Ewch i’r prif gynnwys

Marchnata Strategol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Dewch o hyd i’ch arbenigedd ym maes marchnata byd-eang gyda’n rhaglen sydd â phwyslais ar agweddau ymarferol.

tick

Achrediad proffesiynol

Rydym yn falch o’r ffaith bod ein rhaglen yn radd sydd wedi’i hachredu gan CIM (Sefydliad Marchnata Siartredig).

star

Newid busnes er gwell

Cyfle i fynd i'r afael â her fusnes gyfoes mewn sefydliad cyhoeddus, preifat neu'r trydydd sector gyda'ch Prosiect Rheoli Marchnata byw.

people

Deall Diwydiant

Cyfleoedd i weld marchnata ar waith ar ymweliadau â chwmnïau a chan siaradwyr gwadd proffil uchel.

academic-school

Yn gyfrifol yn gymdeithasol

Fel Ysgol Fusnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf y byd, rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwelliant cymdeithasol ochr yn ochr â datblygu economaidd.

Mewn marchnad fyd-eang orlawn, wedi’i dominyddu gan ddylanwadwyr, cynnwys a heip sy’n lledaenu ar wib, mae deunydd marchnata yn suddo i waelodion ffrydiau’r cyfryngau cymdeithasol.

O’r herwydd, mae galw am weithwyr proffesiynol ym maes marchnata sydd â’r gallu i gynllunio, creu strategaeth a gweithredu ymgyrchoedd creadigol ar ran sefydliadau rhyngwladol ar draws sefydliadau a sectorau.

Newid y byd yw ein busnes ni.

Mae ein cwrs MSc Marchnata Strategol yn rhoi theori ar waith. Byddwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer gyrfa fel gweithiwr proffesiynol ym maes marchnata tra’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i weithrediadau dydd i ddydd busnes lleol.

Byddwch yn cwblhau prosiect ymgynghori tîm byw mewn sefydliadau yng Nghaerdydd neu’r ardal gyfagos. Byddwch chi’n treulio dau fis yn dysgu am eu hamgylchedd gweithredu, yn dadansoddi eu heriau busnes ac yn dylunio atebion marchnata cyn cyflwyno eich cynigion i’w bwrdd rheoli. 

Er mwyn ategu’r prosiect byw hwn, bydd ein tîm o arbenigwyr academaidd ac ymarfer yn defnyddio ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol ac enghreifftiau o’r byd go iawn i’ch cyflwyno i’r datblygiadau diweddaraf ym maes marchnata a strategaeth. Byddwch yn dysgu am y cyfryngau digidol, ymddygiad defnyddwyr a sefydliadau, cyfathrebu integredig ac ymgyrchoedd cymdeithasol, i wneud yn siŵr bod gennych chi’r wybodaeth broffesiynol, yr hyder â’r sgiliau ymarferol i sefyll allan yn y farchnad swyddi i raddedigion.

Os oes gennych dair blynedd o brofiad gwaith perthnasol, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein rhaglen MBA.

 

Achrediadau

Cardiff Business School is accredited by AACSB international - The Association to Advance Collegiate Schools of Business.

“Y prosiect marchnata oedd y rhan o’r cwrs y gwnes i ei fwynhau fwyaf. Gwnaeth fy nhîm greu cynllun marchnata ymarferol a diddorol a gafodd ei gyflwyno i’r bwrdd mewn cyflwyniad ffurfiol.”
Jack McReavie MSc Marchnata Strategol

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol fel busnes, marchnata neu reoli, i gynnwys o leiaf 60% mewn o leiaf tri modiwl marchnata (e.e. egwyddorion marchnata, cyfathrebu marchnata, ymddygiad defnyddwyr, marchnata perthynas) neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Tystiolaeth o wybodaeth sylfaenol am fathemateg, fel TGAU neu Safon Uwch neu fodiwl o astudiaeth flaenorol mewn pwnc sy'n gysylltiedig â mathemateg.
  3. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Os oes gennych dair blynedd o brofiad proffesiynol ac yn bodloni'r meini prawf a nodir uchod, efallai y bydd gennych ddiddordeb yn ein rhaglen MBA.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae dau gam academaidd i'r rhaglen, sy'n arwain at ddyfarnu Gradd Meistr. Mae'r rhaglen ar gyfer myfyrwyr amser llawn ac mae'n rhedeg am un flwyddyn galendr.

  • Mae Cam 1 yn cynnwys wyth modiwl (cyfanswm o 120 credyd).
  • Mae Cam 2 yn cynnwys Prosiect Marchnata sy’n cynnwys 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Addysgir y cwrs hwn o fis Medi i fis Mehefin a byddwch yn dilyn amrywiaeth o fodiwlau craidd.

Ar ôl cwblhau'r cyfnod a addysgir yn llwyddiannus byddwch yn mynd ymlaen i'r Prosiect Marchnata sy'n cymryd lle traethawd hir traddodiadol.

Nod y Prosiect Marchnata yw integreiddio a chymhwyso cysyniadau, sgiliau a thechnegau cyrsiau marchnata craidd yn gyfannol, yn eang ac mewn cyd-destun hunan-arweiniol er mwyn llunio a chyflwyno adroddiad prosiect marchnata cyflawn ar gyfer sefydliad yn seiliedig ar friff diffiniedig.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rheoli Marchnata StrategolBST14115 credydau
Agweddau ymddygiadol ar farchnataBST14315 credydau
Ymchwil mewn Marchnata StrategolBST14615 credydau
Cyfathrebu Marchnata IntegredigBST15015 credydau
Marchnata DigidolBST24015 credydau
Metrigau MarchnataBST24415 credydau
Marchnata a ChymdeithasBST24715 credydau
Marchnata RhyngwladolBST24815 credydau
ProsiectBST24960 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae ein dulliau addysgu’n cael eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd â pherthnasedd ymarferol. Mae ein cyfadran, sydd o fri rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil ddiweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios cyfredol, go iawn.

Byddwn yn darparu eich adnoddau addysgu a dysgu, ac yn ymateb i’ch anghenion a’ch safbwyntiau. O'ch rhan chi, bydd gofyn i chi wneud y gwaith angenrheidiol yn ystod a thu allan i’r sesiynau addysgu ffurfiol, a manteisio ar y cyfleusterau sy’n cael eu darparu.

Dulliau addysgu

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial).

Mewn darlith, bydd y darlithydd yn bennaf yn rhoi trosolwg o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl (yn ogystal â chyfleoedd i chi ofyn cwestiynau a bod yn fyfyriol). Yna mewn dosbarthiadau a gweithdai, cewch gyfle i ymarfer technegau, trafod syniadau, cymhwyso cysyniadau a chyfnerthu eich dealltwriaeth yn y pwnc.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r dulliau asesu'n amrywio o fodiwl i fodiwl ond, ar draws cynllun y radd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau unigol ac mewn grŵp.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch yn cael tiwtor personol ar ddechrau eich astudiaethau. Fel arfer, bydd eich tiwtor personol yn addysgu ar eich cwrs gradd chi a byddwch yn cadw’r un tiwtor personol drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich tiwtor personol yn gallu rhoi cyngor i chi ar faterion academaidd, gan gynnwys dewis modiwlau ac asesu. Os cewch unrhyw broblemau sy'n effeithio ar eich astudiaethau, eich tiwtor personol yw eich pwynt cyswllt cyntaf bob tro. Bydd eich tiwtor yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â’r ystod eang o wasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer myfyrwyr sy’n cael eu darparu gan y Brifysgol, ac Undeb y Myfyrwyr, fel y bo'n briodol. Bydd gofyn i chi gyfarfod â’ch tiwtor personol dair gwaith yn ystod pob blwyddyn academaidd, ond fe’ch anogir hefyd i gysylltu â’ch tiwtor personol ar unrhyw adeg arall os oes angen help neu gyngor arnoch chi.

I gael gwybodaeth gyffredinol, mae staff ein Hyb Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gael, yn bersonol, dros y ffôn neu trwy e-bost, rhwng 8am a 6pm bob dydd o'r wythnos yn ystod y tymor i ateb eich cwestiynau.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith yn rheolaidd. Cyflwynir hyn mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys adborth ar lafar, adborth personol ar waith ysgrifenedig, ac adborth ysgrifenedig cyffredinol.

Byddwch yn cael adborth cyffredinol mewn perthynas ag arholiadau ar ôl pob cyfnod arholi a byddwch yn gallu trafod eich perfformiad cyffredinol â'ch tiwtor personol.

Wrth weithio ar eich traethawd hir/prosiect, mae disgwyl i chi gyfarfod â’ch goruchwyliwr yn rheolaidd i adolygu eich cynnydd a thrafod unrhyw gwestiynau. Bydd eich goruchwyliwr yn gallu rhoi adborth i chi ar eich cynllun ymchwil ac ar ddrafftiau o’ch gwaith wrth i chi weithio arnyn nhw.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a 'sgiliau cyflogadwyedd' mwy cyffredinol. Bydd y rhain yn fodd i chi wneud y canlynol:

  • Deall pynciau cymhleth gyda hyder.
  • Gofyn y cwestiynau iawn am destunau cymhleth.
  • Cael gwerthfawrogiad llawn dychymyg o safbwyntiau a dewisiadau gwahanol a dadansoddi'r rhain yn feirniadol.
  • Adnabod a defnyddio data perthnasol.
  • Datblygu sgiliau ymchwil ymarferol.
  • Cynnig eich atebion llawn dychymyg eich hun yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cyfathrebu'n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.
  • Dod o hyd i wybodaeth rifol berthnasol, ei dehongli a'i chyflwyno; i gefnogi sail adroddiadau prosiect ac achosion busnes;
  • Gweithio yn ôl terfynau amser a blaenoriaethau, a rheoli amrywiaeth o dasgau ar yr un pryd.
  • Gweithio fel rhan o dîm, gan ddatblygu dull cydweithredol o ddatrys problemau.
  • Defnyddio rhaglenni TG a phecynnau meddalwedd safonol, lle bo hynny'n briodol
  • Cymryd cyfrifoldeb dros eich rhaglen ddysgu a’ch datblygiad proffesiynol eich hun.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £12,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £27,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.

Ar ein MSc mewn Marchnata Strategol, byddwch yn elwa ar wybodaeth ac arbenigedd ein Tîm Gwella Gyrfa. Maent yn barod ac yn aros i ganfod digwyddiadau a chyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.

Rydym wedi datblygu perthnasoedd sy’n amrywio o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i’r microfusnesau lleiaf, a’r rhai hynny’n cynnwys amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Rydym yn defnyddio’r rhwydweithiau hyn i sicrhau gwerth i’n myfyrwyr, a hynny trwy sicrhau a threfnu’r canlynol:

  • interniaethau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
  • cydweithrediad â’n Hentrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl
  • darlithoedd gwadd
  • tripiau maes a gweithdai.

Bydd y profiad amrywiol ac eang hwn yn helpu i hyrwyddo eich gyrfa ac yn dangos sut y gallwch wneud gwahaniaeth ar y daith.

Nod yr MSc hwn yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa ym maes marchnata yn y DU neu dramor mewn diwydiant, masnach neu'r sector cyhoeddus, neu fynd ar drywydd ymchwil pellach ar gyfer PhD.

Mae graddedigion o'r cwrs hwn wedi mynd ymlaen i yrfaoedd mewn marchnata digidol, marchnata twristiaeth, hysbysebu, marchnata datblygu cynnyrch, rheoli perthynas cwsmeriaid, ac ati.

Portrait of young man in suit
“Y peth gwych am fod yn Rheolwr Cleient yn Gartner yw nad oes unrhyw ddyddiau cyffredin. Gallai fod gen i weithdy cleient neu gyflwyniad, sesiwn ateb mewnol, ymchwil, treulio amser ar amcanion cleient ar gyfer digwyddiad, neu nifer o weithgareddau eraill. Mae astudio yng Nghaerdydd wedi datblygu fy sgiliau meddwl beirniadol, datrys problemau a sgiliau cyflwyno, ac mae pob un ohonynt yn ddefnyddiol bob dydd.”
Giacomo Corsini Rheolwr Cleient yn Gartner

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Busnes, Marchnata


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.