Ewch i’r prif gynnwys

Cyfrifiadura a Rheoli TG (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
conversion-course

Cwrs trosi

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu yrfa gyfredol, a'ch cefnogi gyda newid llwybr gyrfa.

calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Ar gyfer graddedigion sydd am symud i gyfrifiadureg o ddisgyblaeth arall. Mae'r rhaglen yn para blwyddyn ac yn cynnig gwybodaeth dechnegol eang a chyd-destun busnes cadarn ar gyfer rheoli systemau TG.

Mae’r MSc Cyfrifiadura a Rheoli TG ar gyfer graddedigion sydd am symud i gyfrifiadureg o ddisgyblaeth arall, ac mae’n cynnig gwybodaeth dechnegol eang a chyd-destun busnes cadarn ar gyfer rheoli systemau TG.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu'r sgiliau y mae arnoch eu hangen i ddatblygu rhaglenni busnes, drwy ddealltwriaeth sylfaenol o waith datblygu meddalwedd a gwefannau, e-fasnach a rheoli cronfeydd data. Byddwch hefyd yn meithrin dealltwriaeth o'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen i arwain rheolwyr TG drwy weithio fel rhan o dîm ar brosiect newid busnes.

Yn ogystal, bydd gennych yr opsiwn o ddysgu am dechnolegau newydd a thechnolegau sy'n dod i’r amlwg, fel cyfrifiadura cwmwl, sy'n newid y cyfleoedd a'r bygythiadau ar gyfer darparu systemau TG yn sylweddol. Efallai y byddwch hefyd yn dewis cyfrifiadura dynol sy’n canolbwyntio ar ddiffinio a darparu systemau gwybodaeth effeithiol o safbwynt dyn. Mae gennych hefyd yr opsiwn o ddysgu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i greu dulliau delweddu rhyngweithiol ac esboniadau o ddata.

Ar ôl cwblhau’r cam a addysgir yn llwyddiannus byddwch yn symud i gam y traethawd hir. Mae hyn yn rhoi cyfle i ddatblygu eich sgiliau ymchwil a chymhwyso cysyniadau a thechnegau technegol a rheoli i ddatrys problem gyfrifiadurol gymhleth.

Mae'r cwrs blwyddyn hwn yn cynnig cyfuniad cytbwys o theori ac ymarfer, a gall naill ai eich paratoi ar gyfer gyrfa fel gweithiwr TG proffesiynol, ymchwil ddoethurol, neu fod yn gymhwyster uwch annibynnol ynddo'i hun.

Nodweddion unigryw

The distinctive features of this course include:

  • The opportunity to undertake a conversion course in Computing and IT.
  • Designed for those who wish to move into computing and IT management from another discipline.
  • Professionally accredited by the BCS, the Chartered Institute for IT.
  • The opportunity to learn the technical knowledge and skills needed to develop business applications.
  • Working in a team on a business change project to develop IT management skills.
  • The ability to tailor the course to your interests through a range of advanced option modules.
  • You will be provided with a laptop during induction week that will remain with you throughout the duration of the course.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg

Ein hymchwil amlddisgyblaeth sy'n rhoi ffurf i'n rhaglenni gradd, ac yn eu gwneud yn berthnasol i gyflogwyr heddiw, gan eu gosod mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau yfory.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone
  • MarkerFfordd Senghennydd, Cathays, Caerdydd, CF24 4AG

Meini prawf derbyn

Cwrs trosi yw hwn. Mae cyrsiau trosi yn eich galluogi i astudio pwnc nad yw'n gysylltiedig â'ch gradd israddedig neu'ch gyrfa bresennol, a'ch cefnogi gyda newid gyrfa. Nid oes angen gwybodaeth na gradd flaenorol yn y pwnc.

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn unrhyw bwnc, neu radd ryngwladol gyfatebol. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. Copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 6.0 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os nad oes gennych radd efallai y bydd eich cais yn cael ei ystyried ar sail eich profiad proffesiynol. Rhowch dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais megis cyfeiriadau cyflogwr wedi'u llofnodi a'u dyddio.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Byddwch yn astudio modiwlau craidd gwerth hyd at 160 credyd i gyd, gyda modiwl dewisol gwerth 20 credyd. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect unigol a thraethawd hir hefyd.

Mae hwn yn gwrs amser llawn sy’n cael ei ddilyn dros un flwyddyn galendr. Mae hefyd ar gael fel cwrs rhan-amser dros dair blynedd, ac fel cwrs gyda lleoliad gwaith.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ddiwylliant ymchwil cryf a gweithredol sy'n llywio ac yn arwain ein haddysgu. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu addysgu o'r safon uchaf a chawsom adroddiad rhagorol yn adolygiad diweddaraf yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA).

Defnyddir ystod amrywiol o arddulliau addysgu a dysgu drwy'r MSc mewn Cyfrifiadura a Rheoli TG. Bydd myfyrwyr yn mynychu darlithoedd, yn cymryd rhan mewn seminarau, gweithdai a thiwtorialau ac yn gweithio yn y labordy.

Fel arfer, bydd myfyrwyr yn cael gafael ar ddeunyddiau cymorth drwy Dysgu Canolog (Amgylchedd Dysgu Rhithwir Prifysgol Caerdydd).

Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgymryd â phrosiect ac astudiaeth annibynnol i'w galluogi i gwblhau eu traethawd hir. Gall y myfyriwr awgrymu pynciau traethawd hir neu eu dewis o restr o ddewisiadau a gynigir gan staff academaidd, sy'n adlewyrchu eu diddordeb presennol.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r modiwlau a addysgir o fewn y cyrsiau yn cael eu hasesu drwy arholiadau ac ystod eang o asesiadau yn ystod y cwrs, fel adroddiadau ysgrifenedig, traethodau estynedig, aseiniadau ymarferol a chyflwyniadau llafar.

Bydd y prosiect a’r traethawd hir unigol yn galluogi myfyrwyr i ddangos eu gallu i adeiladu ar wybodaeth a sgiliau a enillwyd, a’u datblygu, er mwyn dangos meddwl beirniadol a gwreiddiol yn seiliedig ar gyfnod o astudio a dysgu annibynnol.

Sut y caf fy nghefnogi?

Fel Ysgol, rydyn ni’n ymfalchïo mewn darparu amgylchedd cefnogol lle gallwn helpu ac annog ein myfyrwyr.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddyrannu i bob myfyriwr a fydd yn monitro eich cynnydd drwy gydol eich cyfnod yn y Brifysgol ac yn eich cefnogi yn eich cynllun datblygiad personol. Byddwch yn gweld eich Tiwtor Personol o leiaf unwaith y semester.

Gall yr Uwch-diwtor Personol roi cyngor ac ymateb i unrhyw faterion personol wrth iddyn nhw godi hefyd. Yn ogystal, mae gan yr Ysgol banel myfyrwyr a staff ffurfiol i drafod pynciau neu faterion sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr.

Adborth

Gallai adborth ar waith cwrs gael ei roi ar ffurf sylwadau ysgrifenedig ar waith a gyflwynir; rhoi atebion ""enghreifftiol"" a/neu drafodaeth mewn sesiynau cyswllt.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn caffael ac yn datblygu amrywiaeth o sgiliau gwerthfawr, yn rhai penodol i’r ddisgyblaeth a ""sgiliau cyflogadwyedd"" mwy cyffredinol, er enghraifft, gallu:

  • Dadansoddi a gwerthuso materion cyfredol mewn cymhwyso cyfrifiadura, yn feirniadol.
  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau’n glir ar lafar, yn ysgrifenedig, drwy ddiagram ac yn ymarferol.
  • Dangos hunangyfeiriad, menter, proffesiynoldeb, barn feirniadol a sgiliau cynllunio wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfrifiadura a'u datrys gan ddefnyddio technolegau priodol.
  • Dylunio, gan ddefnyddio offer priodol, system wybodaeth syml neu ran benodol o system fwy.
  • Cymhwyso cysyniadau technegol a rheoli i ddatrys problemau cyfrifiadurol.
  • Datblygu sgiliau ymchwil gwerthfawr drwy gwblhau'r traethawd hir.

Ar ben hynny, bydd disgwyl i raddedigion ddangos:

  • Dealltwriaeth systematig o gysyniadau cyfrifiadura cyffredinol, yn rhai damcaniaethol ac ymarferol.
  • Deall natur sefydliadau a sut maen nhw’n defnyddio gwybodaeth at ddibenion busnes.
  • Deall y dulliau, y technegau a'r offer sydd ar gael i bennu, dylunio, gweithredu a rheoli systemau cyfrifiadurol ar gyfer sefydliadau.
  • Deall egwyddorion a nodweddion caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol a chyfathrebu a sut mae'r rhain yn cefnogi datblygiad systemau cyfrifiadurol.
  • Ymwybyddiaeth feirniadol o'r tueddiadau cyfredol mewn meysydd ymchwil dethol o gyfrifiadura, a thrafod eu cyfraniad at ddatblygu systemau cyfrifiadurol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £30,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae graddedigion diweddar o'r cwrs MSc Cyfrifiadura a Rheoli TG wedi cael gwaith mewn rolau megis dadansoddwyr systemau a busnes, profwyr sicrhau ansawdd, ymgynghorwyr TG a rheolwyr prosiect.

Mae graddedigion yn cael eu cyflogi gan sefydliadau o bob maint yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Computer science, Management


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.