Ewch i’r prif gynnwys

Diwinyddiaeth (MTh)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Byddwch yn myfyrio’n feirniadol ar eich ymarfer proffesiynol mewn rhaglen sydd wedi’i dylunio i gefnogi datblygiad proffesiynol offeiriadaeth a phroffesiynau perthnasol eraill.

people

Cefnogi eich gweinidogaeth

Wedi'i ddylunio i gefnogi'r weinidogaeth a datblygiadau proffesiynol cysylltiedig eraill fydd yn eich caniatáu i fyfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer proffesiynol.

structure

Llwybrau arbenigol

Byddwch yn dewis o blith un o bum llwybr sy'n addas i'ch anghenion.

tick

Addysgu hyblyg

Mae'r addysgu'n digwydd dros gyfnod o wyth diwrnod bob semester.

rosette

Bydd yn gwella eich gallu bugeiliol

Datblygwch eich gallu deallusol a'ch sgiliau ymchwil i ddyfnhau eich arferion myfyrio.

Byddwch yn myfyrio ar eich ymarfer proffesiynol mewn modd beirniadol yn ein rhaglen un flwyddyn sydd wedi’i llunio i gefnogi datblygiad proffesiynol offeiriadaeth a phroffesiynau eraill

.

Mae ein cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy'n cymryd rhan mewn rhyw fath o offeiriadaeth, boed hynny’n fel lleygwyr neu glerigwyr, ac mae’n ceisio gwella medrusrwydd ymarferwyr, gan eich cynorthwyo i gyfrannu’n well at eich offeiriadaeth.

Dewis llwybr sy’n addas

Byddwch yn dewis un o bum llwybr sy'n addas i'ch anghenion:

  • Astudiaethau Beiblaidd
  • Athrawiaeth Gristnogol
  • Hanes yr Eglwys
  • Arweinyddiaeth Gydweithredol Gristnogol
  • Diwinyddiaeth Ymarferol

Mae'r addysgu’n digwydd yng Ngholeg Bedyddwyr De Cymru ac Athrofa Sant Padarn dros wyth diwrnod bob semester.

Byddwch yn datblygu eich cymhwysedd deallusol a'ch sgiliau ymchwil, gan ddyfnhau eich ymarfer myfyriol a gwella eich gallu bugeiliol.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4929
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis astudiaethau crefyddol, diwinyddiaeth, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol a/neu dystiolaeth o astudiaeth ddiwinyddol mewn perthynas â gweinidogaeth broffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r hyn rydych chi'n ei astudio yn dibynnu ar eich llwybr.

Ar gyfer y rhaglen Meistr amser llawn hon rydych yn cymryd cyfanswm o 180 credyd.

Mae hyn yn cynnwys chwech o fodiwlau a addysgir (120 credyd) gan gyfuno modiwlau craidd a dewisol wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer eich llwybr.

Byddwch yn symud ymlaen at eich traethawd hir (60 credyd) ar ôl cwblhau’r cam a addysgir yn llwyddiannus.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Byddwch yn astudio gwerth 60 credyd o fodiwlau ym mlwyddyn un.

Blwyddyn dau

Byddwch yn astudio gwerth 60 credyd o fodiwlau ym mlwyddyn dau.

Blwyddyn tri

Byddwch yn ymgymryd â'ch traethawd hir (60 credyd) ym mlwyddyn tri.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r addysgu’n digwydd yng Ngholeg Bedyddwyr De Cymru ac Athrofa Sant Padarn dros wyth diwrnod bob semester.

Sut y caf fy asesu?

Asesir drwy draethodau, aseiniadau (fel adolygiadau o lyfrau a chyflwyniadau) ac arholiadau ysgrifenedig, yn dibynnu ar y modiwlau rydych chi'n eu dewis.

Sut y caf fy nghefnogi?

Ar ôl cofrestru, caiff Tiwtor Personol ei neilltuo i chi a byddwch yn cael adnoddau addysgu a dysgu, gan gynnwys Llawlyfr i Ôl-raddedigion. Mae adnoddau ychwanegol sy’n benodol i’r modiwlau ar gael yn ystod y rhaglen.

Eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt i drafod unrhyw broblemau sy'n codi gyda'r cwrs. Gellir cyfeirio ymholiadau pellach at Gyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir yr Ysgol. Mae ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.

Adborth

Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir; rhoi atebion ""enghreifftiol"" a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

  • Dadansoddi beirniadol, hyblygrwydd deallusol a phwerau gwerthuso
  • Sgiliau ymchwil ar gyfer lleoliadau cymdeithasol a sefydliadol
  • Sgiliau cyfathrebu, sgiliau rheoli gwybodaeth a sgiliau myfyriol beirniadol
  • Sgiliau myfyrio ar ymarfer a hunan-ddealltwriaeth yng ngwasanaeth bugeiliol a gweithgareddau eraill caplaniaid.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

As this programme is 3 years or over in duration and has a one year full time equivalent you will not be eligible for a postgraduate loan.  The UK Government has more information about eligibility for postgraduate loans.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £4,950 Dim
Blwyddyn dau £4,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,350 £2,500
Blwyddyn dau £11,350 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Religion and theology


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.