Ewch i’r prif gynnwys

Mega-Adeiladau Cynaliadwy (MSc)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r rhaglen yn hoelio sylw ar egwyddorion cynllunio, dyluniad a chyflawniad a pherfformiad graddfa uchel ac adeiladau graddfa uchel a thyrrau o fflatiau, bydd yn rhoi cyfleoedd gyrfaol rhagorol.

academic-school

Ysgol bensaernïaeth flaenllaw

Astudio yn un o ysgolion pensaernïaeth gorau'r deyrnas.

star

Wedi'i achredu gan CIBSE

Wedi ei hachredu gan Sefydliad Siartredig Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu (CIBSE) ac mae’n bodloni’r gofynion academaidd ar gyfer y cofrestriad proffesiynol CEng.

tick

Cydnabyddir gan y CTBUH

Sy’n cael ei gydnabod gan y Cyngor ar Adeiladau Tal a Chynefinoedd Trefol (CTBUH) yn Sefydliad Technoleg Illinois yn Chicago.

globe

Teithiau astudio

Yn cynnig y cyfle i weld y gwaith o ddylunio mega-adeiladau cynaliadwy yn ymarferol ar amryw o deithiau maes cenedlaethol a rhyngwladol.

Ers peth amser mae dyluniad adeiladau isel a chanolig wedi ystyried amrywiaethau’r hinsawdd a chynaliadwyedd. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd yn nifer yr adeiladau ar raddfa fawr ledled y byd yn ystod y degawdau diwethaf, mae adeiladau uchel yn cael eu hystyried o hyd yn ddefnyddwyr ynni ar raddfa enfawr heb fawr ddim sylw i waith dylunio a pherfformiad cynaliadwy. Mae’r agenda amgylcheddol ar hyn o bryd a’r diddordeb mewn cynaliadwyedd ar draws y byd yn codi arwyddocâd mega-adeiladau.

Ar y cwrs rhyngddisgyblaethol hwn, rydyn ni’n canolbwyntio ar egwyddorion cynllunio cynaliadwy a dyluniad mega-adeiladau a pharatoi myfyrwyr i arbenigo’n broffesiynol yn y maes hwn.

Achrediadau

Vivek Warrier, MSc Sustainable Mega Buildings
The course was truly a vast new exposure into the field of sustainable mega building design and we all are happy to study the course. Many external professionals were directly involved in teaching us. We, being mostly architects, did find most aspects of the teaching useful to be used in practice. It also provides us with a lot more scope for further research.
Vivek Warrier, MSc Sustainable Mega Buildings

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Ein nod yw gwneud y byd yn lle gwell gyda phensaernïaeth sy'n sensitif i'w gyd-destun, yn gynaliadwy a phrydferth.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4430
  • MarkerRhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol sy'n gysylltiedig â'r amgylchedd adeiledig megis pensaernïaeth, peirianneg gwasanaethau adeiladu, technoleg adeiladu, peirianneg, a dylunio trefol, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n cynnwys eich rhesymau dros astudio'r rhaglen hon ac unrhyw brofiad gyda materion sy'n ymwneud ag egwyddorion dylunio cynaliadwy a chynllunio mega-adeiladau o fewn eich astudiaethau blaenorol neu yrfa broffesiynol.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Gallwch astudio'r cwrs hwn am flwyddyn yn amser llawn neu am ddwy flynedd yn rhan-amser.

Mae dau gam i'r cwrs; mae cam un yn cynnwys modiwlau a addysgir ac arbenigol sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd, a’ch traethawd hir fydd cam dau (60 credyd).

Bydd y modiwlau a addysgir ar y cwrs hwn yn darparu sylfaen mewn gwyddor bensaernïol yng nghyd-destun mega-adeiladau cynaliadwy. Ar nifer o'r modiwlau hyn, byddwch yn cael eich addysgu ochr yn ochr â myfyrwyr ar ein cyrsiau meistr gwyddor bensaernïol eraill, sy'n gyfle da i gyfnewid syniadau o wahanol safbwyntiau ac ehangu eich grŵp o ffrindiau a chysylltiadau.

Bydd ein modiwlau a addysgir yn eich helpu i archwilio’r berthynas a’r rhyngddibyniaeth rhwng materion cymdeithasol, technolegol ac amgylcheddol. Byddwch hefyd yn dysgu sut i gysylltu’r materion hyn â chyd-destunau economaidd, gwleidyddol a chyfreithiol y gwaith o gynllunio a dylunio mega-adeiladau. Byddwn yn cyflwyno ac yn adolygu’r dulliau dylunio diweddaraf ar gyfer mega-adeiladau cynaliadwy ym meysydd pensaernïol, peirianneg a chontractwyr adeiladu.

Ar y cwrs, rydyn ni hefyd yn eich annog i fynegi eich safbwyntiau am ddylunio cynaliadwy, a ddylai eich galluogi i fod yn hyddysg ac yn brofiadol wrth hyrwyddo manteision mega-adeiladau cynaliadwy.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Os ydych yn cofrestru ar y cwrs rhan-amser dwy flynedd o hyd, byddwch yn cwblhau nifer o fodiwlau a addysgir ym mlwyddyn un.

Blwyddyn dau

Os ydych yn ymrestru ar y cwrs rhan-amser, byddwch yn ymgymryd â gweddill eich modiwlau a addysgir ac yn cwblhau eich traethawd hir ym mlwyddyn dau.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, ymweliadau astudio, gwaith prosiect, a thiwtorialau grŵp.

Mewn darlithoedd a gweithdai, ein nod yw defnyddio cymorth clyweledol yn briodol i gynorthwyo dysgu a datblygu sgiliau penodol i’r pwnc. Byddwch yn gallu cael gafael ar ddeunyddiau addysgu perthnasol drwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog.

Mae'r modiwlau arbenigol ar y cwrs yn cynnwys gwaith prosiect, lle byddwch yn defnyddio astudiaethau achos mega-adeiladau i adeiladu modelau ffisegol 3D yng ngweithdy'r Ysgol a'r Labordy Saernïo Digidol a gallwch eu profi yng nghromen awyr artiffisial yr Ysgol.

Byddwch hefyd yn cael eich addysgu i ddefnyddio gwahanol raglenni meddalwedd efelychu amgylcheddol. Mae rhai o’r rhain wedi'u datblygu yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Yn olaf, byddwch yn ymchwilio i faes dylunio a chynllunio mega-adeiladau cynaliadwy sydd o ddiddordeb i chi ac yn cyflwyno traethawd hir yn seiliedig ar y gwaith ymchwil hwn. Byddwch yn gweithio ar eich traethawd hir yn annibynnol, gyda goruchwyliaeth gan aelod o staff.

Sut y caf fy asesu?

Asesir modiwlau a addysgir ac sy'n seiliedig ar brosiectau mewn amrywiaeth o wahanol ffyrdd, yn dibynnu ar gynnwys y modiwl a’r deilliannau dysgu (a geir yn y disgrifiadau o’r modiwlau). Rydyn ni’n defnyddio profion dosbarth, gwaith cwrs (aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar neu asesiadau/adolygiadau beirniadol), a gwaith prosiect, neu gyfuniad o'r rhain, i asesu'ch cynnydd yn y modiwl.

Dim ond eich traethawd hir gaiff ei asesu yn y cam traethawd hir. Mae'r traethawd hir yn adroddiad ysgrifenedig ar ddarn o waith ymchwil rydych wedi'i wneud mewn maes pwnc y cytunwyd arno o dan oruchwyliaeth.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Bydd gennych fynediad i'n Llyfrgell bwrpasol ar gyfer Pensaernïaeth, yn ogystal â deunyddiau yn Llyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Adborth

Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau fel arfer yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r cwrs dylech allu gwneud y canlynol:

  • Deall yr egwyddorion a'r strategaethau sy'n berthnasol i ddylunio mega-adeiladau cynaliadwy.
  • Esbonio sut mae athroniaeth a theori dylunio mega-adeiladau yn ymwneud â'r amgylchedd adeiledig mewn cyd-destun rheoleiddio ehangach.
  • Gwerthuso safbwyntiau damcaniaethol a methodolegol allweddol wrth ddefnyddio dulliau modelu adeiladau ac efelychu ynni, arsylwi a monitro ar y safle, data perfformiad cymharol a chyfrifo canlyniadau i fynd i'r afael â phroblemau ac archwiliadau dylunio penodol.
  • Golygu, dehongli a gwerthuso gwybodaeth, cysyniadau, theorïau ac offer cymhleth yn feirniadol i ddatblygu dulliau gwreiddiol o ddefnyddio gwybodaeth.
  • Nodi a defnyddio offer, technegau a chyfarpar dadansoddol a thechnegol priodol, a meddalwedd cyfrifiadurol wrth gysyniadoli a mynd i'r afael â phroblemau dylunio heriol.
  • Dangos ymreolaeth a gwreiddioldeb o ran defnyddio technolegau priodol ac wrth benderfynu ar ddulliau gweithredu mewn ymateb i'r gofynion gan fentrau'r llywodraeth, deddfwriaeth a'r cyhoedd am fega-adeiladau sy’n perfformio’n well yn amgylcheddol.
  • Arfarnu penderfyniadau, dulliau a chanlyniadau'n feirniadol wrth fynd i'r afael â phroblemau a llunio canllawiau a chynigion dylunio cynaliadwy ar gyfer mega-adeiladau newydd a phresennol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,725 Dim
Blwyddyn dau £5,725 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £14,100 £2,500
Blwyddyn dau £14,100 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd y Brifysgol yn talu unrhyw gostau ychwanegol sy'n hanfodol i chi basio'r rhaglen. Am y rheswm hwn byddwch yn cael dyraniad ariannol bach yn ôl y gofyn. Bydd manylion hyn yn cael eu darparu gan Arweinydd eich Rhaglen drwy gydol y flwyddyn academaidd.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Byddwn yn darparu unrhyw offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. prosesu geiriau), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.

Rydym yn darparu trwyddedau i fyfyrwyr ar gyfer y rhan fwyaf o'r meddalwedd efelychu arbenigol a ddefnyddiwn ar y cwrs. Fodd bynnag, ar hyn o bryd dim ond ar gyfrifiaduron gyda system weithredu Windows y gallwn warantu y bydd y rhain yn gweithio.

Yn ystod y cwrs, bydd gennych fynediad i'r Llyfrgell Bensaernïaeth arbenigol, a llyfrgelloedd eraill y Brifysgol, a mannau astudio ar draws y campws. Yn yr Ysgol, gallwch weithio yn ein stiwdios dylunio, defnyddio ein hystafelloedd cyfrifiadura a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys plotwyr fformat mawr, torrwr laser digidol, a gweithdy sydd yn helaeth ei offer.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Ar hyn o bryd mae prinder byd-eang o benseiri a gweithwyr adeiladu proffesiynol sy'n arbenigo ym maes cynllunio a dylunio mega-adeiladau sy'n perfformio'n gynaliadwy. Felly, mae galw cynyddol am raddedigion sydd wedi astudio'r math hwn o gwrs.

Fel arfer, bydd graddedigion o'r cwrs hwn yn cael gwaith mewn cwmnïau sy’n dylunio neu’n cynllunio ar raddfa fawr, ymgynghoriaethau dylunio amgylcheddol, canolfannau ymchwil a datblygu, neu gallant hyd yn oed sefydlu eu cwmnïau eu hunain.

O ystyried y diddordeb cyhoeddus, llywodraethol a phroffesiynol dwys yn y maes hwn ar hyn o bryd, nid oes amheuaeth y bydd y swyddi fydd ar gael i raddedigion sy'n arbenigo yn y maes hwn yn cynyddu ac yn dod yn fwy deniadol fyth yn y DU ac yn fyd-eang.

Sabuhi Pasha, MSc Sustainable Mega Buildings
All our modules were fascinating especially our specialist modules. I think the standard of teaching is really high. I am impressed with the quality of professors, their qualifications, backgrounds and what they bring to academic environment based on transferring knowledge to us. They are so helpful and supportive. That is why we learned details of sustainability through the Mega-Buildings. We are provided with lots of opportunities by the school such as study trip, training, contemporary facilities and meeting with famous architects within the course. I am so satisfied by taking this MSc course for my career. It is the best course in architecture that I have ever seen.
Sabuhi Pasha, MSc Sustainable Mega Buildings

Gwaith maes

During the course, we go on a range of study trips in the UK, Europe, or further afield. On these trips we will organise guided visits to buildings that demonstrate how principles taught in the programme are applied in revolutionary large-scale eco-buildings. You will also have the opportunity to meet architects and built environment professionals who collaborate with the School.

Postgraduate students on a study tour.
Students learning about urban planning on a study tour..

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Peirianneg bensaernïol, Pensaernïaeth, Cynaliadwyedd


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.