Ewch i’r prif gynnwys

Newyddiaduraeth Ryngwladol (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer y rhai sydd â meddylfryd rhyngwladol. Mae'n cynnig cymysgedd o ymarfer a theori i ddarpar newyddiadurwyr neu ymarferwyr mwy profiadol sydd am ddysgu am newyddiaduraeth mewn gwahanol gyfryngau ac mewn gwahanol wledydd.

screen

Cyfleusterau newydd sbon danlli

Mae ein stiwdios teledu a radio newydd yn defnyddio cyfarpar a meddalwedd o safon yn y diwydiant, gan sicrhau eich bod yn gwbl barod ar gyfer eich diwrnod cyntaf yn y gwaith.

location

Peidiwch byth â methu cyfweliad

Byddwch yn gysylltiedig â'r ddinas gyfan gan fod prif orsaf drenau Caerdydd Canol Caerdydd gwta 100 metr i ffwrdd.

building

Ymunwch â byd y wasg

Mae ein hadeilad yng nghanol ein dinas yn golygu y byddwch drws nesaf i gwmnïau cyfryngau lleol a chenedlaethol Caerdydd megis y BBC a Wales Online.

globe

Safbwyntiau byd-eang

Bydd eich cyd-fyfyrwyr, o ystod o gefndiroedd cenedlaethol a diwylliannol, yn cynnig cyfoeth a byddwch chi drwy hynny yn deall arferion yn y cyfryngau yn well o safbwynt cymharol.

Nod ein MA Newyddiaduraeth Ryngwladol yw cynnig gwybodaeth ac arbenigedd ar gyfer gyrfa yn y cyfryngau rhyngwladol neu mewn meysydd cysylltiedig.

Mae'r cwrs yn gyfle i gael safbwynt am newyddiaduriaeth yr 21ain ganrif mewn gwahanol gyfryngau ac mewn gwahanol wledydd. Mae'n cynnig cymysgedd o ymarfer a theori - gan gyfuno technegau newyddiadurol ac astudiaeth academaidd uwch.

Er bod y rhaglen yn cynnig newyddiaduraeth ymarferol mae’n parhau i fod yn radd Meistr academaidd. Nod amgylchedd gwaith ymarferol y radd yw dyfnhau gwybodaeth broffesiynol a herio dealltwriaeth.

Byddwch yn dewis arbenigo mewn darlledu, gwaith dogfennol neu newyddiaduraeth amlgyfrwng.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Newyddiaduraeth, Y Cyfryngau a Diwylliant

Rydym yn darparu amgylchedd ysgolheigaidd er mwyn i chi fagu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer eich maes penodol yn y cyfryngau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44(0)29 2087 4786
  • MarkerCaerdydd, CF10 1FS

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol sy'n ymdrin â'r canlynol:
  • Eich diddordeb mewn newyddiaduraeth a'ch cymhelliant dros astudio'r rhaglen hon. (100 gair)
  • Unrhyw brofiad blaenorol o newyddiaduraeth, boed hynny mewn gallu proffesiynol, gwirfoddol neu hobi. (Sylwch, fodd bynnag, nid oes angen y profiad hwnnw i astudio'r rhaglen hon.) (200 gair)
  • Beth ydych chi am ei gyflawni yn y byd newyddiaduraeth? (100 gair)
  • Pam ydych chi eisiau astudio ym Mhrifysgol Caerdydd? (100 gair)

Os nad oes gennych radd, efallai y bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau

Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol

Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, bydd eich datganiad personol yn cael ei sgorio. Os yw eich datganiad personol a sgoriwyd yn bodloni'r trothwy isaf, a bod lleoedd ar gael o hyd ar y rhaglen, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych chi'n destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro ar hyn o bryd a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau'ch astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu'ch cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud, gan gynnwys y gallu i deithio i'r tu allan i'r DU neu i ymgymryd â lleoliad / astudiaethau y tu allan i Brifysgol Caerdydd
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae elfen a addysgir y cwrs yn cyfateb i 120 o gredydau ac fe'i haddysgir dros ddau semester (hydref a gwanwyn) o ddiwedd mis Medi i ddechrau mis Mehefin ac mae'n cyfuno modiwlau craidd a dewisol.

Byddwch yn cyflwyno traethawd hir ddiwedd mis Awst. Mae’r traethawd hir yn werth 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy amrywiaeth o weithdai ymarferol sy'n efelychu amgylchedd y diwydiant yn ogystal â chyfres o ddarlithoedd a seminarau sy'n ategu natur academaidd y cwrs.

Sut y caf fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod eang o weithgareddau ffurfiannol a chrynodol yn yr ystafell ddosbarth, traethodau ac asesiadau ymarferol drwy gydol y cwrs.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi i roi cymorth a chefnogaeth gydag anghenion academaidd a bugeiliol. Bydd eich tiwtor personol ar gael pan fydd arnoch angen trafod cynnydd, cael cyngor ac arweiniad, yn ôl yr angen.

Bydd gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yr ysgol, ac adnoddau ehangach y brifysgol, ar gael i’ch cefnogi hefyd.

Byddwch yn cael tiwtorialau rheolaidd gyda chyfarwyddwyr rhaglenni/tiwtoriaid personol yn ogystal â'r cyfle i gwrdd â chydlynwyr modiwlau ar gais.

Adborth

Mae adborth yn cael ei ddarparu ar bob pwynt asesu ar gyfer asesiadau crynodol, ac mae adborth ffurfiannol yn cael ei ddarparu mewn sesiynau ymarferol a thrwy gydol yr addysgu.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, llafar a gweledol cryf iawn wedi'u targedu at yrfa mewn newyddiaduraeth ryngwladol ond sy’n drosglwyddadwy iawn i feysydd eraill y cyfryngau a thu hwnt.

Byddwch hefyd yn ennill profiad o weithio mewn timau byd-eang amlddiwylliannol, amlieithog a byddwch yn cael cyfuniad gwerthfawr o sgiliau ymchwil sy'n rhychwantu dull academaidd a thechnegau newyddiaduraeth ymchwiliol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Imisa Mategwa – Nina Sauti Scholarship

Ysgoloriaeth o £10,000 – a roddwyd yn hael gan gyn-fyfyriwr - ar gyfer myfyriwr gradd meistr benywaidd amser llawn o Affrica Is-Sahara.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Caiff graddedigion y rhaglen MA Newyddiaduraeth Rhyngwladol eu cyflogi mewn ystod eang ac amrywiol o yrfaoedd gan gynnwys swyddi golygyddol mewn diwydiannau Darlledu Rhyngwladol a Newyddiaduraeth Amlgyfrwng fel BBC Worldwide, CNN, NDTV, SABC, Russia Today, Al Jazeera, Reuters a Bloomberg. Mae graddedigion hefyd wedi mynd ymlaen i weithio mewn diwydiannau marchnata a chyhoeddi byd-eang, yn ogystal â bod yn gynhyrchwyr dogfennol llawrydd a datblygwyr cynnwys gwe.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Journalism, Language and communication


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.