Ewch i’r prif gynnwys

Gyfraith (LLM)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Astudiwch raglen sydd wedi’i dylunio i roi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i chi wrth astudio’r gyfraith ar lefel uwch mewn unrhyw faes o’ch dewis.

star

Materion Cyfoes

Dewch i fagu dealltwriaeth gyffredinol o ystod o faterion cyfoes mewn meysydd penodol o gyfraith yn y DU ac yn rhyngwladol.

book

Meddyliwch yn feirniadol

Bydd y cwrs yn eich ysgogi i feddwl yn feirniadol am y ffordd y mae rheoleiddio presennol ac arfaethedig yn cael ei werthuso.

mortarboard

Ymgymryd ag ymchwil fanwl

Byddwch yn dangos gwybodaeth uwch mewn meysydd penodol o'r gyfraith ac yn ymuno â'n staff ymchwil sy'n arwain y byd.

academic-school

Teilwra'ch dysgu

Manteisiwch ar ystod amrywiol o fodiwlau fydd yn eich caniatáu i addasu'r rhaglen i gyrraedd eich nodau gyrfaol a’ch diddordebau eich hun.

Mae ein rhaglen y Gyfraith LLM yn eich galluogi i astudio ar draws y sbectrwm cyfreithiol heb ganolbwyntio ar un agwedd benodol o’r Gyfraith.

Ei nod yw cynnig y wybodaeth a’r arbenigedd i’ch galluogi i gyfrannu’n llawn at broffesiwn o’ch dewis, trwy ddatblygu cymhwysedd deallusol a sgiliau ôl-raddedig. 

Gallwch ddilyn unrhyw un o’r modiwlau sydd ar gael yn y flwyddyn astudio o’r rhestri o raglenni LLM arbenigol, a llunio traethawd hir.

Ble byddwch yn astudio

Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth

Mae ein corff myfyrwyr bywiog, ynghyd â'n staff academaidd hynod gymwysedig, yn darparu'r amgylchedd perffaith i archwilio meysydd dynamig a phrysur y gyfraith, gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 6102
  • MarkerRhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd, CF10 3AX

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 yn y gyfraith, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro. Bydd ymgeiswyr sydd â gradd dosbarth 2:2 neu gyfwerth yn cael eu hystyried gan ystyried y cais yn ei gyfanrwydd.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.5 yn ysgrifenedig a 6.0 ym mhob is-sgil arall, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle. 

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn dau gam. Mae Cam Un (yr elfen a addysgir) yn cynnwys pedwar modiwl 30 credyd o restrau'r rhaglenni LLM arbenigol. Mae Cam Dau yn cynnwys y Traethawd Hir.

Bydd dau o’r modiwlau Cam Un yn cael eu haddysgu a'u hasesu yn y semester cyntaf a'r ddau sy'n weddill yn yr ail semester. Byddwch yn symud ymlaen at y Traethawd Hir ar ôl cwblhau Cam Un yn llwyddiannus.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae Blwyddyn Un yn cynnwys pedwar modiwl a addysgir, sydd werth cyfanswm o 120 credyd. Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen at y Traethawd Hir 60 credyd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae astudio ar gyfer LLM yn ddwys a heriol ac mae’n bwysig eich bod yn manteisio’n llawn ar yr addysgu a ddarperir er mwyn llwyddo. Mae bod yn bresennol mewn dosbarthiadau a sesiynau goruchwylio traethodau hir yn orfodol a byddwn yn disgwyl i chi fod wedi paratoi'n dda.

Mae ein haddysgu'n hyblyg iawn a gellir cyflwyno eich modiwlau drwy seminarau neu gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Ymhlith y dulliau addysgu eraill mae defnyddio byrddau trafod ar-lein, pecynnau astudio hunan-ddefnyddio a chwisiau a gweithgareddau ffurfiannol.

Gall modiwlau fod yn amrywiol o ran cynnwys i ddarparu ar gyfer cyfran uchel o fyfyrwyr tramor neu fyfyrwyr sydd â chymwysterau blaenorol heblaw yn y gyfraith. Fel arfer, caiff modiwlau eu harwain gan staff profiadol sy'n cymryd rhan weithredol mewn ymchwil sy'n berthnasol i'w maes pwnc.

Sut y caf fy asesu?

Rydyn ni’n defnyddio dulliau asesu ffurfiannol a chrynodol.

Nid yw asesiadau ffurfiannol yn cyfrif tuag at eich gradd, ond maen nhw wedi'u cynllunio i roi'r cyfle i chi ymarfer ar gyfer eich asesiadau crynodol a'ch galluogi chi a'ch tiwtoriaid i asesu eich cynnydd yn eich modiwlau. Bydd asesiadau ffurfiannol fel arfer yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig neu brawf dosbarth neu gallant gynnwys cyflwyniadau unigol gan fyfyrwyr.

Mae asesiadau crynodol yn cyfrif tuag at eich gradd. Mae eich marciau yn yr asesiadau hyn yn cyfrif tuag at eich dilyniant ffurfiol o gam un (modiwlau a addysgir) i gam dau (y traethawd hir), a thuag at benderfynu ar eich dyfarniad terfynol. Bydd asesiadau crynodol yng ngham un yn amrywio yn ôl y modiwl ond fel arfer byddant yn cynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig (traethodau 5,000 gair), arholiadau heb eu gweld ymlaen llaw neu arholiadau wedi’u rhyddhau ymlaen llaw. Mae’r Traethawd Hir (hyd at 15,000 o eiriau) yn cynnwys asesiad crynodol cam dau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Rydyn ni wedi creu modiwl sgiliau ymchwil ac astudio, sydd wedi'i gynllunio'n arbennig, sy'n cael ei astudio gan bob myfyriwr LLM ar ddechrau'r rhaglen. Rydyn ni hefyd yn cynnig cymorth sgiliau ysgrifennu i'r rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Defnyddir e-ddysgu i gefnogi’ch dysgu; cefnogir pob modiwl gan Dysgu Canolog, sef amgylchedd dysgu rhithwir sydd ar gael ar ac oddi ar y campws, lle byddwch yn cael gafael ar ystod eang o ddeunyddiau ar gyfer eich modiwlau.

Byddwch yn derbyn cymorth bugeiliol penodol drwy ein cynllun tiwtor personol. Rydyn ni’n cynnig rhaglen helaeth o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd gyda Chydlynydd Cynllun Pro-bono ac Ymgynghorydd Gyrfaoedd y Gyfraith mewnol.

Mae Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth dynodedig yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i’ch cefnogi, sy’n cynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Cwnsela, y Gwasanaeth Anabledd a Dyslecsia, y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a llyfrgelloedd gwych gyda llyfrgellwyr arbenigol y gyfraith a chanolfannau adnoddau.

Adborth

Mae adborth llafar ar gael yn ystod seminarau a byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar eich asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Bydd adborth unigol ar waith ffurfiannol yn eich helpu i nodi cryfderau a gwendidau yn eich dysgu, yn ogystal â sut gallech wella eich perfformiad mewn asesiadau crynodol. Bydd adborth ysgrifenedig ar gael heb fod yn hwyrach na phedair wythnos ar ôl i chi gyflwyno'ch asesiad.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae disgwyl i chi gymryd mwy o gyfrifoldeb am eich addysg wrth i chi ymgymryd â'ch astudiaethau ôl-raddedig.

Trwy’r LLM, byddwch yn ennill ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr; rhai sy'n benodol i’r ddisgyblaeth a sgiliau cyflogadwyedd mwy generig. Yn ystod y rhaglen byddwch yn gallu ymestyn eich sgiliau cyfathrebu a chyflwyno, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gallu datblygu sgiliau cydweithio, ysgwyddo rolau arwain a gwella sgiliau astudio disgybledig ac annibynnol.

Cewch eich annog i weithio'n annibynnol i chwilio am ddeunyddiau cyfreithiol i chi'ch hun, i ddarllen a dadansoddi'r deunyddiau hyn yn feirniadol ac i gyflwyno dadl strwythuredig a rhesymegol o dan arweiniad eich tiwtoriaid a'ch goruchwylwyr. Byddwch yn cael hyfforddiant mewn sgiliau ymchwil ôl-raddedig i ddatblygu eich galluoedd ymchwil, ysgrifennu a dadansoddi cyfreithiol annibynnol.

Ochr yn ochr â'r cwricwlwm, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ehangach drwy gymryd rhan yng nghynlluniau pro-bono y Gyfraith ar Waith yr ysgol, sy'n cael eu rhedeg ar y cyd â sefydliadau partner, lle mae gwirfoddolwyr sy'n fyfyrwyr yn cynorthwyo pobl go iawn wrth ymwneud â'r gyfraith. Mae'r cynlluniau ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Y Gyfraith mewn Cyfiawnder: Prosiect Dieuogrwydd, (sy'n ymdrin ag achosion honedig o gamweinyddu cyfiawnder).
  • Y Gyfraith mewn Gofal Iechyd: Cynllun Gofal Iechyd Parhaus y GIG, (heriau i asesiadau ariannu gofal iechyd y GIG).
  • Y Gyfraith mewn Chwaraeon: Prosiect Rygbi'r Undeb - (darparu cyngor cyfreithiol a chylchlythyrau cyfreithiol i glybiau rygbi).

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,450 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Nid yw gradd yn y gyfraith yn eich cyfyngu i yrfa o fewn y proffesiwn cyfreithiol. Mae graddedigion y gyfraith yn mynd i broffesiynau amrywiol fel cyllid, gwerthu a marchnata, cyfathrebu digidol a recriwtio.

Rydym wedi ymrwymo i ymestyn cyfleoedd allgyrsiol i chi, gan helpu i wella eich CVs mewn marchnad swyddi gystadleuol i raddedigion. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyfreithwyr, elusennau a sefydliadau gwirfoddol i roi cyfle i chi ymarfer ac ehangu eich sgiliau. Rydym yn cynnal nifer o gynlluniau Pro Bono ac yn rhoi cyngor i aelodau'r gymuned ar wahanol faterion cyfreithiol.

Os ydych yn cwblhau'r rhaglen LLM yn llwyddiannus, efallai y cewch gyfle i barhau â'ch astudiaeth gyfreithiol drwy raglen PhD yr Ysgol, neu drwy raglenni proffesiynol y Ganolfan Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol (y Cwrs Ymarfer Cyfreithiol neu Gwrs Hyfforddiant Proffesiynol y Bar).

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Law


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.