Ewch i’r prif gynnwys

Meddygaeth Lliniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol (MSc)

  • Hyd: Tair blynedd
  • Dull astudio: Dysgu cyfunol rhan amser

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Cynlluniwyd y rhaglen amlddisgyblaethol hon ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd am wella eu gwybodaeth am reoli cleifion gyda chlefydau angheuol neu glefydau na ellir eu gwella.

people

Adeiladu timau cynaliadwy

Datblygu sgiliau: gwaith tîm, cyfathrebu, rhannu gwybodaeth, arweinyddiaeth a gwella ansawdd yn helpu i adeiladu timau gwydn cynaliadwy.

globe

Dysgu gydag arbenigwyr

Cynllunnir, datblygir a chyflwynir gan ymarferwyr gofal lliniarol profiadol sydd â gwybodaeth a phrofiad yn y DU ac yn rhyngwladol.

cursor

Cymuned ddysgu gefnogol

Ymagwedd gydweithredol yn seiliedig ar gymheiriaid sy'n cyfoethogi dysgu rhyngwladol o bell  gyda thrafodaethau ar-lein a hwylusir a gweminarau.

building

Datblygu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth

Deall a datblygu sail gref o dystiolaeth ar gyfer ymarfer gofal lliniarol drwy astudio, ymchwilio a chynllunio i wella ansawdd.

screen

Rhaglen e-ddysgu hyblyg

Dysgu o bell, fformat ar-lein sy'n galluogi dysgu hyblyg yn eich pwysau.

Mae’r MSc mewn Meddygaeth Liniarol ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol yn cynnig addysgu o bell o safon i glinigwyr sy’n gweithio gyda babanod newydd-anedig, plant ac oedolion mewn nifer o wahanol gyd-destunau ym mhob rhan o’r byd.

Mae’r awydd i wella canlyniadau i gleifion wrth galon dyluniad a chyflwyniad y cwrs, lle bynnag y bydd y myfyrwyr yn ymarfer gofal lliniarol, ac mae gwella ansawdd gofal lliniarol drwy waith ymchwil a gwella ansawdd yn rhan bwysig hefyd.

Mae defnyddio'r dull gweithredu gofal lliniarol yn ôl diffiniad Cynulliad Iechyd y Byd yn 2014 (WHO 2014) yn gynyddol bwysig i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled y byd er mwyn diwallu anghenion gofal lliniarol eu poblogaethau. Er bod canser yn parhau i fod yn broblem, fel baich clefyd yn fyd-eang, mae gan nifer cynyddol o gleifion, gan gynnwys babanod newydd-anedig a phlant, anghenion gofal lliniarol oherwydd cyflyrau eraill. Mae'r rhain yn cynnwys anabledd dysgu, dementia, gwendid a phobl hŷn sydd â sawl cydafiachedd.

Nod y cwrs yw gwella gofal i gleifion drwy gyflwyno addysg hwylus, effeithiol er mwyn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddatblygu, rhannu, ac ymestyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o feddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a sut mae’n cael ei chymhwyso, yn ogystal ag arfer gorau a fframweithiau llywodraethu mewn gofal lliniarol, sy’n addas i’w lleoliadau proffesiynol eu hunain.

Mae'r camau a addysgir (blynyddoedd 1 a 2) yn cwmpasu'r ddealltwriaeth graidd, y fframweithiau, yr heriau a'r dystiolaeth ymchwil sy'n berthnasol i wneud y gorau o ymarfer meddygaeth liniarol a gofal lliniarol a’u datblygu. Mae'r MSc (blwyddyn 3) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr nodi mater o bwys yn eu hymarfer eu hunain a chynnal prosiect sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fwriedir i gyfrannu at wybodaeth ac ymarfer mewn meddygaeth liniarol a gofal lliniarol.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Meddygaeth

Rydym ni'n un o ysgolion meddygaeth fwyaf y DU, wedi ein hymrwymo i geisio gwella iechyd pobl drwy addysg ac ymchwil.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2068 7214
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd israddedig mewn maes pwnc perthnasol fel deintyddiaeth, meddygaeth, nyrsio, therapi galwedigaethol, fferylliaeth neu ffisiotherapi neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Neu, tystiolaeth eich bod yn nyrs gyda'r cymhwyster RGN.
  2. Tystiolaeth bod gennych gofrestriad proffesiynol cyfredol gyda'r corff rheoleiddio proffesiynol iechyd priodol ar gyfer eich proffesiwn gofal iechyd dewisol cyn ac am gyfnod llawn y rhaglen. Rhowch eich rhif cofrestru (os yw'n bosibl gwirio'ch statws ar-lein) neu gopi o'ch tystysgrif gofrestru.
  3. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  4. Geirda gan eich cyflogwr at dystiolaeth eich bod yn gweithio mewn rôl glinigol ar hyn o bryd gan gynnwys gofalu am gleifion ag anghenion gofal lliniarol ac wedi ennill o leiaf 2 flynedd o brofiad ôl-gymhwyso yn y lleoliad hwn. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais. 
  5. Datganiad personol sy'n esbonio pam yr hoffech ddilyn y rhaglen hon, pa fuddion rydych yn disgwyl eu cael ohono, a pha sgiliau a phrofiad sydd gennych sy'n eich gwneud yn ymgeisydd addas. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae tri cham i'r MSc:

Cam cyntaf a addysgir (T1)
Mae'r cam hwn yn para am un flwyddyn academaidd, ac mae'n cynnwys 3 modiwl sydd werth o leiaf 60 credyd ar Lefel 7.

Gallwch adael gyda Thystysgrif Ôl-raddedig ar ôl i chi gwblhau o leiaf 60 credyd yn llwyddiannus, lle mae'r rhain yn cynnwys yr holl fodiwlau craidd ""gofynnol"" yn ogystal ag un modiwl dewisol.

Ail gam a addysgir (T2)
Mae'r cam hwn yn parhau am flwyddyn academaidd arall, gan ddod i gyfanswm o 2 flynedd academaidd ar gyfer camau T1 a T2, ac mae'n cynnwys 3 modiwl arall sydd werth o leiaf 60 credyd ar Lefel 7. Mae myfyrwyr yn cwblhau'r camau a addysgir drwy gyflawni cyfanswm cyfunol o 120 credyd o leiaf.

Gallwch adael gyda Diploma Ôl-raddedig ar ôl i chi gwblhau o leiaf 120 credyd yn llwyddiannus, lle mae'r rhain yn cynnwys yr holl fodiwlau craidd ""gofynnol"" yn ogystal ag un modiwl dewisol.

Cam traethawd ymchwil hir
Mae'r cam hwn yn parhau am flwyddyn academaidd arall gan ddod i gyfanswm o 3 blynedd academaidd ar gyfer yr MSc llawn (pob cam), ac mae'n cynnwys traethawd hir gwerth 60 credyd ar Lefel 7, er mwyn cyflawni cyfanswm cyfunol o 180 credyd o leiaf ar Lefel 7 i gwblhau'r rhaglen MSc.

Mae’n cymryd tair blynedd academaidd i gwblhau’r rhaglen MSc lawn (camau T1, T2 ac R) fel arfer o’r dyddiad cofrestru ar y rhaglen am y tro cyntaf.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Mae Blwyddyn 1 yn cyflwyno gwybodaeth, egwyddorion a fframweithiau craidd, sgiliau cyfathrebu hanfodol, y dystiolaeth sy'n sail i asesu symptomau, rheoli symptomau ac ymyriadau, a'r problemau all ddeillio o ddarparu gofal lliniarol mewn sefyllfaoedd cymhleth a heriol. Felly, mae'n sylfaen ar gyfer gwneud y gorau o ymarfer mewn gofal lliniarol yn eich lleoliad eich hun.

Blwyddyn dau

Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ymhellach ar y dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n sail i flwyddyn 1 ac yn archwilio'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â gofal lliniarol, yn ogystal â chyfleoedd i ddatblygu mewn agweddau pwysig eraill gan gynnwys datblygu gwaith tîm effeithiol, arwain a rheoli newid, ymchwil a gwella ansawdd. Felly, mae'n sbardun ar gyfer gwella a datblygu arfer ac am ymgymryd ag arweinyddiaeth ym maes gofal lliniarol.

Blwyddyn tri

Mae cam traethawd hir yr MSc yn rhoi cyfle i chi nodi mater o bwys yn eu harferion eu hunain a chyflawni prosiect sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fwriedir i gyfrannu at wybodaeth ac ymarfer mewn gofal lliniarol. Byddai hyn naill ai'n brosiect ymchwil (ymchwil empirig, adolygiad o lenyddiaeth feirniadol) neu'n brosiect gwella ansawdd (datblygu achosion busnes, cynigion neu ganllawiau) ac yn ymwneud â heriau'r byd go iawn mewn gofal lliniarol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae hon yn rhaglen ddysgu gyfunol sy'n cynnwys cydrannau wyneb yn wyneb byr ond sy’n cael ei chyflwyno’n bennaf ar ffurf dysgu o bell drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir lle byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, dolenni i adnoddau cysylltiedig ac asesiadau.

Bydd modiwl a addysgir yn cael ei ddarparu ar ffurf dysgu o bell dros gyfnod o 12 wythnos fel arfer. Mae addysgu a chymorth ar-lein hefyd ar gael yn ystod y cam MSc. Bydd deunyddiau dysgu sy'n ymwneud â'r maes llafur ar gael i chi eu hastudio i baratoi ar gyfer cwblhau asesiadau.

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd ar y rhaglen, bydd cwrs rhyngweithiol wyneb yn wyneb o hyd at 5 diwrnod gwaith fel arfer. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr fynychu'r gydran hon bob blwyddyn. Ni chodir ffi presenoldeb arnoch am yr elfen wyneb yn wyneb, ond bydd disgwyl i chi dalu'r holl gostau eraill sy'n gysylltiedig â mynychu gan gynnwys teithio, llety, cynhaliaeth ac unrhyw dreuliau personol eraill.

Mae'r cydrannau wyneb yn wyneb yn gyfle i gwrdd â'r staff a myfyrwyr eraill ac maen nhw wedi’u cynllunio i gefnogi dysgu drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys cyflwyniadau, gweithdai/ymarferion a thrafodaeth rhwng cymheiriaid. Maen nhw’n agwedd werthfawr ar y rhaglen, ac yn annog cefnogaeth grŵp a gan gymheiriaid ar gyfer dysgu er mwyn gwella'r profiad dysgu.

Yn ystod y gydran wyneb yn wyneb, rydyn ni’n manteisio ar y cyfle i gyflwyno cysyniadau nad ydyn nhw’n cael eu haddysgu'n rhwydd drwy amgylchedd dysgu rhithwir. Mae’r rhain yn cynnwys sesiynau sgiliau cyfathrebu a hwylusir gan diwtoriaid profiadol mewn grwpiau bach, gan gynnig cyfle i ymarfer y sgiliau hyn.

Drwy gydol y camau a addysgir mae cyfleoedd i gael gwybodaeth a dealltwriaeth drwy amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys astudio'n annibynnol, ymarfer myfyriol, trafodaeth â chymheiriaid, gweithdai a thasgau/ymarferion, ymarfer sgiliau cyfathrebu a hunanasesu, adolygu deunydd dysgu a darlithoedd (podlediadau).

.

Mae gan bob modiwl ei ddeilliannau dysgu ei hun. Mae gennych gyfle i ddangos eich bod wedi cyflawni'r deilliannau dysgu hyn drwy'r asesiadau ffurfiannol a chrynodol a geir ym mhob modiwl. Mae'r deunydd addysgu a dysgu a gyflwynir yn y cydrannau ar-lein ac wyneb yn wyneb yn cyd-fynd â'r deilliannau dysgu i gefnogi eich dysgu.

Bydd astudiaethau ar lefel traethawd hir MSc yn cynnwys astudiaethau ac ymchwil annibynnol o dan arweiniad yn bennaf, gan ddefnyddio'r cyfleusterau dysgu ac ymchwil helaeth sydd ar gael, gan gynnwys deunydd dysgu sy’n cael ei ddarparu drwy ein platfform dysgu ar-lein.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r asesiadau wedi'u dewis i sicrhau bod y deilliannau dysgu yn cael eu profi'n briodol ac yn rhoi cyfle i chi ddangos eich bod wedi eu cyrraedd. Mae manylion dulliau asesu penodol ar gyfer pob modiwl ar gael yn y Disgrifiad o’r Modiwl perthnasol.

Mae asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn cael eu cynnal drwy aseiniadau modiwlau gan gynnwys dulliau fel: myfyrio ar achosion, arfarniadau beirniadol, cwisiau ar-lein, creu posteri, darnau mynegi barn, strategaethau cyfathrebu neu gynigion. Defnyddir cynlluniau marcio wedi’u safoni ar gyfer pob asesiad crynodol a'r adborth a ddarperir ar gyfer pob aseiniad sydd wedi'i gwblhau i roi arweiniad i’r myfyriwr ar gyfer aseiniadau yn y dyfodol.

Bydd cam y traethawd hir yn cael ei asesu yn seiliedig ar y traethawd hir terfynol. Bydd y traethawd hir yn cael 60 credyd ac, ar y cyd â'r cam(au) a addysgir, bydd yn cael ei bwysoli 50% at ddibenion cyfrifo'r marc terfynol.

Bydd y traethawd hir, a fydd fel arfer heb fod yn fwy na 20,000 o eiriau ac a gefnogir gan unrhyw ddeunydd arall a gaiff ei ystyried yn briodol i'r pwnc, yn ymgorffori canlyniadau eich cyfnod o waith prosiect.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r rhaglen yn cael ei darparu fel rhaglen dysgu o bell drwy ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir, lle byddwch yn dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, asesiadau a dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig. Ymhlith y cyfleusterau mae offer trafod ar-lein, gan gynnwys trafodaethau grŵp bach ar we-gamera i hwyluso’r cymorth gan y tiwtor a chymheiriaid i ddysgwyr.

Bydd Tiwtor Personol yn cael ei ddyrannu i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Gallwch gysylltu â’ch tiwtor personol i drafod cynnydd ac i gael cyngor ac arweiniad fel bo angen.

Mae tiwtoriaid ar gael i'ch cynghori ynghylch unrhyw faterion academaidd. Nid darllen na marcio fersiynau drafft o aseiniadau yw rôl y tiwtor. Ond, gall gyfathrebu â myfyrwyr am unrhyw bwnc penodol a allai fod yn heriol iddyn nhw. Rhoddir adborth penodol hefyd unwaith y bydd aseiniad wedi'i farcio. Defnyddir cynllun marcio ar gyfer yr aseiniad penodol. Bydd croeso i chi drafod yr adborth hwn gyda thiwtor.

Yn ystod cam traethawd hir y cwrs MSc, bydd Goruchwyliwr Prosiect Traethawd Hir yn cael ei neilltuo i chi, a fydd yn eich rhoi ar ben ffordd gyda’ch gwaith cynllunio ac yn rhoi cyngor i chi wrth i chi gwblhau eich prosiect.

Adborth

Byddwch yn cael adborth ffurfiannol drwy ddulliau electronig ac ysgrifenedig mewn modd amserol. Bydd adborth crynodol ar asesu yn cael ei gyflwyno o fewn yr amserlen a bennwyd gan y Brifysgol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Drwy gymryd rhan lawn yn y cwrs hwn, cewch gyfle i ddatblygu cyfoeth o sgiliau a galluoedd y gallwch eu defnyddio mewn unrhyw leoliad proffesiynol. Yn ogystal â dealltwriaeth gysyniadol well o wybodaeth, ystyriaethau a dulliau cyfredol, byddwch yn cael y cyfle i ymarfer a datblygu galluoedd mewn dadansoddi beirniadol, mewn cymhwyso meddygaeth seiliedig ar dystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol. Dylai eich astudiaethau hefyd eich helpu i ddatblygu eich gallu i ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau drwy eich galluogi i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol a chyfleu cysyniadau pwysig i gydweithwyr ac eraill. Drwy unrhyw elfennau sy'n canolbwyntio ar ymchwil cewch gyfle i ddatblygu a gwella sgiliau mewn agweddau fel adolygu llenyddiaeth, gwerthuso beirniadol a gwybodaeth am egwyddorion ymchwil.

Drwy gymryd rhan lawn yn y camau a addysgir, dylech allu gwneud y canlynol:

  • Datblygu dealltwriaeth systematig o wybodaeth, egwyddorion craidd, fframweithiau ym maes meddygaeth liniarol a gofal lliniarol sy'n hyrwyddo arferion clinigol effeithlon ar sail gwybodaeth.
  • Arfarnu'n feirniadol y meddylfryd a'r dystiolaeth gyfredol y tu ôl i ymyriadau gofal lliniarol
  • Gweithio'n fwy effeithiol gyda gweithwyr proffesiynol eraill a gweithio mewn tîm rhyngbroffesiynol i wella'r ffordd y mae gofal lliniarol sy'n canolbwyntio ar y claf yn cael ei ddarparu.
  • Datblygu dull cynhwysfawr o reoli symptomau mewn lleoliadau gofal lliniarol rhyngbroffesiynol.
  • Dangos gwybodaeth fanwl am gymhlethdodau gofal lliniarol mewn sefyllfaoedd heriol mewn perthynas â materion cyfreithiol a moesegol, y tîm gofal iechyd ehangach a'r gymuned ehangach.
  • Asesu a datblygu dulliau o reoli blwyddyn olaf bywyd, oriau olaf bywyd, marwolaeth a phrofedigaeth.
  • Archwilio ffyrdd y gall gweithio mewn tîm ac arweinyddiaeth effeithio ar ddarparu gofal lliniarol.
  • Arfarnu gwahanol ddulliau o fesur, ymchwilio a gwella ansawdd gofal lliniarol.
  • Datblygu cynigion ar gyfer prosiectau ymchwil sy'n dangos dealltwriaeth gadarn o ddyluniad ymchwil, methodoleg a moeseg.
  • Datblygu cynigion ar gyfer prosiectau gwella ansawdd sy'n dangos dealltwriaeth gadarn o ddyluniad, methodoleg a moeseg briodol.

Yn ogystal â'r deilliannau dysgu sydd i'w cyflawni yn ystod y camau a addysgir, drwy gymryd rhan lawn yng ngham traethawd hir yr MSc dylech allu:

  • Dangos gwybodaeth fanwl am faes/feysydd astudio arbenigol a/neu gymhleth, a gallu cysylltu’r rhain â’i gyd-destun proffesiynol ei hun.
  • Cwblhau prosiect cynhwysfawr sy'n dangos arfer da mewn ymchwil / gwella ansawdd ac sy'n cyfrannu at ddatblygu'r corff o wybodaeth a/neu ymarfer clinigol yn y maes.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £5,725 Dim
Blwyddyn dau £5,725 Dim
Blwyddyn tri £1,908 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,450 £2,500
Blwyddyn dau £9,450 Dim
Blwyddyn tri £3,150 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Bydd angen cyfrifiadur dibynadwy â mynediad cyflym at y we (ac amddiffyniad feirws a maleiswedd cyfredol) a meddalwedd priodol. Bydd cyfleusterau gwe-gamera yn galluogi cyfranogiad mwy effeithiol mewn tiwtorialau ar-lein sy'n seiliedig ar weminarau.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer y rhai sydd am gynyddu eu gwybodaeth am feddygaeth diwedd oes er mwyn helpu i wella gofal cleifion.

Mae’r rhaglen Feistr hon yn eich galluogi i ddangos eich bod yn cymryd cyfle i ddatblygu’ch gallu dadansoddi beirniadol, datrys problemau, gwneud penderfyniadau, canfod a defnyddio tystiolaeth ac ymdrin â materion cymhleth. Er nad ydym yn asesu sgiliau neu gymhwysedd clinigol wyneb yn wyneb (nid yw’r rhaglen hon felly’n disodli rhaglen hyfforddi arbenigol ffurfiol), bydd astudio ar y lefel hon yn helpu myfyrwyr llwyddiannus i ddangos nifer o sgiliau academaidd y dylid eu gwerthfawrogi’n fawr mewn perthynas â’u datblygiad a’u cynnydd gyrfaol. Yn benodol, mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ddangos datblygiad gwybodaeth a sgiliau mewn perthynas â chymhwyso meddygaeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chyfoethogi posibl ar wasanaethau a fframweithiau llywodraethu. Felly, dylai ddarparu tystiolaeth o ymrwymiad a photensial a all eich cynorthwyo o ran cael rhagor o gyfrifoldebau, neu o bosib wrth geisio am swyddi rheoli, ymchwil, ysgolheigaidd neu arweinyddol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Meddygaeth, Gofal iechyd


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.