Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil Weithrediadol ac Ystadegaeth Gymhwysol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r rhaglen hon wedi’i chynllunio i'ch arfogi â’r sgiliau, y dulliau a’r ffyrdd dadansoddol angenrheidiol o feddwl i daclo a dadansoddi problemau trefniadaethol cymhleth, i helpu i wneud penderfyniadau gwell ac i ddatblygu’n ddadansoddwyr ystadegol hyderus.

academic-school

Ystod eang o opsiynau astudio

Ar gael ar ffurf cwrs amser llawn dros flwyddyn neu gwrs rhan-amser dros dair blynedd.

tick

Datblygu sgiliau trosglwyddadwy

Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil weithredol ac ystadegol trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt mewn ystod eang o sectorau.

star

Arbenigedd ymchwil

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr ym meysydd Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth.

globe

Profiad yn y diwydiant

Byddwch yn ennill profiad gwaith gwerthfawr wrth ymgymryd â lleoliadau sydd ar gael gyda phartneriaid diwydiannol yn y DU a thramor.

Nod ein MSc mewn Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth Gymhwysol yw rhoi'r sgiliau, y dulliau a’r ffyrdd dadansoddol o feddwl sydd eu hangen arnoch i daclo a dadansoddi problemau trefniadaethol cymhleth, i’ch helpu i wneud gwell penderfyniadau ac i ddatblygu’n ddadansoddwyr ystadegol hyderus.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig hyfforddiant a phrofiad delfrydol i'r rhai sy'n chwilio am gyfleoedd gyrfa mewn meysydd fel Ymchwil Weithredol, gwyddorau rheoli, ystadegau, ymgynghori ar reoli, dadansoddi busnes, rheoli cadwyni cyflenwi, ystadegau/ymchwil weithredol y llywodraeth.

Byddwch yn ymgymryd ag astudiaethau achos a gwaith prosiect a fydd yn rhoi'r cyfle i chi roi eich sgiliau ar waith ac yn darparu profiad gwerthfawr i chi o weithio yn y maes. Bydd y prosiect traethawd hir, a gyflawnir fel arfer gyda phartner diwydiannol, yn eich galluogi i weithio gyda data cymhleth mewn modd creadigol ac amgylchedd datrys problemau, yn ogystal â chyfleu eich syniadau a'ch canfyddiadau'n effeithiol.

Rhaglen amser llawn dros flwyddyn yw hon.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Mathemateg

Mae ein graddau deallusol cyffrous wedi'u hachredu er mwyn cwrdd â gofynion addysgol enwebiad Mathemategydd Siartredig.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4811
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu: 

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol fel peirianneg, mathemateg neu wyddoniaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Geirda (academaidd neu broffesiynol) i gefnogi eich cais. Dylai eich canolwr wneud sylwadau ar eich gallu academaidd, eich moeseg gwaith a'ch cymeriad cyffredinol. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
  4. Datganiad personol sy'n mynegi eich parodrwydd i ymgysylltu â staff a myfyrwyr er budd i'r ddwy ochr ac sy'n disgrifio eich cymhelliant i sefydlu neu gyflymu gyrfa mewn ymchwil weithredol ac ystadegau.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs hwn sy’n para blwyddyn yn cynnwys cyfnod o dri mis yn gweithio gyda chwmni ar broblem wirioneddol y mae wedi'i nodi.

Byddwch yn cymryd 80 credyd o fodiwlau craidd a 40 credyd o fodiwlau dewisol yn yr elfen a addysgir o'r rhaglen. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan brosiect haf 60 credyd.

Bydd y rhaglen yn eich paratoi gyda thechnegau hanfodol mewn Ymchwil Weithredol ac Ystadegaeth Gymhwysol, ac yna'n caniatáu i chi ddewis o gyrsiau dewisol mewn pynciau fel modelu'r gadwyn gyflenwi, gofal iechyd, ac Ystadegau ac Ymchwil Weithredol i'r Llywodraeth (gyda mewnbwn gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cynulliad Cymru).

Byddwch yn cael cyfle i roi'r theori ar waith, drwy astudiaethau achos a gwaith prosiect yn y ""byd go iawn"". Nodwedd bwysig o'r MSc yw traethawd hir y prosiect, sy'n eich galluogi i weithio gyda chwmni allanol.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn, byddwch yn cwblhau'r holl fodiwlau a'ch prosiect traethawd hir 60 credyd ym y flwyddyn gyntaf.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd y dulliau addysgu y byddwn yn eu defnyddio yn amrywio o un modiwl i’r llall, fel y bo'n briodol, yn dibynnu ar y pwnc a'r dull asesu. Rydyn ni’n addysgu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai cyfrifiadurol a thiwtorialau.

Byddwch yn cymhwyso'r sgiliau rydych chi'n eu datblygu drwy gyflwyniadau, aseiniadau ymchwil, astudiaethau achos a phrosiect yr haf.

Sut y caf fy asesu?

Yn ystod y cwrs bydd eich datblygiad yn cael ei fonitro'n bennaf drwy daflenni tiwtorial, yn ogystal â dulliau eraill lle bo'n briodol.

Mae arholiadau ysgrifenedig, yn aml ar y cyd ag elfen yn y cwrs, yn ffurfio’r asesiad cyffredinol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob un o'n myfyrwyr pan fyddan nhw’n cofrestru ar y cwrs. Mae tiwtor personol yno i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau, a gall roi cyngor i chi ar faterion academaidd a phersonol a all fod yn effeithio arnoch. Dylech gael cyfarfodydd rheolaidd â’ch tiwtor personol er mwyn sicrhau eich bod yn cael cefnogaeth lawn.

Bydd gennych fynediad i Lyfrgell Trevithick, sy'n dal ein casgliad o adnoddau mathemategol a chyfrifiadureg, yn ogystal ag i Lyfrgelloedd eraill Prifysgol Caerdydd.

Byddwn yn rhoi copi i chi o'r Llawlyfr Myfyrwyr, sy'n cynnwys manylion polisïau a gweithdrefnau pob Ysgol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, lle gallwch ofyn cwestiynau mewn fforwm neu ddod o hyd i ddogfennau cysylltiedig â’r cwrs

Mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth sy'n agored i'n myfyrwyr, fel Canolfan y Graddedigion, cwnsela a llesiant, cynghorwyr ariannol a gyrfaoedd, y swyddfa ryngwladol ac Undeb y Myfyrwyr.

Adborth

Rydyn ni’n cynnig adborth ysgrifenedig ac adborth llafar, yn dibynnu ar y gwaith cwrs neu'r asesiad rydych wedi'i wneud. Fel arfer, byddwch yn derbyn eich adborth gan arweinydd y modiwl. Os oes gennych gwestiynau am eich adborth, mae arweinwyr modiwlau fel arfer yn hapus i roi cyngor ac arweiniad i chi ar eich cynnydd. Ein nod yw rhoi adborth i chi mewn modd amserol ar ôl i chi gyflwyno asesiad.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn astudio amrywiaeth o dechnegau datrys problemau, gan eich galluogi i adeiladu a defnyddio modelau mathemategol ac ystadegol, ochr yn ochr â sgiliau i ddatblygu eich gallu i gyfathrebu'n effeithiol ag eraill.

Mae gwerth penodol i’r cwrs hwn o ran datblygu sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys dadansoddi a gwerthuso beirniadol, y gallu i ymgymryd ag ymchwil wreiddiol a chreadigol, gweithio mewn tîm a datblygu sgiliau TG a chyflwyno.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae'r rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn meysydd fel ymchwil weithredol, gwyddoniaeth reoli, ystadegau, dadansoddi risgiau, modelu ariannol, risg actiwaraidd a sgorio credyd, ymgynghoriaeth rheoli, dadansoddeg busnes, rheoli cadwyni cyflenwi, ymchwil weithredol/ystadegau y llywodraeth.

Mae gan yr Ysgol Mathemateg gysylltiadau cryf sydd wedi hen ennill eu plwyf â llawer o gyflogwyr Ymchwilwyr Gweithredol ac Ystadegwyr Cymhwysol, sy'n aml yn cynnig prosiectau a/neu'n recriwtio ein myfyrwyr.

Os byddai’n well gennych barhau ar lwybr gyrfa mwy academaidd, efallai y byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau drwy wneud PhD.

Lleoliadau

Mae ein rhaglenni’n rhoi’r cyfle i chi roi'r theori ar waith, drwy astudiaethau achos a gwaith prosiect yn y ""byd go iawn"". Nodwedd bwysig o'r MSc yw traethawd hir y prosiect, sy'n eich galluogi i weithio gyda chwmni allanol. Bydd rhai o’r lleoliadau hyn dramor o ystyried ein cysylltiadau rhyngwladol cryf. Mae gan Ysgol Mathemateg Caerdydd gysylltiadau sydd wedi’u hen sefydlu â llawer o sefydliadau sy'n cyflogi Ymchwilwyr Gweithredol ac Ystadegwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Sainsbury's, British Airways, Network Rail a Dŵr Cymru ymhlith eraill.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Economeg, Mathemateg


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.