Hanes

Castle ruins in Wales

Os ydych yn un am hanes, cewch ddigon o atyniadau i'w harchwilio yng Nghaerdydd a'r cyffiniau.

Dyma wibdaith drwy hanes Cymru gyda dolenni i rai o'r atyniadau sy'n agos i Gaerdydd y gallwch ymweld â nhw pan ydych yn astudio yma.

Y lle amlwg i ymweld ag e yw Amgueddfa Werin Sain Ffagan sydd ar gyrion y ddinas. Dyma amgueddfa awyr agored cenedlaethol cyntaf y Deyrnas Unedig. Y werin bobl yw ffocws yr Amgueddfa a chewch weld amrywiaeth o adeiladau o wahanol gyfnodau hanesyddol sydd wedi'u hail-adeiladu carreg wrth garreg ar y safle 100 erw. Yn agosaf i gampws y Brifysgol, mae adeilad mawreddog Edwardaidd yr Amgueddfa Genedlaethol werth ei weld gyda chasgliadau celf enwog y Chwiorydd Davies ac arddangosfeydd o gyfnod y dinasoriaid i gyfnod datganoli.

Er bod y ddraig wedi bod yn arwyddlun i Gymru ers canrifoedd ac yn ffefryn gan Harri VIII, dim ond yn 1959 y daeth y ddraig goch yn faner swyddogol y genedl ar gais Gorsedd y Beirdd. Y ddraig goch yw'r unig faner o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n ymddangos ar Faner yr Undeb.

Cymru cynhanesyddol

Erbyn bod y Rhufeiniaid yn cyrraedd Prydain, roedd pobl wedi bod yn byw yng Nghymru am agos i 225,000 o flynyddoedd ac mae Caerdydd ei hun yn hynach na'r disgwyl. Yn 2015 daeth archaeolegwyr Prifysgol Caerdydd o hyd i dystiolaeth neolithig ar safle bryngaer o Oes yr Haearn yn ardal Caerau sy'n awgrymu'n gryf fod y ddinas o ddeutu 6,000 mlwydd oed.

Gallwch deithio'n hwylus o Gaerdydd hefyd i Fro Morgannwg sydd yn drysorfa o olion neolithig ac i Benrhyn Gŵyr, ardal o brydferthwch naturiol eithriadol a chartref i feddrodau hynafol.

Roedd y 95 o ogofau ym Mhenrhyn Gŵyr yn cynnig lloches i'n cyndeidiau yn cynnwys 'Dynes Goch Pafiland'. Mewn gwirionedd sgerbwd dyn ifanc ydyw ac mae'n dyddio o tua 33,000 mlynedd CC. Cafodd ei enw ar ôl y lliw coch a ddarganfuwyd ar y gweddillion yn Ogof Twll yr Afr Credwyd mai dyma'r enghraifft gynharaf o gladdu seremonïol yn Ewrop. Mae'r sgerbwd dan glo ym Mhrifysgol Rhydychen er bod galw wedi bod i'w ddychwelyd i Gymru.

Y Rhufeiniaid yn glanio

Dechreuodd y Rhufeiniaid eu hymgyrch filwrol yn erbyn Cymru yn 43 AD gyda 40,000 o filwyr. Erbyn 60AD, roedd Cymru o dan reolaeth Rhufeinig.

Y safle Rhufeinig enwocaf yng Nghymru yw Caerleon sydd yn agos i Gasnewydd a Chaerdydd. Cafodd ei henwi'n 'Isca' gan y Rhufeiniaid ac roedd yn un o'r unig dair caer barhaol yn y DU.

Dyma'r unig farics Rhufeinig sydd yn cael ei harddangos yn Ewrop ac amffitheatr fwyaf cyflawn Prydain. Yn ddiweddar fe wnaeth timoedd archaeolegol Prifysgol Caerdydd ddarganfod olion adeiladau coffaol sylweddol, storfeydd a gweithdy metel mawr ar y safle. Mae'n werth i chi ymweld â'r amgueddfa a'r olion Nodwch bod y fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.

Gwylio fideo ar Vimeo am y darganfyddiad archaeolegol yng Nghaerleon

Y Normaniaid a thu hwnt

Erbyn 1075 roedd arweinwyr milwrol Normanaidd wedi gwahanu Cymru drwy ladd Bleddyn ap Cynfyn yn 1075 a Rhys ap Tewdwr o'r Deheubarth yn 1093 a chipio'u tiroedd. Roedd Gwilym Goncwerwr wedi cipio'r De ac o ganlyniad roedd y rhan helaeth o Gymru o dan rym y Normaniaid.

Diolch i'r Normaniaid mae gennym y nifer mwyaf o gestyll yn Ewrop, dros 600 ohonynt. Maent yn denu twristiaid diri yn flynyddol. Gallwch ymweld â Chestyll Cas-gwent (un o'r hynaf yn y DU), Caerffili (yr ail gastell fwyaf yn y DU) a'r Castell Coch hudol.  Gallwch weld olion Normanaidd yn nhŵr enwog Castell Caerdydd. Mae digon o wybodaeth am gestyll ar wefan CADW.

Erbyn cyfnod y Tuduriaid, roedd nifer o gestyll yn esblygu o amddiffynfeydd i blastai crand. Dwy enghraifft nodedig ger Caerdydd yw Rhaglan a Thalacharn (yr olaf sy'n hefyd yn enwog am ei chysylltiad â Dylan Thomas).

Gwyliwch fideo gan CADW am gestyll tywysogion Cymru.

Ifor Bach

Byddwch chi'n siŵr o ymweld â Chlwb Ifor Bach ynghanol y ddinas yn ystod eich bywyd fel myfyriwr yn y Brifysgol. Ond wyddoch chi pwy oedd Ifor Bach? Ef oedd Arglwydd ardal Senghennydd yng Nghaerdydd wnaeth ennill enwogrwydd am gipio Iarll William a'i deulu o gastell Caerdydd yn 1158. Gwnaeth Ifor eu cadw'n garcharorion mewn ogof yn y bryniau gan fygwth eu lladd pe na chytunai'r Iarll i ddychwelyd eu tiroedd i'r Cymry.

Y 19g (a'r 20g cynnar)

Yn y 19g, daeth De Cymru yn enwog am fwyngloddio glo. Yn y cyfnod hwn tyfodd Caerdydd nes ei bod yn borthladd sylweddol, un o'r mwyaf yn y byd. Llofnodwyd y siec gyntaf am filiwn o bunnoedd yng Nghyfnewidfa Lo Caerdydd yn 1909. Yn denu mewnfudwyr o bob cwr o'r byd, roedd poblogaidd Cymru yn tyfu hyd at 20% yn y cyfnod hwn.

Ond erbyn yr 1980gau, roedd y diwydiant glo wedi dirywio'n ddifrifol. Gallwch ddysgu mwy am orffennol glofaol Cymru (a mynd ar daith dan ddaear) drwy ymweld â Amgueddfa Lofaol Cymru ger Caerdydd.

Os ewch i Barc y Rhath, sy'n ergyd carreg o ardal breswyl y myfyrwyr, cofiwch dalu sylw i'r goleudy gwyn sydd ynghanol Llyn y Rhath. Dyma gofeb i Gapten Scott a'i gymdeithion, yn cynnwys y Cymro, Edgar Evans, wnaeth farw yn yr Antarctig yn 1912. Mae nifer o gysylltiadau gyda Scott a Chaerdydd; hwyliodd long yr arloeswr enwog o ddociau'r brifddinas, cafodd y criw eu parti ffarwel yng Ngwesty'r Royal ynghanol y ddinas ac mae sawl cofeb amrywiol i'w tranc ym Mae Caerdydd hefyd.

Hanes modern

Mae'r economi Cymreig, fel cymdeithasau datblygedig eraill yn dibynnu'n fwyfwy ar y sector gwasanaethau.

Yn dilyn datganoli yn 1998, trosglwyddwyd rhai o bwerau San Steffan i Gaerdydd. Sefydlwyd Cynulliad Cymru yn 1999 ac fe'i lleolir yn adeilad trawiadol y Senedd ym Mae Caerdydd. Mae modd i chi fynd ar daith drwy'r Senedd ac archebu seddi i weld cyfarfodydd amrywiol.