Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Creadigol (MA)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Dyddiad dechrau
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Datblygwch eich portffolio o waith ysgrifennu yn ein rhaglen nodedig wedi’i dylunio ar gyfer awduron newydd a rhai mwy profiadol.

people

Addysgir gan arbenigwyr

Mae ein staff addysgu'n cynnwys awduron proffesiynol ac ymchwilwyr blaenllaw.

microphone

Mireinio eich crefft

Bydd digwyddiadau arddangos a nosweithiau Meic Agored yn eich galluogi i rannu eich gwaith ysgrifennu â chynulleidfa

book

Dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth

Cyfle i fynd i encil ysgrifennu gyda’ch cyfoedion a thiwtoriaid y cwrs.

people

Rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol

Symposiwm y diwydiannau creadigol; yn cynnwys paneli o asiantiaid, golygyddion a chyhoeddwyr, yn ogystal â chyfres Awdur Gwadd.

Cwrs blwyddyn ar gyfer gwella awduron sydd â phrofiad o grefft awduron, a fydd yn ymestyn eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ysgrifennu creadigol.

Gan ddatblygu eich galluoedd ysgrifennu creadigol y tu hwnt i'ch gradd gyntaf, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai, yn cynhyrchu dau bortffolio estynedig o ysgrifennu creadigol yn y genre(s) o'ch dewis, ac yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau ar wahanol bynciau mewn ysgrifennu creadigol. Yn ogystal â hynny, byddwch yn cael y cyfle i ennill profiad o addysgu ysgrifennu creadigol, neu i gynyddu eich gwybodaeth am agweddau eraill ar ymarfer creadigol neu Lenyddiaeth Saesneg drwy ddewis o ddetholiad o fodiwlau wedi'u harwain gan ymchwil a addysgir gan arbenigwyr yn y maes.

Mae cyfres o fodiwlau sy'n ategu ei gilydd yn pwysleisio profiad integredig a chydlynol wrth ddatblygu eich crefft a'ch sgiliau ysgrifennu; ar yr un pryd byddwch yn cael y cyfle i ymgysylltu â'r diwydiant ysgrifennu, i gysylltu â gweithwyr creadigol proffesiynol, ac i arddangos eich gwaith.

Byddwch yn meistroli'r gallu i gynhyrchu gwaith llenyddol tra datblygedig a medrus yn annibynnol, ac i gymryd rhan mewn gweithdai awduron. Byddwch hefyd yn datblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau ysgrifennu yn un neu fwy o'r genres llenyddol ac o ran y broses o olygu a diwygio, a naill ai mewn addysgu ysgrifennu creadigol neu agweddau eraill ar ymarfer creadigol neu Lenyddiaeth Saesneg.

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth

Wedi ein pweru gan ymchwil arloesol, rydym yn dathlu chwilfrydedd, yn ymgysylltu mewn trafodaethau gwybodus a dadansoddi beirniadol ac yn eich annog i feddwl yn greadigol - ar draws a thu hwnt i'n disgyblaethau.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 9066
  • MarkerRhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:1 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 7.0 gyda 6.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.
  3. Datganiad personol nad yw'n fwy na 750 o eiriau yn amlinellu eich cymhellion ar gyfer ymgymryd â'r cwrs ac ymwybyddiaeth o nodau'r rhaglen a deilliannau dysgu.
  4. Darn ysgrifenedig o 2000 gair o ryddiaith neu ddrama, neu hyd at 10 cerdd - bydd nifer y tudalennau'n amrywio yn ôl y genre neu'r gwaith rydych chi'n ei gyflwyno. Mae rhywbeth rydych wedi'i gyflwyno o'r blaen fel rhan o'ch gradd BA neu gwrs arall yn dderbyniol.
  5. Darn ysgrifenedig o 1000 gair o ysgrifennu ychwanegol, sy'n cynnwys un o'r canlynol: beirniadaeth lenyddol, traethawd academaidd, newyddiaduraeth, adolygiad o'r celfyddydau, neu ddarn o ddadansoddiad creadigol (fel sy'n ofynnol ar gyfer 'sylwebaethau' ar aseiniadau Ysgrifennu Creadigol safonol).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac ansawdd y portffolio o ysgrifennu creadigol a gyflwynir, ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.
Os ydych ar hyn o bryd yn ddarostyngedig i unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • mynediad at gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrffyw
  • rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r radd werth 180 o gredydau at ei gilydd. Byddwch yn astudio cymysgedd o fodiwlau craidd a detholiad o amrywiaeth o fodiwlau dewisol (naill ai o'r rhaglen Ysgrifennu Creadigol neu Lenyddiaeth Saesneg).

Mae'r rhaglen wedi'i rhannu'n ddau gam. Mae Cam 1 yn cynnwys eich holl fodiwlau a addysgir. Byddwch yn symud ymlaen at Gam 2 y rhaglen ar ôl cwblhau Cam 1 yn llwyddiannus.

Yng Ngham 2, a fydd yn rhedeg o fis Mai i fis Medi yn eich blwyddyn astudio, byddwch yn neilltuo eich amser i gwblhau eich portffolio ysgrifennu estynedig a'r sylwebaeth feirniadol ategol a gynhyrchir yn ystod y cwrs. Byddwch yn cael eich cefnogi yn hyn o beth drwy gyfarfodydd tiwtorial un-i-un â goruchwyliwr eich portffolio. Mae'n rhaid i chi gwblhau Cam 2 yn llwyddiannus a phasio'r modiwl i ennill eich gradd Meistr.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae Cam Un yn cynnwys modiwlau a addysgir yn unig, ac mae'n cael ei gynnal ar draws semester yr hydref a semester y gwanwyn. Mae'n cynnwys cymysgedd o fodiwlau craidd a detholiad o amrywiaeth o fodiwlau dewisol, sy'n dod i gyfanswm o 120 credyd.

Mae detholiad o fodiwlau dewisol yn Ysgrifennu Creadigol yn rhoi cyfle i chi ddysgu am agweddau pellach ar ymarfer creadigol a beirniadol; gallai'r rhain gynnwys syniadau a dulliau ar gyfer cyfieithu gwaith creadigol; sut mae damcaniaethau llenyddol yn dylanwadu ar ysgrifennu creadigol; neu addysgeg ysgrifennu creadigol gyda phwyslais ar ddefnydd creadigol, a'r cyfle i ennill profiad addysgu.

Bob blwyddyn, mae detholiad eang o fodiwlau llenyddiaeth Saesneg ar gael i fyfyrwyr Ysgrifennu Creadigol; os byddwch yn penderfynu astudio modiwl llenyddiaeth Saesneg, efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno sampl o ysgrifennu creadigol i ddangos eich bod yn meddu ar y sgiliau ysgrifennu gofynnol a chwrdd â thiwtor y modiwl i sicrhau bod gennych y wybodaeth gefndir ofynnol i astudio'r modiwl hwnnw.

Sylwch fod un modiwl craidd yn gofyn am bresenoldeb gyda'r nos ar wythnosau dethol drwy gydol y flwyddyn.

Teitl modiwlCôd modiwlCredydau
Arferion Beirniadol CreadigolSET28820 credydau
Ffyrdd o gyfieithuSET29220 credydau
Addysgu Ysgrifennu CreadigolSET29520 credydau
EcotheoriesSET31020 credydau

Mae Cam Dau yn cynnwys modiwl wedi'i oruchwylio sy'n rhoi cyfle i chi arbenigo ymhellach yn eich maes/meysydd a'r genre(s) ysgrifennu o'ch dewis.  Byddwch yn gweithio gyda'r goruchwyliwr sy'n cael ei neilltuo i chi drwy diwtorialau un-i-un er mwyn mireinio eich crefft, eich arbenigedd a'ch gwybodaeth, gan ddatblygu corff estynedig o waith ar yr un pryd. 

Mae'r modiwl werth 60 credyd a chaiff ei asesu drwy bortffolio terfynol sy'n cynnwys cydran greadigol a sylwebaeth feirniadol ategol. Bydd y ddau beth hyn yn cael eu cyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae'r addysgu a'r dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau un-i-un â thiwtoriaid, paneli a siaradwyr gwadd, a digwyddiadau arddangos; mae hefyd yn cynnwys y cyfle i fynychu encil ysgrifennu a symposiwm y diwydiannau creadigol.

Drwy gydol eich astudiaethau bydd disgwyl i chi ddarllen a dadansoddi amrywiaeth o destunau beirniadol a llenyddol, darllen ac asesu gwaith cyfoedion, a datblygu sgiliau ysgrifennu hunan-fyfyriol. Wrth i'ch dysgu ddatblygu byddwch yn symud o ystyried y grefft yn eang i ganolbwyntio'n fwy penodol ar eich maes/meysydd genre.

Bydd y gweithgareddau dysgu penodol yn amrywio o fodiwl i fodiwl ond gallant gynnwys ymarferion ysgrifennu, darllen beirniadol, dadansoddi'r grefft, cyflwyno gwaith beirniadol a chreadigol i bobl eraill, gweithgareddau addysgu, ac ati. Yn y modiwlau seiliedig ar weithdai, bydd disgwyl i chi ddarllen a gwerthuso gwaith eich cyfoedion, a rhoi adborth penodol ac adeiladol mewn amgylchedd grwp cefnogol.

Gwybodaeth ychwanegol

Fel rhan o'r rhaglen, cynhelir sesiynau Meic Agored yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn academaidd. Mae'r rhain yn cynnwys awdur proffesiynol gwadd yn aml, ac yn rhoi cyfle i chi gyflwyno eich gwaith i gynulleidfa. Mae ein Hencil Blynyddol i Ysgrifenwyr Creadigol yn digwydd ddechrau fis Rhagfyr fel arfer. Mae'r costau wedi'u cynnwys yn eich ffioedd cwrs. Mae'r encil yn cynnwys cyfuniad o seminarau, gweithdai a digwyddiadau arddangos, yn ogystal ag amser wedi'i neilltuo ar gyfer ysgrifennu, darllen a myfyrio.

Bob blwyddyn, ar ddiwedd semester y gwanwyn, rydym yn anelu at gynnal Symposiwm blynyddol y Diwydiannau Creadigol, sy'n cael ei gynnal dros un diwrnod ac yn cynnwys siaradwyr gwadd, trafodaethau panel, a chyflwyniadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant: awduron, golygyddion, asiantiaid a/neu gyhoeddwyr.

Sut y caf fy asesu?

Bydd y dulliau asesu'n amrywio rhwng modiwlau. Yn y modiwlau a addysgir yng Ngham Un, gallai'r asesiad gynnwys y canlynol, ond nid yw hon yn rhestr hollgynhwysfawr: portffolios o waith creadigol, traethodau academaidd, traethodau myfyriol, cyfnodolion, sylwebaethau beirniadol, blogiau fideo a/neu gyflwyniadau. Dull asesu Cam dau yw portffolio estynedig o waith sy'n cynnwys cyfuniad o ysgrifennu creadigol a beirniadol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer eich astudiaethau. Bydd ar gael i drafod eich cynnydd academaidd cyffredinol a'ch profiad fel myfyriwr. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwrdd â thiwtoriaid eich modiwlau i drafod agweddau penodol ar y modiwlau hynny. Ar gyfer rhai modiwlau - a Cham Dau yn benodol - bydd goruchwyliwr yn cael ei neilltuo i chi, a fydd yn trafod eich ysgrifennu a'ch cynnydd gyda chi drwy diwtorialau un-i-un.

Adborth

Mae cyfleoedd helaeth i gael adborth ffurfiannol drwy gydol y cwrs, yn enwedig yn y modiwlau seiliedig ar weithdai lle byddwch yn rhannu eich cynnydd eich hun ac yn cael gwerthusiadau a chyngor adeiladol gan eich cyfoedion a'ch tiwtoriaid. Asesiad crynodol yw pen llanw pob modiwl. Yn ogystal â'r marc (lle bo'n berthnasol), bydd tiwtor y modiwl yn darparu adborth manwl ar yr asesiadau hyn.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Mae'r deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon yn disgrifio'r hyn y byddwch yn gallu ei wneud o ganlyniad i'ch astudiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn a ddisgwylir gennych.

Gellir gweld y deilliannau dysgu ar gyfer y rhaglen hon isod:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dangos dealltwriaeth systematig o brosesau creadigol awduron cyhoeddedig ac awduron sydd wedi ennill eu plwyf - rhai cyfoes a rhai o'r gorffennol
  • Deall agweddau allweddol ar ddamcaniaeth ac ymarfer ysgrifennu creadigol.
  • Dangos gwybodaeth gynhwysfawr o ddefnyddio llais, safbwynt, cymeriadau, lleoliad, plot a themâu mewn gwaith creadigol

Sgiliau Deallusol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Dadansoddi a gwerthuso ffyrdd, arddulliau a genres o ysgrifennu
  • Gwerthuso cryfderau a gwendidau gwaith ysgrifennu pobl erail
  • Asesu a myfyrio'n feirniadol ar eich ymarfer ysgrifennu eich hun

Sgiliau Ymarferol Proffesiynol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Cysyniadoli a datblygu gwaith ysgrifennu i safon uchel
  • Dylunio a chynnal ymchwil i ddylanwadu ar eich ysgrifennu creadigol a/neu i gynnal dadl feirniadol gymhleth
  • Deall safonau a chonfensiynau'r diwydiannau creadigol

Sgiliau Trosglwyddadwy/Allweddol:

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus byddwch yn gallu:

  • Golygu a diwygio darnau o ysgrifennu creadigol a/neu feirniadol
  • Cyflwyno eich gwaith ac ennyn sylw cynulleidfa
  • Darparu adborth adeiladol mewn modd cefnogol

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £10,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £22,700 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd a lleoliadau gwaith

Mae astudiaeth ôl-raddedig yn borth i lawer o yrfaoedd yn y byd academaidd a thu hwnt. Mae nifer o ôl-raddedigion tramor yn dychwelyd i ddarlithio gyda rhagolygon gyrfa llawer gwell. Mae'r enghreifftiau o gyflogwyr yn y DU yn cynnwys Prifysgol Caerdydd, Mencap, cylchgrawn Poetry Wales, Teach First a Llywodraeth Cymru. Ymysg y swyddi posib mae Darlithydd Ysgrifennu Creadigol, Golygydd Copi, Ysgrifennwr Copi, Llyfrgellydd, Asiant Llenyddol, Swyddog Marchnata, Nofelydd, Bardd, Swyddog Cyhoeddusrwydd, Cyhoeddwr, Dramodydd, Ymgynghorydd Recriwtio, Athro, Sgrin-awdur, a llawer mwy.

Ymhlith ein rhestr fawreddog o gynfyfyrwyr mae Susmita Bhattacharya (Table Manners, Dahlia), enillydd Llyfr y Flwyddyn Cymru Deborah Kay Davies (True Things About Me, Canongate) a’r nofelydd ffuglen wyddonol James Smythe (I Still Dream, HarperCollins).

Lleoliadau

Bydd y rhai sy'n dewis dilyn y modiwl dewisol Addysgu Ysgrifennu Creadigol yn cael y cyfle i fod yn bresennol mewn dosbarthiadau israddedig ac i addysgu sesiwn, ac i ymweld ag ysgolion a cholegau lleol o bosib.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Creative writing, English literature


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.