Ewch i’r prif gynnwys

Cadwraeth Broffesiynol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Byddwch yn dysgu sut i feddwl yn feirniadol a datrys problemau ym maes cadwraeth a’r gwyddorau treftadaeth a’r broses o ddylunio, gweithredu a chyflwyno ymchwil wyddonol fanwl.

tick

Pwyslais ar ddatrys problemau

Wedi’i lunio ar gyfer cadwraethwyr a graddedigion gwyddoniaeth.

rosette

Dan arweiniad ymchwil

Byddwch yn llunio, yn gwneud ac yn cyflwyno ymchwil ym maes gwyddoniaeth cadwraeth.

structure

Yr hyblygrwydd i arbenigo

Gallwch arbenigo mewn meysydd sydd o ddiddordeb gwirioneddol ichi a'ch uchelgais proffesiynol.

building

Labordai pwrpasol

Ystafell gadwraeth bwrpasol, sydd wedi'i gwella'n ddiweddar yn dilyn gwaith uwchraddio gwerth £250,000.

Mae’r rhaglen un flwyddyn hon, a addysgir gan ymchwilwyr sy’n cael eu parchu’n rhyngwladol, wedi’i dylunio i ddiwallu anghenion cadwraethwyr a graddedigion gwyddoniaeth sy’n dymuno ehangu i faes cyffrous gwyddorau treftadaeth a chadwraeth. Gyda ffocws ar brosesau meddwl yn hytrach na gwybodaeth, ein nod yw creu datryswyr problemau a meddylwyr beirniadol sy’n gallu dylunio a gweithredu ymchwil gadarn sy’n gwella dealltwriaeth yn y sector.

Dros y flwyddyn astudio, cewch eich trwytho yn theori ac ymarfer maes cadwraeth a’r gwyddorau treftadaeth. Byddwch yn astudio modiwlau sy’n herio eich rhagdybiaethau am gadwraeth ac archwilio’r llenyddiaeth sy’n sail i’n proffesiwn ochr yn ochr â modiwlau sy’n canolbwyntio ar gaffael sgiliau wrth ymchwilio a dadansoddi arteffactau treftadaeth. Bydd hyn yn arwain at ymchwil traethawd hir annibynnol sy’n dangos eich dealltwriaeth o broses wyddonol a’ch gallu i greu setiau data newydd.

Wrth weithio ar eich astudiaethau yn ein cyfres o labordai pwrpasol, bydd gennych fynediad at gyfoeth o offer arbenigol. Mae adnoddau mewnol yn amrywio o ficrosgopeg sganio electronau, Fourier trawsnewid isgoch a sbectrosgopegau ramau i electrogemeg, sbectroffometreg a radiograffeg X. Mae ein gwaith ar y cyd ag Amgueddfa Cymru yn galluogi myfyrwyr i gael mynediad at ddiffreithiant pelydr X a thechnegau fflwroleuol pelydr X. Rydym hefyd yn cynnig technolegau delweddu arbenigol megis microsgopeg digidol, GIS, darlunio digidol ac ystafell ffotograffiaeth bwrpasol, yn ogystal ag offer paratoi sampl (sychwyr rhewi, sgriffiadau ag aer a ‘microbalances’). Mae gennym labordy efelychu hinsawdd pwrpasol ar gyfer modelu effaith amgylcheddau ar dreftadaeth a deunyddiau cadwraeth.

Mae ein myfyrwyr MSc yn ymuno ag amgylchedd ymchwil ac addysgu bywiog a chefnogol o israddedigion, ôl-raddedigion a chadwraethwyr doethurol a gwyddonwyr treftadaeth.

Wrth ddathlu canmlwyddiant Archaeoleg a Chadwraeth yn 2020, rydym ymhlith y 150 gorau yn y byd (Rhestr QS o Brifysgolion Gorau’r Byd yn ôl Pwnc 2020) gyda’n hymchwil yn y 12fed safle yn y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014).

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd

Rydym yn chwilfrydig am brofiadau bodau dynol dros filoedd o flynyddoedd a diwylliannau, ac eisiau deall ein gorffennol yn well er mwyn goleuo ein presennol a gwella ein dyfodol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4929
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc gwyddoniaeth perthnasol megis gwyddor archeolegol, cadwraeth, ffiseg, cemeg neu wyddorau eraill, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad/astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen ran-amser, a addysgir dros bedwar semester (dwy flynedd). Ar ôl cwblhau'r elfen a addysgir yn llwyddiannus byddwch yn symud ymlaen i'ch traethawd hir yn y drydedd flwyddyn.

Yn yr elfen a addysgir byddwch yn astudio modiwlau craidd sy'n dod i gyfanswm o 80 credyd ac yn dewis modiwlau dewisol gwerth 40 credyd. Ar ôl cwblhau elfen a addysgir y radd yn llwyddiannus, byddwch yn gweithio ar draethawd hir (20,000 o eiriau).

Gan fod nifer o’n rhaglenni ôl-raddedig rhan-amser yn rhedeg dros dair blynedd, bydd angen i chi wirio a ydych yn gymwys i gael benthyciad i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Rydyn ni’n addysgu drwy ddarlithoedd, seminarau, trafodaeth grŵp, tiwtorialau, dosbarthiadau labordy, arddangosiadau a theithiau maes.

Rydyn ni’n canolbwyntio ar ryngweithio â staff a chymryd rhan mewn ymarfer labordy. Nod hyn yw datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth feirniadol sydd eu hangen i gynhyrchu a gweithredu dyluniadau ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth. a'u rhoi ar waith

Mae'r traethawd hir yn rhan bwysig o'r rhaglen, yn ogystal â'r gwaith dadansoddi a dehongli data sy’n cyd-fynd ag ymarfer labordy.

Sut y caf fy asesu?

Asesir y rhaglen drwy amrywiaeth eang o ddulliau asesu gan gynnwys traethodau, adroddiadau, gwerthusiad ysgrifenedig, dehongli data, cyflwyniad llafar, dylunio ymchwil, a thraethawd hir.

Mae'r amrywiaeth hwn o ddulliau asesu yn sicrhau eich bod wedi datblygu ystod eang o sgiliau, gwybodaeth a dulliau cyfathrebu sy'n uniongyrchol berthnasol i waith dylunio, cyflwyno ac adrodd yr ymchwil, gan fod yn berthnasol mewn llawer o gyd-destunau eraill hefyd.

Ar ôl cwblhau elfennau a addysgir y rhaglen yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at draethawd hir, hyd at 20,000 o eiriau. Mae'r flwyddyn hon o astudio hunanreoledig yn ddelfrydol er mwyn eich paratoi i symud ymlaen i’r PhD.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd gennych fynediad at ystod eang o offer dadansoddol mewnol a chyfleusterau labordy i gefnogi eich ymchwil gan gynnwys:

  • SEM Dadansoddol
  • XRF Cludadwy
  • FTIR gyda microsgop ynghlwm
  • Sbectrosgopeg Raman Cludadwy
  • EIS
  • X-radiograffeg
  • Siambrau hinsoddol
  • Microsgobeg ddigidol
  • Laser NdYag
  • Cyfleusterau ffotograffig digidol
  • Labordai cadwraeth gwrthrychau
  • Labordy deunyddiau llawn dŵr
  • Ystafell microsgobeg ddigidol
  • Ystafell cyfrifiaduron

Ar ôl cofrestru, caiff Tiwtor Personol ei neilltuo i chi a byddwch yn cael adnoddau addysgu a dysgu, gan gynnwys Llawlyfr i Ôl-raddedigion. Mae adnoddau ychwanegol sy’n benodol i’r modiwlau ar gael yn ystod y rhaglen.

Rydyn ni’n cynnig amser un-i-un yn ystod oriau swyddfa penodol yn ystod wythnosau addysgu, ac mae croeso i chi gysylltu dros ebost hefyd. Yn ogystal, gallwch wneud apwyntiadau i weld eich tiwtor personol ar sail un-i-un i drafod unrhyw fater. Mae ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol hefyd ar gael i gynnig cyngor a chymorth.

Adborth

Mae adborth yn cael ei roi ar waith cwrs drwy sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir a thrafodaeth unigol mewn tiwtorialau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn datblygu amrywiaeth eang o sgiliau, gan gynnwys y gallu i wneud y canlynol:

  • Datrys problemau
  • Gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy ddarllen, arsylwi ac arbrofi
  • Dylunio arbrofion i gefnogi nodau cadwraeth
  • Gwerthuso, dehongli a rhoi data dadansoddol mewn cyd-destun
  • Deall pwysigrwydd samplu a dylunio samplau mewn gwyddorau cadwraeth
  • Mynd ati i integreiddio data arbrofol i gyd-destunau cadwraeth mewn ffordd bragmataidd
  • Gweithredu technegau dadansoddi a ddewisir gydag offer
  • Cydnabod ymchwil sy’n dda ac yn ddrwg
  • Nodi a diffinio effaith ymchwil ym maes cadwraeth
  • Rheoli prosiectau gwyddonol bach
  • Deall egwyddorion a deinameg rheoli timau bach
  • Cynhyrchu a mynd i'r afael â briffiau dylunio ar gyfer cadwraeth
  • Cyfathrebu ar lafar ag arbenigwyr a rhai nad ydyn nhw’n arbenigwyr
  • Ysgrifennu mewn arddull sy’n addas i anghenion y darllenwyr
  • Dylanwadu ar safbwynt pobl eraill gyda dadl seiliedig ar dystiolaeth
  • Gwerthuso eich penderfyniadau eich hun a derbyn gwerthusiad ffurfiannol gan gydweithwyr
  • Tynnu problemau yn ddarnau ac adeiladu atebion ar eu cyfer

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Nodi safonau proffesiynol a darparu gwaith sy’n bodloni’r safonau hyn
  • Cydnabod ansawdd
  • Gosod safonau
  • Cyfathrebu’n effeithiol â chyd-weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd
  • Rheoli amser a strwythuro llwyth gwaith

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £25,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Ni fydd angen unrhyw offer penodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae llawer o raddedigion y rhaglen hon wedi mynd ati i ddilyn gyrfaoedd ym maes cadwraeth yn y sector treftadaeth, tra bod eraill wedi dewis parhau â’u hastudiaethau ar lefel PhD.

Mae graddedigion diweddar wedi mynd yn eu blaenau i weithio i sefydliadau yn y DU gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Archifau Cenedlaethol, yr Amgueddfa Rhyfel Imperialaidd, Swyddfa Cofnodion Caerfaddon, MSDS Morol yn ogystal â sefydliadau rhyngwladol gan gynnwys Amgueddfa Peabody Yale, Amgueddfa Penn, St Mary’s City Maryland, Llyfrgell UCLA, Colonial Williamsburg a Llyfrgell y Gyngres.

Roedd 91% o raddedigion yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis i raddio (DLHE 2016/17).

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: History and ancient history, Archaeology


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.