Ewch i’r prif gynnwys

Systemau Ynni Trydanol (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Mae’r MSc mewn Systemau Ynni Trydanol yn canolbwyntio’n benodol ar integreiddiad cynhyrchu adnewyddadwy i rwydweithiau trawsyrru a dosbarthu ynni ac ar baratoi myfyrwyr am gyfnod newydd o gridiau gwirioneddol ‘smart’, ac mae wedi’i ddylunio i fodloni’r angen brys am arbenigwyr mewn systemau ynni trydanol uwch.

academic-school

Pwyslais cryf ar ymchwil

Byddwch yn dysgu mewn sefydliad addysgu a arweinir gan ymchwil, gyda'r cyfle i ymgymryd â'ch prosiect mewn amgylchedd llwyddiannus sy'n seiliedig ar ymchwil gyda mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel i gefnogi eich gwaith.

people

Diwylliant ymgysylltiol

Rydym yn cynnig diwylliant agored ac ymgysylltiol rhwng ein myfyrwyr a'n staff sy’n gwneud gwaith ymchwil ac sy’n cynllunio a chyflwyno'r cwrs hwn.

notepad

Research project

Students will complete a major individual research project where they will apply project-specific engineering principles.

rosette

Professional accreditation

Wedi’i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) ar ran y Cyngor Peirianneg at ddibenion diwallu’r gofynion academaidd i gofrestru’n Beiriannydd Siartredig. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf israddedig achrededig CEng (BEng/BSc (Anrh)) at ddibenion bodloni’n llawn y gofynion addysgol i gofrestru’n CEng.

Mae'r cwrs hwn yn diwallu angen brys am arbenigwyr ar systemau ynni trydanol uwch, y mae eu hangen er mwyn dylunio ac adeiladu systemau ynni carbon isel, dibynadwy, diogel a fforddiadwy mewn gwledydd datblygedig a datblygol o amgylch y byd. Mae'r rhaglen yn cynnal ffocws penodol ar integreiddio gwaith cynhyrchu ynni adnewyddadwy mewn rhwydweithiau trosglwyddo a dosbarthu trydan, a bydd yn eich paratoi ar gyfer cyfnod newydd lle ceir gridiau gwirioneddol ""glyfar"".

Yn fwy penodol, nod y rhaglen yw rhoi'r canlynol i chi:

  • Meistrolaeth amlwg ar sbectrwm eang o egwyddorion peirianneg uwch i broblemau technolegol, ariannol, rheoleiddiol, rheolaethol a moesegol go iawn a gafwyd yn y proffesiwn Ynni a Phŵer trydanol, a'r potensial i fod yn weithwyr proffesiynol allweddol yn y diwydiant ehangach, yn y proffesiynau, a’r gwasanaeth cyhoeddus.
  • Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, yn ogystal ag ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau presennol a dealltwriaeth newydd sy'n flaenllaw ym maes Systemau Ynni Trydanol.
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o dechnegau sy'n berthnasol i'w ymchwil neu ysgoloriaeth uwch.
  • Gwreiddioldeb wrth ddefnyddio gwybodaeth, a dealltwriaeth ymarferol o sut mae technegau ymchwil ac ymholi sefydledig yn cael eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth ym maes Systemau Ynni Trydanol.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc gradd perthnasol megis systemau awtomeiddio a phŵer, peirianneg drydanol, peirianneg electronig, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd mewn maes perthnasol, gellir ystyried eich cais ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs hwn yn cael ei gyflwyno fel rhaglen lefel Meistr amser llawn dros gyfnod o flwyddyn.

Mae'r rhaglen yn digwydd dros ddau gam: Yng Ngham 1 mae myfyrwyr yn dilyn modiwlau a addysgir gwerth 120 o gredydau, ac mae Cam 2 yn cynnwys modiwl Traethawd Hir gwerth 60 credyd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Bydd amrywiaeth eang o arddulliau addysgu yn cael eu defnyddio i gyflwyno'r deunydd amrywiol sy'n ffurfio cwricwlwm y rhaglen, a bydd gofyn i chi fynd i ddarlithoedd a chymryd rhan mewn dosbarthiadau enghreifftiol.

Mae modiwl 10 credyd yn cynrychioli tua 100 awr o astudio i gyd, sy'n cynnwys 24-36 awr o amser cyswllt gyda staff addysgu. Bwriedir i'r oriau sy'n weddill fod ar gyfer astudio’n breifat, gwaith cwrs, adolygu ac asesu. Felly disgwylir i chi dreulio cryn dipyn o amser (20 awr yr wythnos fel arfer) yn astudio'n annibynnol.

Ar gyfer cam y traethawd hir, byddwch yn cael goruchwyliwr ym maes perthnasol eich gwaith ymchwil, a dylech ddisgwyl cwrdd â’r goruchwyliwr yn rheolaidd.

Bydd Dysgu Canolog, amgylchedd dysgu rhithwir Prifysgol Caerdydd, yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gyfathrebu, cefnogi darlithoedd a darparu deunyddiau cyffredinol rhaglenni, fel rhestrau darllen a disgrifiadau o’r modiwlau. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer asesiadau hunan-brofi ac i roi adborth.

Sut y caf fy asesu?

Asesu:

Asesir cyflawniad deilliannau dysgu yn y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs, ynghyd ag arholiadau'r Brifysgol ym mis Ionawr neu ym mis Mai. Mae arholiadau'n cyfrif am 60%-70% o'r asesiad yng Ngham 1 y rhaglen, yn dibynnu ar yr opsiynau a ddewiswyd, a'r gweddill yn waith prosiect a darnau o waith cwrs yn bennaf.

Mae angen cwblhau Cam 2 yn llwyddiannus, sef y Traethawd Hir, a chael marc o 50% neu uwch er mwyn cael MSc.

Gellir dyfarnu Rhagoriaeth i ymgeiswyr sy’n cael marc o 70% ar gyfartaledd. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i ennill cymhwyster MSc gael Diploma Ôl-raddedig ar gyfer y 120 credyd yng Ngham 1. Gall ymgeiswyr nad ydyn nhw’n llwyddo i gwblhau’r 120 credyd angenrheidiol ar gyfer Cam 1 fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Tystysgrif Ôl-raddedig am gyflawni o leiaf 60 credyd.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i fyfyrwyr er mwyn eu helpu gyda chynnydd academaidd a chymorth bugeiliol pan fo angen. Bydd y tiwtor personol yn gweld myfyrwyr yn gynnar yn y rhaglen, ac yn ôl yr angen wedyn.

Rhaid i chi roi gwybod i'ch tiwtor personol, i oruchwyliwr y prosiect ac i’r Swyddfa Addysgu am unrhyw amgylchiadau neu salwch a allai effeithio ar eich gallu i fynd i sesiynau addysgu neu ymgymryd ag asesiad.

Yn ogystal â'r ystod eang o wasanaethau cymorth sy’n cael eu darparu’n ganolog gan Brifysgol Caerdydd, bydd myfyrwyr ag anghenion penodol yn cael eu cefnogi yn ôl yr angen.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu'r sgiliau canlynol:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

  • Deall natur amlddisgyblaethol astudiaethau Systemau Ynni Trydanol, a'r angen i integreiddio gwybodaeth o amrywiaeth o ddisgyblaethau peirianneg wrth reoli'r broses o integreiddio cynhyrchu a chyflenwi ynni adnewyddadwy.
  • Defnyddio’n briodol y cyfreithiau gwyddonol sylfaenol sy'n sail i weithredu ystod eang o systemau ynni adnewyddadwy ac anadnewyddadwy pwysig a'u hintegreiddio i'r system cyflenwi trydan.
  • Cydnabod a gallu defnyddio perthnasoedd a thechnegau rheoli ynni sylfaenol ar gyfer amrywiaeth o sefyllfaoedd penodol.
  • Esbonio a chyflwyno gwybodaeth sy'n gysylltiedig ag arfarnu ac asesu prosiectau ynni.
  • Esbonio rôl y rheoleiddwyr trydan.
  • Cymharu a gwrthgyferbynnu'r gwahanol heriau a gyflwynir gan gynhyrchu gwasgaredig.
  • Amlinellu strwythur fframwaith rheoleiddio'r DU ar gyfer rheoli systemau trydan o ran trosglwyddo a dosbarthu.
  • Esbonio’r dulliau a ddefnyddir mewn diwydiant ar gyfer nodi, mesur a lliniaru risgiau a pheryglon.
  • Gwybodaeth sydd ar flaen y gad o ran ystod o ddisgyblaethau Systemau Ynni Trydanol, gan gynnwys: peirianneg foltedd uchel, systemau pŵer, electroneg pŵer, cynhyrchu gwasgaredig, rheoli ac amddiffyn, ansawdd pŵer a monitro cyflwr, gridiau clyfar a rheoli pŵer yn weithredol.

Sgiliau Deallusol

  • Defnyddio gwybodaeth a dulliau gwyddonol, seiliedig ar dystiolaeth, wrth asesu ac ymateb i heriau Systemau Ynni Trydanol.
  • Delio â materion Systemau Ynni Trydanol cymhleth yn systematig ac yn greadigol.
  • Bod yn wreiddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
  • Adolygu cefndir problem systemau ynni trydanol yn feirniadol a llunio rhaglen o waith i fynd i'r afael â'r mater.
  • Cyflawni prosiect ymchwil sylweddol mewn Systemau Ynni Trydanol yn systematig, sy'n cynnwys bod yn wreiddiol wrth gymhwyso gwybodaeth ac arfer barn peirianneg feirniadol.
  • Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; a chanfod ffyrdd o gael data newydd pan fo angen.
  • Ystyried, cynllunio, gweithredu a chyfleu canlyniadau darn manwl estynedig o waith prosiect unigol.
  • Cynnal dadl feirniadol, yn ysgrifenedig a thrwy gyflwyniadau.

Sgiliau Ymarferol

  • Defnyddio dulliau mathemategol ac arbrofol priodol ar gyfer modelu a dadansoddi problemau systemau ynni trydanol.

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Trin, cyflwyno ac adrodd ar ddata mewn amrywiaeth o ffyrdd.
  • Rheoli adnoddau ac amser.
  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a chorfforol neu ymarferol.
  • Llunio adolygiad cryno o lenyddiaeth.
  • Defnyddio offer technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn effeithiol, gan gynnwys taenlenni, proseswyr geiriau, systemau cronfa ddata a'r Rhyngrwyd.
  • Gweithio'n effeithiol mewn grŵp tuag at gyflawni nodau a thargedau penodol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nid oes angen unrhyw offer penodol ar gyfer y cwrs hwn.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae galw mawr am raddedigion o gyrsiau fel y rhain ac mae disgwyl iddynt gael swyddi gyda chwmnïau cyfleustodau ynni trydanol mawr, cwmnïau dosbarthu trydan, cwmnïau ynghyngori, yn y sector cyhoeddus (asiantaethau ynni, yr Ymddiriedolaeth Garbon ac ati), ym maes ymchwil a datblygu. Sefydlodd nifer o raddedigion eu cwmnïau eu hunain.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Electrical and electronic engineering, Engineering


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.