Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdonfeddau (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y radd hon yw cynhyrchu arbenigwyr ôl-raddedig gydag arbenigedd hanfodol mewn peirianneg electronig a microdon, a datblygu ymwybyddiaeth o’r gofod defnyddio sy’n tyfu ar gyfer y technolegau hyn.

star

Flexible course

This degree programme is available on a one-year full-time basis or on a three-year part-time basis.

notepad

Research project

Students will complete a major individual research project where they will apply project-specific engineering principles.

academic-school

Pwyslais cryf ar ymchwil

Byddwch yn dysgu mewn sefydliad addysgu a arweinir gan ymchwil, gyda'r cyfle i ymgymryd â'ch prosiect mewn amgylchedd llwyddiannus sy'n seiliedig ar ymchwil gyda mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel i gefnogi eich gwaith.

people

Diwylliant ymgysylltiol

Rydym yn cynnig diwylliant agored ac ymgysylltiol rhwng ein myfyrwyr a'n staff sy’n gwneud gwaith ymchwil ac sy’n cynllunio a chyflwyno'r cwrs hwn.

rosette

Professional accreditation

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion diwallu’r gofynion academaidd i gofrestru’n Beiriannydd Siartredig. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf israddedig achrededig CEng (BEng/BSc (Anrh)) at ddibenion bodloni’n llawn y gofynion addysgol i gofrestru’n CEng.

Nod y cwrs hwn yw rhoi i chi'r wybodaeth a'r sgiliau lefel uwch, allweddol a fydd yn eich galluogi i lwyddo yn y diwydiant cyfathrebu di-wifr a microdon, sy'n tyfu'n gyflym. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil a galluoedd eraill, gan wella eich cymhwysedd cyffredinol ym maes peirianneg, eich cyflogadwyedd, a darparu llwyfan ardderchog i chi ar gyfer datblygu gyrfa, boed hynny o fewn maes diwydiant neu ymchwil academaidd.

Yn fwy penodol, nod y rhaglen yw:

  • Datblygu arbenigedd mewn meysydd newydd peirianneg microdon — a meysydd sy'n esblygu — gan gynnwys cyfathrebiadau symudol a chymwysiadau meddygol microdonnau.
  • Canolbwyntio ar feysydd sy'n cynnwys uwch-ddylunio drwy gymorth cyfrifiadur, mesuriadau a nodweddu a pheirianneg systemau cyfathrebu.
  • Ymdrin â gwaith yn y labordy ac uwch reolaeth peirianneg ochr yn ochr â modiwlau mewn peirianneg amledd radio, saernïo a phrofi lefel uwch, systemau cyfathrebu uwch a Chysyniadau a Dylunio RF Aflinol.
  • Rhoi arbenigedd i chi ym meysydd micro a nano-dechnoleg ac optoelectroneg.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc gradd perthnasol megis peirianneg gyfathrebu, technoleg cyfathrebu, peirianneg drydanol neu electronig neu beirianneg ddi-wifr, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs yn cael ei gyflwyno fel rhaglen lefel Meistr amser llawn am flwyddyn, ac mae hefyd ar gael fel cynllun rhan-amser dros ddwy flynedd. Cyflwynir y rhaglen mewn dau gam: Yn ystod Rhan 1, mae myfyrwyr yn dilyn dau semester o fodiwlau a addysgir sy’n werth 120 o gredydau. Mae Rhan 2 yn cynnwys modiwl Traethawd Hir neu brosiect ymchwil gwerth 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Defnyddir ystod eang o ddulliau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio cwricwlwm y rhaglen. Byddwch yn mynychu darlithoedd ac yn cymryd rhan mewn astudiaethau labordy a thiwtorial yn ystod semester yr hydref a’r gwanwyn. Yn ystod yr haf byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil unigol.

Ar ddechrau Cam 2, byddwch yn cael goruchwyliwr prosiect. Fel rheol, caiff pwnc y traethawd hir ei ddewis o blith amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd mewn ymgynghoriad â phartneriaid diwydiannol, a hynny ym meysydd ymchwil presennol neu ddiddordeb diwydiannol fel arfer. Byddwch hefyd yn cael eich annog i gyflwyno eich syniadau eich hun ar gyfer prosiect.

Sut y caf fy asesu?

Caiff y cwrs ei asesu drwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adroddiad terfynol ar y prosiect unigol.

Asesir cyflawniad deilliannau dysgu yn y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, ynghyd ag arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr ac ym mis Mai. Mae arholiadau'n cyfrif am 60%-70% o'r asesiad yng Ngham 1 y rhaglen, yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd, a'r gweddill yn waith prosiect ac elfennau o waith cwrs yn bennaf.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi er mwyn eich helpu gyda chynnydd academaidd a chymorth bugeiliol pan fo angen. Ar gyfer cam y traethawd hir, byddwch yn cael goruchwyliwr ym maes perthnasol eich gwaith ymchwil, a dylech ddisgwyl cwrdd â’r goruchwyliwr yn rheolaidd.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch wedi datblygu sgiliau allweddol, y gellir eu cymhwyso i amrywiaeth o amgylcheddau gwaith diwydiannol ac academaidd. Byddwch wedi ennill sgiliau dysgu gan gynnwys:

  • Deall sut defnyddir egwyddorion Peirianneg Cyfathrebu Di-wifr a Microdon i ddylunio, gweithredu a rheoli systemau sy'n gallu casglu, trin, dehongli, cyfosod, cyflwyno ac adrodd ar ddata.
  • Y gallu i ddewis offer datblygu system TG briodol ar gyfer tasg benodol. Mae enghreifftiau o offer perthnasol yn cynnwys y rhai a ddefnyddir mewn ymchwil gyfredol i systemau amledd microdon a radio, cymwysiadau electromagnetig, systemau cyfathrebu a pheirianneg meddalwedd.
  • Y gallu i ymgymryd â dyluniad manwl ar lefel dyfais a nodweddion cydrannau'r system gyfathrebu yn seiliedig ar ddealltwriaeth fanwl o'r prif faterion sy'n ymwneud â phensaernïaeth a strwythurau.
  • Gwerthfawrogiad o'r camau sy'n gysylltiedig â gwireddu is-system gyfathrebu microdon di-wifr allweddol - gan gynnwys nodweddu a mesur, modelu, dylunio drwy gymorth cyfrifiadur, optimeiddio, saernïo a phrofi.
  • Dealltwriaeth o'r seilwaith caledwedd a meddalwedd a ddefnyddir wrth ddatblygu rhwydweithiau cyfrifiadurol - gan gynnwys gwerthfawrogi safonau perthnasol y diwydiant a defnyddio offer meddalwedd cyfredol sy'n gysylltiedig â rôl cyfathrebu ar y rhyngrwyd, sy’n ehangu.
  • Y gallu i gyfleu eich syniadau, eich canfyddiadau ymchwil, eich damcaniaethau a’ch egwyddorion sylfaenol yn effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol.
  • Y gallu i weithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nid oes angen unrhyw offer penodol ar gyfer y cwrs hwn.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r rhagolygon gyrfa'n ardderchog ar y cyfan. Mae myfyrwyr sy'n graddio yn dilyn llwybrau i ymchwil neu i'r diwydiant.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio yn y diwydiant, mae llawer o'n graddedigion MSc yn cael cyfleoedd gwaith ardderchog mewn sefydliadau fel Infineon, Huawei, Cambridge Silicon Radio, Vodafone ac International Rectifier.

O ran ymchwil, mae gan Brifysgol Caerdydd nifer o feysydd ymchwil sy'n ymwneud â thrydan, electroneg a microdon sy'n gofyn am fyfyrwyr PhD, a bydd yr MSc hwn yn rhoi llwyfan ardderchog i chi os hwn yw’r llwybr gyrfa yr ydych yn dewis ei ddilyn.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Peirianneg drydanol ac electronig, Peirianneg , Peirianneg fecanyddol


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.