Ewch i’r prif gynnwys

Parc Cathays

Gwyliwch daith o amgylch campws Parc Cathays

Mae'r mwyafrif o Ysgolion Academaidd y Brifysgol ar gampws Parc Cathays. Gyda'i rodfeydd coediog llydan a'i adeiladau braf o garreg Portland, dyma fan i ysbrydoli'ch astudiaethau.

Yn gyferbyniad i'r adeiladau hanesyddol, cewch y cyfleusterau diweddaraf yn cynnwys labordai, darlithfeydd ac ystafelloedd technoleg gwybodaeth newydd.

  • 22 o’r 26 o ysgolion academaidd ar y safle
  • Llai na hanner milltir o ganol dinas fywiog Caerdydd
  • Buddsoddiad diweddar o £200m yn y cyfleusterau diweddaraf
  • Undeb Myfyrwyr Mawr
  • Sawl llyfrgell ar y safle neu yn agos ato
  • Diogelwch 24/7 a system teledu cylch cyfyng ar y campws
  • Yn agos i sawl neuadd breswyl

Mae prif adeilad Undeb y Myfyrwyr, sydd yng nghanol y campws ar Blas y Parc, gyda'r mwyaf yn y wlad ac yn weithgar dros ben.

Mae digwyddiadau, clybiau a gwasanaethau gwybodaeth ar gael. Mae cyfleusterau’r safle yn cynnwys caffi, siop gyffredinol, siop lyfrau, asiantaeth osod i fyfyrwyr, clwb nos a thafarn.

Ble mae'r campws?

Plas Y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Cathays Park location