Ewch i’r prif gynnwys

Polisi Morol a Rheoli Llongau (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Archwiliwch y diwydiant morol trwy nifer o ddisgyblaethau ar y rhaglen hon sy’n canolbwyntio ar agweddau ymarferol.

tick

Addysgu a arweinir gan ymchwil

Byddwch yn dysgu gan academyddion sy'n arwain y ffordd yn rhyngwladol ym maes materion morol.

star

Newid busnes er gwell

Cyfle i weithio â phartner diwydiannol ar brosiect ymchwil gan gasglu data sylfaenol ar gyfer eich traethawd hir.

globe

Prifysgol Caerdydd: gwneud cysylltiadau

Ymunwch â rhwydwaith byd-eang o gynfyfyrwyr a myfyrwyr presennol sydd nawr yn gweithio yng Ngwlad Groeg, Singapore, De Korea, Taiwan, Tsieina a'r DU.

rosette

Achrediad proffesiynol

Bydd gennych fynediad at wybodaeth unigryw am y diwydiant, a gallwch gael cyngor gyrfaol personol a mynychu gweithdai a hyfforddiant gyda'n haelodaeth CILT.

Mae twf cyflym a chystadleuaeth yn y diwydiant llongau byd-eang wedi gadael diffyg gweithwyr proffesiynol sydd â’r adnoddau a’r technegau i reoli porthladdoedd a gweithrediadau llongau, yn unol â chyfraith forol a rheoliadau diogelwch.

Ochr yn ochr â systemau cymhleth llywodraethu’r cefnforoedd, sy’n amrywio o godau ymddygiad i bolisïau rhanbarthol a rhyngwladol sy’n rhwymo’n gyfreithiol, mae galw mawr am weithwyr proffesiynol morol sy’n gallu mapio’r cwrs o’u blaenau.

Newid y byd yw ein busnes ni.

Mae ein cwrs MSc Polisi Morol a Rheoli Llongau yn mynd i’r afael â’r heriau mawr hyn o amrywiaeth o safbwyntiau. Byddwn yn eich helpu i fod yn weithiwr proffesiynol ym maes rheoli neu lunio polisïau sy’n gallu gwneud penderfyniadau sy’n ystyried ystod lawn o effeithiau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chyfreithiol busnes morol.

Bydd ein harbenigwyr yn tynnu ar arbenigedd academaidd ac ymgynghori i wella eich rhagolygon o ran gyrfa rhyngwladol, gan eich cyflwyno i longau o fewn systemau logisteg ehangach. Byddant yn defnyddio ymchwil o safon fyd-eang i roi dealltwriaeth feirniadol i chi o’r diwydiant morol, y polisi amgylcheddol mae’n gweithredu ynddo, a rheolaeth gweithrediadau llongau.

Achrediadau

Cardiff Business School is accredited by AACSB international - The Association to Advance Collegiate Schools of Business.

Young woman smiling
“Mae rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol ifanc o’r un anian yn ogystal â staff arbenigol o wahanol ddiwylliannau wedi ehangu fy ngorwelion a rhoi dealltwriaeth mwy hyblyg ac addasadwy i mi o’r diwydiant morol.”
Lydia Alexandra Koumarela MSc Polisi Morol a Rheoli Llongau

Ble byddwch yn astudio

Ysgol Busnes Caerdydd

Rydym yn Ysgol Busnes sydd wedi’i hachredu gan AACSB ac AMBA ac mae gennym bwrpas clir: cael effaith gadarnhaol yng nghymunedau Cymru a'r byd.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4674
  • MarkerRhodfa Colum, Cathays, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn unrhyw bwnc neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, efallai y bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail eich profiad proffesiynol, megis cymwysterau capteiniaeth môr neu brofiad gwaith sy'n gysylltiedig â'r môr. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cynhelir y cwrs hwn rhwng mis Medi a mis Medi. Rhwng mis Medi a mis Mehefin byddwch yn astudio 120 credyd o fodiwlau a addysgir o ystod o fodiwlau craidd gorfodol ac amrywiaeth o opsiynau.

Ar ôl y cam hwn a addysgir, byddwch yn ymgymryd â phrosiect traethawd hir, a gyflwynir ym mis Medi, gyda chymorth goruchwyliwr academaidd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn astudio cyfanswm o fodiwlau gwerth 120 o gredydau bob blwyddyn. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae modiwlau'n werth 15 credyd ac yn cael eu haddysgu dros un semester, ond mae un modiwl dewisol yn werth 30 credyd ac yn cael ei addysgu dros ddau semester.

Yn y semester cyntaf, byddwch yn astudio dau fodiwl gorfodol sy'n anelu at roi dealltwriaeth fanwl i chi o bolisi morol a rheoli llongau. Daw'r ddau fodiwl sy'n weddill o amrywiaeth o opsiynau sy'n ategu'r cydrannau gorfodol.

Byddwch hefyd yn astudio pedwar modiwl 15 credyd yn yr ail semester. Yma, mae un modiwl gorfodol yn darparu hyfforddiant dulliau ymchwil i gefnogi'r traethawd hir yn arbennig. Daw gweddill y modiwlau o gronfa o opsiynau. Mae llawer o'r rhain wedi'u teilwra tuag at y diwydiant llongau er bod cyfleoedd yn cael eu darparu i astudio pynciau sy'n eich helpu i osod trafnidiaeth môr o fewn systemau logisteg ehangach. Wrth wneud hynny, gallwch addasu eich profiad dysgu tra'n bodloni deilliannau dysgu cyffredinol y rhaglen.

Daw'r cyfnod a addysgir i ben ym mis Mehefin ac, yn amodol ar gwblhau'n llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i gam y traethawd hir. Drwy ysgrifennu'r traethawd hir, byddwch yn caffael ac yn datblygu sgiliau ymchwil sy'n berthnasol i'ch dewis o bwnc. Cyflwynir y traethawd hir ddechrau mis Medi.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Economeg ForwrolBST80115 credydau
Polisi MorwrolBST80215 credydau
Sgiliau a Dulliau YmchwilBST84715 credydau
Polisi Morwrol a Thraethawd Hir Rheoli LlongauBST85060 credydau
Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Dadansoddeg Data BusnesBST81115 credydau
Systemau a Sefydliadau GwybodaethBST81215 credydau
Logisteg RyngwladolBST82715 credydau
Gweithrediadau Trafnidiaeth AmlfoddolBST83415 credydau
Rheoli Risg mewn Cadwyni CyflenwiBST83515 credydau
Siartro ShipBST83615 credydau
Rheoli Llongau a ChyllidBST83715 credydau
Rheoli PorthladdoeddBST84015 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae ein dulliau addysgu yn cael eu llywio’n helaeth gan ymchwil ac maen nhw’n cyfuno manylrwydd academaidd â pherthnasedd ymarferol. Mae ein cyfadran, sydd o fri rhyngwladol, yn cynnwys academyddion sydd ar flaen y gad o ran gwybodaeth yn eu maes. Maen nhw’n dod â’r gwersi maen nhw wedi eu dysgu o’u hymchwil ddiweddaraf i’r ystafell ddosbarth, gan eich galluogi i feddwl yn feirniadol am fusnes a chynnig enghreifftiau a senarios cyfredol, go iawn. Mae Gwerth Cyhoeddus wedi'i ymgorffori yn ein haddysgu, gan adlewyrchu strategaeth ehangach yr Ysgol Busnes. Mae'r amrywiaeth o opsiynau sydd ar gael yn annog dull amlddisgyblaethol o weithredu.

Bydd nifer o adnoddau addysgu a dysgu yn cael eu darparu'n electronig drwy Dysgu Canolog. Er mwyn llwyddo i gwblhau'r cwrs, bydd gofyn i chi weithio yn ystod a thu allan i sesiynau addysgu ffurfiol, a manteisio ar y cyfleusterau sy’n cael eu darparu.

Mae'r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd ac addysgu mewn grwpiau bach (dosbarthiadau, seminarau, gweithdai neu sesiynau tiwtorial). Mewn darlith, bydd y darlithydd yn rhoi trosolwg yn bennaf o agwedd benodol ar gynnwys y modiwl. Bydd gennych gyfle i ofyn cwestiynau a myfyrio mewn darlithoedd. Mae dosbarthiadau a gweithdai yn rhoi cyfle i chi ymarfer technegau, trafod syniadau, cymhwyso cysyniadau a chryfhau eich dealltwriaeth o'r pwnc.

Yn ogystal â dosbarthiadau wedi'u hamserlennu, bydd ymarferwyr yn cael gwahoddiad i roi cyflwyniadau hefyd, gan alluogi myfyrwyr i gysylltu'r wybodaeth sy’n cael ei darparu gan y darlithwyr ag enghreifftiau o'r byd go iawn.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r dulliau asesu'n amrywio o fodiwl i fodiwl ond, ar draws cynllun y radd yn gyffredinol, gallwch ddisgwyl cymysgedd o arholiadau, gwaith cwrs, traethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau unigol ac mewn grŵp.

Sut y caf fy nghefnogi?

Mae’r Brifysgol yn cynnig llawer o gymorth i ôl-raddedigion. Mae’r rhain yn cynnwys:

Dysgu Canolog

Amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol yw Dysgu Canolog. Cyhoeddir deunyddiau pob rhaglen a modiwl yno ar gyfer sylw myfyrwyr cyn darlithoedd, yn ystod darlithoedd ac ar ôl darlithoedd.

Llyfrgelloedd

Mae copïau caled ac electronig o amryw o lyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data ar gael i fyfyrwyr y rhaglen. Mae Llyfrgell Aberconwy ar brif safle Ysgol Busnes Caerdydd, ac mae adnoddau ychwanegol yn y llyfrgelloedd eraill sydd ar y campws. Mae llawer o gyfnodolion a llyfrau ar ffurf electronig ar gael hefyd.

System Tiwtor Personol

Byddwch yn cael Tiwtor Personol. Bydd yr aelod hwnnw o’r staff academaidd yn goruchwylio eich profiadau dysgu ac addysgol yn barhaus. Os cewch unrhyw anawsterau, bydd eich Tiwtor Personol ar gael i wrando a chynnig arweiniad proffesiynol os oes modd, neu gall eich cyfeirio at y cymorth priodol.

Gwasanaeth Cynghori’r Myfyrwyr

Mae gwasanaeth cyfrinachol a diduedd yn rhad ac am ddim ar gael i chi, a hynny heb fynegi barn, ynglŷn ag ystod eang o faterion personol, ariannol ac academaidd.

Y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia

Mae cyngor a chymorth cyfrinachol yn cael ei ddarparu i chi os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia, neu gyflwr meddygol hirdymor.

Gwasanaeth Cwnsela

Mae Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Caerdydd yn rhoi cyfle i aelodau o gymuned y Brifysgol edrych ar y materion sy’n eu rhwystro rhag cyflawni eu llawn botensial ac ystyried ffyrdd o newid. Mae’r Gwasanaeth Cwnsela yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim. Mae wedi’i gydnabod yn rhyngwladol yn Ganolfan Ragoriaeth o ran cwnsela unigolion a grwpiau.

Canolfan y Graddedigion

Mae'r Ganolfan ar drydydd llawr Adeilad Undeb y Myfyrwyr ym Mlas y Parc, ac mae'n gwasanaethu'r holl fyfyrwyr ôl-raddedig ymchwil ac a addysgir sydd wedi cofrestru ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig cyfleusterau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer y gymuned ôl-raddedig.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  1. gwybodaeth systematig a manwl am y cysyniadau a'r prosesau sy'n gysylltiedig â chreu'r fframwaith polisi y mae llongau rhyngwladol yn gweithredu ynddo.
  2. ymwybyddiaeth feirniadol o'r dulliau presennol o reoli llongau fel y nodwyd gan ymchwil blaenllaw.
  3. y gallu i werthuso effaith tueddiadau a materion sy'n dod i'r amlwg ar brosesau trefnu, rheoleiddio a rheoli llongau rhyngwladol.
  4. dealltwriaeth systematig o effaith newidiadau yn y fframwaith rheoleiddio morol ar longau rhyngwladol.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  1. y gallu i gymhwyso gwybodaeth mewn ffordd wreiddiol wrth ymchwilio i faterion sy'n ymwneud â'r môr.
  2. gallu mewn methodolegau a ddefnyddir wrth ymchwilio'n empirig i faterion morol.
  3. cymhwysedd mewn dal natur ryngddisgyblaethol dysgu am bynciau morol a llongau.
  4. gwerthfawrogiad llawn o'r berthynas rhwng swyddogaethau rheoleiddio, gweithrediadau a rheoli llongau a materion morol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  1. y gallu i gydnabod rôl a rhyngweithio rhwng rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat yn y diwydiant llongau.
  2. gwreiddioldeb ac annibyniaeth wrth fynd i'r afael ag ystod o broblemau gwahanol a'u datrys yng nghyd-destun y diwydiant llongau.
  3. gallu delio â materion cymhleth mewn ffordd systematig a chreadigol.
  4. cymhwysedd wrth ddadansoddi problemau cymhleth ar sail data trwyadl a chyfleu eu hatebion yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol neu heb fod yn arbenigwyr.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu dangos:

  1. cymhwysedd mewn cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig ac ymarferol.
  2. gallu gweithio'n effeithiol mewn tîm ac yn unigol
  3. gallu defnyddio TG (e.e. y rhyngrwyd, taenlenni, prosesu geiriau) mewn amgylchedd dysgu cymhwysol.
  4. gallu gweithio i ystod o amserlenni i gyd-fynd â gofynion tasgau ac allbynnau'r rhaglen.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £12,200 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £20,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Ni fydd angen unrhyw gyfarpar penodol.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, cewch addysg fydd yn newid eich gyrfa gan academyddion o safon fyd-eang sydd â safbwyntiau gwahanol. Byddant yn herio eich ffordd o feddwl wrth i chi ystyried y byd busnes o ystod o safbwyntiau gwahanol.

Ar ein cwrs MSc Polisi Morol a Rheoli Llongau, byddwch yn elwa ar wybodaeth ac arbenigedd ein Tîm Gwella Gyrfaoedd. Maent yn barod ac yn aros i ganfod digwyddiadau a chyfleoedd i’ch helpu i gyflawni eich dyheadau yn y dyfodol.

Rydym wedi datblygu perthnasoedd sy’n amrywio o’r cwmnïau rhyngwladol mwyaf i’r microfusnesau lleiaf, a’r rhai hynny’n cynnwys amrywiaeth eang o fentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol. Rydym yn defnyddio’r rhwydweithiau hyn i sicrhau gwerth i’n myfyrwyr, a hynny trwy sicrhau a threfnu’r canlynol:

  • interniaethau ac astudiaethau achos o’r byd go iawn
  • cydweithrediad â’n Hentrepreneuriaid Gwerth Cyhoeddus Preswyl
  • darlithoedd gwadd gan aelodau o Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth
  • tripiau maes a gweithdai.

Bydd y profiad amrywiol ac eang hwn yn helpu i hyrwyddo eich gyrfa ac yn dangos sut y gallwch wneud gwahaniaeth ar y daith.

Mae'r rhaglen yn darparu ystod eang o sgiliau proffesiynol a gall arwain at amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith. Mae llawer o'n graddedigion yn cael gwaith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mewn cwmnïau gweithredu/rheoli llong, clybiau amddiffyn ac indemniad, cymdeithasau diwydiant a sefydliadau polisi. Mae graddedigion diweddar wedi dod o hyd i waith gyda Llinellau Llongau, Awdurdodau Porthladd, Sefydliadau Rheoli Traffig Llongau, y Sefydliad Morol Rhyngwladol, ac mewn Cwmnïau Rheoli Risg

Lleoliadau

Yn y cyfnod traethawd hir, byddwch yn cael cynnig cyfle (yn amodol ar berfformiad academaidd) i ymgymryd â phrosiect ar y cyd â phartner diwydiannol. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ennill gwybodaeth am ymarfer diwydiannol, a chyfrannu data sylfaenol ar gyfer yr astudiaeth traethawd hir ar yr un pryd. Mae nifer cyfyngedig o brosiectau ar gael bob blwyddyn, a chynhelir proses gystadleuol i ddewis myfyrwyr sy'n addas ar gyfer y prosiect.

Young man smiling
“Mae’r rhaglen yn darparu’r wybodaeth fanwl sydd ei angen i lwyddo, gan ymdrin â phynciau sy’n ymwneud â Pholisi Morol, y Morlys a Chyfraith Masnach Rhyngwladol, Economeg Forol a Siartro. Mae hyn wedi fy helpu i gael dealltwriaeth gadarn o’r diwydiant llongau a denu sylw yn y farchnad swyddi rhyngwladol.”
Panagiotis Katsionis MSc Polisi Morol a Rheoli Llongau

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Busnes, Gwyddor amgylcheddol, Rheoli


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.