Ewch i’r prif gynnwys

Bioleg y Geg (MSc)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Video for MSc Oral Biology. Oral and Dental disease is a world-wide problem.

Nod yr MSc yw cynnig dealltwriaeth academaidd drylwyr o strwythur a bioleg meinweoedd y geg a chlefydau deintyddol.

molecule

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Mae ein cwrs yn darparu addysgu a arweinir gan ymchwil a thrafodaeth mewn bioleg celloedd geneuol a microbioleg gan eich galluogi i ddatblygu eich barn feirniadol.

academic-school

Byddwch yn datblygu sgiliau labordy technegol ac yn profi amgylchedd addysgu cadarnhaol a rhyngweithiol.

scroll

Symud ymlaen i astudio ar gyfer PhD

Gallwch wneud cais i astudio ar gyfer yr MSc drwy ddilyn rhaglen astudio 1+3 blynedd a symud ymlaen i astudio ar gyfer PhD yn yr Ysgol ar ôl cael cymhwyster gradd Meistr.

notepad

Ennill sgiliau ymchwil

Byddwch yn caffael nifer o sgiliau penodol, megis y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli ystod o ddata meintiol ac ansoddol cymhleth.

rosette

Ymunwch ag ysgol ddeintyddiaeth sydd ymhlith tair orau

Rydym wedi'n rhestru ymhlith tair orau’r Complete University Guide 2020 yn seiliedig ar foddhad myfyrwyr, ansawdd ymchwil a rhagolygon graddedigion.

Mae clefyd y geg a deintyddol yn broblem fyd-eang sydd yn aml yn arwain at golli ansawdd bywyd. Ein nod yw trosglwyddo’r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen yn y maes hollbwysig hwn er mwyn cyfrannu at ddyfodol iechyd y geg yn y gymdeithas.

Mae bioleg y geg yn ddisgyblaeth wyddonol eang sy'n cwmpasu amrywiaeth o wyddorau sylfaenol a chymhwysol. Mae gwerth sylweddol i addysg yn y maes hwn mewn ymchwil trawsfudol ac ymchwil masnachol a gymhwysir i drin clefydau deintyddol a chlefydau'r geg; clefydau sydd yn parhau i fod yn gyffredin mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu.

Mae gan ein cwrs blwyddyn llawn amser ym Mhrifysgol Caerdydd ffocws cryf ar addysgu dealltwriaeth fiolegol gyfredol sydd yn berthnasol i ficrobioleg, bioleg meinweoedd cysylltiol, clefydau llidiol, canser a phrosesau datblygu ac atgyweirio.

Mae'r rhaglen yn seiliedig ar ddarlithoedd a gwaith labordy. Byddwch yn elwa ar fodiwlau a addysgir sydd yn cwmpasu meysydd fel Bioleg Cellog a Molecwlaidd a Bôn-gelloedd a Meddygaeth Adfywiol ac sydd yn arwain at brosiect ymchwil ymarferol o 5 mis. Lleolir y Rhaglen yn Ysbyty Athrofaol Cymru (y 3ydd ysbyty athrofaol mwyaf yn y DU) lle byddwch yn datblygu sgiliau labordy technegol a phrofi amgylchedd addysgu cadarnhaol a rhyngweithiol.

Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion ymchwil sydd o statws rhyngwladol ac sydd â chyhoeddiadau a nodwyd fel rhai 3* a 4* yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2014) sydd yn gosod ein sefydliad yn un o’r safleoedd uchaf yng ngwledydd Prydain. Bydd addysgu yn bennaf ar ffurf academaidd, mewn grwpiau bach a seminarau, gyda chyfle i gael trafodaeth feirniadol a thasgau’n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Byddwch yn caffael nifer o sgiliau penodol, megis y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli ystod o ddata meintiol ac ansoddol cymhleth. Byddwch hefyd yn datblygu nifer o sgiliau gwerthfawr sydd yn seiliedig ar ymchwil labordy drwy gwblhau prosiect ymchwil 5 mis o'ch dewis ac sydd yn gyfateb i arbenigedd academaidd yr Ysgol.

Bydd gan raddedigion y rhaglen hon ystod eang o wybodaeth ac amrywiaeth o sgiliau gan eu gwneud yn ddeniadol iawn i ddarpar gyflogwyr a sefydliadau ymchwil yn y sector pwysig hwn.

Mae’r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant ymchwil sylfaenol, ac mae hyn yn ddisgwyliedig os byddwch am ddechrau rhaglen astudio PhD. Yn amodol ar statws ffioedd, gallwch wneud cais ar gyfer MSc Bioleg y Geg fel rhaglen astudio 1+3 mlynedd gan barhau at raglen PhD yn yr Ysgol ar ôl ennill cymhwyster gradd Feistr.

The studying was intense but the material we learnt, and the delivery of the lectures was fantastic. The support and open-door policy from all tutors were really valuable. One of my favourite parts of the course was integrating with other MSc students as we built a postgraduate family.
Khushbu Morar Oral Biology (MSc)

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Deintyddiaeth

Ni yw'r unig Ysgol Deintyddiaeth yng Nghymru, ac rydym yn darparu arweiniad unigryw a phwysig ym meysydd ymchwil deintyddol, addysgu a gofal cleifion.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2074 2544/8797
  • MarkerParc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XY

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn Biocemeg, Bioleg, Peirianneg Biofeddygol, Llawfeddygaeth Ddeintyddol, Therapi a Hylendid. Meddygaeth, neu fferylliaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arf. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS. 
  3. Dau gyfeiriad academaidd neu broffesiynol/cyflogwr sy'n dangos eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen. 
  4. Datganiad personol sy'n amlinellu eich rhesymau dros wneud cais i'r rhaglen a sut mae eich profiad academaidd, eich sgiliau neu'ch nodau tymor hir yn eich gwneud yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rhaglen.
  5. CV cyfredol sy'n cynnwys eich hanes academaidd a gwaith llawn.  

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 
Y dyddiad cau yw 30 Mehefin. Os byddwch yn cyflwyno cais ar ôl y dyddiad hwn, byddwn ond yn ei ystyried os oes lleoedd ar gael o hyd. 

Broses ddethol 
Byddwn yn adolygu eich cais ac os byddwch yn bodloni'r gofynion mynediad, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad. Yn dilyn cyfweliad, bydd cynigion yn cael eu gwneud i'r ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hon yn rhaglen fodiwlaidd amlddisgyblaethol 12 mis llawn amser sy'n cynnwys pedwar modiwl craidd a addysgir (rhan 1), sy’n dod i gyfanswm o 120 o gredydau a phrosiect ymchwil labordy (rhan 2) a gyflawnir dros bum mis (60 credyd).

Rhan 1: Cydran a Addysgir

Yn ystod Rhan 1, caiff y modiwlau craidd eu cyflwyno ar yr un pryd, dros gyfnod o 26 wythnos.

Rhan 2: Prosiect Ymchwil

Ar ôl cwblhau Rhan 1 yn foddhaol, byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir, sy'n dechrau ym mis Ebrill. Bydd gofyn i chi gwblhau a chyflwyno traethawd hir prosiect ymchwil mewn labordy a chyflwyno eich gwaith fel cyflwyniad poster (cyfanswm o 60 credyd) i gael gradd Meistr.

Mae’r prosiectau ymchwil a gynigir i gyd mewn labordy. Mae gennym rwydwaith cydweithredol helaeth gyda chyd-oruchwylwyr/cydweithredwyr yn yr Ysgolion Meddygaeth, y Biowyddorau a Fferylliaeth. Gofynnir i chi gynnig dewis cyntaf ac ail ddewis o brosiect ymchwil o amrywiaeth o deitlau ymchwil, ac yn y rhan fwyaf o achosion bydd myfyrwyr yn gallu mynd ar drywydd eu dewis cyntaf.

Gallai'r rhai nad ydyn nhw’n cyflawni'r MSc mewn Bioleg y Geg fod yn gymwys i gael dyfarniad ymadael Diploma Ôl-raddedig mewn Bioleg y Geg (120 credyd) neu Dystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd).

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae hon yn rhaglen fodiwlaidd amlddisgyblaethol 12 mis llawn amser sy'n cynnwys pedwar modiwl craidd a addysgir (rhan 1) i gyfanswm o 120 o gredydau a phrosiect ymchwil labordy (rhan 2) a astudiwyd dros bum mis ac sy'n werth 60 credyd.

Mae'r cwrs yn cwmpasu ystod eang o ymchwil fiofeddygol sydd hefyd yn berthnasol i ddeintyddiaeth glinigol a meddygaeth, sy'n deillio o'r cryfderau ymchwil sydd ar gael yn yr Ysgol Deintyddiaeth. Mae gan y cwrs ffocws ymchwil cryf yn yr elfen a addysgir, yn ogystal â'r prosiectau ymchwil labordy a rhagwelir y bydd yn gofnod ar gyfer ymchwil ôl-raddedig.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Confocal microscopy laboratory
Confocal microscopy and hands-on laboratory training in a broad range of experimental methods will be provided allowing you to develop your research skills..

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r holl elfennau a addysgir yn cael eu darparu yn yr Ysgol Deintyddiaeth. Gall myfyrwyr fynychu Ysgolion eraill (fel Meddygaeth, Fferylliaeth neu Fiwyddorau) i ymgymryd â'u prosiect ymchwil.

Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu ar y rhaglen hon, gan gynnwys:

  • Darlithoedd
  • Grwpiau trafod papur
  • Addysgu mewn grwpiau bach
  • Dysgu hunangyfeiriedig
  • Cyflwyniadau gwyddonol llafar a gynhelir fel seminarau
  • Cyflwyniad poster
  • Sgiliau ymchwil mewn labordy

Addysgir ar ffurf grwpiau bach. Gall myfyrwyr drefnu mentora ychwanegol fel sy'n ofynnol drwy arweinwyr y modiwl.

Sut y caf fy asesu?

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cael asesiadau myfyrwyr a all fod ar ffurf traethodau, cyflwyniadau ac adroddiadau. Defnyddir y rhain i fonitro eich cynnydd.

Defnyddir asesiadau modiwlau i asesu deilliannau dysgu a'ch galluogi i fynegi cysyniadau lefel Meistr o ran dealltwriaeth, dadansoddi, gwerthuso a chyflwyno. Bydd gofyn i chi basio pob un o'r pedwar asesiad modiwl yn yr elfen a addysgir a'r traethawd hir gyda marc llwyddo isaf o 50%.

Rhaid i chi lwyddo yn y ddwy ran er mwyn cael eich MSc. Rhaid i chi lwyddo yn Rhan 1 er mwyn symud ymlaen i Ran 2.

Sut y caf fy nghefnogi?

Byddwch hefyd yn cael tiwtor personol, a fydd yn gallu cynnig cymorth bugeiliol i chi drwy gydol cyfnod y cwrs. Bydd y tiwtor hwn hefyd yn gyfrifol am sicrhau eich cynnydd academaidd a bydd yn eich cyfarfod yn ffurfiol yn rheolaidd.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth cyn pen pythefnos i gwblhau asesiadau.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

  • Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o fioleg y geg o ran clefydau, iechyd, trwsio, atffurfio, gan gynnwys canser.
  • Datblygu sgiliau ymchwil i lunio ymchwil a ysgogir gan ragdybiaethau a dylunio arbrofion wedi’u rheoli’n addas gyda gwerthusiadau ystadegol priodol.
  • Gwybodaeth helaeth am dechnolegau ymchwil a phrofiad ymchwil ymarferol
  • Mynd ati'n feirniadol i ddadansoddi, cyfosod a gwerthuso Bioleg foleciwlaidd a chelloedd y Geg, gan gynnwys cyflyrau clinigol er mwyn ysgogi dewisiadau modern o ran triniaethau sydd eu hangen i atal neu drin Clefydau'r Geg.
  • Datblygu sgiliau cyfathrebu uwch
  • Dangos sgiliau datrys problemau a chynllunio ymchwil yn annibynnol
  • Sgiliau cyflwyno gwyddonol cryno a chlir.
  • Datblygu sgiliau trafod yn feirniadol
  • Cynnal ymchwil ar gyfer eich datblygiad proffesiynol.
Student with Petri dish
Research strength in the role of microorganisms in oral disease and novel strategies for prevention informs teaching on the MSc Oral Biology course..

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,950 £2,500

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £25,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae gradd meistr mewn Bioleg Gegol yn rhoi'r sgiliau i chi ddilyn gyrfa mewn addysg uwch yn y dyfodol i addysgu neu wneud ymchwil fiofeddygol mewn Prifysgol a Diwydiant, gan gynnwys academia clinigol.  Er bod y ffocws ar Fioleg Gegol, mae'r wybodaeth y byddwch yn ei dysgu yn drosglwyddadwy i ddisgyblaethau meddygol eraill.

Mae'r cwrs hwn yn sylfaen ar gyfer cymhwyster PhD pellach sy'n arwain at ymchwil ddeintyddol academaidd neu lwybrau gyrfa addysgu.  Fel arall, gallai'r cwrs hwn agor gyrfaoedd yn y diwydiant biofeddygol neu fferyllol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gwyddorau biofeddygol , Biowyddorau , Deintyddiaeth, Gofal iechyd


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.