Ewch i’r prif gynnwys

Cynllunio Rhyngwladol a Dylunio Trefol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Bydd yr MSc hwn yn cynnig addysg eang i chi mewn cynllunio rhyngwladol ac arbenigedd mewn dylunio trefol, gan eich galluogi i gaffael y wybodaeth a'r ddealltwriaeth feirniadol ar gyfer gwneud cyfraniad sylweddol tuag at brosesau rheoli rheolaeth a dyluniad dinasoedd.

globe

Ffocws rhyngwladol

Yn mynd i’r afael â’r prif heriau cynllunio a wynebir gan ddinasoedd yn Asia, a De’r Byd.

building

Archwilio aml-raddfa

Ceir pwyslais ar wahanol raddfeydd gofodol, o leiniau bychain o fewn adeiladwaith presennol, i gymdogaethau mawr a gynlluniwyd ar dir heb ei ddatblygu.

structure

Cysylltiadau byd-eang

Cyfle i ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid a chydweithio â sefydliadau, llywodraethau a sectorau economaidd-gymdeithasol ledled y byd.

star

Ehangu gyrfa

Cyfle i ddatblygu, sgiliau a chymwyseddau dylunio trefol allweddol, ochr yn ochr â, dealltwriaeth gadarn o'r cyd-destunau niferus y mae ymarferwyr yn gweithredu ynddynt.

Mae effeithiau eithriadol trefoli bellach wedi'u cydgysylltu'n ddwfn â llawer o'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth. Mae dinasoedd ar hyd a lled y byd yn cydnabod nad oes modd iddyn nhw anwybyddu graddfa’r problemau gwleidyddol, economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol sy'n aml yn diffinio'r profiad trefol. Mae'r effeithiau hyn - fel erydu mannau cyhoeddus, dadleoli cymunedol, tagfeydd traffig, llygredd a difrod amgylcheddol, seilwaith hen ffasiwn a diffygiol, anghydraddoldebau’n dwysáu mewn cyfoeth, iechyd a lles - yn hollbresennol. Mae ein MSc mewn Cynllunio Rhyngwladol a Dylunio Trefol wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddadansoddi, deall ac wynebu'r heriau hyn.

Heddiw, mae cyflymder a chwmpas trefoli wedi cydblethu â'r angen am ymateb uniongyrchol a dwys i'r argyfyngau amgylcheddol sy'n wynebu ein planed. Mae gwaith cynllunwyr hanfodol a dylunwyr trefol arloesol bellach yn hanfodol wrth i ni geisio goresgyn yr heriau mwyaf dwys sy'n wynebu'r ddynoliaeth: sut gallwn ni (ail-)greu dinasoedd sy'n ymateb i anghenion dinasyddion heddiw gan sicrhau cynaliadwyedd ein dyfodol byd-eang ar y cyd?

Mewn ymateb i'r heriau enfawr hyn, mae angen cymorth ymarferwyr cynllunio a dylunio trefol ar lywodraethau cenedlaethol, awdurdodau trefol a chymunedau fel ei gilydd wrth iddyn nhw geisio mynd ati mewn ffyrdd chwyldroadol i ddychmygu'r posibilrwydd o ddinasoedd o’r newydd. Bydd y rhaglen hon yn eich cefnogi i ddatblygu amrywiaeth bwerus o sgiliau a doniau ar gyfer ymchwilio, dylunio a meddwl yn feirniadol - offer sy'n hanfodol i ymarferwyr sy'n ceisio ymgysylltu â chymunedau, datblygwyr, gwleidyddion a sefydliadau - i helpu i greu dinasoedd iach, bywiog a chynaliadwy.

Rydyn ni’n rhoi pwyslais ar y ffyrdd damcaniaethol, methodolegol ac empirig o ddeall problemau trefol. Byddwch yn cael addysg eang mewn cynllunio rhyngwladol ac arbenigedd mewn dylunio trefol, gan ymgorffori sgiliau dadansoddi a dylunio ymarferol, technegau ar gyfer cyfathrebu a chydweithredu, ac ystod eang o offer proffesiynol hanfodol. Bydd yr wybodaeth a'r profiad dysgu hwn yn eich grymuso gyda'r dyhead a'r hyder i ffurfio gyrfa mewn dylunio a chynllunio trefol, fel asiant dros newid cadarnhaol ar gyfer ein dyfodol ni i gyd.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Ymunwch â ni wrth i ni archwilio a mynd i'r afael â'r heriau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd, datblygiad ac amgylcheddol sy'n effeithio ar ble a sut yr ydym ni'n byw.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 4022
  • MarkerRhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3WA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn maes pwnc perthnasol megis pensaernïaeth, economeg, peirianneg, daearyddiaeth, cynllunio, gwleidyddiaeth a hanes, cymdeithaseg, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhaid i'ch cyflogwr ddarparu geirda i ddangos eich bod yn gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r rhaglen ar hyn o bryd. Dylai hyn gael ei lofnodi, ei ddyddio a'i fod yn llai na chwe mis oed pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r rhaglen yn para blwyddyn. Byddwch yn astudio modiwlau a addysgir gwerth 120 credyd rhwng mis Hydref a mis Mai, gan gymryd 60 credyd bob semester. Ar ôl cwblhau'r cam a addysgir yn llwyddiannus byddwch yn cwblhau traethawd hir gwerth 60 credyd rhwng mis Mehefin a mis Medi.

Mae dosbarthiad eich gradd yn seiliedig ar ddau draean o radd gyfartalog y modiwlau a addysgir a thraean o radd eich traethawd hir.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Byddwch yn cymryd chwe modiwl a addysgir, gwerth 20 credyd yr un. Bydd pump o'r modiwlau hyn yn fodiwlau craidd. Bydd y modiwl arall yn fodiwl dewisol o restr ragnodedig.

Byddwch yn cwblhau traethawd hir yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol. Byddwch yn gallu arbenigo mewn maes drwy'r modiwl dewisol a thrwy eich pwnc traethawd hir, os dymunwch. Cewch eich cynghori ar ddechrau'r rhaglen ar y gwahanol feysydd arbenigol.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Cynllunio Safle, Dylunio a DatblyguCPT80520 credydau
Cynllunio Dyfodol y DdinasCPT86620 credydau
Dylunio DinasoeddCPT86720 credydau
Urban Theory ProvocationsCPT92520 credydau
Dulliau YmchwilCPT92620 credydau
Traethawd hirCPT50860 credydau

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, gwaith stiwdio a labordy cyfrifiaduron lle bo hynny'n berthnasol.

Mae’r darlithoedd yn amrywio o ran ffurf. Ond, yn gyffredinol maen nhw’n darparu strwythur eang ar gyfer pob pwnc, yn cyflwyno cysyniadau allweddol yn ogystal â gwybodaeth gyfredol. Mewn seminarau byddwch yn cael y cyfle i drafod themâu neu bynciau penodol, i atgyfnerthu eich gwaith dysgu unigol a chael adborth arno ac i feithrin sgiliau cyflwyno llafar. Yn y labordy cyfrifiaduron, cewch gyfle i ddysgu gwahanol ddulliau cynllunio ac ymchwilio, fel mapio, dadansoddi gofodol ac ystadegau, yn dibynnu ar y modiwlau a gymerwch.

Mae gwaith stiwdio yn rhoi cyfle i chi ddysgu sgiliau dylunio trefol amrywiol, fel cynllunio safleoedd, dylunio strydoedd a chymdogaethau, paratoi a chyflwyno byrddau dylunio a defnyddio meddalwedd dylunio trefol.

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu eich sgiliau cyflwyno a deallusol trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys trafodaethau mewn grwpiau bach, dadleuon, cyflwyniadau llafar, tasgau ymchwil annibynnol ac aseiniadau ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn gwella eich sgiliau gweithio mewn tîm.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs (traethodau ac adroddiadau), cyflwyniadau, gwaith dylunio stiwdio, gwaith grŵp a thraethawd ymchwil hir. Mae pob modiwl fel arfer yn cynnwys mwy nag un darn o waith a asesir i'ch galluogi i ddatblygu gwahanol sgiliau academaidd a phroffesiynol (e.e. ysgrifennu beirniadol; ysgrifennu adroddiadau; cyflwyniad; dylunio; gwaith tîm).

Mae traethawd nodweddiadol fel arfer yn 3000 o eiriau; mae adroddiad nodweddiadol fel arfer yn 2000 o eiriau, gan gynnwys y dadansoddiad; mae cyflwyniad nodweddiadol yn para 15-20 munud. Gyda'i gilydd, nid yw cyfanswm yr asesiad ysgrifenedig ar gyfer modiwl yn fwy na 4,000 o eiriau.

Mae'r gwaith dylunio yn y stiwdio fel arfer yn golygu creu byrddau maint A0 a chyflwyno naratif ysgrifenedig neu lafar am y dyluniad.

Mae'r traethawd ymchwil hir yn hyd at 20,000 o eiriau.

Sut y caf fy nghefnogi?

Cewch diwtor personol, a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich perfformiad ar y cwrs a’ch cynghori ar dechnegau astudio, dewis modiwlau a chynllunio gyrfa (ar y cyd â Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol). Eich tiwtor personol fydd y pwynt cyswllt cyntaf i chi hefyd os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau.

Cyflwynir rhaglen o ddarlithoedd a gweithdai gyrfaoedd yn yr Ysgol

Mae amrywiaeth o staff ar gael i roi cymorth pellach, gan gynnwys Cyfarwyddwr y Cwrs, Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig, Gweinyddwr Ôl-raddedig, cymorth TG arbenigol a llyfrgellwyr pwnc. Mae aelod o staff academaidd yn gweithredu fel Swyddog Anabledd ac Amrywiaeth ac yn sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.

Mae pob Modiwl yn y Rhaglen yn defnyddio Amgylchedd Dysgu Rhithwir y Brifysgol, Dysgu Canolog, yn helaeth. Yma, gallwch chi ymuno â fforymau trafod a dod o hyd i ddeunyddiau cwrs, gan gynnwys dolenni ar gyfer deunyddiau addysgu a deunyddiau cysylltiedig, rhestrau darllen a phodlediadau. Yma hefyd y byddwch chi’n cyflwyno ac yn cael mynediad at waith a asesir

Mae cefnogaeth yn y dosbarth ar gyfer elfennau o'r addysgu dylunio trefol yn y stiwdio

Adborth Ffurfiannol

Mae adborth ffurfiannol yn adborth nad yw'n cyfrannu at gynnydd na phenderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod adborth ffurfiannol yw gwella eich dealltwriaeth a'ch dysgu cyn i chi gwblhau eich asesiad crynodol. Mae adborth ffurfiannol wedi'i ymgorffori ym mhob modiwl a chaiff ei ddarparu'n barhaus drwy gydol y flwyddyn. Yn fwy penodol, mae adborth ffurfiannol yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • gwella eich dealltwriaeth o’r deunydd a addysgir
  • canfod eich cryfderau a’ch gwendidau a thargedu meysydd y mae angen gweithio arnyn nhw.
  • helpu staff i’ch cefnogi a rhoi sylw i'r problemau a ganfuwyd, gyda strategaethau wedi'u targedu ar gyfer gwella.

Adborth Crynodol

Adborth crynodol yw adborth sy'n cyfrannu at gynnydd neu benderfyniadau dosbarthiad gradd. Nod asesiad crynodol yw nodi pa mor dda rydych chi wedi llwyddo i fodloni deilliannau dysgu bwriadedig Modiwl neu Raglen a bydd yn eich galluogi i nodi unrhyw gamau sydd eu hangen er mwyn gwella. Mae'r holl adborth wedi’i gysylltu'n uniongyrchol â meini prawf graddio / asesu'r Modiwl.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon byddwch yn dangos:

  • dealltwriaeth feirniadol o'r problemau a'r heriau mawr presennol a'r rhai a ragwelir y mae dinasoedd byd-eang yn eu hwynebu, a'u hatebion posibl drwy'r system gynllunio ac ymyriadau dylunio
  • dealltwriaeth feirniadol o ddadleuon damcaniaethol, deongliadau ideolegol a chymwysiadau cynllunio a dylunio trefol
  • gwybodaeth am sut mae dylunio yn cyd-fynd â'r broses gynllunio mewn perthynas â fframweithiau rheoleiddio a pholisi a sut gall hyn amrywio ar wahanol raddfeydd gofodol
  • dealltwriaeth feirniadol o systemau cynllunio mewn gwahanol wledydd gan ystyried deinameg a phrosesau trefol, rheoleiddio a pholisïau cyhoeddus, ac archwilio cyfleoedd a dewisiadau amgen.

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon byddwch yn dangos:

  • dealltwriaeth annibynnol a beirniadol o'r rhyngweithio amryfal rhwng cynllunio, dylunio trefol a phrosesau trefol o safbwynt damcaniaethol, methodolegol ac ymarferol
  • sgiliau uwch mewn ymchwil a dadansoddi annibynnol (gan gynnwys llunio a chyflawni agenda ymchwil hanfodol)
  • gwybodaeth am ddulliau meintiol ac ansoddol a rheoli a dadansoddi data cysylltiedig
  • eich bod yn gwerthfawrogi’n feirniadol ac yn dehongli dadleuon damcaniaethol a data empirig.

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon byddwch yn dangos:

  • y gallu i ddadansoddi problemau'r rhyngwyneb rhwng cynllunio a dylunio trefol a dechrau canfod ymatebion posibl a dewisiadau eraill o fewn fframweithiau polisi a rheoleiddio
  • datblygu sgiliau a chymwyseddau proffesiynol ac ymarferol mewn cynllunio a dylunio trefol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon byddwch yn dangos:

  • y gallu i drefnu, dadansoddi a chyflwyno syniadau a thystiolaeth gymhleth yn feirniadol ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • y gallu i weithio’n annibynnol; y gallu i gydweithio mewn grwpiau ac i gynllunio a chynnal ymchwil empirig

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £23,450 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Nid oes cost ychwanegol i’r rhan fwyaf o’r modiwlau. Fodd bynnag, efallai y bydd ymweliad astudiaethau maes gorfodol ynghlwm â rhai modiwlau dewisol, y bydd yn rhaid i chi wneud cyfraniad ariannol tuag ato. Mae costau nodweddiadol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod tua £250 ar gyfer taith yn y DU a thua £400 ar gyfer taith yn Ewrop. Bydd disgwyl i chi dalu'r costau hyn fel un o ofynion astudio’r modiwl dewisol. Byddwch yn cael gwybod am y costau hyn pan fyddwch yn dewis eich modiwlau dewisol.

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Beth ddylai’r myfyriwr ei ddarparu:

Dim

Beth fydd y Brifysgol yn ei ddarparu:

Bydd y Brifysgol yn darparu mynediad at ofod stiwdio, deunyddiau, labordai cyfrifiadurol, yr holl feddalwedd angenrheidiol, cyfleusterau argraffu a chopïo a chyfleusterau llyfrgell.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Ar ôl cwblhau'r rhaglen, byddwch yn gallu gweithio mewn ystod eang o yrfaoedd cynllunio a dylunio trefol, gan gynnwys swyddi mewn sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r Trydydd Sector. Gall gynnwys llunio polisïau (er enghraifft, ar gynllunio trefol a rhanbarthol, dylunio trefol, datblygu trefi cynaliadwy, tai, trafnidiaeth), ymgynghoriaeth ar ddatblygu lleol a rhyngwladol, rheoli prosiectau, yn ogystal ag astudiaethau pellach tuag at yrfa academaidd mewn cynllunio ac astudiaethau dylunio trefol.

Lleoliadau

Byddwch yn cael cyfle i seilio eich ymchwil traethawd hir ar weithgareddau yn y gweithle, os yw hynny’n briodol. Er enghraifft, gellir ei ddatblygu mewn sefydliadau ymgynghori (e.e. dylunio trefol), awdurdodau cyhoeddus neu asiantaethau cynllunio rhyngwladol. Disgwylir i chi drefnu lleoliadau eich hun, er y byddwn yn eich cefnogi pan fo hynny’n bosibl.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Dylunio trefol, Daearyddiaeth, Cynllunio


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.