Ewch i’r prif gynnwys

Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang (MA)

  • Hyd: 1 flwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cymysgedd o ymarfer, damcaniaeth ac astudiaeth academaidd uwch. Mae’n datblygu’r sgiliau a’r technegau angenrheidiol ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus ar lefel ryngwladol a dealltwriaeth o rôl yr ymarferwr Cysylltiadau Cyhoeddus fel gwarcheidwad enw da corfforaethol.

location

Y Sgwâr Canolog, Caerdydd

Byddwch yn astudio yng nghanol ardal cyfryngau bywiog Caerdydd mewn adeilad pwrpasol sydd drws nesaf i adeilad newydd BBC Cymru.

globe

Safbwyntiau byd-eang

Bydd eich cyd-fyfyrwyr yn dod o ystod o gefndiroedd cenedlaethol a diwylliannol a bydd hyn yn eich galluogi i ddeall ymarfer cysylltiadau cyhoeddus ar sail fyd-eang.

star

Rhagoriaeth ymchwil

Byddwch yn astudio yn un o brif ysgolion y DU ar gyfer ymchwil ar gyfathrebu, sef yr 2il orau yn y DU yn ôl y Llywodraeth.

rosette

Achredu proffesiynol

Achredwyd y cwrs hwn gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus (CIPR) .

Mae datblygiad technoleg ddigidol o ganlyniad i'r 4ydd chwyldro diwydiannol yn golygu bod cysylltiadau cyhoeddus a rheoli enw da a brand yn elfennau hanfodol o gynllunio a strategaeth sefydliadol.

Bydd ein rhaglen MA Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r technegau y bydd eu hangen arnoch i lwyddo fel gweithiwr cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu proffesiynol mewn unrhyw ddiwydiant, ar lefel ryngwladol. Gallwn eich helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer llwyddo yn y diwydiant ffyniannus hwn, lle mae angen cynyddol am weithwyr proffesiynol medrus a deinamig.

Cewch eich cyflwyno i wybodaeth, sgiliau a theori cysylltiadau cyhoeddus gan gyfadran sy'n cynnwys staff ac ymarferwyr cysylltiadau cyhoeddus, gyda phob un yn dod â safbwynt unigryw ac amrywiol i'w haddysgu. Y cyfuniad hwn o ymchwil a phrofiad, sy'n rhychwantu nifer o ddegawdau a gwledydd, sy'n gwneud ein rhaglen yn arbennig.

Cewch ddealltwriaeth ddamcaniaethol o'r ffordd mae'r cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus wedi esblygu a gweithio'n ymarferol, ynghyd â gweithredu a phrofiadau ymarferol heb eu hail. Byddwch yn trin amrywiaeth o arbenigeddau cysylltiadau cyhoeddus, gan gynnwys rheoli argyfwng, datblygu cynnwys ymchwil a'i roi ar waith, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, cysylltiadau â'r cyfryngau, strategaeth cyfathrebu corfforaethol a defnyddwyr a dulliau cyfathrebu mewnol.

Bydd aseiniadau yn eich helpu i gymhwyso theori ac ymchwil mewn ffordd ymarferol a dadansoddol a bydd eich traethawd hir yn gyfle i gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu i faes o ddiddordeb personol – gan ganiatáu dyfnder a dadansoddiad sy'n arwain at ddealltwriaeth bellach o faes ymarfer penodol.

Beth bynnag fo'ch dyheadau yn y maes cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu yn y dyfodol, byddwch yn elwa o raddio o raglen ag achrediad CIPR. Nid yn unig mae hyn yn edrych yn wych ar eich CV ochr yn ochr â'ch cymhwyster academaidd, ond mae hefyd yn gadael i chi gymryd eich lle ymhlith rhwydwaith o weithwyr proffesiynol blaengar, uchel eu parch ym maes cysylltiadau cyhoeddus.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0)29 2087 4786
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol o ddim mwy na 300 gair i gyd, sy'n ymdrin â'r canlynol:
  • eich diddordeb yn y rhaglen benodol hon ym Mhrifysgol Caerdydd a'ch brwdfrydedd dros y rhaglen benodol hon (100-150 o eiriau)
  • Eich dyheadau a'ch cymhellion dros weithio yn y sector cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu (100-150 o eiriau).

Os nad oes gennych radd, efallai y bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol

Byddwn yn adolygu eich cais, gan gynnwys eich datganiad personol (i asesu eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen a'ch dealltwriaeth ohoni), ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, a bod lleoedd ar gael o hyd, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae amodau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnydd o'r rhyngrwyd ac offer/dyfeisiau cyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae hwn yn gwrs amser llawn ac yn cael ei addysgu ar draws dau semester (hydref a gwanwyn) o ddiwedd mis Medi hyd at ddechrau mis Mehefin.

Caiff y traethawd hir fod yn seiliedig ar ymarfer - gan roi cyfle i chi gymhwyso theori i'r ymarfer o reoli cyfathrebu a chysylltiadau cyhoeddus.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy weithdai, darlithoedd a seminarau sy'n ategu elfennau ymarferol ac academaidd y cwrs. Byddwch hefyd yn cael mynediad at weithwyr proffesiynol sy'n arwain y diwydiant drwy'r gyfres darlithoedd gwadd.

Sut y caf fy asesu?

Defnyddir amrywiaeth o asesiadau ffurfiannol a chrynodol i’ch asesu drwy gydol y cwrs. Gwaith cwrs yw’r prif ddull o asesu ar y rhaglen hon.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Bydd eich tiwtor personol ar gael pan fydd arnoch angen trafod cynnydd, cael cyngor ac arweiniad, yn ôl yr angen.

Bydd gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yr ysgol, ac adnoddau ehangach y brifysgol, ar gael i’ch cefnogi hefyd.

Byddwch yn cael tiwtorialau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr rhaglenni/tiwtoriaid personol yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau ar gais.

Adborth

Mae adborth yn cael ei ddarparu ar bob pwynt asesu ar gyfer asesiadau crynodol, ac mae adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gydol yr addysgu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn datblygu sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • Ysgrifennu proffesiynol
  • Ymchwil y cyfyngau
  • Sgiliau cysylltiadau cyhoeddus allweddol
  • Cyflwyno i amrywiaeth o gynulleidfaoedd
  • Sgiliau rhwydweithio busnes
  • Cyfleoedd lleoliad gwaith ym meysydd cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu marchnata
  • Sgiliau ymwybyddiaeth o amrywiaeth a diwylliannau
  • Ysgrifennu adroddiadau
  • Cyfathrebiadau trawsddiwylliannol
  • Rheoli amser
  • Gwaith tîm rhyngwladol
  • Ymchwil annibynnol
  • Sgiliau rheoli cyfryngau cymdeithasol
  • Sgiliau rheoli enw da personol

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,950 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Imisa Mategwa – Nina Sauti Scholarship

Ysgoloriaeth o £10,000 – a roddwyd yn hael gan gyn-fyfyriwr - ar gyfer myfyriwr gradd meistr benywaidd amser llawn o Affrica Is-Sahara.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Cyflogir graddedigion MA Cysylltiadau Cyhoeddus Rhyngwladol a Rheoli Cyfathrebu Byd-eang mewn amrywiaeth o alwedigaethau; gall rolau amrywio o Weithredwyr Cysylltiadau Cyhoeddus, Swyddogion y Wasg, Rheolwyr Cyfathrebu a Chopïwyr ar gyfer corfforaethau byd-eang a'r DU.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Journalism, Language and communication, Public relations


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.