Ewch i’r prif gynnwys

Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff (MSc)

  • Hyd: Tair blynedd
  • Dull astudio: Rhan amser

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Study a postgraduate degree at Cardiff University, School of Healthcare Sciences and be part of something life-changing.

Fel ymarferydd sy'n chwilio am gymhwyster arbenigol mewn ffisiotherapi chwaraeon, bydd yr MSc hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich gwybodaeth am wyddor chwaraeon ac anafiadau, yn ogystal â'ch sgiliau meddwl yn feirniadol, er mwyn datblygu eich gyrfa o fewn eich proffesiwn arbenigol.

Cynlluniwyd ein rhaglen Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff (ACPSEM) a sefydliadau rhyngwladol fel Ffederasiwn Rhyngwladol Ffisiotherapyddion Chwaraeon (IFSP).

Mae ein rhaglen sefydledig yn addas ar gyfer ffisiotherapyddion cymwysedig, o bob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol, sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o sectorau sy'n golygu rheoli pobl ag anafiadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon neu ymarfer corff. Mae angen o leiaf dwy flynedd o brofiad ffisiotherapi clinigol, boed hyn yn brofiad mewn chwaraeon ar lefel perfformiad uchel neu mewn clinig ffisiotherapi.

Cynlluniwyd ein rhaglen Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff (ACPSEM) a sefydliadau rhyngwladol fel Ffederasiwn Rhyngwladol Ffisiotherapyddion Chwaraeon (IFSP).

Mae ein rhaglen sefydledig yn addas ar gyfer ffisiotherapyddion cymwysedig, o bob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol, sy’n gweithio mewn amrywiaeth eang o sectorau sy'n golygu rheoli pobl ag anafiadau sy'n gysylltiedig â chwaraeon neu ymarfer corff. Mae angen o leiaf dwy flynedd o brofiad ffisiotherapi clinigol, boed hyn yn brofiad mewn chwaraeon ar lefel perfformiad uchel neu mewn clinig ffisiotherapi.

Mae'n rhoi'r cyfle i chi fynd â'ch dysgu i'r lefel nesaf, gan wella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth er mwyn herio a gwerthuso'n feirniadol eich ymarfer proffesiynol eich hun a meysydd ehangach mewn ffisiotherapi chwaraeon fel gwella gwasanaethau a gofal cleifion. Bydd hyn yn helpu i lywio'r ffordd rydych yn ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn eich helpu i lywio gofal iechyd ffisiotherapi chwaraeon ac ymarfer corff yn eich gwlad.

Mae ein modiwlau'n cwmpasu ystod eang o gymwyseddau ffisiotherapi chwaraeon ac ymarfer corff, fel y nodir gan Ffederasiwn Rhyngwladol Therapi Corfforol Chwaraeon i gynnwys Cyfranogiad Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Rheolaeth Ryngddisgyblaethol ac Atal Anafiadau.

Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol sy’n arbenigwyr yn eu meysydd yn cefnogi eich dysgu. Gallwch edrych ymlaen at weithio gyda’n tîm hynod brofiadol sydd, rhyngddynt, wedi gweithio o fewn ystod drawiadol o gyd-destunau, fel Gemau aml-chwaraeon mawr a chwaraeon proffesiynol ar lefel ryngwladol. Hefyd, caiff tiwtor personol ei ddyrannu i chi, fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau.

Gall eich addysgu ddigwydd yn ein labordai ffisiotherapi a'n hystafelloedd efelychu sydd wedi'u cynllunio'n arbennig. Mae ein Hysgol yn elwa ar ystod o offer fel melin draed gwrth-ddisgyrchiant a chanolfan recordio symudiadau sy'n defnyddio technegau i ddadansoddi symudiadau pobl y gellid eu defnyddio i gefnogi eich dysgu.

Hefyd, byddwch yn rhan o garfan ffisiotherapi ehangach lle byddwch yn elwa o ddysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol o fyfyrwyr byd-eang sy'n astudio ar wahanol gamau yn eu gyrfa. Rhannu gwybodaeth a magu dealltwriaeth o ymarfer ffisiotherapi chwaraeon ac ymarfer corff ar draws y byd.

Yn fwy na dim arall, rydyn ni’n ymdrechu i wneud yn siŵr eich bod chi’n barod ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch wedi cyflawni gofynion theori Lefel Aur Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff ac yn gweithio ar lefel meistr yn eich maes ac yn dylanwadu ar ofal iechyd yng Nghymru a’r tu hwnt.

Byddwch yn rhan o rywbeth sy'n newid bywydau ac ewch ati i ymgymryd â her newydd heddiw.

Nodweddion unigryw

Join a School that is ranked 4th overall in the UK for Research assessed by REF (2014). Here are some of the key features of why we think our programme is the right choice for you:

Designed in collaboration with the Association of Chartered Physiotherapists in Sports and Exercise Medicine (ACPSEM) and international organisations such as the International federation of Sports Physiotherapists (IFSP).

The opportunity to work amongst a highly experienced team who between them have worked in an impressive range of contexts, such as major multi-sport Games and professional sports at international level.

Our modules cover a wide range of sport and exercise physiotherapy competencies, as identified by the International Federation of Sports Physical Therapy.

You will be designated a personal tutor who will support you throughout your studies.

Learn in an environment with specially designed physiotherapy labs and simulation suites.

Benefit from a range of high-tech physiotherapy equipment to enhance your learning.

You will benefit from learning alongside a diverse group who are studying at various points in their career.

The opportunity to become a student representative and shape future educational provision.

All of our teaching sessions are captured on recording and made available online* for you to review and revisit your learning. (*where appropriate to do so)

If your first language is not English, there are open access English Language courses available to you.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif cymhwyster a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd neu ddiploma mewn ffisiotherapi, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Cyfeiriad gan eich cyflogwr neu gydweithiwr sy'n cadarnhau bod gennych 2 flynedd o brofiad clinigol cyfwerth ag amser llawn.
  4. Datganiad personol y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r pwyntiau canlynol:
  • Pam ydych chi wedi dewis y rhaglen hon?
  • Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen?
  • Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl.
  • Sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa.
  • Sut y byddwch chi a'ch proffesiwn yn elwa o'ch astudiaethau.
  • Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau yn cau ddiwedd mis Gorffennaf ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, gan gynnwys asesiad o addasrwydd drwy'r datganiad personol, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid oes angen DBS i gael mynediad i'r rhaglen, ond os oes angen i ddysgu drwy brofiad fel rhan o fodiwl dewisol gael ei gynnal o'ch gweithle arferol, efallai y gofynnir i chi ddarparu copi o'ch tystysgrif DBS bresennol.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen MSc Ffisiotherapi Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn fodiwlaidd, gyda phum modiwl craidd a addysgir a thraethawd hir. Byddwch yn gwneud y modiwlau a addysgir dros ddwy flynedd academaidd, gan ennill 120 credyd, a gallwch adael gyda diploma ôl-raddedig. Yna mae’r modiwl traethawd hir (60 credyd) yn arwain at MSc (cyfanswm o 180 credyd).

Mae'r tri modiwl yn benodol i Ffisiotherapi Chwaraeon ac mae yna hefyd un modiwl ymchwil generig craidd. Cyflwynir y modiwlau ar ffurf bloc, ac mae'n ofynnol i fyfyrwyr fynychu'r Brifysgol ar gyfer blociau dau i dri diwrnod yn ystod y flwyddyn.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Ym Mlwyddyn 1 byddwch yn cwblhau 60 credyd yn elfen a addysgir y rhaglen.

Blwyddyn dau

Ym mlwyddyn 2 byddwch yn cwblhau dau fodiwl craidd (30 credyd) sy'n cyfateb i 60 credyd yn elfen a addysgir y rhaglen.

Blwyddyn tri

Ym Mlwyddyn 3 byddwch yn cwblhau eich Traethawd Hir (60 Credyd).

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Traethawd hir empirigHCT11760 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o’r canlynol:

Darlithoedd

Tiwtorialau

Trafodaethau grŵp

Sesiynau ymarferol.

Bydd yr holl gynnwys yn cael ei gefnogi gan ddeunydd ar-lein drwy'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir, Dysgu Canolog, i hwyluso astudio’n annibynnol, sy'n arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sy'n byw ac yn gweithio i ffwrdd o Gaerdydd. Mae astudio’n annibynnol yn cyfrannu at tua 75% o'r oriau dysgu tybiannol.

Yn ystod cam traethawd hir yr MSc, mae'n ofynnol i chi hefyd ymgymryd â phrosiect ymchwil sy'n cynnwys casglu data.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o asesiadau ysgrifenedig a chyflwyniad llafar.

Mae hyn yn eich galluogi i ddangos eich gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfa ond hefyd i ddefnyddio amrywiaeth o ffyrdd i gyflwyno eich syniadau a'ch galluoedd. Y traethawd hir yw penllanw datblygu’r holl sgiliau hyn.

Adborth

Byddwn yn rhoi adborth i chi ar eich gwaith mewn amrywiol ffyrdd. ; Bydd y rhain yn cynnwys adborth llafar yn ystod darlithoedd, adborth ysgrifenedig a ddarperir drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein, ac adborth electronig ar waith cwrs a asesir drwy GradeMark. ; Gallwch drafod eich perfformiad cyffredinol â'ch tiwtor personol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae'r broses hon o rannu syniadau yn eich galluogi i ddysgu ac elwa ar brofiadau eraill. Rhoddir cyfle i gynnal trafodaethau o’r fath a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.

Byddwch yn cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, a all helpu gydag unrhyw ofal bugeiliol yn ogystal â rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu, gramadeg a mentora academaidd.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma byddwch chi'n dod o hyd i ddeunyddiau’r cwrs, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau. Caiff y rhan fwyaf o ddarlithoedd eu recordio drwy Panopto ac maen nhw ar gael i chi drwy gydol eich rhaglen.

Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.

Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau.

Dyma rai o’r nodweddion:

  • Mapiau o’r campws
  • Adnewyddu llyfrau, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
  • Amserlen myfyrwyr
  • Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
  • Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
  • Newyddion myfyrwyr
  • Derbyn hysbysiadau pwysig
  • Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer ebost) a Blackboard (ar gyfer Dysgu Canolog).
  • Dolenni i apiau a argymhellir fel Nextbike, i helpu i wneud y mwyaf o’ch profiad fel myfyriwr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon yn disgrifio beth fyddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y rhain yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r canlynol:

Datblygu agwedd gyfannol at adsefydlu mabolgampwr neu unigolyn iach actif sydd wedi’i anafu a gallu cyfathrebu â gweithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud ag iechyd a chwaraeon i hybu ymwybyddiaeth o reoli ac atal anafiadau.

Sgiliau Deallusol:

Gwerthuso ymarfer ac arfarnu datblygiadau neu newidiadau mewn ymarfer proffesiynol yn feirniadol.

Cyflwyno newid ac arwain y gwaith o reoli newid a hyrwyddo'r proffesiwn yn yr amgylchedd chwaraeon ac ymarfer corff drwy ymchwil.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ymarfer eich proffesiwn gan ddefnyddio dull dadansoddi a datrys problemau a dangos sgiliau uwch wrth reoli anafiadau mewn chwaraeon ac ymarfer corff

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Datblygu safonau ymarfer yn seiliedig ar feddwl myfyriol a datrys problemau.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Gan fod y rhaglen hon yn dair blynedd neu'n hŷn ac mae ganddi gymhwyster cyfwerth ag amser llawn blwyddyn, ni fyddwch yn gymwys i gael benthyciad ôl-raddedig. Mae gan Lywodraeth y DU fwy o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer benthyciadau ôl-raddedig.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Caiff ffioedd eu hanfonebu fesul modiwl. Fel arfer, caiff anfonebau eu rhyddhau yn fuan ar ôl cofrestru ar gyfer yr holl fodiwlau y byddwch yn eu hastudio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau ffioedd dysgu.

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Nid yw'r cwrs hwn yn derbyn myfyrwyr o du allan i'r DU/UE ar hyn o bryd.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein cwrs wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu tuag at lefel safon Aur Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff (ACPSM), gan ddefnyddio cymwyseddau a ddiffinnir gan Ffederasiwn Rhyngwladol Ffisiotherapyddion Chwaraeon (IFSP).

Bydd y wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau y byddwch yn eu datblygu yn ystod eich MSc yn darparu'r sylfaen ddelfrydol ar gyfer adeiladu eich gyrfa mewn ffisiotherapi chwaraeon ac ymarfer corff.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Ffisiotherapi, Chwaraeon ac ymarfer corff


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.