Ewch i’r prif gynnwys

Arloesi a Rheoli mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y rhaglen MSc newydd hwn yw rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr cymwys maen nhw eu hangen i gael eu cyflogi fel peirianwyr proffesiynol. Bydd y cwrs yn seiliedig ar arbenigedd ymchwil enwog cyfoes yn thema Mecaneg, Deunyddiau ac Uwch-weithgynhyrchu’r Ysgol.

academic-school

Leading facilities

The opportunity to learn within a vibrant research environment with leading facilities, including the Structural Performance Laboratory and Renishaw Metrology Laboratory

structure

Interdisciplinary teaching

Members of Cardiff Business School contribute significant inputs into the teaching and project work of this course, providing students with the latest in business and management knowledge and skills.

briefcase

Industry connections

Students will benefit from the school’s close involvement with industry, working with some of the world’s most renowned engineering companies.

notepad

Major project

Students will complete a major individual research-based project undertaken within one of our leading research groups and/or with our industrial partners as part of the course.

star

Strong research expertise

This course is informed by current, internationally renowned research expertise undertaken within the school’s Advanced Manufacturing priority research area. This includes optional modules in the subject areas of robotics, manufacturing, informatics, innovation, and artificial intelligence.

Nod y rhaglen MSc hon, sydd newydd gael ei datblygu, yw cymryd myfyrwyr â chymwysterau da (y sawl sydd â gradd baglor dda mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu, neu gymhwyster cyfatebol, fel rheol) a rhoi iddyn nhw’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i gael eu cyflogi fel peirianwyr proffesiynol ar draws ystod eang o feysydd yn y diwydiant Peirianneg Gweithgynhyrchu.

Yn fwy penodol, nod y rhaglen MSc hon yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi:

  • Gwybodaeth uwch am bynciau Peirianneg Gweithgynhyrchu ac amrywiaeth eang o bynciau arbenigol mewn disgyblaethau peirianyddol a gwyddonol cysylltiedig.
  • Ymwybyddiaeth o'r cyd-destun mae Peirianneg Gweithgynhyrchu yn gweithredu ynddo o ran agweddau diogelwch, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
  • Amrywiaeth eang o sgiliau deallusol, ymarferol a throsglwyddadwy a fydd yn eich galluogi i ddilyn gyrfaoedd ymchwil, gyrfaoedd yn y diwydiant a gyrfaoedd ym meysydd proffesiynol eraill yr economi.
  • Dealltwriaeth systematig o wybodaeth i ôl-raddedigion, yn ogystal ag ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau presennol a dealltwriaeth newydd sy'n flaenllaw ym maes Peirianneg Gweithgynhyrchu.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc gradd perthnasol fel peirianneg ddiwydiannol, peirianneg gweithgynhyrchu, peirianneg fecanyddol, neu beirianneg gynhyrchu, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn fel rhaglen lefel Meistr amser llawn am flwyddyn. Bydd yn cynnwys dau gam ac yn para cyfanswm o un flwyddyn galendr.

Bydd Cam 1 yn para dros ddau semester a bydd yn cynnwys modiwlau a addysgir yn bennaf ac astudiaeth achos fel rhagflaenydd i'r prosiect ymchwil a'r traethawd hir ym maes Peirianneg Gweithgynhyrchu, Arloesedd a Rheoli, gwerth 120 credyd, a Cham 2, sy'n cynnwys modiwl Traethawd Hir gwerth 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd amrywiaeth eang o arddulliau addysgu yn cael eu defnyddio i gyflwyno'r deunydd amrywiol sy'n ffurfio cwricwlwm y rhaglen, a bydd gofyn i chi fynd i ddarlithoedd a chymryd rhan mewn dosbarthiadau enghreifftiol.

Mae modiwl 10 credyd yn cynrychioli tua 100 awr o astudio i gyd, sy'n cynnwys 24-36 awr o amser cyswllt gyda staff addysgu. Bwriedir i'r oriau sy'n weddill fod ar gyfer astudio’n breifat, gwaith cwrs, adolygu ac asesu. Felly disgwylir i chi dreulio cryn dipyn o amser (20 awr yr wythnos fel arfer) yn astudio'n annibynnol.

Ar gyfer cam y traethawd hir, byddwch yn cael goruchwyliwr ym maes perthnasol eich gwaith ymchwil, a dylech ddisgwyl cwrdd â’r goruchwyliwr yn rheolaidd.

Bydd Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gyfathrebu, cefnogi darlithoedd a darparu deunyddiau cyffredinol rhaglenni, fel rhestrau darllen a disgrifiadau o’r modiwlau. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer asesiadau hunan-brofi ac i roi adborth.

Sut y caf fy asesu?

Asesu:

Asesir y gwaith o ddatblygu deilliannau dysgu yn y modiwlau yn yr ystafell ddosbarth drwy arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr a Mai/Mehefin. Mae'r cydbwysedd rhwng arholiadau a gwaith cwrs yn dibynnu ar y modiwlau a ddewisir, yn ogystal ag astudiaeth achos modiwl triphlyg (30 credyd).

Mae angen cwblhau Cam 2 yn llwyddiannus, sef y Traethawd Hir, a chael marc o 50% neu uwch er mwyn cael MSc.

Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr sy’n cael marc o 70% ar gyfartaledd yn cael Rhagoriaeth. Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr sy’n cael marc o 60% ar gyfartaledd yn cael Teilyngdod. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i ennill cymhwyster MSc gael Diploma Ôl-raddedig Addysg Uwch ar gyfer y 120 credyd yng Ngham 1. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i gwblhau’r 120 credyd angenrheidiol ar gyfer Cam 1 fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Tystysgrif Ôl-raddedig Addysg Uwch am gyflawni o leiaf 60 credyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi er mwyn eich helpu gyda chynnydd academaidd a chymorth bugeiliol pan fo angen. Bydd y tiwtor personol yn cwrdd â chi yn gynnar yn y rhaglen, ac yn ôl yr angen wedi hynny.

Rhaid i chi roi gwybod i'ch tiwtor personol, i oruchwyliwr y prosiect ac i’r Swyddfa Addysgu am unrhyw amgylchiadau neu salwch a allai effeithio ar eich gallu i fynd i addysgu neu ymgymryd ag asesiad.

Yn ogystal â'r ystod eang o wasanaethau cymorth sy’n cael eu darparu’n ganolog gan Brifysgol Caerdydd, bydd myfyrwyr ag anghenion penodol yn cael eu cefnogi yn ôl yr angen.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu'r sgiliau canlynol:

Gwybodaeth a dealltwriaeth

  • Deall theorïau, egwyddorion a chysyniadau yng nghyd-destun Peirianneg Gweithgynhyrchu gan gefnogi'r broses o gymhwyso’r canlynol yn effeithiol - gwyddoniaeth peirianneg, mathemateg a disgyblaethau eraill sydd eu hangen ar gyfer datrys problemau Peirianneg Gweithgynhyrchu.
  • Deall cyfyngiadau gwybodaeth a thechnolegau cyfredol a'r angen i gael gwybodaeth newydd drwy astudio mwy wrth ymateb i natur technolegau ac anghenion cymdeithas sy’n newid.
  • Deall rôl Arloesi yn y cyd-destun Peirianneg Gweithgynhyrchu.
  • Ennill sgiliau rheoli sy'n briodol ar gyfer gyrfa mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu a/neu amgylchedd ymchwil.
  • Galluogi’r broses o ddadansoddi gwybodaeth yn feirniadol, gan gynnwys llenyddiaeth gyfredol i gefnogi'r gwaith o nodi bylchau mewn gwybodaeth a allai arwain at arloesi a datblygiadau ym maes Peirianneg Gweithgynhyrchu.
  • Bod yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau sydd gan beirianwyr proffesiynol i gymdeithas.

Sgiliau Deallusol

  • Defnyddio gwybodaeth a dulliau gwyddonol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wrth asesu a datrys heriau Peirianneg Gweithgynhyrchu, yn aml heb fawr o wybodaeth ac o bosibl, gwybodaeth anghyson.
  • Delio â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol.
  • Bod yn wreiddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
  • Ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol mewn maes Peirianneg Gweithgynhyrchu, Arloesedd a Rheoli sy'n cynnwys gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth.
  • Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; a chanfod ffyrdd o gael data newydd pan fo angen.
  • Ystyried, cynllunio, gweithredu a chyfleu canlyniadau darn manwl estynedig o waith prosiect unigol.
  • Cynnal dadl feirniadol, yn ysgrifenedig a thrwy gyflwyniadau.

Sgiliau Ymarferol

  • Defnyddio dulliau mathemategol ac arbrofol priodol ar gyfer modelu a dadansoddi problemau Peirianneg Gweithgynhyrchu, Arloesedd a Rheoli.
  • Cyflawni prosiect mawr yn llwyddiannus, gan ystyried cyfyngiadau fel amser, cost, iechyd a diogelwch yn ogystal â materion amgylcheddol.

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Trin, cyflwyno ac adrodd ar ddata mewn amrywiaeth o ffyrdd.
  • Rheoli adnoddau ac amser.
  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a chorfforol neu ymarferol.
  • Llunio adolygiad cryno o lenyddiaeth.
  • Defnyddio offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) yn effeithiol.
  • Gweithio'n effeithiol mewn grŵp tuag at gyflawni nodau a thargedau penodol.
  • Deall rôl gwaith prosiect unigol a gwaith prosiect tîm yng nghyd-destun Peirianneg Gweithgynhyrchu proffesiynol.
  • Datblygu sgiliau rheoli prosiect sy'n briodol ar gyfer gyrfa mewn peirianneg a deall sut i gymhwyso'r sgiliau hyn mewn amgylchedd masnachol a/neu ymchwil.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nid oes angen unrhyw offer penodol ar gyfer y cwrs hwn.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Bydd y cyfleoedd cyflogaeth i fyfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen arfaethedig ar gael yn bennaf gyda chwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol yn y sector peirianneg gweithgynhyrchu.

Efallai y byddwch yn dymuno defnyddio'r llwyfan MSc i fynd ymlaen i astudio ar gyfer PhD sy'n gallu arwain at yrfa academaidd neu ddiwydiannol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Engineering, Manufacturing engineering


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.