Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Cynllunio (PgCert)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Rhan amser

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Video containing details on Postgraduate Certificate in Planning Practice. School of Geography and Planning.

Mae'n caniatáu i fyfyrwyr sydd â gradd Meistr arbenigol mewn cynllunio i ychwanegu at eu gwybodaeth gynllunio ac ennill aelodaeth broffesiynol o'r RTPI.

briefcase

Cydnabyddiaeth broffesiynol

Mae'n caniatáu i'r rhai sydd â gradd Meistr arbenigol mewn cynllunio, ychwanegu at eu gwybodaeth gynllunio a dod yn aelod o’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol.

structure

Astudio hyblyg

Wedi'i addysgu dros un neu ddau ddiwrnod yr wythnos. Byddwch yn gallu gweithio, ond byddwch hefyd yn ennill cymhwyster a all ddarparu mynediad i broffesiwn cynllunio'r DU.

notepad

Gweithio ar brosiect byw

Cyfle i nodi problem gynllunio sylweddol, gyda chleient (awdurdod neu asiantaeth gynllunio), a llunio adroddiad ynghyd ag argymhellion.

tick

Cymuned ddysgu amrywiol

Byddwch yn dysgu ochr yn ochr â phobl eraill sy'n gwneud gradd 'trosi' broffesiynol, a byddwch yn derbyn cymorth arbennig i'ch helpu i reoli eich gwaith.

Os oes gennych radd meistr arbenigol eisoes, bydd ein rhaglen Ymarfer Cynllunio Tyst. Ôl-radd. ran-amser yn rhoi'r cyfle i chi ychwanegu at eich sgiliau a'ch gwybodaeth gynllunio, gan fodloni'r gofynion addysgol ar gyfer cael bod yn aelod proffesiynol o'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).

Byddwch yn cael eich addysgu ochr yn ochr ag eraill sy'n cymryd gradd 'trosi' broffesiynol ac yn cael cymorth ac arweiniad pwrpasol i'ch helpu i reoli eich gwaith a chael y canlyniadau gorau posibl. Byddwch yn astudio theori ac ymarfer yn ystod y rhaglen, ac yn cael cyfle i adolygu ac asesu polisïau a strategaethau cynllunio cyfredol yn feirniadol cyn gwneud prosiect ymarferol lle byddwch yn nodi atebion i fater cynllunio gwirioneddol. Mae'r prosiect hwn yn gyfle gwych i gymhwyso’r hyn rydych wedi’i ddysgu a defnyddio'ch sgiliau diffinio problemau a datrys problemau; defnyddio, a datblygu, gwybodaeth am weithdrefnau ac arferion mewn pwnc cynllunio gwirioneddol; adlewyrchu’n briodol ar werthoedd a materion sy’n ymwneud â moeseg; a, gwerthfawrogi'r cyd-destun gweithredol y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno oddi mewn iddo.

Drwy gydol y rhaglen, rydyn ni hefyd yn sicrhau bod cyfleoedd i ystyried a myfyrio ar y math o ymarferydd rydych chi neu y byddwch chi, gan ddatblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o'ch cryfderau a'ch ymddygiadau craidd.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi ennill cymhwyster meistr arbenigol wedi'i achredu gan RTPI. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen yn cynnwys 90 credyd, a enillir drwy gwblhau pedwar modiwl ugain credyd ac un modiwl deg credyd. Mae pob modiwl yn orfodol.

Gellir cwblhau'r cwrs mewn wyth mis gyda phum modiwl, sy'n cynnwys 90 credyd i gyd, dros ddau semester, neu dros dair blynedd wrth gymryd un modiwl y flwyddyn, am ddiwrnod yr wythnos, neu gyfuniad canolradd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cynllunio Safle, Dylunio a DatblyguCPT80520 credydau
Prosiect BywCPT83120 credydau
Cynllunio ac Eiddo TiriogCPT85720 credydau
Yr Ymarferydd MyfyriolCPT89510 credydau
Ymarfer Cynllunio Beirniadol ac YmchwilCPT92320 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae amrywiaeth o ddulliau addysgu yn cael eu defnyddio. Mae pwyslais ar fyfyrwyr ac athrawon yn rhyngweithio.

Sut y caf fy asesu?

Mae’r asesiad crynodol ar sail gwaith cwrs. Bydd amrywiaeth o dasgau’n cael eu hasesu, gan gynnwys adroddiadau, cyflwyniadau a phosteri. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith a asesir yn waith unigol; mae rhywfaint yn waith grŵp.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd gennych fynediad at amrywiaeth o gyfleusterau ac adnoddau, gan gynnwys:

  • Labordy 40 cyfrifiadur pwrpasol gyda pherifferolion o safon uchel gan gynnwys; argraffu laser ar gyfrif rhwydwaith, argraffu lliw fformat mawr, argraffu lliw maint A4.
  • Cyfleusterau GIS/gweithfan/mynediad at gyfleuster mapio digidol digimap Edina.
  • Labordy 30 cyfrifiadur mynediad agored ychwanegol yn Adeilad Morgannwg.
  • Llyfrgell ragorol ar gyfer y maes Cynllunio, sy’n cynnwys tua 12,000 o lyfrau, 280 o gyfnodolion, a gwariant sylweddol ar stoc bob blwyddyn.
  • Mynediad at gronfeydd data rhyngwladol ar-lein/cyfleusterau llyfrgelloedd cyfrifiadurol.
  • Mynediad at gyfleusterau adnoddau Dyslecsia.
  • Gallu defnyddio Dysgu Canolog ym mhob modiwl i gael gwybodaeth am fodiwlau ac adnoddau dysgu.

Byddwch yn cael cyfarfodydd rheolaidd â'ch tiwtor personol penodol i adolygu eich cynnydd.

Bydd cymorth iaith Saesneg ar gael os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf.

Bydd cymorth ar gael hefyd os ydych yn gweithio/cael eich asesu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn cefnogi datblygiad eich sgiliau proffesiynol yn ystod yr wythnos ymsefydlu drwy ddarparu hyfforddiant ar ddefnyddio cyfrifiaduron a sgiliau cyflwyno.

Adborth

Mae adborth yn cael ei ddarparu'n anffurfiol bob wythnos mewn dosbarthiadau, mewn cyfarfodydd rheolaidd â thiwtoriaid personol, ac yn fwy ffurfiol ar waith a asesir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn gallu:

  • Datblygu dealltwriaeth systematig a beirniadol o egwyddorion, polisi ac ymarfer cynllunio gofodol, a deall pwysigrwydd cyd-destunau gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol cenedlaethol/rhanbarthol wrth lunio cyfundrefnau cynllunio penodol.
  • Cael dealltwriaeth gysyniadol sy'n eich galluogi i werthuso a chyfrannu'n feirniadol at ddadleuon ynghylch gwerth, a datblygu technegau/methodolegau wrth astudio ac ymarfer cynllunio.
  • Datblygu amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd anrhagweladwy a chymhleth, a chael eich annog i archwilio eich creadigrwydd eich hun.
  • Gwerthfawrogi pwysigrwydd myfyrio'n systematig ar eich ymarfer eich hun ac ar ymarfer pobl eraill, a'r angen i ddatblygu’n broffesiynol yn barhaus a dysgu gydol oes.
  • Datblygu dealltwriaeth o rôl polisi wrth gynllunio a rôl cyfraith cynllunio.
  • Datblygu sgiliau rhwydweithio drwy gwrdd â gweithwyr proffesiynol ac ymgysylltu â'r sefydliad proffesiynol.

Mae sgiliau trosglwyddadwy eraill a ddatblygir yn cynnwys ysgrifennu adroddiadau, rheoli amser, sgiliau cyflwyno, a sgiliau dadansoddi.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,350 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,725 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae cwblhau'r cwrs hwn yn bodloni gofynion addysgol proffesiynol cychwynnol y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol ac yn agor y drws i gael eich ystyried ar gyfer pob swydd cynllunio prif ffrwd yn y sector cyhoeddus a phreifat yn y DU (ar lefel briodol yn dibynnu ar brofiad).

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Geography and planning


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.