Ewch i’r prif gynnwys

Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Ewch ati i ennill y sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i greu systemau trafnidiaeth y dyfodol.

briefcase

Cydnabyddiaeth broffesiynol

Wedi'i achredu gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI) a Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant (CIHT).

location

Ymweliadau astudiaethau maes

Byddwch yn archwilio materion trafnidiaeth a chynllunio ar leoliad – mae ymweliadau wedi cynnwys yr Adran Drafnidiaeth a Transport for London.

rosette

Ehangder a dyfnder

Byddwch yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth feirniadol i helpu i greu systemau trafnidiaeth a threfol y dyfodol.

people

Dan arweiniad arbenigwyr

Byddwch yn dysgu gan, ac yn ymgysylltu â, staff sy’n weithredol ym myd ymchwil, ac sy’n gweithio ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth.

Mae trafnidiaeth yn effeithio ar bron iawn bob agwedd ar ein bywydau o ddydd i ddydd ac mae ein rhaglen MSc Trafnidiaeth a Chynllunio (sy’n cael ei chydnabod gan RTPI a CIHT) yn eich annog i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau wrth ddatblygu systemau trafnidiaeth y dyfodol.

Ar draws disgyblaethau polisi, economeg a dadansoddi trafnidiaeth, byddwch yn caffael yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth feirniadol i wneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu, rheoli a chraffu ar drafnidiaeth a systemau trefol. Ar ôl graddio, byddwch mewn sefyllfa dda i wneud eich marc yn y diwydiant a helpu i drawsnewid ac arloesi yn y maes cynllunio trafnidiaeth, gan wella lles economaidd, cymdeithasol, iechyd ac amgylcheddol pobl a lleoedd.

Byddwch yn derbyn addysg eang a fydd yn canolbwyntio ar eich galluogi i wneud y canlynol:

  • Egluro a dangos egwyddorion ac ymarfer arfarnu a gwerthuso cynlluniau trafnidiaeth.
  • Casglu, adfer, dadansoddi a dehongli data er mwyn deall ymddygiad teithio yn well a helpu i ddatblygu ac asesu polisïau trafnidiaeth.
  • Dirnad egwyddorion a nodweddion allweddol modelau cynllunio trafnidiaeth a thechnegau dadansoddi cysylltiedig a ddefnyddir wrth ddatblygu, dylunio ac asesu polisïau, trefniadau a chynlluniau trafnidiaeth.
  • Deall agweddau allweddol ar opsiynau teithio cynaliadwy a'u hyrwyddo i ddefnyddwyr trafnidiaeth unigol er mwyn gwella cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.
  • Archwilio’r fframweithiau polisi a gweinyddol y caiff cynlluniau trafnidiaeth eu datblygu, eu hasesu, eu hariannu, eu monitro a'u hadolygu oddi mewn iddyn nhw.
  • Archwilio’r fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol y mae cynllunwyr trafnidiaeth yn gweithio oddi mewn iddyn nhw.

Achrediadau

“Transport and Planning is such an exciting sector to immerse yourself in as it connects so much of what we do in life, and the course is a perfect way to begin to explore and challenge the way we operate our towns and cities. It connects and crosses over with a number of sectors within Geography, Planning, Sociology and Economics. The fantastic part is that the content of the course and teaching style covers all of these connections, leading to a thoroughly engaging and enjoyable learning experience.”
Jack Rumbold

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, peirianneg, cynllunio daearyddiaeth, gwyddoniaeth a gwyddorau cymdeithasol, trafnidiaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cynigir y cwrs MSc Trafnidiaeth a Chynllunio fel cwrs blwyddyn amser llawn.

Mae wedi'i rannu'n ddwy ran:

  • Mae rhan un yn cynnwys rhaglen addysgu o fodiwlau craidd a dewisol dros ddau semester. Mae'r modiwlau craidd yn darparu'r fframwaith dadansoddol, economaidd a chynllunio angenrheidiol, ac mae’r detholiad o fodiwlau dewisol yn rhoi cyfle i astudio agweddau penodol ar drafnidiaeth a phynciau cysylltiedig yn fanwl.
  • Mae rhan dau yn cynnwys traethawd hir unigol ar bwnc sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, a fydd yn cael ei ddewis mewn ymgynghoriad ag aelodau o staff. Cewch arfer eich doethineb i ddewis pynciau dros faes eang, gan gynnwys, ar gyfer myfyrwyr o dramor, unrhyw faterion sy'n codi yn eich gwlad chi.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae’r modiwlau yn 'werth M.' Bydd caffael 120 o gredydau yn arwain at ddyfarnu Diploma mewn Trafnidiaeth a Chynllunio. Ar hyn o bryd mae hyn yn rhan un o'r cwrs MSc. Traethawd hir yw rhan dau yr MSc.

Drwy lwyddo yn y ddwy ran o'r rhaglen cewch MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio (gyda Rhagoriaeth os yw'r safon briodol wedi'i chyrraedd).

Mae'r traethawd hir yn gyfystyr â 60 credyd arall, a bydd yr MSc yn gofyn am 180 credyd ar lefel M (gyda Rhagoriaeth yn cael ei hasesu yn unol â rheolau'r Brifysgol ar gyfer rhaglenni Meistr modiwlaidd).

Sut y caf fy asesu?

Asesir modiwlau ar ffurf asesiad parhaus (amrywiaeth o seminarau, traethodau, gwaith prosiect ac ymarferion ymarferol) ac arholiadau. Pan fo angen, mae modd bod yn hyblyg wrth bennu asesiadau amgen, tebyg.

Cynhelir arholiadau ar ddiwedd y semester y cwblheir y modiwl. Cyflwynir gwaith cwrs ar un neu fwy o ddyddiadau yn y sesiwn academaidd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae cyfleusterau cymorth i fyfyrwyr yn cynnwys:

  • Mynediad i labordy 40 cyfrifiadur pwrpasol gyda pherifferolion o safon uchel gan gynnwys; cyfrif rhwydwaith, argraffu laser, argraffu lliw fformat mawr, argraffu lliw maint A4
  • Cyfleusterau GIS/gweithfan/mynediad i gyfleuster mapio digidol digimap Edina a mynediad dan oruchwyliaeth at becyn modelu trafnidiaeth
  • Technegydd cyfrifiadurol penodol
  • Labordy 30 cyfrifiadur mynediad agored yn Adeilad Morgannwg
  • Llyfrgell ragorol ar gyfer y maes Cynllunio, sy’n cynnwys tua 12,000 o lyfrau, 280 o gyfnodolion, a gwariant o dros £90,000 ar stoc bob blwyddyn.
  • Mynediad at gronfeydd data rhyngwladol ar-lein/cyfleusterau llyfrgelloedd cyfrifiadurol
  • Cynllun tiwtor personol manwl a chynhwysfawr gyda chynnydd myfyrwyr yn cael ei adolygu mewn cyfarfodydd rheolaidd â'u tiwtor personol.
  • Adborth ysgrifenedig ar asesiadau ffurfiol
  • Cymorth iaith Saesneg i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf
  • Mynediad at gyfleusterau adnoddau Dyslecsia
  • Cymorth i fyfyrwyr sy’n gweithio/cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cyflwyno sgiliau proffesiynol yn ystod yr wythnos ymsefydlu i roi hyfforddiant i fyfyrwyr ar ddefnyddio cyfrifiaduron; sgiliau cyflwyno ac ati

Adborth

Rhoddir adborth ffurfiannol mewn tiwtorialau, dosbarthiadau trafod a dosbarthiadau sy’n seiliedig ar broblemau yn ogystal â thrwy sylwadau ysgrifenedig unigol ar waith cwrs.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Dadansoddiad Ystadegol ar Gyfrifiadur; GIS; deall a defnyddio modelau trafnidiaeth; deall a defnyddio modelau efelychu; sgiliau cyflwyno proffesiynol (ysgrifenedig a llafar); rheoli prosiectau gyda phrosiectau byw.

I am so happy that I got the opportunity to study at Cardiff University. Lecturers and fellow students of the MSc Transport and Planning were so nice to get along with. More importantly the experience made my future career much clearer, which was far beyond my expectations. I really appreciate the help of my supervisor and lecturers, which has enabled me to further develop my studies in China.
Rongqiu, MSc Transport and Planning

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r rhaglen yn cynnig y wybodaeth a'r arbenigedd ar gyfer gyrfa mewn ymgynghoriaethau cynllunio trafnidiaeth a pheirianneg mawr, awdurdodau lleol a chwmnïau trafnidiaeth. Mae ei statws achrededig hefyd yn golygu y cewch gyfle i ddatblygu eich proffil a'ch rhwydwaith proffesiynol (e.e. drwy Rwydwaith Proffesiynol Ifanc CIHT).

The course offers the knowledge and expertise for a career in major transport planning and engineering consultancies, local authorities and transport operators.

“The School has excellent relationships with employers in the transport planning industry such Arup and WSP and organises many talks and guest lecturers throughout the year. This is a great way to engage with the wider transport planning profession and build your professional profile. There are also practical elements to the programme, including field trips which introduce you to professionals working in the industry and give you the opportunity to understand how different cities approach transport planning.”
Duncan Lawrence

Gwaith maes

As part of your studies you will take a field study visit within a UK city or a city in mainland Europe, which is fully funded within the advertised fees.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gwyddor amgylcheddol, Daearyddiaeth a chynllunio, Trafnidiaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.