Ewch i’r prif gynnwys

Therapi Galwedigaethol (MSc)

  • Hyd: 18 mis
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y cwrs hwn, ar gyfer therapyddion galwedigaethol sy'n ymarfer, yw datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau hanfodol i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa.

people

Cymuned ddysgu

Byddwch yn elwa ar ddysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol sy'n astudio ar gamau gwahanol yn eu gyrfaoedd.

tick

Cefnogaeth i fyfyrwyr

Bydd gennych gefnogaeth academaidd ac yn cael tiwtor personol penodol gydol cyfnod eich astudiaethau gyda ni.

academic-school

Addysgu o ansawdd uchel

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff clinigol ac addysgol profiadol sydd ag enw da sylweddol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Ymunwch â’r Ysgol orau yn y DU ar gyfer Therapi Galwedigaethol (BSc) yn ôl tablau’r Complete University Guide 2021. Mae gan ein rhaglen gysylltiadau agos â Choleg y Therapyddion Galwedigaethol, sy'n golygu bod yr hyn rydych chi’n ei ddysgu yn gyfredol ac yn berthnasol. Mae'n darparu sylfaen gadarn yn y theori a'r arfer sy'n canolbwyntio ar alwedigaeth gan ddatblygu eich sgiliau meddwl yn feirniadol a datrys problemau hefyd. Byddwch yn datblygu'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i fynd ati i ymarfer yn arloesol, gan gymhwyso ymchwil a thystiolaeth i lywio arferion heddiw ac yfory yn eich gwlad frodorol a thu hwnt.

Mae hwn yn gwrs hyblyg sy'n eich galluogi i deilwra eich datblygiad proffesiynol eich hun i weddu i'ch anghenion, drwy ystod o fodiwlau therapi galwedigaethol a rhyngbroffesiynol fel datblygu eich sgiliau ym maes diogelwch cleifion neu drawsnewid systemau a gwasanaethau gofal drwy arweinyddiaeth. Byddwch hefyd yn ymdrin â meysydd craidd fel Gwyddor Alwedigaethol a Theori a Chymhwysiad Therapi Galwedigaethol.

Bydd ymchwilwyr ac academyddion profiadol sy’n arbenigwyr yn eu meysydd yn cefnogi eich dysgu. Caiff tiwtor personol ei ddyrannu i chi, fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau.

Yn ogystal, byddwch yn dysgu ochr yn ochr â grŵp amrywiol o fyfyrwyr byd-eang sy'n astudio ar wahanol gamau yn eu gyrfa, gan rannu gwybodaeth a meithrin dealltwriaeth o ymarfer Therapi Galwedigaethol ledled y byd.

Byddwch yn rhan o rywbeth sy'n newid bywydau ac ewch ati i ymgymryd â her newydd heddiw.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

Dyluniwyd ein cyrsiau er mwyn eich darparu gyda'r wybodaeth a'r profiad y bydd angen arnoch er mwyn dechrau dilyn gyrfa goal iechyd proffesiynol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0) 29 2068 7538
  • MarkerYsbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XN

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn Therapi Galwedigaethol (gyda phrofiad clinigol ôl-gofrestru neu hebddo), neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Neu, copi o'ch tystysgrif a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni Diploma mewn Therapi Galwedigaethol, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol, a geirda gan eich cyflogwr presennol i gadarnhau bod gennych ddwy flynedd o brofiad ymarfer. Dylid llofnodi geirda, dyddiad a llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol y mae'n rhaid iddo fynd i'r afael â'r pwyntiau canlynol:
  • Pam ydych chi wedi dewis y rhaglen hon? 
  • Beth sydd o ddiddordeb i chi am y rhaglen hon? 
  • Unrhyw brofiad perthnasol sy'n gysylltiedig â chynnwys y rhaglen neu'r modiwl. 
  • Sut rydych chi'n bwriadu defnyddio'r cymhwyster yn eich gyrfa. 
  • Sut y byddwch chi a'ch proffesiwn yn elwa o'ch astudiaethau. 
  • Pam rydych chi'n teimlo y dylid rhoi lle i chi ar y rhaglen.

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau yn cau ddiwedd mis Gorffennaf ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, gan gynnwys asesiad o addasrwydd drwy'r datganiad personol, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen MSc Therapi Galwedigaethol yn fodiwlaidd; rhaid i fyfyrwyr gwblhau 120 credyd yng nghydran a addysgir y rhaglen a 60 credyd arall yng nghydran y traethawd hir. Mae 90 credyd yn fodiwlau craidd a rhaid iddyn nhw gael eu cwblhau, ac mae 30 credyd yn ddewisol. Trefnir y modiwlau a addysgir mewn fformat bloc a chânt eu cynnal drwy gydol y semester.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Ym Mlwyddyn Un byddwch yn cwblhau tri modiwl craidd (90 credyd) ac un modiwl dewisol (30 credyd) sy'n cyfateb i 120 credyd yn elfen a addysgir y rhaglen.

Blwyddyn dau

Ym Mlwyddyn Dau byddwch yn cwblhau eich traethawd hir o ddewis o dri opsiwn (60 credyd).

Teitl modiwl Côd modiwlCredydau
Traethawd hir empirig HCT117 60 credydau
Lefel M Traethawd Hir: Prosiect yn y Gwaith NRT079 60 credydau
Lefel M Traethawd Hir: Adolygiad systematig o'r Llenyddiaeth NRT080 60 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Addysgir yn bennaf drwy drafodaethau, sesiynau dan arweiniad darlithwyr, seminarau dan arweiniad myfyrwyr, cyflwyniadau a thiwtorialau unigol. Ceir rhai darlithoedd hefyd.

Mae gwaith astudio hunangyfeiriedig yn rhan bwysig o'r cwrs, a chewch eich tywys drwy’r meysydd astudio.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar. Mae hyn yn eich galluogi i ddangos eich gallu i ddadansoddi a gwerthuso sefyllfaoedd ac i ddefnyddio gwahanol ffyrdd o gyflwyno eich syniadau a'ch galluoedd. Y prosiect ymchwil yw penllanw datblygu’r sgiliau hyn.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, crèche a chyfleusterau dydd, cyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.

Mae'r rhaglen hon yn rhoi cyfle i chi rannu syniadau â gweithwyr iechyd proffesiynol. Yn ogystal â datblygu eich galluoedd deallusol eich hun, mae rhannu syniadau fel hyn yn eich galluogi i ddysgu ac elwa o brofiadau pobl eraill. Rhoddir cyfle am y math hwn o drafodaeth a chyfnewid syniadau drwy seminarau a thiwtorialau.

Byddwch yn cael tiwtor personol penodol ar ôl cofrestru ar y rhaglen, sy'n gallu helpu gydag unrhyw ofal bugeiliol yn ogystal â rhoi cyngor ar arddull ysgrifennu, gramadeg a mentora academaidd.

Mae pob modiwl yn y rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd - Dysgu Canolog - yn helaeth. Yma bydd myfyrwyr yn dod o hyd i ddeunyddiau’r rhaglen, dolenni i ddeunyddiau cysylltiedig ac enghreifftiau o asesiadau.

Byddwn yn darparu adborth i chi ar eich gwaith mewn amrywiaeth o fformatau. Bydd y rhain yn cynnwys adborth llafar yn ystod darlithoedd, adborth ysgrifenedig a ddarperir drwy fforymau trafod modiwlau ar-lein, ac adborth ysgrifenedig electronig ar waith cwrs a asesir drwy GradeMark. Gallwch drafod eich perfformiad cyffredinol â'ch tiwtor personol.

Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i'ch cefnogi chi. Mae'r rhain yn cynnwys gwasanaeth cwnsela myfyrwyr, gwasanaeth cynghori myfyrwyr, cyfleusterau gofal dydd, a chyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff, yn ogystal â gwybodaeth am y campws a gwasanaethau llyfrgell a TG.

Mae ein ap myfyrwyr yn caniatáu i chi gael mynediad at wasanaethau Prifysgol Caerdydd a gwybodaeth wedi'i phersonoli mewn un lle ac mewn modd syml a chyfleus drwy ffôn clyfar, o’r siop apiau.

Dyma rai o’r nodweddion:

  • Mapiau o’r campws
  • Adnewyddu, taliadau, ac eitemau sydd ar gael i fyfyrwyr yn y llyfrgell
  • Amserlen myfyrwyr
  • Dod o hyd i gyfrifiadur sydd ar gael
  • Cael cymorth a chefnogaeth i fyfyrwyr
  • Newyddion myfyrwyr
  • Derbyn hysbysiadau pwysig
  • Dolenni i lansio apiau eraill y Brifysgol fel Outlook (ar gyfer ebost) a Blackboard (ar gyfer Dysgu Canolog).
  • Dolenni i apiau a argymhellir fel Nextbike, i helpu i wneud y mwyaf o brofiad myfyrwyr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae’r Deilliannau Dysgu ar gyfer y Rhaglen hon i’w gweld isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

  • Datblygu dull dadansoddi a datrys problemau a dangos sgiliau uwch wrth roi'r broses therapi galwedigaethol ar waith.
  • Datblygu dealltwriaeth fanwl o theori therapi galwedigaethol, y dystiolaeth y tu ôl iddi, a’r ffordd y caiff ei chymhwyso’n ymarferol.
  • Hyder wrth sbarduno newid a datblygu'r proffesiwn therapi galwedigaethol drwy ysgolheictod ac arweinyddiaeth.

Sgiliau Deallusol:

  • Gwerthuso ymarfer ac arfarnu datblygiadau neu newidiadau mewn ymarfer proffesiynol yn feirniadol.
  • Y gallu i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun a defnydd therapiwtig o’r hunan.
  • Y gallu i gymryd rhan mewn gwaith dadansoddi beirniadol, ysgolheictod uwch, ac ymchwil.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

  • Datblygu safonau ymarfer yn seiliedig ar feddwl myfyriol a datrys problemau/
  • Cysylltu theori ag ymarfer yn hyderus.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

  • Sgiliau arfarnu beirniadol a'r gallu i reoli prosiect sy'n seiliedig ar ymchwil.
  • Y gallu i sbarduno newid a datblygu'r proffesiwn drwy ymchwil a meddwl yn feirniadol.
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gryno ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan gyflwyno dadleuon sydd wedi’u hystyried yn dda.
  • Y gallu i weithio o fewn terfynau amser a blaenoriaethu llwyth gwaith.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £9,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £27,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Na

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nid

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae’r MSc Therapi Galwedigaethol yn cynnig cyfle i ddatblygu eich sgiliau o ran gwerthuso, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, a chynyddu eich gwybodaeth ymarferol a damcaniaethol o ffisiotherapi fel eich bod yn gallu cymhwyso’r sgiliau hynny at symud eich proffesiwn ymhellach yn ei flaen.

Gall cymhwyster ôl-raddedig proffesiynol arwain at gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa mewn nifer o gyfeiriadau, o ymarfer uwch yn eich maes clinigol, i rolau rheoli neu arwain, neu i swyddi mewn addysg. Mae astudio ôl-raddedig a addysgir hefyd yn gam delfrydol tuag at astudio neu ymchwilio ymhellach.

Mae ein graddedigion wedi ennill rolau gan gynnwys:

  • Swyddi therapi galwedigaethol
  • Swyddi rheoli therapi galwedigaethol
  • Swyddi addysgol fel darlithydd
  • Cydymaith Ymchwil
  • Ysgoloriaeth PhD

Lleoliadau

Na

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Gofal iechyd, Therapi galwedigaethol


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.