Ewch i’r prif gynnwys

Ffiseg (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Studying at the Cardiff University School of Physics and Astronomy

Mae'r pynciau a addysgir yn adlewyrchu ein harbenigedd ymchwil mewn Ffiseg Cwantwm, Ffotoneg, dadansoddiad Damcaniaethol a Chyfrifiadurol, Synwyryddion a Deunyddiau yn ogystal ag Astroffiseg.

Mae ein gradd MSc mewn Ffiseg yn radd amser llawn sy’n ceisio rhoi hyfforddiant cynhwysfawr mewn sgiliau cyffredinol, trosglwyddadwy ac arbenigol, a phrofiad ymarferol. Ar y cwrs, byddwch yn ymdrin â ffiseg ddamcaniaethol ac arbrofol, ynghyd â meysydd cymhwysol uwch. Rydyn ni’n eich annog i ddatblygu ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau ymchwil cyfredol a dealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad ym maes ffiseg. Byddwn hefyd yn trafod cyd-destun y ffisegydd modern a materion diogelwch, moesegol, amgylcheddol a chymdeithasol mewn amgylchedd gwaith.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylech feddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau fydd arnoch eu hangen i ddilyn gyrfa ym meysydd ymchwil academaidd, gwyddoniaeth ffisegol, ymarfer diwydiannol, ymchwil a datblygu, neu yrfaoedd medrus eraill sy’n ymwneud â rhifau.

Nodweddion unigryw

The MSc programme is both research-lead and research-informed:

  • Taught modules delivered by world-class researchers.
  • Experimental and theoretical summer research projects based either at our excellent research facilities or in placement with one of our industrial partners.
  • Innovative course design with dedicated teaching and learning support delivered by our specialist Teaching and Scholarship team.
  • The option to tailor the course to your interests with our broad range of optional modules.
During this year, I learnt some very valuable skills that I had never been taught during my master’s studies in France, such as how to apply for a grant, how to peer-review a paper and how to write a literature review. These skills are essentials for pursuing a PhD and later on when doing research.
Cassandre Laporte MSc Physics 2015/16

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth

Mae ein rhaglenni gradd wedi’u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg yn cynnwys meysydd arbenigol sy’n adlewyrchu ein diddordebau ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 208 74458
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.


Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn maes pwnc perthnasol megis seryddiaeth, astroffiseg, cyfrifiadureg, peirianneg, mathemateg, ffiseg, neu wyddoniaeth ffisegol gysylltiedig, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.


Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Cynllun Cymeradwyaeth Technoleg Academaidd (ATAS)

Bydd angen i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n defnyddio unrhyw fath o visa gael cliriad ATAS i astudio'r cwrs hwn.

Strwythur y cwrs

Mae dau gam i’r rhaglen hon. Mae'r cam cyntaf yn cynnwys modiwlau craidd a dewisol a addysgir sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd. Rhennir y rhain ar draws semester yr hydref a semester y gwanwyn ym mlwyddyn un.

Ar ôl i chi basio'r cam cyntaf yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i ail gam y rhaglen, sef prosiect traethawd hir (60 credyd). Byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil 4 mis, naill ai gydag un o'r grwpiau ymchwil yn ein Hysgolion neu'n allanol ar leoliad gydag un o'n partneriaid diwydiannol. Yna byddwch yn cwblhau traethawd hir yn amlinellu eich ymchwil. Dylid cyflawni’r traethawd hir yn annibynnol o dan oruchwyliaeth aelod priodol o staff academaidd sydd â diddordebau ymchwil yn eich maes dewisol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn ymgymryd â'r holl fodiwlau craidd a dewisol a addysgir yn nhymor yr hydref a'r gwanwyn. Byddwch hefyd yn cwblhau prosiect ymchwil haf 4 mis o hyd a fydd yn cael ei asesu drwy draethawd hir.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Rhaglennu LabVIEW ar gyfer FfisegwyrPXT10410 credydau
Ffiseg Mater CyddwysedigPXT11110 credydau
Ffiseg GyfrifiadurolPXT11210 credydau
Masnacheiddio ArloesiPXT11310 credydau
Ffiseg DdamcaniaetholPXT11410 credydau
Mecaneg YstadegolPXT11510 credydau
Ffiseg AmgylcheddolPXT11610 credydau
Moleciwlau Mawr a BywydPXT12110 credydau
Dadansoddi DataPXT12510 credydau
Dyfeisiau Lled-ddargludyddion Dimensiwn IselPXT12610 credydau
Opteg Cwantwm ModernPXT12710 credydau
Ffiseg a RealitiPXT12810 credydau
Cyfathrebu GwyddoniaethPXT13710 credydau
Ffiseg Gronynnau UwchPXT14010 credydau
Offeryniaeth ar gyfer SeryddiaethPXT22210 credydau
Theori Cwantwm o SolidauPXT23020 credydau
Disgyrchiant Arbrofol IPXT90110 credydau
Disgyrchiant Arbrofol IIPXT90210 credydau
Astroffiseg tonnau disgyrcholPXT90310 credydau
Perthnasedd rhifiadol a modelu waveformPXT90410 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Research worker in optics lab
Research worker in optics lab..

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Yng Nghaerdydd rydyn ni’n darparu cyfleusterau addysgu pwrpasol ar gyfer gradd meistr a addysgir, gan gynnwys labordy addysgu pwrpasol, ystafelloedd seminar a chyfarfod a man astudio tawel. Darperir cyfrifiaduron i garfan y radd meistr a addysgir eu defnyddio’n unig.

Mae ein rhaglenni MSc wedi'u cynllunio o amgylch y syniad canolog o adeiladu cymuned o fyfyrwyr gradd meistr a addysgir sy'n gweithio gyda'i gilydd fel grŵp i wella dysgu. Cyflwynwyd y dyluniad arloesol hwn i gymuned ehangach Cymuned Arbenigol Addysgu Addysg Uwch y DU yng Nghynhadledd Amrywiaeth mewn Addysg Cemeg / Addysg Ffiseg (ViCE/PHEC) yn 2016 ochr yn ochr â'n datblygiadau arloesol israddedig ac allgymorth. Gallwch felly fod yn dawel eich meddwl bod eich cwrs MSc wedi'i gynllunio a'i weithredu gan gyfeirio at y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil a methodoleg addysgol.

Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar gefndir y myfyrwyr sy'n bresennol, y pwnc a'r dull(iau) asesu. Mae ein hamser addysgu â chyswllt fel arfer yn gymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau grŵp a sesiynau ymarferol.

O ddechrau tymor yr hydref, byddwn yn eich cyflwyno i'n cyfleusterau addysgu pwrpasol, i’r ardaloedd mynediad agored ac i'n labordai ymchwil. Bydd hyn yn eich galluogi i integreiddio'n hawdd i gymuned yr Ysgol. Mae ein carfan MSc hefyd yn cyfarfod yn rheolaidd fel grŵp i drafod pynciau ymchwil, i gyflwyno papurau ac i fynd i'r afael ag ymarferion grŵp a chael hyfforddiant sgiliau ymarferol uwch gyda'i gilydd.

Byddwn yn dyrannu goruchwyliwr a mentor i chi ar gyfer eich prosiect ymchwil haf. Fel arfer, bydd eich goruchwyliwr yn aelod o staff academaidd sy’n arbenigwr sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol ym maes ymchwil. Byddwch yn cyfarfod yn rheolaidd â'ch goruchwyliwr a'i grŵp drwy gydol eich prosiect. Mae mentor eich prosiect yn aelod diduedd o staff academaidd a fydd yn monitro eich cynnydd, yn rhoi cyngor ac yn sicrhau bod eich prosiect ymchwil haf yn mynd yn ddidrafferth.

Sut y caf fy asesu?

Asesir a ydych wedi cyflawni’r deilliannau dysgu yn ein modiwlau a addysgir drwy arholiadau bob semester.

Bydd eich prosiect ymchwil ar ddiwedd y cwrs yn cael ei asesu drwy draethawd hir. Gellir dewis eich pwnc ymchwil o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd, fel arfer mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyfredol. Rydych hefyd yn cael eich annog i gyflwyno eich syniad eich hun ar gyfer prosiect.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Bydd gennych fynediad i Lyfrgell Trevithick, sy'n dal ein casgliad o adnoddau ffiseg ac astroffiseg, yn ogystal ag adnoddau o ddisgyblaethau Peirianneg a Chyfrifiadureg.

Byddwn yn rhoi copi i chi o'r Llawlyfr Myfyrwyr, sy'n cynnwys manylion polisïau a gweithdrefnau'r Ysgol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch ofyn cwestiynau mewn fforwm neu ddod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â’r cwrs

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Adborth

Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Byddwch yn derbyn adborth amserol gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Ar ôl cwblhau'r cwrs dylech allu gwneud y canlynol:

  • Deall deddfau ac egwyddorion sylfaenol ffiseg, gan eu cymhwyso at amrywiaeth o feysydd ym maes ffiseg.
  • Meddu ar wybodaeth ymarferol am amrywiaeth o dechnegau arbrofol, mathemategol a chyfrifiadurol sy'n berthnasol i ymchwil gyfredol ym maes ffiseg.
  • Deall cyfyngiadau gwybodaeth a thechnolegau cyfredol a'r angen i gael gwybodaeth newydd drwy astudio mwy.
  • Gwybod sut i gynllunio, gweithredu ac adrodd ar ganlyniadau ymchwiliad neu arbrawf ac i ddadansoddi a gwerthuso ei ganlyniadau yng nghyswllt damcaniaethau cyfredol sylfaenol.
  • Y gallu i gyfleu syniadau gwyddonol cymhleth, casgliadau arbrawf, ymchwiliad neu brosiect yn gryno, yn gywir ac yn llawn gwybodaeth.
Research student sets up an ultra high vacuum evaporator
Research student sets up an ultra high vacuum evaporator..

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Bydd yr Ysgol yn talu am bopeth sy’n rhan hanfodol o'r rhaglen - esbonnir hynny’n eglur yn yr holl wybodaeth am y rhaglen ac mewn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan diwtoriaid ar lafar.

Mae'r Brifysgol o'r farn nad oes angen i'r ysgolion dalu'r costau canlynol gan nad ydyn nhw’n hanfodol neu maen nhw’n gostau sylfaenol y dylid disgwyl i fyfyriwr eu talu eu hunain:

  • Gliniaduron
  • Cyfrifianellau
  • Deunydd ysgrifennu cyffredinol
  • Gwerslyfrau (y tybir eu bod ar gael yn y llyfrgell)
  • Copïo/argraffu sylfaenol.

Os oes costau/ffioedd dewisol i'w talu gan y myfyriwr, nid yw'r rhain yn ofyniad i basio'r radd.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Byddwn yn darparu offer sy'n hanfodol i'r cwrs. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn dod â gliniadur gyda meddalwedd priodol (e.e. rhaglenni Office), USB neu yriant caled, deunydd ysgrifennu cyffredinol a rhywfaint o offer llunio sylfaenol.

Byddwch yr holl feddalwedd ac offer perthnasol sy'n gysylltiedig â TG ar gael ar eich cyfer ar gyfrifiaduron ein rhwydwaith. Byddwch hefyd yn gallu cael gafael ar offer arbrofol mewn sesiynau labordy cysylltiedig.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Gall gradd meistr mewn ffiseg agor y drws i amrywiaeth eang o yrfaoedd posibl yn y dyfodol. Mae ein cyn-raddedigion wedi sicrhau cyflogaeth ym meysydd ffotoneg, bioffiseg, ymchwil a datblygu offerynnol, ffiseg lled-ddargludyddion mewn gwyddoniaeth academaidd ac ymarfer diwydiannol. Gallwch hefyd ddewis ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig pellach neu ymchwil academaidd ym maes ffiseg, neu ddechrau gyrfa rifol hynod fedrus mewn disgyblaeth arall.

Lleoliadau

Mae gennym gysylltiadau cryf a sefydledig â’r diwydiant ac efallai y gallwn gynnig lleoliad i chi gydag un o'r partneriaid hyn ar gyfer eich prosiect ymchwil. Efallai y bydd gennym hefyd rai lleoliadau academaidd ar gael yn yr Ysgol dros yr haf, a all fod yn hynod werthfawr i fyfyrwyr sy'n ceisio parhau mewn ymchwil academaidd.

Besides the engaging elective modules, and the carefully curated and thoroughly well taught core modules, the best thing about the MSc is the individual support offered that just isn't present at undergraduate study. The summer projects offered are the perfect insight into the breadth of research available at Cardiff. I came into the MSc as a student, and left it feeling more like a research scientist.
Joseph Askey, MSc Physics 2017/18

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Ffiseg a seryddiaeth


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.