Ewch i’r prif gynnwys

Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol (LLM)

  • Hyd: 2 flynedd
  • Dull astudio: Dysgu cyfunol rhan amser

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r gyfraith sy’n ymwneud â meddygaeth a gofal iechyd wedi dod yn fwyfwy cymhleth. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol i arferion meddygol a chwestiynau o ran atebolrwydd cyfreithiol ac iawndal. Nod y rhaglen hon yw rhoi gwybodaeth gadarn am y rheolau cyfreithiol sy'n berthnasol i gynnig a gweinyddu gofal iechyd.

star

Ymdrin ag ystod eang o bynciau

Bydd cyflwyniad i’r gyfraith feddygol a phynciau astudio sy'n cynnwys moeseg, cydsyniad ac esgeulustod.

academic-school

Cymuned ddysgu amrywiol

Astudiwch gyda graddedigion yn y gyfraith, meddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, seiciatreg a ffarmacoleg ynghyd â gweithwyr gofal iechyd a rheoli iechyd proffesiynol.

notepad

Mynd i benwythnosau preswyl

Addysgir y cwrs hwn yn ystod pedwar penwythnos preswyl wyneb yn wyneb. Bydd y rhain yn eich caniatáu i barhau â'ch datblygiad proffesiynol tra'n gweithio yn y sector.

tick

Ennill pwyntiau tra eich bod yn astudio

Bydd pwyntiau addysg feddygol barhaus (CME) yn cael eu dyfarnu i feddygon lle bo hynny'n briodol.

Nod ein LLM yn yr Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol, a sefydlwyd yn 1987, yw darparu gwybodaeth gadarn am y rheolau cyfreithiol ac am y materion a’r problemau sy’n codi ym maes ymarfer a gweinyddu gofal iechyd yn ogystal â’r egwyddorion moesegol sy’n sail i’r rheolau hyn.

Mae’r gyfraith yn ymwneud â meddygaeth a gofal iechyd wedi dod yn fwyfwy cymhleth, ac mae cleifion yn dod yn fwy ymwybodol o’u hawliau cyfreithiol a’r egwyddorion moesegol sy’n sylfaen i’r hawliau hyn. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol i arferion gofal iechyd, rheoleiddio gofal iechyd, a’r berthynas rhwng cleifion ac aelodau o’r timau gofal iechyd. Mae hyn yn cynnwys meysydd cymhleth fel gwybodaeth i gleifion a chydsyniad, rheoleiddio gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn gyfreithiol a phroffesiynol, esgeuluster clinigol, a materion yn ymwneud â dechrau a diwedd oes. Hefyd, mae newidiadau i strwythur y GIG yn arwain at nifer o broblemau cyfreithiol pwysig. Ar ben hynny, mae dealltwriaeth well o foeseg a sut mae hyn yn ymwneud ag ymarfer a rheoleiddio gofal iechyd yn darparu ffynhonnell o feirniadaeth ar gyfer y rheolau cyfreithiol presennol a’r rhai arfaethedig.

Mae’r rhaglen dysgu o bell rhan-amser yn cael ei haddysgu drwy gyfres o flociau addysgu, ac mae pob un ohonynt yn cael eu cynnal ar y penwythnos. Mae hyn yn golygu bod eich astudiaethau’n gallu cyd-fynd â’ch trefniadau gweithio presennol ond mae’n dal i ganiatáu ar gyfer creu cymuned ddysgu.

Cewch gyfle i astudio pynciau yn fanwl a chynnal ymchwil yn y meysydd cyfraith meddygaeth a moeseg sydd o ddiddordeb penodol i chi. Mae’r rhaglen yn:

- Cwmpasu sbectrwm eang o bynciau cyfraith gofal iechyd a moeseg;
- Ysgogi dull beirniadol o werthuso rheoliadau presennol ac arfaethedig, ac mae’n meithrin meddwl annibynnol a gwreiddiol;
- Eich galluogi i ymgymryd â gwaith ymchwil manwl ac arddangos gwybodaeth dda mewn meysydd penodol o’r gyfraith.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6102
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn deintyddiaeth, y gyfraith, meddygaeth, nyrsio, fferylliaeth, milfeddygaeth, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.   
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol o weithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu weinyddiaeth gysylltiedig. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Cyflwynir y rhaglen mewn dau gam:

- Mae Cam Un (yr elfen a addysgir) yn cynnwys pedwar modiwl gorfodol 30 credyd (120 credyd);
- Mae Cam Dau (cam y traethawd hir) yn cynnwys y traethawd hir 60 credyd.

Mae Cam Un yn cael ei addysgu dros gyfnod o ddwy flynedd, drwy ddarlithoedd, seminarau a gweithdai mewn cyfres o wyth bloc penwythnos. Bydd y modiwlau yng Ngham Un yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer deall y rhyngweithio rhwng y gyfraith, moeseg, a gofal iechyd. Maen nhw’n canolbwyntio ar gyflwyniad i gyfraith meddygaeth a moeseg, rôl cydsyniad a galluedd mewn gofal iechyd, rheoleiddio arferion gofal iechyd gan gyrff proffesiynol a’r gyfraith, a rôl moeseg wrth wneud penderfyniadau cyfreithiol mewn achosion gofal iechyd cymhleth. Byddwch yn cymryd dau fodiwl ym mhob blwyddyn academaidd; caiff pob modiwl ei astudio dros ddau benwythnos bloc (felly byddwch yn mynd i bedwar bloc penwythnos ym mhob blwyddyn academaidd).

Byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir ar ôl cwblhau Cam Un yn llwyddiannus.

Os nad ydych yn bodloni gofynion y ddau gam gallech gael Tystysgrif Ôl-raddedig (60 credyd) neu Ddiploma Ôl-raddedig (120 credyd), yn amodol ar gwblhau’r nifer gofynnol o fodiwlau a addysgir yn llwyddiannus a bodloni’r meini prawf a nodir yn Rheoliadau’r Senedd ar gyfer Rhaglenni Ôl-raddedig Modiwlaidd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Blwyddyn un

Mae blwyddyn un yn cynnwys dau fodiwl gorfodol sy’n werth 30 credyd.

Blwyddyn dau

Mae blwyddyn dau yn cynnwys dau fodiwl gorfodol sy’n werth 30 credyd.  Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus ar ddiwedd blwyddyn dau, byddwch yn symud ymlaen at y traethawd hir 60 credyd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd eich modiwlau’n cael eu cynnal drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai, a chyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig unigol ac ar y cyd, yn ystod blociau addysgu penwythnos. Fel arfer, caiff modiwlau eu harwain gan staff profiadol sy’n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil sy’n berthnasol i’w maes pwnc.

Bydd dysgu o bell, ar ffurf e-fodiwlau a gefnogir gan Dysgu Canolog, yn cefnogi ac yn gwella eich dysgu rhwng y penwythnosau bloc:
- mae e-fodiwl gwahanol yn cyd-fynd â phob modiwl a addysgir;
- mae e-fodiwl ychwanegol ar gael ar lefel y rhaglen, sy’n darparu deunyddiau sy’n berthnasol i’r rhaglen yn ei chyfanrwydd, yn ogystal â deunyddiau dysgu a fydd yn cael eu datblygu drwy gydol y rhaglen.

Mae astudio ar lefel ôl-raddedig yn ddwys ac yn heriol ac mae'n bwysig eich bod yn manteisio'n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae’n rhaid bod yn bresennol ym mhob dosbarth a byddwn yn disgwyl i chi fod wedi paratoi'n dda ac yn gallu cyfrannu at drafodaethau a chyflwyniadau.

Sut y caf fy asesu?

Rydyn ni’n defnyddio dulliau asesu ffurfiannol a chrynodol.

Nid yw asesiadau ffurfiannol yn cyfrannu tuag at eich gradd ond maen nhw wedi'u cynllunio i roi'r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau, ymarfer ar gyfer eich asesiadau crynodol a'ch galluogi chi a'ch tiwtoriaid i asesu eich cynnydd yn eich modiwlau. Bydd asesiadau ffurfiannol fel arfer yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig neu brawf dosbarth neu gallant gynnwys cyflwyniadau unigol gan fyfyrwyr. Yn ogystal â’r asesiadau ffurfiannol hyn, efallai y bydd cwisiau cwestiynau amlddewis (sy’n eich galluogi i hunan-brofi eich gwybodaeth) ar gael ar y platfform e-ddysgu.

Mae asesiadau crynodol yn cyfrannu at eich dyfarniad terfynol. Mae eich canlyniadau yn yr asesiadau hyn yn:
- pennu eich cynnydd ffurfiol drwy’r rhaglen; ac yn
- pennnu eich dyfarniad terfynol.

Mae pob un o’r modiwlau LLM Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol a gyflwynir yn ystod cam un yn cael eu hasesu’n grynodol. Mae’r Traethawd Hir (hyd at 15,000 o eiriau) yn cynnwys asesiad crynodol cam dau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cefnogir eich dysgu yn ystod blociau addysgu penwythnos ac, ar ben hyn, drwy e-ddysgu. Cefnogir yr holl fodiwlau a addysgir gan Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws. Yma, byddwch yn gallu cael mynediad at ystod eang o ddeunyddiau modiwl a chyfathrebu ag aelodau eraill o'ch carfan drwy gyfleuster grŵp trafod. Yn ogystal, bydd modiwl Dysgu Canolog ar lefel rhaglen yn darparu ystod o ddeunyddiau i'w defnyddio drwy gydol oes y rhaglen.

Byddwch yn cael cymorth bugeiliol penodedig drwy ein cynllun tiwtor personol. Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi a fydd yn gallu darparu cymorth, yn ôl y gofyn, rhwng cyfnodau dysgu wyneb yn wyneb drwy e-bost, dros y ffôn a skype. Bydd eich tiwtor personol yn gweithio yn ystod oriau swyddfa dynodedig a bydd hefyd yn gwneud apwyntiadau gyda chi y tu allan i'r oriau swyddfa cyffredinol hyn, dim ond i chi ofyn. Hefyd, bydd eich tiwtor personol yn gallu eich cyfeirio at feysydd eraill sy’n rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr, os bydd ei hangen arnoch.

Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch cefnogi, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd gwych gyda llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith a chanolfannau adnoddau.

Ar ben hynny, rydyn ni’n cynnig rhaglen helaeth o weithdai a darlithoedd gyrfaoedd gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol.
Adborth
Mae adborth llafar yn cael ei roi yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig hefyd ar eich asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Bydd adborth unigol ar waith ffurfiannol yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu, yn ogystal â sut gallech wella eich perfformiad mewn asesiadau crynodol. Bydd adborth ysgrifenedig ar gael heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl i chi gyflwyno'ch asesiad.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- esbonio’n fanwl, ac yn eglur ac yn fanwl gywir, brif nodweddion y pynciau cyfraith meddygaeth a moeseg rydych chi wedi’u hastudio ac unrhyw gynigion perthnasol ar gyfer diwygio rheoleiddiol/cyfreithiol;
- dangos dealltwriaeth o’r egwyddorion a’r datblygiadau presennol ym maes cyfraith meddygaeth a moeseg;
- gwerthuso a dehongli’r rhyngweithio rhwng y gyfraith a moeseg yn feirniadol;
- ymgysylltu’n feirniadol â ffynonellau’r gyfraith er mwyn gallu trafod yn feirniadol gyd-destun ehangach y rheolau cyfreithiol sy’n berthnasol i gyfraith meddygaeth, gofal iechyd a moeseg;
- gwerthuso methodolegau a safbwyntiau gwahanol o fewn ysgoloriaeth gyfreithiol a sut maen nhw’n cael eu cymhwyso i bynciau a astudir ar y rhaglen.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- gwerthuso, dadansoddi, dehongli a chymhwyso’r prif egwyddorion a rheolau cyfreithiol sy’n berthnasol i gyfraith meddygaeth, gofal iechyd, a moeseg, gyda chyfeiriadau priodol at ddeunyddiau cynradd ac eilaidd a nodwyd yn annibynnol.
- gwerthuso cydlyniad athrawiaethol ac arwyddocâd corff o gyfraith meddygaeth a moeseg yn feirniadol;
- gwerthuso materion cyfreithiol a gofal iechyd yn feirniadol yn ogystal â goblygiadau cynigion i ddiwygio mewn cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol;
- gwerthuso’n feirniadol y problemau a’r materion sy’n ymwneud â sawl ffactor cyfreithiol, moesegol neu ofal iechyd cymhleth neu ryngweithiol.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- dylunio ac ymgymryd ag ymchwil annibynnol gan ddefnyddio deunyddiau gwreiddiol ac eilaidd sy’n ymwneud â materion penodol mewn cyfraith meddygaeth, moeseg ac ymarfer gofal iechyd;
- datblygu a dadansoddi yn annibynnol y materion cyfreithiol sy’n cynnwys ffactorau rhyngweithiol cymhleth y gyfraith, gofal iechyd a moeseg;
- nodi’n annibynnol y ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd perthnasol sy’n ymwneud â phwnc cyfreithiol newydd ac arddangos y gallu hwn drwy ysgrifennu traethawd, adroddiad neu drwy gyflwyno barn ar lafar;
- crynhoi dehongliadau beirniadol trylwyr o bynciau astudio penodol ac egluro a gwerthuso’r canfyddiadau’n glir, yn rhesymegol ac yn gydlynus mewn ffordd sy’n briodol i sefyllfa broffesiynol.

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r Rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:
- ystyried eich dysgu eich hun a’r gallu i ganfod ffyrdd i lenwi bylchau yn eich gwybodaeth neu ddealltwriaeth;
- trefnu, a chymryd cyfrifoldeb am strwythuro, rheoli ac adrodd, ar lafar neu’n ysgrifenedig, ganlyniad yr ymchwil annibynnol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

As this programme is three years or over in duration and has a one year full time equivalent you will not be eligible for a postgraduate loan.  The UK Government has more information about eligibility for postgraduate loans.

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £8,100 Dim
Blwyddyn dau £8,100 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,475 £2,500
Blwyddyn dau £11,475 Dim

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae graddedigion LLM Agweddau Cyfreithiol ar Ymarfer Meddygol wedi mynd ymlaen i fod yn fargyfreithwyr, cyfreithwyr, crwneriaid, llawfeddygon yr heddlu, meddygon teulu, ymgynghorwyr, deintyddion, rheolwyr y GIG, fferyllwyr, tiwtoriaid nyrsys, meddygon a deintyddion a gyflogir gan yr Adran Iechyd a’r Sefydliadau Amddiffyn.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Law, Medicine


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.