Ewch i’r prif gynnwys

Ymarfer Cyfreithiol (PgDip)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Ymgeisiwch

Bydd angen i chi wneud cais i'r cwrs hwn trwy un o'n partneriaid.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Gallwch gaffael y sgiliau, y wybodaeth a’r agwedd i’ch paratoi ar gyfer dechrau contract hyfforddi cyfreithiol.

rosette

Profiad helaeth

Mae gan ein tiwtoriaid brofiad helaeth o fod yn gyfreithwyr yn y diwydiant cyfreithiol, ac mae hyn yn golygu bod agweddau ymarferol go iawn wrth wraidd eu sesiynau addysgu.

briefcase

Y cyfle i gael profiad perthnasol

Rydym yn gwarantu lleoliad gwaith i bob myfyriwr heb gytundebau hyfforddi neu brofiad gwaith sylweddol.

star

Opsiynau astudio hyblyg

Gallwch astudio'r ddau gam sy’n rhan o’r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) gyda'i gilydd, neu wneud cais i wneud yr elfennau craidd yn unig neu un neu ragor o’r pynciau dewisol ar adegau gwahanol.

briefcase

Y cyfle i gymryd rhan ar y cyd â’ch astudiaethau academaidd

Rydym yn cynnig ystod o brosiectau pro bono arloesol. Gallwch weithio gyda chleientiaid go iawn dan oruchwyliaeth pobl broffesiynol.

Mae'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) yn cynnig astudiaeth ôl-raddedig ddwys i'r rhai sydd eisiau cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr, o dan y system bresennol. Er mwyn cymhwyso'n llawn ar ôl cwblhau'r LPC, bydd angen i chi ymgymryd â chontract hyfforddi dwy flynedd, sy'n gyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig yn y gweithle.

Mae hwn yn gwrs dwys, rhyngweithiol iawn, sy'n seiliedig ar sgiliau. Byddwch yn cael eich asesu drwy arholiad, gwaith cwrs ac asesiad byw o'ch sgiliau.

Bydd yr LPC yn sicrhau eich bod yn caffael y sgiliau, y wybodaeth a'r agwedd i'ch paratoi ar gyfer dechrau contract hyfforddi. Bydd yn eich paratoi i ddelio â'r gofynion sy'n debygol o gael eu gwneud ohonoch wrth ymarfer, ac yn gosod y sylfaen ar gyfer eich ymarfer fel cyfreithiwr yn y dyfodol, gan annog arferion cymhwysedd, hyder a phroffesiynoldeb.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6102
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon, bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad a'r Trefniadau Trosiannol a bennir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a chyflwyno cais drwy'r Bwrdd Ceisiadau Canolog (CAB).

Gyda'ch cais bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod naill ai: a) wedi ennill gradd anrhydedd 2:2 yn y Gyfraith Gymhwyso yn y DU, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Neu b) wedi ennill gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc ac wedi ennill Arholiad Proffesiynol Cyffredin (CPE) neu Ddiploma Graddedigion yn y Gyfraith (GDL). Os yw eich gradd, tystysgrif CPE neu GDL yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau interim neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n amlinellu eich ymrwymiad i'r proffesiwn cyfreithiol, profiad gwaith cyffredinol (os o gwbl), a'r rhesymau dros fod eisiau astudio'r LPC ym Mhrifysgol Caerdydd.
  4. O leiaf un geirda academaidd sy'n amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Bydd ceisiadau i'r CAB yn agor ar 1 Hydref ac yn cau ar 31 Gorffennaf ym mhob cylch cais, fodd bynnag, rydym yn gweithredu ein dyddiad cau ein hunain sef 30 Ebrill. Os byddwch yn cyflwyno cais i'r CAB ar ôl 30 Ebrill, byddwn ond yn ei ystyried os yw lleoedd ar gael o hyd.

Sylwch y bydd y CAB ond yn rhyddhau ceisiadau i ni ar ôl cyflwyno ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn, ynghyd â'r holl dystiolaeth ategol gan gynnwys cyfeiriadau (lle bo hynny'n ofynnol gan y CAB), a'r ffi ymgeisio a dalwyd. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar yr holl ffactorau canlynol:

  • os ydych wedi bodloni'r gofynion mynediad ac wedi darparu'r dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi'ch cais (e.e. cofnod academaidd, geirdaon a datganiad personol)
  • eich gradd o ymrwymiad i'r proffesiwn cyfreithiol (dangosir, er enghraifft, drwy leoliadau gyda chwmnïau cyfreithwyr neu brofiad cyfatebol)
  • Profiad gwaith cyffredinol
  • rhesymau dros fod eisiau astudio'r LPC ym Mhrifysgol Caerdydd
  • dyddiad derbyn y cais gan Brifysgol Caerdydd
  • Trefn Dewis y Sefydliad
  • unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar eich gallu i astudio yn rhywle arall.

 

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r LPC wedi'i rannu'n ddau gam: Cam un a Cham dau, er bod y camau wedi'u cyfuno ar yr LPC rhan-amser, gyda rhannau o bob cam yn cael eu hastudio ym mhob un o ddwy flynedd y cwrs. Bob blwyddyn mae'r cwrs yn dechrau ym mis Medi ac yn dod i ben ym mis Mehefin.

Mae'r cwrs yn dechrau gyda Chwrs Sylfaen sydd wedi'i gynllunio i osod y llwyfan ar gyfer gweddill y flwyddyn gyntaf. Yn y Cwrs Sylfaen rydych chi’n cael eich cyflwyno i sgiliau cwrs, i feysydd ymarfer craidd a astudir yn y flwyddyn gyntaf, ac i elfennau eraill o'r LPC, fel Ymddygiad a Rheoleiddio Proffesiynol. Yn ogystal ag elfennau safonol yr LPC, rydyn ni hefyd yn cynnig cwrs byr, dewisol ar Eiriolaeth yn y Gymraeg, y gall myfyrwyr rhan-amser ei wneud yn yr ail flwyddyn.

Yn ystod Cam un byddwch yn astudio tri maes ymarfer craidd:

  • Cyfraith Busnes ac Ymarfer
  • Cyfraith Eiddo ac Ymarfer
  • Ymgyfreitha.

Yn ogystal â’r canlynol:

  • Ymddygiad a Rheoleiddio Proffesiynol
  • Cyfrifon Cyfreithwyr
  • Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau
  • Trethiant.

Byddwch hefyd yn astudio ac yn ymarfer y Sgiliau Cwrs canlynol:

  • Ymchwil Gyfreithiol Ymarferol
  • Ysgrifennu
  • Drafftio
  • Cyfweld a Chynghori
  • Eiriolaeth.

Yn ystod Cam dau byddwch yn astudio tri modiwl galwedigaethol dewisol. Rydyn ni’n adolygu ein hystod o gyrsiau dewisol ac yn cynnig amrywiaeth o bynciau i chi eu dewis.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r rhaglen ran-amser yn cael ei haddysgu ar ddydd Gwener. (Fodd bynnag, mae'r Cwrs Sylfaen yn yr wythnos gyntaf yn gwrs dau ddiwrnod ar ddydd Llun a dydd Mawrth. Hefyd, efallai na fydd asesiadau cwrs wedi'u trefnu ar gyfer dydd Gwener.)

Mae’r addysgu’n digwydd mewn gwersi i grwpiau mawr a bach. Mae grwpiau mawr ar ffurf darlithoedd i bob myfyriwr ac mae pob grŵp mawr yn para awr. Yn y Cwrs Sylfaen cyflwynir gwersi grŵp mawr yn fyw ac maen nhw wedi cael eu hamserlennu. Ond ar ôl hynny, ni fydd myfyrwyr rhan-amser yn mynd i ddarlithoedd byw. Yn hytrach, byddant yn cael gafael ar recordiadau o'r darlithoedd ar-lein, ar amgylchedd dysgu rhithwir y Brifysgol, sef Dysgu Canolog.

Bydd addysgu grŵp bach yn cael ei drefnu mewn grwpiau o hyd at 16-18 o fyfyrwyr er y gallech gael eich trefnu'n grwpiau llai ar gyfer rhai gwersi. Fel arfer, trefnir bod gwersi grwpiau bach yn cael eu cynnal am ddwy awr, er y gall rhai bara dwy awr a hanner neu dair awr. Mae mynd i sesiynau grŵp bach yn orfodol.

Nodwedd nodedig o’r LPC yw y bydd eich cynnwys chi mewn cyflawni Sgiliau’r Cwrs yn llunio rhan sylweddol o’r amser sy’n cael ei neilltuo i ymarfer yr ystafell dosbarth.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r asesiadau LPC wedi'u cynllunio i fod yn deg, yn drylwyr, yn realistig, gan roi digon o sylw manwl a/neu eang i'r sgiliau a'r pynciau a asesir. Bydd asesiadau unigol yn cynnwys cynrychiolaeth o'r deilliannau yn y maes pwnc neu sgiliau penodol. Bydd yna bob amser bwyslais ar yr elfen ymarferol.

Mae asesiadau ffurfiannol ar gyfer pob un o bynciau a sgiliau Cam un. Mae'r asesiadau ffurfiannol hyn yn eich helpu i addasu i ofynion gwahanol yr asesiadau ar gwrs galwedigaethol, yn hytrach na chwrs academaidd.

Mae 14 o asesiadau crynodol, sy'n asesu pob un o bynciau a sgiliau gorfodol Cam un a'r tri modiwl galwedigaethol dewisol. Mae pob asesiad yn cael ei oruchwylio, ac eithrio'r asesiad mewn Ymchwil Gyfreithiol Ymarferol, sydd ar ffurf gwaith cwrs ysgrifenedig.

Mae'r rhan fwyaf o'r asesiadau dan oruchwyliaeth yn arholiadau ysgrifenedig llyfr agored ond mae asesiadau sgiliau llafar dan oruchwyliaeth mewn Eiriolaeth, Cyfweld a Chynghori ac Ewyllysiau a Gweinyddu Ystadau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Defnyddir e-ddysgu i gefnogi eich dysgu; cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn gallu cael gafael ar ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau. Rydyn ni’n darparu'r rhan fwyaf o'r deunyddiau gwersi ar ffurf electronig yn ogystal â chopïau caled. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod recordiadau o sesiynau grŵp mawr ar gael drwy Dysgu Canolog.

Byddwch yn derbyn cymorth bugeiliol penodol drwy ein cynllun tiwtor personol. Rydyn ni’n cynnig rhaglen helaeth o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd gyda Chynghorydd Gyrfaoedd arbenigol. Mae'r gweithgareddau Gyrfaoedd fel arfer wedi'u trefnu ar ddydd Iau, nid ar ddydd Gwener, ond bydd recordiadau o'r cyflwyniadau ar gael i fyfyrwyr rhan-amser ar Dysgu Canolog.

Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Hefyd, mae gan y Brifysgol amrywiaeth o wasanaethau i'ch cefnogi, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd rhagorol gyda llyfrgellwyr y gyfraith arbenigol a chanolfannau adnoddau.

Adborth

Ystyrir bod adborth yn flaenoriaeth a'i fwriad yw codi eich lefelau cymhwysedd. Byddwch yn cael asesiadau ffurfiannol yn y pynciau Cam un ac adborth cynhwysfawr ar yr asesiadau ffurfiannol hynny, i'ch helpu i baratoi ar gyfer yr asesiadau crynodol. Byddwch yn cael adborth ar gyfer pob ymarfer sgiliau llafar. Byddwch hefyd yn cael adborth gan eich tiwtor yn y sesiynau grŵp bach wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen ac adborth gan eich cydfyfyrwyr.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Yn unol â'r cwricwlwm, byddwch yn datblygu eich gallu i ddysgu’n annibynnol a datblygu sgiliau gweithio mewn tîm. Datblygir sgiliau cyfathrebu mewn grwpiau bach, lle bydd gofyn i chi gydweithio ar broblemau a thasgau. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddefnyddio gwybodaeth gyfreithiol mewn sefyllfaoedd ffeithiol ffug, rhoi cyngor i'r cleient a chyflawni tasgau yn unol â chyfarwyddiadau'r cleient.

Mae'r LPC yn gwrs ymarferol ac mae angen i chi ddadansoddi'r ffeithiau i nodi'r materion perthnasol y mae’r cleient angen cyngor arnyn nhw; nodi'r gyfraith a'r weithdrefn berthnasol; cymhwyso'r gyfraith a'r weithdrefn berthnasol i'r ffeithiau perthnasol a chynghori'r cleient, yn glir ac yn llawn, gan ystyried rheolau ymddygiad proffesiynol ac anghenion masnachol a busnes y cleient.

Ochr yn ochr â'r cwricwlwm, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ehangach drwy gymryd rhan yng nghynlluniau pro-bono y Gyfraith ar Waith yr ysgol, sy'n cael eu rhedeg ar y cyd â sefydliadau partner, lle mae gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr yn cynorthwyo pobl go iawn wrth ymwneud â'r gyfraith. Dyma enghreifftiau o'r cynlluniau sydd ar gael i fyfyrwyr ar hyn o bryd:

  • Y Gyfraith mewn Cyfiawnder: Prosiect Dieuogrwydd (sy'n ymdrin ag achosion honedig o gamweinyddu cyfiawnder);
  • Y Gyfraith mewn Gofal Iechyd: Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG (helpu teuluoedd i hawlio ffioedd cartrefi gofal yn ôl y gellid dadlau y dylai'r GIG fod wedi'u talu);
  • Y Gyfraith mewn Chwaraeon: Prosiect Rygbi'r Undeb (darparu cyngor cyfreithiol a chylchlythyrau cyfreithiol i glybiau rygbi);
  • Y Gyfraith ac Iechyd Meddwl: Cynllun Oedolion Priodol Hafal (mae myfyrwyr yn cael eu hyfforddi i gefnogi oedolion sy'n agored i niwed sy'n cael eu cyfweld ar ôl cael eu harestio).

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys cystadlaethau ymryson, negodi a chyfweld cleientiaid.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £16,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Mae ffioedd y cwrs yn talu am gost y llyfrau a'r deunyddiau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer y cwrs, a bydd y rhain yn cael eu darparu i chi. Nid oes angen i chi brynu unrhyw lyfrau eraill ar gyfer y cwrs.

Ar gyfer asesiadau sgiliau llafar ac ar gyfer ymarferion eiriolaeth mae'n ofynnol i chi wisgo dillad swyddfa addas (fel siwt busnes).

Mae ffioedd atgyfeirio a ffioedd ailgofrestru ar gyfer myfyrwyr sy'n methu asesiadau ac sy'n gorfod derbyn atgyfeiriadau fel myfyrwyr ailsefyll allanol.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Rydym yn darparu llawlyfrau LPC a gyhoeddir yn fasnachol i chi ar gyfer y rhan fwyaf o bynciau. Yn y pynciau hynny nad oes llawlyfr wedi’i gyhoeddi yn fasnachol ar eu cyfer, cewch setiau o nodiadau yr ydym wedi'u paratoi. Mae'r llawlyfrau a'r nodiadau hyn yn cynnwys y rhan fwyaf o’r cyfeiriadau y byddwch eu hangen, ac mae adnoddau eraill ar gael yn y Llyfrgell neu ar-lein. Nid oes disgwyl i chi brynu testunau eraill. Mae'r llawlyfrau (neu'r nodiadau) yn nodi'r gyfraith a'r weithdrefn sylfaenol yn y meysydd y maent yn eu cwmpasu. Yn ogystal â'r llyfrau a roddir i chi, cewch ddeunyddiau eraill a baratowyd gan dimau'r cwrs. Mae'r rhain yn cynnwys amserlenni, cynlluniau gwersi, taflenni gwersi a deunydd asesu.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Gyrfaoedd graddedigion

Ar ôl cwblhau'r LPC, byddwch yn gallu ymgymryd â chontract hyfforddi/cyfnod o hyfforddiant cydnabyddedig, er mwyn paratoi ar gyfer ennill cymhwyster i fod yn gyfreithiwr.

Gall yr LPC hefyd arwain at waith cyfreithiol mewn rhyw swydd arall, e.e. paragyfreithiol, gyda'r opsiwn o gael contract hyfforddi yn ddiweddarach.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Sut i ymgeisio

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i'r cwrs hwn

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Law


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.