Ewch i’r prif gynnwys

Toby Cowton

Mae’r myfyriwr Ieithyddiaeth Gymhwysol yn trafod ei fwynhad o ddysgu ac ymchwilio ‘deunydd pwnc cyfareddol’ ar ei gwrs – ac yn datgelu ei hoff lwybrau cerdded o amgylch y ddinas.

"Fe wnaeth fy ngradd Meistr yng Nghaerdydd gyrraedd fy nisgwyliadau am astudio ar lefel ôl-raddedig -drwy fynd dan groen y pwnc."

Toby Cowton, MA Ieithyddiaeth Gymhwysol

"Yn ystod fy nghyfnod yng Nghaerdydd, roeddwn i wrth fy modd yn dysgu, ymchwilio a thrafod deunydd pwnc hynod o ddiddorol.

“Mae Caerdydd yn ddinas hyfryd. Fyddwn i ddim fel rheol yn fy ystyried fy hun yn berson dinas, ond rwyf wrth fy modd yn y brifddinas.

“Rwy’n argymell yn gryf y dylai unrhyw un fynd am dro ar hyd afon Taf ac o gwmpas llyn y Rhath. Rwy’n credu mai dyna sut y gwnes i orffen fy ngradd gyda gwraig…”