Ewch i’r prif gynnwys

Peirianneg Sifil a Dŵr (MSc)

  • Hyd: Blwyddyn
  • Dull astudio: Amser llawn

Course options See other modes of study
Dyddiad dechrau
calendar

Diwrnod agored

Dysgwch am astudio'n ôl-raddedig yma yn ystod ein Diwrnod Agored nesaf.

Pam astudio’r cwrs hwn

Nod y cwrs hwn yw ategu gradd israddedig perthnasol drwy gyflwyno’r myfyrwyr i hydrowybodeg, hydroleg gyfrifiannol a hydroleg amgylcheddol, gan gynnwys dangosyddion ansawdd dŵr a phrosesau cludo gwaddod yn nyfroedd arfordiroedd ac aberoedd a dyfroedd mewndirol.

notepad

Major project

Students will complete an extended research project within one of the water engineering fields as a major part of the programme.

structure

Flexible course

The degree programme is available on a one-year full-time basis or on a three-year part-time basis. Students are able to study related subjects in Civil and Geoenvironmental Engineering through a choice of optional modules.

certificate

Cwrs sydd wedi’i achredu’n broffesiynol

Mae’r cwrs hwn wedi'i achredu gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Chludiant a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd ar ran y Cyngor Peirianneg. Mae’n diwallu’r gofynion academaidd ar gyfer cofrestru’n Beiriannydd Siartredig. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf israddedig achrededig CEng i gydymffurfio â gofynion cofrestru llawn CEng.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r pryder byd-eang am faterion rheoli dŵr amgylcheddol wedi bod yn tyfu ac yn tyfu. Mae'r materion hyn yn cynnwys pryderon am lygru dŵr arfordiroedd ac aberoedd, llifogydd afonydd a draenio trefol, rheoli gwlyptiroedd a mangrofau, ac agweddau ecolegol ar lynnoedd a chronfeydd, i enwi dim ond rhai. Wrth fynd i'r afael â'r rhain a heriau amgylcheddol eraill, mae peirianwyr a rheolwyr amgylcheddol yn defnyddio modelau rhifiadol soffistigedig ar gyfer rhagfynegi prosesau cludo gwaddodion, ansawdd dŵr a hydrodynamig gymhleth. Mae'r modelau hyn yn cael eu hategu mwy a mwy gan systemau meddalwedd cefnogi penderfyniadau ac amrywiaeth eang o adnoddau meddalwedd hydrowybodeg.

Bydd y cwrs MSc mewn Peirianneg Sifil a Dŵr yn cynnig i chi'r wybodaeth a'r arbenigedd y mae arnoch eu hangen ar gyfer gyrfa fel peiriannydd dŵr ymgynghorol yn y maes proffesiynol arbenigol hwn sy'n perthyn i beirianneg sifil. Nod y cwrs yw ategu gradd israddedig berthnasol drwy eich cyflwyno i hydrowybodeg, hydroleg gyfrifiannol a hydroleg amgylcheddol, gan gynnwys dangosyddion ansawdd dŵr a phrosesau cludo gwaddod yn nyfroedd arfordiroedd ac aberoedd a dyfroedd mewndirol.

Mae'r cwrs MSc hwn wedi'i anelu at raddedigion ym meysydd Peirianneg Sifil, Gwyddorau'r Ddaear, Gwyddorau Amgylcheddol a Biowyddorau. Bydd sgiliau mathemategol da yn fanteisiol. Mae'r rhaglen radd hefyd wedi'i hanelu at beirianwyr/gwyddonwyr sy'n gweithio mewn meysydd perthnasol ac sy'n dymuno uwchraddio neu loywi eu cymwysterau.

Achrediadau

Ble byddwch yn astudio

Yr Ysgol Peirianneg

Dewch i astudio yn un o'r ysgolion peirianneg fwyaf blaenllaw yn y DU o ran ansawdd ymchwil ac addysgu.

  • icon-chatGofyn cwestiwn
  • Telephone+44 (0)29 2087 0050
  • Marker5 The Parade, Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 3AA

Meini prawf derbyn

Er mwyn cael eich ystyried am gynnig ar gyfer y rhaglen hon bydd angen i chi fodloni'r holl ofynion mynediad. Ni fydd eich cais yn cael ei ddatblygu os na ddarperir yr wybodaeth a'r dystiolaeth a restrir.

Gyda'ch cais ar-lein, bydd angen i chi ddarparu:

  1. Copi o'ch tystysgrif gradd a'ch trawsgrifiadau sy'n dangos eich bod wedi cyflawni gradd anrhydedd 2:2 mewn pwnc perthnasol megis pensaernïol, sifil, arfordirol, hydro, strwythurol, dŵr, cyflenwad dŵr, neu beirianneg gwastraff dŵr, neu radd ryngwladol gyfwerth. Os yw eich tystysgrif gradd neu ganlyniad yn yr arfaeth, llwythwch unrhyw drawsgrifiadau dros dro neu dystysgrifau dros dro.
  2. copi o'ch tystysgrif IELTS gyda sgôr gyffredinol o 6.5 gyda 5.5 ym mhob is-sgil, neu dystiolaeth o gymhwyster cyfatebol derbyniol. Dylech gynnwys dyddiad eich prawf disgwyliedig os yw'r cymhwyster hwn yn yr arfaeth. Os oes gennych dystiolaeth dderbyniol amgen, fel gradd israddedig a astudir yn y DU, rhowch hyn yn lle IELTS.

Os oes gennych radd mewn biowyddorau neu wyddorau'r ddaear, efallai y byddwch yn dal i wneud cais ond dylech ddarparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais fel CV a geirdaon.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Rydym yn dyrannu lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl. Fel arfer, bydd ceisiadau'n cau ddiwedd mis Awst ond gallant gau'n gynt os llenwir pob lle.

Broses ddethol
Byddwn yn adolygu eich cais ac os ydych yn bodloni'r holl ofynion mynediad, byddwn yn gwneud cynnig i chi.

Rhagor o wybodaeth am ofynion Iaith Saesneg.

Mae'n rhaid i ymgeiswyr sydd angen Fisa myfyriwr i astudio yn y DU gyflwyno cymhwyster iaith Saesneg derbyniol er mwyn bodloni gofynion UKVI (Fisâu a Mewnfudo y DU).

Euogfarnau troseddol

Nid yw'n ofynnol i chi gwblhau gwiriad DBS (Gwasanaeth Gwahardd Datgelu) na darparu Tystysgrif Ymddygiad Da i astudio'r cwrs hwn.

Os ydych ar hyn o bryd yn destun unrhyw amod trwydded neu gyfyngiad monitro a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau eich astudiaethau'n llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgelu eich cofnod troseddol. Mae'r amodau'n cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:

  • mynediad i gyfrifiaduron neu ddyfeisiau sy'n gallu storio delweddau
  • Defnyddio offer / dyfeisiau rhyngrwyd a chyfathrebu
  • cyrion
  • Rhyddid i symud
  • cyswllt â phobl sy'n gysylltiedig â Phrifysgol Caerdydd.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs MSc mewn Peirianneg Sifil a Dŵr yn cael ei redeg gan yr Ysgol Peirianneg ac mae wedi'i ddylunio i ddarparu hyfforddiant ôl-raddedig arbenigol mewn peirianneg dŵr amgylcheddol, gan gynnig rhywfaint o hyblygrwydd i astudio ychydig o bynciau cysylltiedig ym maes Peirianneg Sifil a Geoamgylcheddol ar yr un pryd.

Nod y rhaglen yw gwella eich sgiliau peirianyddol ac mae cwblhau prosiect estynedig yn un o'r meysydd peirianneg dŵr yn rhan fawr o'r rhaglen. Bydd y cwrs yn ategu gradd israddedig ym maes Peirianneg Sifil, neu debyg, drwy eich cyflwyno i hydrowybodeg, hydroleg gyfrifiadurol a hydroleg amgylcheddol, gan gynnwys dangosyddion ansawdd dŵr a phrosesau cludo gwaddodion yn nyfroedd arfordiroedd, aberoedd a dyfroedd mewndirol. Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda rhai o'r modelau hyn mewn prosiect estynedig. Mae'r rhaglen radd ar gael ar sail amser llawn dros un flwyddyn neu ar sail ran-amser dros dair blynedd.

Mae'r cwrs yn cynnwys modiwlau a addysgir yn semester yr hydref a'r gwanwyn, ac yna prosiect ymchwil unigol. Mae'r rhaglen radd ar gael ar sail amser llawn dros un flwyddyn neu ar sail ran-amser dros dair blynedd.

Mae'r modiwlau a ddangosir yn esiampl o'r cwricwlwm arferol. Byddant yn cael eu hadolygu cyn blwyddyn academaidd 2024/25. Bydd y modiwlau terfynol yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2024.

Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r adran a addysgir yn eich cwrs yn Rhan 1, bydd yn rhaid i chi gyflawni prosiect ymchwil unigol yn un o feysydd arbenigol Peirianneg Strwythurol, a fydd yn arwain at lunio traethawd hir. Bydd y gwaith prosiect yn cael ei wneud dan oruchwyliaeth uniongyrchol aelod o staff yn un o'r tair adran sy'n cymryd rhan.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth eang o opsiynau modiwl lle’n bosibl. Ond byddwch yn ymwybodol er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewis, gall hyn gael ei gyfyngu mewn rhai amgylchiadau. Y rheswm am hyn yw'r ffaith mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ar rai modiwlau, a gaiff eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Mae'n ofynnol i fodiwlau eraill sicrhau isafswm nifer o fyfyrwyr cyn gallu eu cynnal, er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cyflwyno addysg o ansawdd priodol. Gall modiwlau gael eu cyfyngu oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen hefyd, ac er bod y Brifysgol yn ymdrechu i amharu cyn lleied â phosibl ar eich dewis, byddai'n syniad da i chi ofyn am gyngor gan yr Ysgol berthnasol am y dewisiadau modiwl sydd ar gael.

Dysgu ac asesu

Sut y caf fy addysgu?

Defnyddir ystod eang o arddulliau addysgu i ddarparu'r deunydd amrywiol sy'n llunio cwricwlwm y rhaglen. Byddwch yn mynychu darlithoedd ac yn cymryd rhan mewn dosbarthiadau enghreifftiol. Rhaid i chi gwblhau 120 o gredydau yng Ngham 1 er mwyn symud ymlaen i'r traethawd hir, a bryd hynny bydd goruchwyliwr yn cael ei ddyrannu i chi o blith y staff addysgu. Fel arfer, dewisir pynciau traethawd hir o amrywiaeth o deitlau prosiect a gynigir gan staff academaidd, fel arfer mewn meysydd o ddiddordeb ymchwil cyfredol, er y cewch eich annog i gyflwyno eich syniadau eich hun ar gyfer prosiect.

Sut y caf fy asesu?

Mae'r gwaith asesu'n digwydd drwy gyfrwng gwaith cwrs ac arholiadau.

Bydd gofyn i chi gyflawni prosiect ymchwil unigol yn un o feysydd arbenigol Peirianneg Dŵr, a fydd yn arwain at lunio traethawd hir. Bydd y gwaith prosiect yn cael ei wneud o dan oruchwyliaeth uniongyrchol aelod o staff yn un o'r tair adran sy'n cymryd rhan.

Sut y caf fy nghefnogi?

Bydd arbenigwyr yn eu maes yn eich goruchwylio yn ystod eich prosiect a’ch traethawd hir, a bydd gennych fynediad at gyfleusterau ymchwil yr Ysgol.

Adborth

Byddwch yn derbyn adborth ysgrifenedig ar gyfer aseiniadau gwaith cwrs ysgrifenedig, ac adborth llafar ar gyfer cyflwyniadau a asesir.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hymarfer a’u datblygu?

Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu'r sgiliau canlynol:

Gwybodaeth a dealltwriaeth

  • Deall natur amlddisgyblaethol peirianneg hydro-amgylcheddol a'r angen i integreiddio gwybodaeth o amrywiaeth o ddisgyblaethau peirianneg wrth reoli heriau peirianneg hydro-amgylcheddol.
  • Disgrifio'r technegau a ddefnyddir i nodweddu hydrodynameg llifoedd arwyneb rhydd, gan gynnwys cludiant gronynnau a rhywogaethau.
  • Disgrifio a modelu'r prif brosesau geocemegol sy'n effeithio ar symudedd halogyddion yn y ddaear a'u rôl o ran effeithio ar ansawdd dŵr daear a dyfroedd wyneb.
  • Disgrifio biota dŵr wyneb a phrosesau biolegol, ac effeithiau halogyddion ar ecoleg dyfroedd wyneb.
  • Disgrifio'r gwaith o fodelu systemau afonydd a defnyddio TG i ddehongli'r canlyniadau.
  • Deall sail dulliau gwahaniaeth cyfyngedig ac elfennau cyfyngedig a chymhwyso'r dulliau i broblemau dŵr 2D.
  • Dangos bod gennych wybodaeth bendant, sydd ar flaen y gad o ran ystod o ddisgyblaethau a ddewiswyd o blith: materion daearegol, geoamgylcheddol, llifogydd, cyfraith amgylcheddol, peirianneg amgylcheddol a phriffyrdd a rheoli peirianneg.

Sgiliau deallusol

  • Defnyddio gwybodaeth a dulliau gwyddonol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wrth asesu a datrys heriau peirianneg hydro-amgylcheddol, yn aml heb fawr o wybodaeth ac o bosibl, gwybodaeth anghyson.
  • Delio â materion peirianneg dŵr cymhleth yn systematig ac yn greadigol.
  • Adolygu cefndir problem peirianneg hydro-amgylcheddol yn feirniadol a llunio rhaglen o waith i fynd i'r afael â'r mater.
  • Cyflawni prosiect ymchwil sylweddol mewn peirianneg hydro-amgylcheddol yn systematig, sy'n cynnwys bod yn wreiddiol wrth gymhwyso gwybodaeth ac arfer barn peirianneg feirniadol.
  • Bod yn wreiddiol wrth fynd i'r afael â phroblemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
  • Casglu, gwerthuso, cyfosod a dehongli data ansoddol a meintiol mewn amrywiaeth o ffyrdd; a chanfod ffyrdd o gael data newydd pan fo angen.
  • Ystyried, cynllunio, gweithredu a chyfleu canlyniadau darn manwl estynedig o waith prosiect unigol.
  • Cynnal dadl feirniadol, yn ysgrifenedig a thrwy gyflwyniadau.

Sgiliau ymarferol

  • Defnyddio dulliau mathemategol ac arbrofol priodol ar gyfer modelu a dadansoddi problemau peirianneg hydro-amgylcheddol.

Sgiliau trosglwyddadwy

  • Trin, cyflwyno ac adrodd ar ddata mewn amrywiaeth o ffyrdd.
  • Rheoli adnoddau ac amser.
  • Cyfleu syniadau, egwyddorion a theorïau'n effeithiol drwy ddulliau llafar, ysgrifenedig a chorfforol neu ymarferol.

Ffioedd dysgu ar gyfer dechrau astudio yn 2024

Bydd eich ffioedd dysgu a sut y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar eich statws ffioedd. Gallai eich statws ffioedd fod yn statws cartref, ynysoedd neu tramor.

Dysgwch sut rydym yn pederfynu eich statws ffioedd

Ffioedd am statws cartref

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £11,700 Dim

Myfyrwyr o'r UE, AEE a'r Swistir

Os ydych chi'n wladolyn o'r UE/AEE neu'r Swistir, bydd eich ffioedd dysgu ar gyfer 2024/25 yn unol â'r ffioedd tramor a godir ar fyfyrwyr rhyngwladol, oni bai eich bod yn gymwys i gael statws ffioedd y DU. Mae UKCISA wedi darparu gwybodaeth am Brexit a ffioedd dysgu.

Ffioedd am statws ynys

Dysgwch ragor am ffioedd ol-raddedig i fyfyrwyr o Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

Ffioedd am statws tramor

Blwyddyn Ffioedd Dysgu Blaendal
Blwyddyn un £28,200 £2,500

Rhagor o wybodaeth am ffioedd dysgu a blaendaliadau, gan gynnwys ar gyfer myfyrwyr rhan-amser a pharhaus.

Cymorth ariannol

Gallai cymorth ariannol fod ar gael ar gyfer unigolion sy'n bodloni rhai meini prawf. Cewch ragor o wybodaeth yn ein hadran arian. Dim ond hyn a hyn o gymorth ariannol y gall y ffynonellau hyn eu cynnig, felly ni allwn warantu y bydd pawb sy'n bodloni'r meini prawf yn cael arian.

Costau ychwanegol

A fydd angen unrhyw gyfarpar penodol arnaf I astudio'r cwrs hwn?

Nid oes angen unrhyw offer penodol ar gyfer y cwrs hwn.

Costau byw

Rydym wedi ein lleoli yn un o ddinasoedd mwyaf fforddiadwy y DU. Rhagor o wybodaeth am gostau byw yng Nghaerdydd.

Arian

Ysgoloriaethau Meistr

Gwobr sy'n agored i fyfyrwyr sydd â statws ffioedd cartref sy'n bwriadu astudio un o'n graddau meistr a addysgir.

Benthyciadau ar gyfer ôl-raddedigion

Os byddwch yn dechrau eich gradd meistr ym mis Medi 2024 neu wedi hynny, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am fenthyciad ar gyfer ôl-raddedigion er mwyn cefnogi eich astudiaethau ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cynllun Gostyngiad

Mae'r gostyngiad i gynfyfyrwyr ar gael i raddedigion Prifysgol Caerdydd sy'n bwriadu dechrau rhaglen Meistr gymwys yn 2024/25.

Gyrfaoedd graddedigion

Mae cofnod cyflogaeth Prifysgol Caerdydd o raddedigion yr MSc mewn Peirianneg Sifil a Dŵr yn ardderchog. Ymuno ag ymgyngoriaethau peirianneg mae'r rhan fwyaf yn ei wneud. Mae nifer fach o raddedigion yn parhau i astudio ymhellach bob blwyddyn - PhD fel arfer.

Camau nesaf

icon-academic

Ymweliadau Diwrnod Agored

Cofrestrwch ar gyfer gwybodaeth am ein dyddiadau yn 2023.
icon-chat

Gwnewch ymholiad

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth am y cwrs hwn.
icon-international

Rhyngwladol

Mwy o wybodaeth am ein prifysgol fyd-eang.
icon-pen

Rhagor o wybodaeth

Pynciau cysylltiedig: Civil engineering, Earth sciences, Engineering, Environmental science, Sustainability


Data HESA: Hawlfraint yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig 2021. Ni all yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch Cyfyngedig dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw gasgliadau neu benderfyniadau sy'n deillio o drydydd partïon o'i data. Daw'r data o Arolwg Hynt Graddedigion Diweddaraf 2019/20 a gyhoeddwyd gan HESA ym mis Mehefin 2022.