unrhyw adeg.

Adeilad Canolfan Bywyd y Myfyrwyr.
Mae’r dosbarthiadau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr.

Bydd ein tîm cyfeillgar yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau astudio academaidd, gan gynnwys ysgrifennu traethodau, darllen a meddwl yn feirniadol, gwneud nodiadau a rheoli eich aseiniadau'n effeithiol.

Ein hymrwymiad ichi yw eich annog, mewn cyd-destun cefnogol sydd hefyd yn cynnig her, i ddod yn ddysgwr annibynnol sydd â’r sgiliau y bydd eu cael er mwyn llwyddo.

"Mae'r dosbarthiadau rydw i wedi bod yn cymryd rhan ynddyn nhw (pump hyd yn hyn) wedi bod yn ardderchog. Rydw i wedi dysgu llawer ac mae wedi fy helpu i beidio â dychryn ar ôl gweld y llwyth gwaith!"
Helen Fox, Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Manteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau

Bydd ein cymorth o ran sgiliau astudio yn eich helpu i:

  • ddod o hyd i awgrymiadau ymarferol i wella eich sgiliau astudio
  • dod yn fwy hyderus o ran eich aseiniadau
  • datblygu i fod yn ddysgwr annibynnol
  • ymuno â’n cymuned ddysgu

Gwyliwch ein ffilm fer

“Roedd y ffordd yr oedd yr hyfforddwraig yn cyflwyno yn ardderchog. Fe wnaeth hi greu cyd-destun hapus a chyfforddus i bawb gael dysgu ynddo. Roedd cynnwys y sesiwn yn berthnasol, yn hawdd ei ddeall ac yn rhoi digon o gyfle i bobl fyfyrio.” 
Delores Mason Haynes

Myfyrwyr sy'n mentora

Caiff pob myfyriwr israddedig yn y flwyddyn gyntaf gael eu mentora gan fyfyriwr sy’n mentora, sef myfyriwr sydd wedi bod yn yr un sefyllfa â chi. Byddan nhw’n gallu rhoi safbwynt y myfyriwr ichi ar ddysgu yn y brifysgol, eich ysgol academaidd a sut i fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau.

Cysylltu â ni

Sgiliau Astudio Academaidd a Mentora